Enwogion Sir Aberteifi/Cadwgan ab Bleddyn

Cadifor ab Gweithfoed Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Cadwgan ab Owain

CADWGAN ab Bleddyn ab Cynfyn, a ddilynodd ei dad fel tywysog Powys, yn y flwyddyn 1079. O gylch y flwyddyn 1094, darfu iddo ef a Gruffydd ab Cynan orthrechu y Saeson yn Nyfed a Cheredigion, trwy ba fuddugoliaeth yr adennillodd y Cymry lawer o'u tiroedd. Ar ol hyn, ymddengys i Cadwgan sefydlu ei lys yn Aberteifi. Yn Nadolig 1107, gwnaeth wledd ardderchog yn y Castell hwnw, i'r hon y gwahoddodd henaduriaid a phendefigion y wlad o bob ardal yn Nghymru, yn nghyda nifer mawr o feirdd a cherddorion, i ddifyru y gwahoddedigion. Yn mhlith y rhai hyn yr oedd Nest, merch Rhys ab Tewdwr, gwraig Gerald de Windsor, rhaglaw Castell Penfro. A phan gwelodd Owain, mab Cad- wgan, Nest, efe "a'i serchawdd yn ddirfawr rhag ei theced o bryd a gwedd, a boneddhicced ei moes." Yn mhen ychydig amser, cynnullodd yn nghyd ychydig gyfeillion, ac aeth i Gastell Penfro, gyda'r dyben o gael meddiant. o berson Nest. Llwyddodd yn ei amcan — diangodd Gerald, a chymerodd yntau Nest gydag ef i Powys. Fel y gallesid dysgwyl, dygodd hyn ef i helbul a helynt flin, fel y gorfodwyd ef a'i dad diniwaid a thrallodedig i ffoi am ddiogelwch i'r Iwerddon. Dychwelodd yr olaf y flwyddyn ganlynol, a chan iddo brofi nad oedd ganddo yr un llaw yn mradwriaeth ei fab, caniatäwyd iddo i adfeddiannu ei diriogaethau yn Ngheredigion, a hyny ar yr ammod o dalu can' punt, a pheidio caniatâu i'w fab i ddychwelyd ato. Amddiffynodd Cadwgan ei hunan yn llwyddiannus yn erbyn galluoedd ei neiaint, hyd y flwyddyn 1110, pan yr ymosodwyd arno yn ddisymwth gan Madawg, yn y Trallwm, a lladdwyd ef cyn iddo allu tynu allan ei gleddyf i amddiffyn ei hun. Mae hen amddiffynfa i'w gweled yn awr, ar lan y môr yn agos i Aberaeron, sydd o hyd yn dwyn ei enw; oblegid iddi, mae'n debyg, gael ei chodi ganddo ef. Tua chwarter milldir oddiwrthi mae dau ffermdy, y rhai a elwir hyd heddyw Cilgrogan, hyny yw, Cil Cadrogan, sef y man y byddai Cadwgan yn encilio iddo.