Enwogion Ceredigion/John Edwards, Llanfihangel ar Arth
← David Edwards | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Lodwig Edwards → |
EDWARDS, JOHN, diweddar beriglor Llanfihangel ar Arth, oedd enedigol o ardal Ystrad Meirig. Cafodd ei ddwyn i fyny yng Ngholeg Dewi Sant. Cafodd ei urddo ar Landyssilio Gogo. Symmudodd wedi hyny i Sulian. Bu yn Beriglor Llanfihangel ar Arth am tua deuddeg mlynedd. Bu farw Medi 9, 1860, yn 52 oed. Yr oedd yn bregethwr gwych, yn gymmydog hawddgar iawn, a Christion diffuant Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig yn y plwyf.