Enwogion Ceredigion/Einion ab Dafydd Llwyd
← Einion, Abad Ystrad Fflur | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Elffin ab Gwyddno → |
EINION AB DAFYDD LLWYD ydoedd foneddwr cyfoethog a breswyliai yn y Wern Newydd, Llanarth. Croesawodd Iarll Rismwnt ar ei daith. o Aberdaugleddau i Faes Bosworth. Bu hyny yn godiad i Einion ar ol coroniad yr Iarll yn frenin Lloegr. Daeth cangen o Lwydiaid Llanarth, sef disgynyddion Einion, i Lanborth, plwyf Penbryn; ac y mae eu disgynyddion yno heddyw. Merch Llwyn yr Heol, Llanarth, oedd mam y diweddar John Lloyd Williams, Ysw., Gweranant, yr hwn oedd hanedig o Einion.