Dyddanwch yr Aelwyd/Yr Hen Amser Gynt
← Caniad y Gog i Feirionydd | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Alice Gray → |
YR HEN AMSER GYNT.
Bu'n hoff i mi wrth deithio' mhell
Gael groesaw ar fy hynt,
Mil hoffach yw cael henffych well
Gan un fu'n gyfaill gynt;
BYRDWN.
Er mwyn yr amser gynt, fy ffryns,
Yr hen amser gynt,
Cawn wydraid bach cyn canu'n iach,
Er mwyn yr amser gynt.
Yn chwareu buom lawer tro,
A'n penau yn y gwynt,
A phleser mawr yw cadw co',
O'r hyfryd amser gynt:
Er mwyn, &c.
Er dygwyddiadau mwy na rhi',
Er gwario llawer punt,
Tra pob rhyw goll, ni chollais i
Mo'r cof o'r amser gynt.
Er mwyn, &c.
Er curo calon yn fy mron,
Er mwyn ein hylon hynt,
Tra caro i'm gwlad, tra llygad llon,
Mi gofia'r amser gynt:
Er mwyn, &c.
PARCH. J. BLACKWELL, (Alun.)