Enwogion Ceredigion/Evan Davies (cenhadwr)
← Evan Davies, Gwernfedw | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Hugh Davies → |
DAVIES, EVAN, gynt o Richmond, a aned yn y flwyddyn 1805, yn Hengwm, plwyf Lledrod. Wedi marwolaeth ei fam, yr hyn a ddygwyddodd pan yr oedd efe tua thair blwydd oed, ei daid, yng nghyd â'r plant ereill, a ymsymmudasant i Gaerludd; eithr efe a adawyd dan ofal ei fodryb, yr hon oedd yn byw yn y plwyf nesaf Gwnaed ef yn egwyddorwas gyda thrafnidwr yn y gymmydogaeth; ac ar derfyniad ei dymmor, aeth yntau hefyd grefyddol dda ym moreu ei oes. Bu farw y gweinidog yn fuan ar ol ei dderbyniad i'r Eglwys. Ymddengys fod y gwr ieuanc yn mynwesu awydd gref, ond dirgelaidd, am fyned i'r weinidogaeth. Ym mhlith y gweinidogion a wasanaethent y pryd hyny yng Nghapel Guildford-street, yr oedd y Parch. Daniel Evans, Mynydd Bach, ger Abertawy, yr hwn a gymmerai y fath ddyddordeb mewn dynion ieuainc gobeithiol, fel yr anturiodd Evan Davies osod o'i flaen yn eglur ei holl ddymuniadau a'i amgylchiadau. Mewn canlyniad, dygodd Mr. Evans ei achos o flaen yr eglwys, gan argymhell y blaenoriaid i roddi pob cefnogaeth a chymhorth yn eu gallu i bob dyn ieuanc yn eu plith ag arwyddion gobeithiol arno, yn gymhwys i addysgu ereill hefyd, er ymgymmeryd â gwaith pwysig y weinidogaeth Gristionogol. Yn fuan ar ol hyn, efe a gymmeradwywyd i athrofa y Neuaddlwyd, dan arolygiaeth a gofal y Parch. Dr. Philips, lle y treuliodd ddeunaw mis dan ei ofal efrydiol. Pryd hyn, cynnygiodd am gael derbyniad i goleg Seisonig trwyadl; ac felly efe a lwyddodd yn y flwyddyn 1829 i gael derbyniad i'r Western Academy, y pryd hwnw yn Ecseter, dan lywyddiaeth y diweddar Barch. Ddr. George Payne. Bu ei yrfa golegol yn dra llwyddiannus. Yr oedd yn astudiwr caled a diwyd, ac efe a gynnyddodd yn gyflym yn yr holl gangenau addysgiaeth a berthynent i'r sefydliad. Efe a safiai yn uchel yng nghyfrif ei gydfyfyrwyr, ac yng nghyfrif y Dr. Payne, yr hwn a goleddai dybiaeth uchel am dano, o ran ei nodweddiad a'i deithi meddyliol. Sefydlodd yn Great Torrington, yn North Devon; cylch llafurwaith boreuol y seraphaidd John Howe. Ni bu ei arosiad yma ond byr, gan ei fod wedi penderfynu ymroddi i wasanaeth y genadaeth dramor. Wedi cael derbyniad fel y cyfryw gan Gymdeithas Genadol Caerludd, efe a urddwyd yn Ebrill, 1835, yng Nghapel Wickliffe, yn genadwr i'r Chineaid, ac efe a anfonwyd i Penang. Yma efe a ymgyflwynodd yn ddidor i astudio y Chinaeg, ac a sefydlodd ysgol Gristionogol gref er mwyn y plani brodorol, a bu ei hyfforddiadau a'i bregethau yn dra buddiol ac adeiladol i'r swyddogion a'r milwyr Seisonig yn Penang. Dygwyddodd yma rai enghreifftiau hynod o'i ddefnyddioldeb y rhai, pan orfodwyd ef i ymadael â'r lle ym mhen pedair blynedd o herwydd methiant iechyd, a gynnyrchent ryw adgofion hyfryd yn ei feddwl. Wedi iddo ddychwelyd i Loegr yn y flwyddyn 1840, efe a gymmerwyd i wasanaeth y gymdeithas genadol, er ymweled â gwahanol fanau o'r wlad, fel dirprwywr i amddiffyn a dadlu ei hawliau; ac yn 1842, efe a benodwyd yn olygyddy Boys' Mission School yn Walthamstow. Yn 1844 efe a ymadawodd oddi yno i Richmond, Surrey, er ymgymmeryd ag arolygiaeth yr Eglwys Gyunullidfaol yno; ac efe a barhaodd yn y fugeiliaeth yn Richmond am dair ar ddeg o flynyddau. Wrth roddi ei weinidogaeth i fyny yma, efe a anrhegwyd gan y gynnulleidfa â phwrs yn cynnwys 200p., fel arwydd o'u parch a'u hanwyldeb tuag ato. Yn Ionawr, 1857, efe a symmudodd i Heywood, yn Lancaster, lle nid arosodd ond dwy flynedd: oerder yr hinsawdd yn y man gogleddol hwn a'i rhybuddiai ef a'i deulu mai doethach fuasai iddynt ymsymmud i rywle mwy heuliog yn y deheudir. Felly, efe a'i deulu a benderfynasant ddychwelyd i Gaerludd, lle y trigiannai lluaws o'i gyfeillion; ac yn y diwedd efe a ymsefydlodd yn Dalston, lle y sefydlwyd ysgol rianod gan ei wraig a'i ferched, yng ngorchwylion yr hon hefyd yr oedd yntau yn cymmeryd rhan, gan bregethu un flwyddyn yn Hackney, ac yn achlysurol yn cyflenwi manau ereill yn y gymmydogaeth. Fu yn aros yn Dalston dros rai blynyddau ; eithr yn haf 1863, efe a symmudodd i Homsey, lle y cafodd brawf llymdost ym Mai, 1864, trwy farwolaeth ei unig fab oloesol, yr hwn ddygwyddiad a effeithiodd yn fawr ar ei gyfansoddiad; o blegid ar y 18fed o'r mis canlynol yntau ei hun a "hunodd yn yr Iesu." Claddwyd ef a'i ddau fab ym meddrod y teulu yng nghladdfa Abney Park. Gadawodd ar ei ol weddw a dwy ferch. O ddiwedd y flwyddyn 1863 hyd o fewn ychydig i'w farwolaeth, efe a ddyoddefodd lawer oddi wrth y gewynwst. Ar gynghor y meddygon, gwnaeth ef a Mrs. Davies brawf o awyr y môr yn Llanstephan. Bu ychydig yn well; ond er hyny arosodd cymmaint methiant yn ei gorff, fel nad oedd ganddo ddim blas at ymborth. Nid oedd Mr. Dayies yn anenwog fel awdwr, fel y profa y gweithiau canlynol o'i eiddo: — China and Her Spirütal Claims; Memoirs of the Rev. Samuel Dyer; An Appeal to the Reason and Good Conscience of Catholics; Rest: Lectures on the Sabbath. Efe hefyd oedd cyhoeddwr y gweithiau canlynol: — Letters of the Rev, Samuel Dyer to his Children; Lectures on Christian Theology, by the Rev. Dr. Fayne; and The Works of the late Rev. Dr. Edward Williams of Rotherham. Mae ei nodiadau ar "Bechod Gwreiddiol" a "Bedydd," y rhai a welir yng nghyswllt â gweithiau y Dr. Williams, yn gynllun teg o'r hyn a allai efe wneyd fel meddyliwr ar bynciau arddansoddol.