Enwogion Sir Aberteifi/Rhagymadrodd
← Enwogion Sir Aberteifi | Enwogion Ceredigion Rhagymadrodd gan Benjamin Williams Rhagymadrodd |
Afan → |
RHAGYMADRODD.
——————————
GWELIR fod yn y Traethawd hwn fywgraffiadau amryw bersonau wedi eu geni allan o Geredigion, er esiampl, Dr. Phillips, Neuadd- Lwyd, Parch. Ebenezer Richards, Tregaron, &c. Ein hesgusawd dros roddi y cyfryw i mewn ydyw, am mai yn y sir hon y treuliasant y rhan fwyaf a phwysicaf o'u hoes, ac am mai ynddi hi yr ennillasant eu henwogrwydd. Ystyriem felly fod gan y sir y llafuriasant gymaint ynddi, ac ar yr hon y rhoddasant hwythau gymaint o fri, hawl gyflawn i'w rhestru yn mysg ei meibion urddasol ac anrhydeddus ei hun.
Yr ydym hefyd wedi rhoddi yn yr Attodiad fraslun o rai personau fuont feirw yn ddiweddar, a chredwn y caiff eu lluaws cyfeillion galarus yr un mwynhad pruddglwyfus, wrth ddarllen y nodiadau anmherffaith hyn, ag a gawsom ninnau wrth eu hysgrifenu.
- ABERAERON, Ionawr, 1868.