Edifeirwch
gan Dafydd ap Gwilym
- Prydydd i Forfudd wyf fi,
- Prid o swydd, prydais iddi.
- Myn y Gŵr a fedd heddiw
- Mae gwayw i'm pen am wen wiw,
- Ac i'm tâl mae gofalglwyf;
- Am aur o ddyn marw ydd wyf.
- Pan ddêl, osgel i esgyrn,
- Angau a'i chwarelau chwyrn,
- Dirfawr fydd hoedl ar derfyn,
- Darfod a wna tafod dyn.
- Y Drindod, rhag cydfod cwyn,
- A mawr ferw, a Mair Forwyn
- A faddeuo 'ngam dramwy,
- Amen, ac ni chanaf mwy.