Dysgwch Ddweyd Na (Mynyddog)
- Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau
- Na ddylid dim dysgu eu dweyd,
- Ac hefyd anghofir rhai geiriau
- Y dylid eu dysgu a’u gwneud;
- Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau
- Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu yr iaith,
- Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith,
- Faint bynnag o eiriau a ddysgwch yn dda,
- Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd “Na;”
- Dysgwch ddweyd “Na,”
- ’Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd “Na.”
- Os gwelwch chwi gwmni afradlon
- Yn mynd i oferedd yn ffôl,
- Gan wawdio rhinweddau’u cymdogion,
- A gadael pob moesau ar ol;
- Os gwelwch chwi gwmni afradlon
- Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch
- Mor wâg a diafael ag adsain y gloch,
- ’Ran hynny, mae pennau y clychau a rhain
- Yn wag fel eu gilydd, ’blaw tafod bach main;
- Ac os daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai o honoch i ddinistr,
- Dysgwch ddweyd “Na,” &c.
-
- Os gwelwch chwi eneth brydweddol
- Yn gwisgo yn stylish dros ben,
- Cyn son am y pwnc priodasol,
- Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen,
- Os gwelwch chwi eneth brydweddol
- Os ffeindiwch chwi allan wrth chwilio’r fath yw,
- Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw,
- A’i llygaid, a’i gwddw, a’i haden, a’i phlu’,
- Yn loewach o lawer na dim sy’n ei thŷ,
- Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss,
- Dysgwch ddweyd “Na,” &c.
- Mae gennyf un gair i’r genethod
- Wrth ddechreu eu taith drwy y byd,
- Mae llanciau ar brydiau i’w canfod
- Heb fod yn lân galon i gyd;
- Mae gennyf un gair i’r genethod
- Mae’n bosibl cael gŵr fydd a’i galon yn graig,
- Mae’n bosibl cael gŵr fydd yn gâs wrth ei wraig,
- Heb gym’ryd yn bwyllus, mae’n bosibl i Gwen
- Gael gŵr heb na chariad, na phoced, na phen,
- A’r cyngor sydd gennyf i’r ladies (hynny yw, os na fyddant, dyweder, oddiar 35 oed),
- Dysgwch ddweyd “Na,” &c.