Enwogion Sir Aberteifi/Caranog

Cadwgan ab Owain Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
Caredig

CARANOG, fab Corun ab Caredig ab Cunedda, sant oedd yn blodeuo yn nechreu y chweched ganrif. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llangranog, yn y sir hon. Ei ddydd gwyl yw Mai 16eg. Mae hanes bywyd Caranog i'w weled yn mysg yr Ysgrifau Cottonaidd yn yr Amgueddfa Brydeinig, ac ysgrifenwyd un arall gan John o Teignmouth. Yn ol hwnw, mab ydoedd ac nid ŵyr i Caredig. Dewisodd Caranog fywyd neillduedig sant, yn hytrach na dilyn ei dad fel tywysog Ceredigion.—Rees' Welsh Saints.