Enwogion Ceredigion/Cadifor ab Gronw
← Cadifor, Abad Ystrad Fflur | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Cadifor ab Gweithfoed → |
CADIFOR AB GRONW ydoedd bendefig o Ceredigion, yr hwn, yng nghyd â Hywel ab Idnerth, a Thrahaiarn ab Ithel, a wahoddodd Gruffydd ab Rhys o Ystrad Tywi, i ddyfod drosodd yn dywysog ar Geredigion, ac i erlid ffwrdd y Normaniaid o'r wlad. Ar eu cais, daeth Gruffydd atynt, a chasglasant fyddinoedd, ac yn gyntaf, cymmerasant gastell Blaenporth, ac wedyn aethant yn y blaen yn eu rhwysg filwrol, gan gymmeryd castell y Peithyll; ac ni orphwysasant nes adennill y wlad. Cymmerodd y symmudiad le tua'r flwdydyn 1117.