Dyma babell y cyfarfod (Prifysgol Caerdydd)
- gan Ann Griffiths
- Dyma babell y cyfarfod,
- Dyma gymod yn y gwaed,
- Dyma noddfa i lofruddion,
- Dyma i gleifion feddyg rhad;
- Dyma fan yn ymyl Duwdod
- I bechadur wneud ei nyth,
- A chyfiawnder pur Jehofa
- Yn siriol wenu arno byth.
- Pechadur aflan yw fy enw,
- O ba rai y penna'n fyw;
- Rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell
- Im gael yn dawel gwrdd â Duw:
- Yno y mae yn llond ei gyfraith
- I'r troseddwr yn rhoi gwledd;
- Duw a dyn yn gweiddi ‘Digon!'
- Yn yr Iesu, 'r aberth hedd.
- Myfi a anturiaf yno yn eon,
- Teyrnwialen aur sydd yn ei law,
- A hon a'i senter at bechadur,
- Llwyr dderbyniad pawb a ddaw;
- Af ymlaen dan weiddi "Maddau!"
- Af a syrthiaf wrth ei draed,
- Am faddeuant, am fy ngolchi,
- Am fy nghannu yn ei waed.
- O! am ddyfod o'r anialwch
- I fyny fel colofnau mwg
- Yn uniongyrchol at ei orsedd,
- Mae yno'n eistedd heb ei wg:
- Amen diddechrau a diddiwedd,
- Tyst ffyddlon yw, a'i air yn un;
- Amlygu y mae ogoniant Trindod
- Yn achubiaeth damniol ddyn.