Dyddanwch yr Aelwyd/Yr Asyn Anfoddog

Dedwyddwch Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Bedd y Dyn Tylawd

YR ASYN ANFODDOG.

Yn ei gut yn nhrymder geuaf,
Cwyno'n dost wnai asyn llwyd,—
"Genyf mae y llety oeraf,
A rhyw wreiddiach sych yn fwyd:
O na ddeuai gwanwyn bellach!
Cysur fyddai hyny'n wir,
Mi gawn wedi'n hîn dymerach,
A chegeidiau o laswellt îr."

Daeth y gwanwyn a'i gysuron,
Do a'i lafur yr un wedd;
Cwyna'r asyn gan orchwylion
Ar y meusydd yn ddi hedd,—

"Gyrrir fi yn awr yn erwin,
Ac esmwythder ddim ni chaf;
Cefais ddigon ar y gwanwyn,
O na ddeuai hyfryd haf!"

Daeth yr haf; a ydyw'r asyn
Wedi caffael dyddiau gwell?
Na, nid yw foddlonach ronyn,
Hawddfyd sydd oddiwrtho ymhell:
Achwyn mae a'r nâd druanaf,—
"Och y gwaith, ac Och y gwres;
O na ddeuai y cynhaeaf
Dyna dymor llawn er lles."

Daeth yr hydref,—ond siomedig
Ydyw'r asyn dan ei lwyth,
"Druan oedd fy nghefn blinedig,
Wedi'r haf rhaid cludo ei ffrwyth,
Cyrchu tanwydd erbyn gaeaf
Cario mawn a chario coed;
Och yn nhymor y cynhaeaf
Blinach ydwyf nag erioed!"

Wedi troedio cylch y flwyddyn,
Mewn anghysur dwys o hyd,—
"Gwelaf bellach," medd yr asyn,
"Nad mewn tymor mae gwyn fyd;
Yn lle achwyn ar dymhorau,
Fel y maent cymeraf hwy;
Dyna fel y daw hi oreu,
Felly byddaf ddiddig mwy!"

Parch. R. EDWARDS.


Nodiadau

golygu