Dyddgwaith/Traddodiad

Gwladgarwch Dyddgwaith

gan Thomas Gwynn Jones

Tawelwch

TRADDODIAD

GOFYNNODD cyfaill o Sais i mi unwaith, nid o ran dirmyg na sarhaed, mi wyddwn, a fedrwn i esbonio iddo pam y bydd cynifer o Gymry mor anhapus pan feddyliont fod eu gwlad fach yn troi'n Seisnig, neu o leiaf yn peidio â bod yn Gymreig.

Pan ofynnwyd y cwestiwn i mi felly yn groyw, gan ddyn y gwyddwn nad oedd ganddo un amcan onid deall peth nas deallai, teimlais innau nad peth hawdd fyddai i mi roi iddo ateb a fyddai'n rhesymol yn ei olwg. Tewais ennyd. Sefyll yr oeddym ar lethr mynydd o'r lle y gwelem Ddyffryn Clwyd yn ymagor o'n blaenau. Oddi tanom, Morfa a Chastell Rhuddlan. Draw yn y pellter, Castell Dinbych. Pen Parc y Meirch gyferbyn â ni. Cefn Ogof yn nes i'r môr, a llawer man arall lle bu ymdrech gynt. "Peth fel hyn," meddwn, gan gyfeirio at y wlad, "buom yn ymladd amdano gynt, ac fe'i collsom."

"Do," meddai fy nghyfaill, "'rwy'n deall peth felly. Ond y mae canrifoedd er hynny. Pa fodd yr ydych yn cofio cyhyd: Nid gelynion monoch chwi a minnau heddiw, na'ch pobl chwi a'm pobl innau chwaith o ran hynny. Daeth y Normaniaid i Loegr, a churo, ond ni byddwn ni ddim yn cofio o hyd am hynny."

"Na byddwch," meddwn, "a da i chwi nad rhaid i chwi. Ond tybiwch fod yr ymdrech honno'n dal i fynd ymlaen o hynny hyd heddiw."

"Ond, pa fodd y gallai?"

"Fel y gallodd yma."

"Ond nid oes ond un llywodraeth i'r ddwy wlad ers canrifoedd, ac y mae popeth sy'n agored i ni yn agored hefyd i chwithau."

"Diau. Ond beth pe bai'r llywodraeth Norman honno'n dal yn Lloegr, ac yn dal i siarad Ffrangeg———."

"Hi fu'n siarad Ffrangeg am amseroedd."

"Do. Ond fe beidiodd. Beth pe bai traddodiad Seisnig, arferion Seisnig, yr iaith Saesneg hyd yn oed, hyd heddiw fel y mae traddodiad ac arferion Cymreig a'r iaith Gymraeg yng Nghymru?'

"Ie. Mi fûm yn meddwl am hynny hefyd . . . Credu'r wyf y byddem ni oll yn Lloegr wedi newid ein traddodiad a'n harferion a'n iaith. Onid gwell ennill trwy hynny na hir gyndynnu a cholli yn y diwedd?"

"Fe ddichon hynny," meddwn. "Byddaf yn tybio felly fy hun weithiau, pan fyddaf ar led, a'r pethau sydd yma yn pylu yn y pellter, pan fo raid i mi chwerthin am fy mhen fy hun am ddywedyd yn gas nad Sais monof i, wrth estron na bu erioed yn Lloegr, ac a'm galwo'n Sais o anwybod digon naturiol; neu pan fwy'n meddwl, a minnau adref, os mynnwch, am rai o'r pethau y tybir eu bod yn draddodiadau Cymreig. Ond pan ddof yma, neu fynd i Eryri neu fro Morgannwg; pan ddisgwylir i mi yma gymryd arnaf nad Cymro monof, wrth eraill fydd yn cymryd arnynt nad Cymry monynt, a hynny ym mhob peth fo'n perthyn i faterion anhepgor bywyd gwareiddiedig— llywodraeth, cyfraith, addysg, masnach—byddaf yn cofio ac yn deall bod rhai pethau na all rhai dynion mo'u anghofio." Gwelwn nad oedd fy nghyfaill yn deall monof-gwyddwn, yn wir, nad oedd fodd iddo fy neall chwaith, canys nid un oedd baich ei draddodiad ef a'r eiddof innau. Teimlwn ei fod yn synnu'n ddigon gonest pam y mynnwn fod yn farbariad o Gymro, lle gallwn fod yn "Frython" cystal ag yntau ym mhobman, ond yr oedd yn ŵr rhy fonheddig i ddywedyd hynny yn fy wyneb. Yr oeddwn yn ddiolchgar iddo am dewi a throi'r ystori, ac fe wnaeth hynny'n fedrus—canys nid oedd arnaf eisiau sôn mwy am y peth nad oedd, fel y barnai ef, a hynny'n ddigon gonest, yn ddim onid mympwy ofer. Nid oedd arnaf eisiau cyfaddef wrtho pa sawl tro y blinais ar ysbryd ymryson y cenhedloedd, pa sawl gwaith y dywedais wrthyf fy hun mai baich oedd traddodiad, hyd yn oed os baich nas collid unwaith wedi ei etifeddu. Ni fynnwn sôn pa mor fynych, wedi ambell brofiad, y tyngais na luniwn i rai pethau byth mwy, na pha mor aml wedyn y'm cefais fy hun yn eu llunio heb gymaint â chofio unwaith am fy mwriadau eang a'm safonau nid-cenhedlig; pa sawl gwaith, yn wir, yr eiddigeddais wrth bobl fel y Saeson am na byddai'r clefyd a elwir gwladgarwch yn beth cyson yn eu plith hwy, er tosted fydd pan ddêl.

Ac felly, sôn a wnaethom am bethau eraill— mor hardd oedd Dyffryn Clwyd, mor fawreddog oedd mynyddoedd Eryri yn y pellter draw; am y bobl a ddôi i bysgota yn afon Glwyd ac i saethu ieir mynydd ar fawnogydd Hiraethog, neu a dyrrai i dref y Rhyl yn yr haf. Ymadawsom. Aeth ef i'r Rhyl a minnau i ddistawrwydd mynydd Hiraethog.

Daeth y syched gwaed ar Ewrop. Pan glywais oddi wrtho nesaf, yr oedd ef ar gychwyn i rywle yn Ffrainc. "Who lives if England dies?" meddai. Tybed a gofiodd unwaith am yr ymddiddan a fu fis Gorffennaf, 1914? Ni wn. Ni chlywais oddi wrtho wedyn, ac ni ddaeth ef byth yn ei ôl.

Barbariad fel finnau, wedi'r cwbl?

Nodiadau

golygu