Enwogion Ceredigion/John P Davies
← John Lloyd Davies | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Joshua Davies → |
DAVIES, JOHN P., gweinidog y Bedyddwyr yn Nhredegar, Gwent, a anwyd ym Mhersondy Bangor ar Deifi, Mawrth 12fed, 1786. Yr oedd yn fab i'r Parch D. Davies, offeiriad Bangor a Henllan. Yr oedd ei dad yn ysgolor a phregethwr da. Cafodd John Davies addysg weddol dda, yn ol manteision y dyddiau hyny, yn y gymmydogaeth. Yr oedd y Parch. Daniel Davies, Talgoed, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, yn ewythr iddo, brawd ei dad; ac ewythr arall iddo, brawd ei dad, oedd y Parch. M. Davies, gweinidog yr Annibynwyr yn Aberhonddu. Ymaelododd Mr. Davies Davies gyda'r Bedyddwyr yn y Drefach; ac yn fuan dechreaodd bregethu. Aeth Mr. Davies ar daith i'r Gogledd, gan fyned trwy sir Fflint, lle nad oedd hyd yn hyny un achos gan y Bedyddwyr. Pregethodd yno gyda llawer o dderbyniad; a'r canlyniad fu, casglu ychydig bobl yn Nhreffynnon, er furfìo achos yno, a'i urddo yntau yn weinidog arnynt. Yn fuan wedi hyn, priododd ferch o Sir Benfro, yr hon, er ei alar, a fu farw ym mhen tua blwyddyn, gan adael merch fechan ar ei hol. Ymadawodd â Threfynnon, ac aeth i Eglwys Gymreig yn Llynlleifiad, a phriododd yr ail waith. Symmudodd wedi hyny i Gaerludd at y Cymry. Daeth ar daith wedi hyny i Ddeheudir Cymru, a chafodd alwad i Glan y Feri a Chydweli. Wedi llafurio yma amryw flynyddau, gwahoddwyd ef i gymmeryd gofal eglwys y Bedyddwyr yn Nhredegar; ac yn y lle hwnw y gorphenodd ei ddyddiau. Adeiladwyd hefyd addoldai yn Rhymni, Pen y Cae, yn gystal a chapel Seisonig yn Nhredegar, a hyn oll trwy lafur Mr. Davies. Fel hyn,y mae meini coffadwriaeth am dano i'w cael yn Rhymni, Sirhowi, a Glyn Ebwy. Ymaflodd afiechyd ynddo yng nghanol ei wasanaethgarwch, yr hwn a lynodd wrtho tra fu byw, ac a fu yn achos o'i farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le Awst 23, 1832, yn 46 mlwydd oed. Prif hynodion Mr. Davies oeddynt arafwch, pwyll, amynedd, llarieidd-dra, a dyfalwch gafaelgar. Arferai ddywedyd "fod dynion yn dadleu llawer â'u gilydd am na chymmerent amser a phwyll i ddeall un y llall." Yr oedd ei wedd yn dra siriol a hawddgar pan yn ei nerth a'i lawn iechyd. Yr oedd ei wyneb yn deg, gwridog, a boddhaol; ei drwyn yn eryrraidd; ei lygad yn fywiog. Yr oedd tua phum troedfedd a naw modfedd o daldra. Ystyrid ef yn bregethwr gwreiddiol ac eglur. Yr oedd yn dra hyddysg yng ngeiriadaeth y Beibl. Ymddengys iddo dderbyn gwybodaeth Roeg a Lladin pan yn ei ieuenctyd ; ond ni wnaeth ddefnydd o honynt yn ei oes; y Gymraeg a'r Seisoneg yn unig a ddarllenai, ac yr oedd yn feistr ar y ddwy. Yr oedd ei wybodaeth o'r Gymraeg yn dra helaeth, trwy efrydiaeth ddyfal a pharhäus o Eiradur ac Ieithadur y Dr. Pughe. Y mae ei adnabyddiaeth o'r Gymraeg i'w weled yn ei sylwadau arni yn Seren Gomer, yn y blwyddyn 1825, a'i amddiffynad iddi yn 1826; ac y mae ei Gynllun o Eiriadur Cymreig yn y Seren yn 1824, yn brawf digonol o'r peth. Treuliodd gryn amser wrth ddarpariadau ar gyfer geiriadur Cymreig, sef Cymraeg oll Ysgrifenodd tuag ugain llen o hono. Nid oes gwybodaeth pa peth ddaeth o'r llawysgrif. Yn ei ysgrifeniadau ar bynciau crefyddol, ac yn enwedig yn y papyrau a adawodd i'w cyhoeddi, y rhai ydynt o flaen y cyhoedd yn gyfrol bum swllt, cenfydd y darllenydd myfyrgar y myfyriwr duwinyddol yn chwilio i berthynasau gwahanol ranau y gwirionedd efengylaidd, yn gosod allan wir ganlyniadau gwahanol egwyddorion, gan osod y rhesymau a'r profion ysgrythyrol ger bron, a'u cymhellant i dderbyn a chredu ei olygiadau, y rhai a goleddai mor galonog, ac a amddifiynai mor gadarn bob amser. Yr ydym yn ddiweddar wedi darllen traethodau y Parch. J. P. D., yng nghyd â'i gofiant, dan olygaeth D. R. Stephen, ac yn cael ei fod fyny â'r clod a roddir iddo. Y mae llawer o draethodau rhagorol o'i eiddo yn Seren Gomer y Gwyliedydd, &c.