Enwogion Ceredigion/Ifan Dafydd

Dafydd ab Llywelyn Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Dafydd y Coed

DAFYDD, IFAN, neu Ifan Dafydd Siencyn, o Gysswch, yn ardal Llangybi, oedd brydydd yn yr oes ddiweddaf. Dywedir iddo ddechreu ei yrfa grefyddol yn y Cilgwyn; ond yn amser y ddadl yng nghylch Calfiniaeth ac Arminiaeth, efe a ymunodd â chynnulleidfa D. Rowland, yn Llangeitho. Bu yn newid caniadau ag Ifan Tomos Rhys o Lanarth, ar Galfíniaeth ac Arminiaeth. Mae dwy gân o'i eiddo yn Niliau yr Awen gan Ifan Tomos Rhys.