Enwogion Sir Aberteifi/David Davies (Castellhywel)

Benjamin Davies (bu f 1811) Enwogion Sir Aberteifi
Bywgraffiadau
gan Griffith Jones (Glan Menai)

Bywgraffiadau
David Davies (Panteg)

DAVIES, DAVID, Castell-hywel, un ag y mae ei enw fel bardd, ysgolhaig, ac athraw, mor adnabyddus trwy Gymru, a anwyd yn y Goitre, plwyf Llangybi, Ceredigion, yn y flwyddyn 1743. Yr oedd ei rieni yn enwog o ran eu duwioldeb, ac yn aelodau o'r Eglwys Annibynol yn y Cilgwyn, yr hon oedd y pryd hyny dan ofal gweinidogaethol Phylip Pugh. Derbyniodd argraffiadau crefyddol dwfn pan yn dra ieuanc, a gwnai arferiad o weddio, fel y dywed yn un o'i ganiadau, pan nad oedd ond wyth neu naw oed. Tueddwyd ef felly yn foreu at y weinidogaeth. Yr oedd ei rieni yn dra awyddus am ei weled yn troi allan yn ddyn defnyddiol i'w wlad ac i'r eglwys, ac felly nid arbedasant na thraul na thrafferth er rhoddi iddo y ddysgeidiaeth oreu ag oedd yn gyrhaeddadwy yn y wlad y pryd hyny. Anfonwyd ef yn gyntaf i ysgol Llanybydder, ac oddiyno symudwyd ef drachefn i Langeler. Pan yn bymtheg ood, gosodwyd ef dan ddysgeidiaeth ei berthynas, Mr. Joshua Thomas, Leominster, yr hwn oedd yn weinidog duwiol a defnyddiol iawn; a bu cynghorion ac esiampl y gwrda hwnw yn foddion i ddyfnhau ei argraffiadau crefyddol blaenorol. Wedi treulio blwyddyn a hanner yn y lle hwnw, dychwelodd yn ol i Gymru, sef tua'r flwyddyn 1760. Treuliodd wedi hyny ryw gymaint o amser yn Ngholeg Caerfyrddin, yr hwn oedd y pryd byny dan arolygiaeth iaeth y Dr. Jenkins. Yn ystod ei arosiad yno, cafwyd digon o brawf o'i alluoedd fel ysgolhaig, yn gystal ag o'i dduwioldeb. Y pryd hyny y dechreuodd bregethu. Wedi gorphen ei efrydiaeth yno, ymsefydlodd yn Ciliau Aeron, lle y llafuriai fel pregethwr yn mysg yr Arminiaid. Tra yma, unwyd ef mewn "glan briodas" â Miss Ann Evans, Foelallt, Ciliau. Ar ol ei urddo yn gydweinidog â'r Parch David Lloyd, yn Llwyn-rhyd-owen, &c., efe a symudodd oddiyno i Gastell-hywel, yn mhlwyf Llandyssul; ac wrth y lle yma yr adnabyddid ef byth wedi hyny. Ar ol ymsefydlu yno, agorodd ysgol glasurol, yr hon a ddaeth o'r diwedd i gael ei hystyried yn un o'r sefydliadau addysgawl enwocaf yn y Dywysogaeth. Yr oedd gan Mr. Davies dalent neillduol at gyfranu addysg: yr oedd fel wedi ei ddonio â chymhwysderau arbenig at y gwaith o gario ysgol yn mlaen. Deallai y natur ddynol yn rhagorol; astudiai gymeriad y dysgybl yn fanwl, ac nid hir y byddai cyn dyfod o hyd i'r fynedfa i gelloedd dirgel ei feddwl. Fel y gellid dysgwyl, daeth yn anarferol boblogaidd fel ysgolfeistr; a chyrchai plant a dynion ieuainc, tlawd a chyfoethog, o bob cŵr o'r Dywysogaeth ato am eu haddysgiaeth. Ac yr oedd llawer o wŷr enwocaf y wlad yn ddyledus iddo am osod i lawr sylfaen eu mawredd. Yn yr ysgol hon, cydgymysgai plant Ymneillduwyr ac Eglwyswyr yn ddiwahaniaeth; a dygwyd i fyny ynddi lawer a fuont yn addurn i'r weinidogaeth yn mysg y naill a'r llall. Ond pan ddaeth Dr. Horsley. yn esgob Ty Ddewi, ni fynai urddo neb o'r ysgolheigion i'r weinidogaeth heb fyned i ryw sefydliad addysgawl arall. Darfu i hyn, mae'n debyg, effeithio i ryw raddau ar yr ysgol; ond yr oedd enw Mr. Davies bellach wedi ei sefydlu fel un o'r athrawon mwyaf llwyddiannus yn y wlad. Parhaodd yn y swydd yma, yn nghyda'r pregethu, hyd ddiwedd ei oes, yr hyn a ddygwyddodd Gorphenaf 3, 1827, pan oedd yn 83 oed. Fel duwinydd, mae yn anhawdd dweyd dim gyda pherffaith sicrwydd am Mr. Davies, a hyny am y rheswm na chyffyrddai byth yn ei bregethau â phynciau dadleuol; ac felly, nis gellir dweyd beth oedd ei farn, mewn gwirionedd, ar lawer o athrawiaethau Cristionogaeth. Ymddengys mai lled anmhenodol oedd ef ei hunan ar y pynciau sydd yn gwahanu yr Arminiaid a'r Sociniaid oddiwrth eu gilydd; ac felly hawliai y naill blaid a'r llall ef fel eu heiddo hwy. Yr oedd yn hollol ddiragfarn, modd bynag; ac mewn llythyr at gyfaill dywed, "Yr wyf yn berffaith foddhaol yn fy meddwl fy hun fod y Dr. Priestley, ac eraill o'i blaid, yn ddynion da a Christionogion gwirioneddol; meddaf hefyd yr un farn am John Calfin, Dr. Crisp, a dysgyblion eraill. Eisteddwn yn ddedwydd mewn cymundeb gyda hwynt, gyda gobaith gwynfydedig o fod yn eu cymdeithas am byth yn y nefoedd." "Ymddengys," ebai y Parchedig Arthur Mursell, yn Good Words, "fod Mr. Davies yn rhyw ryfeddod o ddyn. Yr oedd yn ddyn o faintioli cawraidd. Yr oedd y cymydogion yn ofni rhoddi benthyg eu ponies iddo, rhag ofn iddo dòri eu cefnau; ac yr oedd ei deiliwr yn arfer siarad am dano ar ol ei farwolaeth gyda math o barch ofnadwy." Ni bu erioed ddyn mwy cymwynasgar, caredig, a didramgwydd, na Mr. Davies, Castell-hywel, byw ar y ddaear. Mewn cymdeithas nid oedd neb yn fwy llawen a difyrus nag ef, ac adroddir llawer chwedl ar lafar gwlad, fel enghreifftiau o'i ffraethineb, ond ni chaniatâ ein gofod i ni gofnodi dim yn bresenol. Fel bardd coeth a naturiol, ychydig fu yn fwy enwog na bardd Castell-hywel. Mae y llithrigrwydd a'r ystwythder sydd yn nodweddu holl gynnyrchion ei awen, yn eu gwneud yn hynod ddarllenadwy a phoblogaidd. Cyhoeddwyd ei gyfansoddiadau yn llyfryn, yn y flwyddyn 1822, dan yr enw Telyn Dewi, ac mae y gwaith erbyn hyn wedi myned trwy amryw argraffiadau. Gwneir ef i fyny gan mwyaf o gyfieithiadau o waith y prif-feirdd Seisnig, megys Young, Gray, Mrs. Barbauld, &c. Ac fel cyfieithydd barddoniaeth, nid oes neb etto wedi dyfod yn agos ato, ac ystyrir ei gyfieithiad o Alargan Gray yn mawr ragori ar y gwreiddiol, er cystal yw hòno. Yr oedd yn alluog i gyfansoddi englyñion Seisnig a Lladin gyda rhwyddineb mawr, fel y gwelir oddiwrth yr enghreifftiau sydd yn ei lyfr. Y mae ei linellau sydd yn cyfeirio at Dr. Priestley, yr hwn a ddaliai allan yr athrawiaeth o fateroldeb yr enaid, yn dra adnabyddus :

"Yma gorwedd wedi marw, yn dra detheu mewn arch dderw,
Esgyrn, 'menydd, gwaed, gwythienau, corff ac ENAID Doctor Priestley."

Yr oll a wyddis iddo ysgrifenu mewn rhyddiaith ydoedd, cyfieithu Scougal's Life of God in the Soul of Man. Gadawodd Mr. Davies ar ei ol ddau fab yn y weinidogaeth gyda'r Undodiaid.