Dyrchafer enw Iesu cu

Cydunwn a'r Angylion Fry Dyrchafer enw Iesu cu

gan Isaac Watts


wedi'i gyfieithu gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
Clodforaf fi fy Arglwydd Iôn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

7[1] Coronwch Ef yn Ben.
M. C.

1 DYRCHAFER enw Iesu cu
Gan seintiau is y nen;
A holl aneirif luoedd nef,
Coronwch Ef yn Ben.

2 Angylion glân, sy'n gwylio'n gylch
Oddeutu'i orsedd wen,
Gosgorddion ei lywodraeth gref,
Coronwch Ef yn Ben.

3 Hardd lu'r merthyri, sydd uwchlaw
Erlyniaeth, braw, na sen,
 llafar glod ac uchel lef,
Coronwch Ef yn Ben.

4 Yr holl broffwydi'n awr sy'n gweld
Y Meichiau mawr heb len,
A'i apostolion yn gyd-lef,
Coronwch Ef yn Ben.

5 Pob perchen anadl, ym mhob man,
Dan gwmpas haul y nen,
Ar fôr a thir, mewn gwlad a thref,
Coronwch Ef yn Ben.

6 Yn uchaf oll bo enw'r Hwn
Fu farw ar y pren;
Drwy'r ddaear faith, ac yn y nef,
Coronwch Ef yn Ben.

—Edward Perronet, Cyf. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 7, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930