Enwogion Sir Aberteifi/Ceitho
← Caron | Enwogion Sir Aberteifi Bywgraffiadau gan Griffith Jones (Glan Menai) Bywgraffiadau |
Ceneanc → |
CEITHO, oedd sant yn blodeuo yn y chweched ganrif. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llangeitho, a choffeid ef Awst 5ed. Mab ydoedd i Cynyr Farfdrwch ab Gwron ab Cunedda, yr hwn oedd yn byw yn Cynwil Gaio, sir Gaerfyrddin; a dywedir iddo ef a'i frodyr, Gwyn, Gwynno, Gwynoro, a Celynin, gael eu geni ar unwaith, ac iddynt oll fyw bywyd crefyddol.