Enwogion Ceredigion/Rhaglith

Cyflwyniad Enwogion Ceredigion
Cyflwyniad
gan Isaac Foulkes

Cyflwyniad
Afan Buallt

RHAGLITH.

Mae llawer o'r Gwaith canlynol yn hen ymchwiliad o'n heiddo. Yr ydym wedi ein geni, ein magu, a threulio y rhan fwyaf o'n hoes yng Ngheredigion; ac at hyny, wedi talu llawer o sylw i hynafiaeth y wlad, gan ysgrifenu nid ychydig ar y pwnc i wahanol gyfnodolion, ac felly dysgwyliwn na chaiff un hynafiaethydd ei siomi yn y gwaith. Ond am yr anneallus, ni fydd ei syniad am dano o un pwys.

Cydnabyddwn lyfryn trylen y Parch. W. Edmunds, ar Hen Deuluoedd yn ardal Llanbedr, am rai o'r defnyddiau sy genym.

Mae pob cangen o wybodaeth yn gofyn llawer o ymchwil cyn ei meistroli; ond y mae yr "Eisteddfod," neu yn hytrach un neu ddau o'i swyddwyr, yn golygu hynafiaeth Gymreig yn wahanol, gan y penodir dynion heb erioed dalu sylw i'r wyddor yn feirniaid; ac ymesyd dynsodion anhynafiaethol at ysgrifenu, a thyciant yn fynych i gael gwobrau, ac felly mae Uenyddiaeth Gymreig yn ddirmygus yng ngolwg y byd. Enwogion siroedd ereill yw y Parchedigion Eliezer Williams, Llanbedr; B. Evans, Drewen; Dr. Phillips, Neuadd Lwyd; Eben. Richard, Azariah Shadrach, ac amryw ereill; gan hyny anghyfiawnder fyddai eu gosod yma. Mewn ammheuaeth rhoddasom i mewn D. Williams, awdwr History of Monmouthshire, &c., ar awdurdod Bibliotheca Britannica gan Dr. R. Watt, 1824, cyf. i., tud. 968; Cyclopopdia Bibliographica, gan James Darling, 1854, cyf. ii., tud. 3212; Beeton's Dictionary of Universal Biography tud. 1095; Chambers's Book of Days cyf. i., tud. 826 — 7 (1864); Enwogion Cymru; Traethodydd 1855, tud. 325: ond nid ydym wedi llwyddo i gael dim o'i hanes yn ardal Aberteifi a Llechryd; a dywed Cadben Morris mai yn agos i Gaerdydd y cafodd ei eni; ac y mae lle i gredu mai camgymmeryd Cardigan yn lle Cardiff a wnaed, gan y dywedir ym Morganwg mai yn agos i Watford y cafodd ei eni.

Diolchwn yn wresog i Reithor parchus Llangeitho ac ereill am eu cefnogaeth i ddyfod â'r gwaith trwy'r wasg.

Buom dan orfod talfyru llawer o'n sylwadau ar Ddafydd ab Gwilym, ac amryw ereill, o herwydd y draul.

Llangeitho, Alban Hefin, 1868.