Englynion i Ifor Hael

gan Dafydd ap Gwilym

O haelder, fy ner, fy Nudd - a'm eurgaer,
A'm eurgarw hael am fudd,
Afar yw, gaethryw gythrudd,
Ofer un wrth Ifor udd.


O ddewredd hoywgledd, hyglaer - ymadrodd,
A medru treio aer,
O fawrgyrch hylithr, f'eurgaer,
Ofer dau wrth Ifor daer.


O ddoethineb, neb nid nes ataw - Ffranc
Nog o Ffrainc i Fanaw,
I fwrw dadl swrth oddi wrthaw
Ofer dri wrth Ifor draw.


O ufudd-dawd, ffawd a ffydd - a chiried,
A charu ei brydydd,
Ofer bedwar, rwyddbar rydd,
Wrth Ifor, araith Ofydd.


O fonedd, trasedd, trasyth - yw ei ffon,
A ffyniant aml dilyth,
O weilch digel wehelyth,
Ofer bymp wrth Ifor byth.


O gryfder, fy ffŵr ffyrf erddyrn, - eurdeg
Yn dwyn eurdo h‘yrn,
Ofydd cad a faidd cedyrn,
Ofer chwech wrth Ifor chwyrn.


O degwch, brifflwch brafflyw - urddedig,
Pendefig rhyfyg rhyw,
Ei fardd wyf,o ddwfn ystryw
Ofer saith wrth Ifor syw.


O ddisymlrwydd swydd,, gyfansoddwr - bardd,
Enaid beirdd a'u clydwr,
Afar brwydr i fwrw bradwr,
Ofer wyth wrth Ifor ŷr.


O gampau gorau a garaf - ar ŷr,
Eryraidd y'i barnaf,
O roddion aml a rhwyddaf,
Ofer naw wrth Ifor naf.


O wychder, fy nŵr un arial - â Ffwg,
Morgannwg mur gynnal,
O fwrw dyn, fwriad anial,
Ofer deg wrth Ifor dal.