gan Dafydd ab Edmwnd

Gwrid mawr o gariad morwyn
y sydd nos a dydd i’m dwyn;
caru gwen fwnwgl hirwyn
heb wybod oll i bob dyn.
Y mae gwin im o’i genau,
y mae gwên hon i’m gwanhau.
Be rhôn bob awr i’w henwi
nid oes dyn a’i hedwyn hi.
Annes unwaith a enwaf,
amod ag emod a gaf
ar ddyn dda ei llun a’I lliw;
ond odod emod ydyw.
Gwenhwfar feddylgar fwyn,
Gwladus a’r gwefus ryfwyn,
Catrin, Gwenllian annerch,
Cari, Mallt, cywira merch,
Lleucu lliw briallu bron,
Lowri dan wiail irion;
Mwyn yw cusan Myfanwy,
marfol iawn am Weirful wy;
mae cred Margared imi,
rhuddaur pell im ei rhodd hi.
Curo’r grudd, cywiro’r gred,
caru cusanu Sioned;
gwyllt isel yw fy ngolwg,
gorwedd â m Tegedd a’m dwg.
Gwan wyf, y mae gwayw yn fy iad,
mwy yw ‘nghur am Angharad.
Mae saeth yn ei mynwes hir
Yn oes tanw nis tynnir.
Seren dan y cyrs eurwallt,
selu rwy’ Alswn I allt.
Mae meillion gwynion mewn gwydd,
Mae ir fedw im a Morfudd.
Alis, Isabel, Elen
Efa, Nest fy nyn wen.
Y mae hyn wedi ei henwi,
ac un hyn, gwen yw hi.