Enwogion Ceredigion/Dafydd ab Ieuan
← Dafydd ab Gwilym | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Dafydd ab Llywelyn → |
DAFYDD AB IEUAN, o Lwyn Dafydd, oedd foneddwr yn preswylio yn y lle hwnw, ym mhlwyf Llandyssilio Gogo. Croesawodd Iarll Rhismwnt ar ei daith o Aberdaugleddau i Faes Bosworth. Anrhegodd yr Iarll ef â "chorn hirlas'* arddderchog, yr hwn sydd i'w weled yn awr yng Ngelli Aur. Mae darlun hardd o hono hefyd yn Dwnn's Heraldic Visitations. Bu mab i'r Iarll, sef Harri VII., o ferch D. ab Ieuan; a'r mab hwnw oedd sylfaenydd yr enw Parry, sef yw hyny, Ab Harri, yng Nghwm Cynon, Gemos, &c. Y mae degau o deuluoedd yn y wlad yn perthyn i'r Ab Harri hwn.