Enwogion Sir Aberteifi/Benjamin Davies (1825-1859)

Shon Dafydd Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Benjamin Davies (bu f 1811)

DAVIES, BENJAMIN, oedd enedigol o gymydogaeth Castellnewydd Emlyn, a ganwyd ef yn 1825. Gan ei fod o amgylchiadau isel, ac o herwydd marw o'i dad pan oedd efe yn lled ieuanc, ni dderbyniodd fawr o chwareu teg am addysg—tua blwyddyn meddir, a hyny gan mwyaf trwy garedigrwydd rhai o'i gymydogion cyfoethog. O ran corff yr ydoedd yn eiddil a gwan tuhwnt i'r cyffredin, er pan aned ef; ond yr oedd meddwl treiddgar a chryf yn cyfanneddu oddimewn iddo, a dangosodd hyny yn fuan trwy y cynnydd rhagorol a wnaeth yn yr ysgol. Fel y tyfai i fyny, cynnyddai ei awydd fwyfwy am wybodaeth, a darllenai gyda'r aiddgarwch mwyaf bob llyfr a ddeuai yn ei ffordd. A thra yn cario yn mlaen ei fasnach fechan, trwy ddilyn mèn i werthu nwyddau ar hyd y wlad, caffai gyfleusderau rhagorol i ychwanegu at rifedi cyfrolau ei lyfrgell fechan. Nid elai i mewn i nemawr dŷ heb holi yno am lyfrau, neu hen lawysgrifau, y rhai a brynai; ac felly casglodd yn nghyd luaws mawr o hen lyfrau Cymraeg gwerthfawr a phrin, yn nghyda rhai Seisonaeg a ddygent berthynas â Chymru. Yr oedd llawer o'r rhai hyn mor wael, brwnt, a drylliedig, fel na chadwasai neb ond un o chwaeth goethedig mo honynt yn ei lyfrgell. Dechreuodd ysgrifenu rhestr o honynt, gyda sylwadau arnynt, ond bu farw cyn ei gorphen. Yn y saith mlynedd olaf o'i fywyd, cadwai ysgol yn Merthyr, ger Caerfyrddin, lle bu farw, Hydref 24, 1859, yn 34 ml oed.