Dyddanwch yr Aelwyd/Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul

Marwolaeth Ieuan Glan Geirionydd Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Yr Anthem Wladol

YN FOREU TYR'D I'R YSGOL SUL

 
Os wyt yn caru'th blant,
A thyner galon tad;
Os ewyllysi ar i Dduw
Barħau yn Dduw dy had;
O gwrando ar y llais
Sy'n galw yn ddidaw,—
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law.

Os wyt yn caru dyn,
Os wyt yn teimlo sêl
Tros addysg a oleua'r ffordd
Yn mlaeni'r byd a ddel,–
Os credaist fod y bedd
Yn ddôr i fywyd draw ,
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law.

Os wyt yn caru Duw,
A'i achos yn y byd, —
Os hoffet weled dynolryw
Dan faner Crist ynghyd;
A gweled goleu wawr
Trwy wyll y byd a ddaw,
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law.
—CEIRIOG.


Nodiadau

golygu