Enwogion Ceredigion/Cadwgan ab Meredydd
← Cadwgan ab Bleddyn | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Cadwgan ab Owain → |
CADWGAN AB MEREDYDD oedd fab Meredydd ab Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr. Yr oedd Cadwgan yn nai i'r Arglwydd Rhys, ac yn Arglwydd Ceredigion. Mewn brwydr bwysig a gymmerodd le rhwng Rhys ab GrufFydd â Harri II. ym Mhencadair, pan y cyfryngodd gwŷr da Brycheiniog rhwng y brenin a Rhys, rhoddodd Rhys ei ddau nai yn wystlon o'i heddwch, sef Ëiniawn ab Anarawd, a Chadwgan ab Meredydd. Yn fuan, drwy ddichell y Seison, cafodd Cadwgan ei ladd yn ei gwsg gan Walter ab Richard, ei was, a chafodd Einiawn yr un dynged gan Walter ab Llywarch.