Enwogion Ceredigion/Angharad ferch Meurig
← Afan Buallt | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Angharad ferch Meredydd → |
ANGHARAD, ferch Meurig, ydoedd ferch Meurig, neu Morydd, brenin Aberteifi, yn yr wythfed canrif; priododd â Rhodri Mawr, Tywysog Gwynedd; a chan i'w brawd, Gwgan, foddi yn yr afon Llychwr, yn y flwyddyn 870, wrth ymlid y Paganiaid Duon, sef y Daniaid, o'r wlad, daeth breniniaeth Aberteifi, sef etifeddiaeth ei brawd, yn eiddo i'w phriod Rhodri Mawr. Yr oedd Rhodri Mawr yn feddiannol ar Wynedd drwy etifeddiaeth, ar ran ei fam, Essyllt, merch Cynan Tindaethwy. Daeth Powys iddo drwy etifeddiaeth, ar ran ei famgu, mam ei dad, yr hon oedd chwaer ac etifeddes i Congen ab Gadell, Brenin Powys; a chan iddo yn y modd hyn ddyfod yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru, cafodd, y mae yn debyg, ei alw yn Rodri Mawr. Rhanodd ei deyrnas yn dair rhan; Gwynedd i Anarawd, a'i lys oedd yn Aberffraw, Mon; Powys i Merfyn, a'i lys oedd ym Mathrafel; a Cheredigion i Cadell, a'i lys oedd yn Dinefwr. O Gadell yr hanodd tywysogion y Deheudir. Mab Cadell ydoedd yr enwog Hywel Dda.