Enwogion y Ffydd Cyf II/Ebenezer Richard

John Williams (y cyntaf) Enwogion y Ffydd Cyf II

gan John Peter (Siôn Pedr)


a John Pryse (Gweirydd ap Rhys)
William Williams o'r Wern
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Enwogion y Ffydd Cyf II (testun cyfansawdd)



EBENEZER RICHARD

Mab hynaf ydoedd y gŵr enwog hwn i Henry Richard, o'i ail wraig Hannah. Ganwyd ef ar y 5med o Ragfyr, 1781, ym mhentref Treffin, ymhlwyf Llanrhian, sir Benfro. Yr oedd ei dad yn ŵr duwiol a dichlynaidd, a bu'n bregethwr defnyddiol a chymmeradwy gyd â'r Methodistiaid am 60 mlynedd. Yr oedd ei fam hefyd yn wraig rinweddol a duwiol iawn; a'r canlyniad dedwydd oedd iddo ef a'r plant eraill gael eu meuthu "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd” o'u mebyd. Nia gwyddom pa fanteision addysg a gafodd. Dywedir y bu ei dad ya athraw mewn cyssylltiad âg ysgolion Madam Bevan mewn amryw fanau yn Neheudir a Gogledd Cymru, a cheir gweled yn ebrwydd y bu yntau yn athraw gwahanol ysgolion; gan hyny, gellir casglu iddo gael rhyw fanteision addysgol heb law gan ei rieni duwiol gartref. Yn y fl. 1796, pan oedd efe yn 15 oed, cafodd glefyd trwm, a bu rhagddarbod am ei einioes; ond cafodd adferiad. Yn fuan wedyn, derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys ar ei ymgyflwyniad ei hun, ac nid mwyach, fel o'r blaen, ar gyfrif ei rieni. Ymhen yspaid o amser ar ol hyn, symmudodd o breswylfod ei rieni i le a elwir Brynhenllan, rhwng Trefdraeth ac Abergwaun, i gadw ysgol. Pan yn y le hwn, ac yn tynu at 20 oed, cafodd argyhoeddiad mor danllyd nes effeithio ar ei iechyd a'i synwyr, a bu raid iddo roi ei alwedigaeth fel athraw i fynu, a dychwel at ei rieni. Dyma fel y dywed ei hun yn ei Ddyddlyfr:—

"Gorphenaf 1af, 1801.—Y noswaith hon oedd y fwyaf ofnadwy yn fy mywyd; ond yr wyf yn gobeithio mai ynddi hi y dechreuodd dydd na bydd terfyn arno byth."

Yr oedd bellach wedi cael golwg ar ddihangfa, ac wedi cael ei nerthu i gymmeryd gafael yng ngobaith yr efengyl. Dychwelodd etto i Frynhenllan, ac efe weithian yn ddyn newydd. Daeth ei ddoniau a'i ras i'r golwg yn fuan iawn, â chymhellwyd ef gan ei frodyr i arfer ei ddoniau yn gyhoeddus, trwy ddechrau yr odfeuon, ac ymarferiadau eraill; ac o'r diwedd, ar daer ddymuniad ei frodyr, dechreuodd bregethu. Mewn lle a elwir Dinas, yn agos i Frynhenllan, y traddododd efe ei bregeth gyntaf, pryd y cafwyd arwyddion amlwg o foddlonrwydd yr Arglwydd ar yr holl wasanaeth. Yn lled fuan ar ol hyn, derbyniwyd ef a'i frawd Thomas i'r cyfarfod misol.[1][2] Dywedai Mr. Jones, Llan-gan, yr hwn yn benaf a'u holai, "Y mae'r ddau fachgen hyn yn pregethu fel dau angel." O gylch y pryd hyn, yr oedd iechyd Mr. Richard mor wanaidd fel yr ofnid y byddai farw dan y darfodedigaeth. Yn y cyfamser, aeth i Aberteifi i ymgynghori â meddyg, yr hwn a ddywedai, os symmudai i'r dref honno, fel y byddai yn agos ato ef i gymmeryd ei gyfferi yn rheolaidd, ei fod yn tybied y gallai ei adferu. Cydsyniodd yntau i'r annogaeth, a throdd gobaith y meddyg yn fwynhad. Symmudodd i Aberteifi yn nechrau y f. 1806. Yr oedd gŵr bonheddig duwiol yn byw y pryd hyn yn Aberteifi, a'i enw James Bowen, Ysw., o Lwyn-y-gwair wedi hyny. Cymmerth y gŵr hwnw Mr. Richard i'w deulu, i fod yn athraw i'w blant. Bu'n ddedwydd iawn am dair blynedd yn y teulu duwiol hwnw; ac yr oedd efe, yn y cyfamser, o fawr wasanaeth a bendith i'r dref a'r wlad oddi amgylch, fel pregethwr galluog a chefnogwr ymdrechgar i'r Ysgol Sabbothol, yr hon oedd bellach yn dechrau ymwreiddio ac ymledu yn y wlad. Ar y 1af o Dachwedd, 1809, priododd Mr. Richard Mary, unig ferch Mr. William Williams o Dregaron. Gan fod rhieni ei briod yn oedranus, a hithau yn anfoddlon i ymadael oddi wrthynt, symmudodd Mr. Richard, er mawr siomedigaeth a cholled i'r achos crefyddol yn Aberteifi, ac er holl ymdrech ei frodyr yno i'w rwystro, i fyw i gartref ei briod yn Nhregaron, ac fel "Richard o Dregaron" yr adnabyddwyd ef o hyny hyd ei fedd, ac, yn wir, hyd heddyw. Bu ei fynediad yno o fendith fawr i'r plwyf hwnw, a'r holl wlad o amgylch; ie, bu ei lafur ef fel pregethwr enwog a llafurus yn fendith i Gymru benbaladr, ac i'r Cymry yn gwahanol drefydd Lloegr.

Yn y fl. 1810, pennodwyd Mr. Richard yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y sir; ac ar yr 11fed o Awst, 1811, yng Nghymmanfa Llandeilo-fawr, neillduwyd ef a deuddeg eraill o wahanol siroedd y Deheubarth i weini bedydd a swper yr Arglwydd. Parodd hyn gyffro dirfawr, nid yn unig ym mysg yr hen offeiriaid Methodistaidd, megis Jones o Lan-gan, Nathaniel Rowlands, ac eraill, fel y gwelsom yn y pennodau blaenorol, ond hefyd ym mysg rhai Methodistiaid anurddedig. O herwydd y cythrwfl dan sylw, barnai rhai Eglwyswyr zelog a chrefyddol ei bod yn adeg y gellid denu rhai o'r prif Fethodistiaid i gymmeryd "urddau Esgobol;" ac yr oedd Mr. Richard yn un o'r rhai cyntaf yr ymosodwyd arno. Er mwyn cyrraedd yr amcan, aeth un o brif offeiriaid yr Eglwys Sefydledig yn sir Aberteifi at John Jones, Ysw., Dery Ormond, ger llaw Llanbedr, yr hwn oedd berthynas agos i Mrs. Richard, i ddeisyf arno ymdrechu cael gan Mr. Richard dderbyn "urddiad Esgobol." Gan nad oedd Mr. Jones yn gwir adnabod cymmeriad Mr. Richard, ymrwymodd wrth y person y llwyddai efe yn yr amcan. Anfonodd Mr. Jones am dano i'r Dery yn ddioed, heb amlygu dim iddo, ond ei fod yn dymuno ei weled yn ebrwydd. Ufuddhaodd yntau i'r gwahoddiad yn y fan; ac wedi ei groesawu yn garedig, dywedodd Mr. Jones ei fod ef a'r Parch. Mr. Evans, Ficar Llanbadarn-fawr, wedi bod yn ymddiddan yn ei gylch yn ddiweddar, ac wedi penderfynu cynnyg ei ordeinio i bersonoliaeth eglwysig, lle y derbyniai fywioliaeth lawer mwy esmwyth a chyflawn nag y gallai obeithio ei mwynhau yn ei sefyllfa bresennol; a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwyatlo ei air i'r Ficar y llwyddai i'w gael i gydsynied. Dywedodd Mr. Richard, yn gadarn a dibetrus, "Y mae'r peth yn amhossibl, syr." Synodd y gŵr bonheddig yn ddirfawr, a gofynodd "Paham?" Yntau a attebodd, "Byddai cydsynio â'r cynnyg hwn, yn gyntaf, yn gwbl groes i'm cydwybod, o blegid fy mod, o egwyddor, yn ymneillduo oddi wrth yr Eglwys Sefydledig. Yn ail, yr wyf yn barnu y gallaf fod yn fwy defnyddiol gyd â'r gwaith yn y man yr ydwyf. Ac, yn drydydd, y mae cymmaint o undeb rhyngwyf a'm brodyr fel y byddai y rhwygiad yn annioddefol i'm teimladau." Nis gallai y gŵr bonbeddig feio na gwrthbrofi y rhesymau; ond dywedodd, gyd a gwedd siomedig, ei fod yn bur ffol ar ei les ei hun, trwy wrthod y fath gynnyg haelionus. Pa ddelw bynag, ni newidiodd Mr. Richard byth mo'i farn na'i benderfyniad. Yn y fl. 1813, pennodwyd Mr. Richard, ar 'annogaeth Mr. Charles o'r Bala, yn ysgrifenydd Cymmanfa Gyffredinol y Methodistisid yn y Deheubarth, yn yr hon swydd y parhaodd hyd ddiwedd ei oes. Y mae'n anhawdd i'r anghyfarwydd ddychymmyg faint oedd llafur y gŵr enwog a defnyddiol hwn mewn teithio, pregethu, myned i gyfarfodydd misol a chwarterol; mewn gohebiaeth De a Gogledd; mewn ysgrifenu cofnodau y cymmanfaoedd, a chynnal cyfarfodydd cyhoeddus ac eglwysig, dros ddeng mlynedd ar hugain. Dyry'r crynhodeb canlynol o daflen a gymmerwyd o'i Ddyddiadur, o'r flwyddyn 1815 hyd 1836, ryw feddylddrych am faint y llafur dirfawr yr aeth trwyddo yn ystod y blynyddau hyny:—

Nifer traddodiad ei Bregethau,—7,048
Nifer gweinyddiad Swper yr Arglwydd,—1,360
Nifer gweinyddiad Bedydd,—824
Nifer y Cyfarfodydd Cyhoeddus y cymmerth ran ynddynt,—651
Nifer y milltiroedd a deithiodd,—59,092

Yn y fl. 1832, parodd ei lafur digyffelyb iddo gael ymosodiad o'r hun-glwyf (lethargy), sef math ar gwsg trwm, annaturiol, o'r hwn nis gellid ei lwyr ddeffro dros lawer o ddyddiau. Digwyddodd i'w fab hynaf, Edward, yr hwn oedd feddyg, fod gartref ar y pryd, a bu o gymmorth mawr iddo. Ym mis Tachwedd, 1835, aeth Mr. Richard a'i wraig i Lundain, i urddiad eu mab, Mr. Henry Richard, yn weinidog i eglwys Annibynol Marlborough Chapel, Old Kent Road, Llundain;[3]ac yn y mis canlynol (Rhagfyr), ymosododd yr hen hun-glwyf arno eilwaith, a bu'r tro hwn hefyd mewn enbydrwydd am ei einioes; ond adferwyd ef drachefn dros fyr amser. Pa wedd bynag, yr oedd arwyddion lled amlwg, weithian, fod ei afiechyd yn cryfhau, a'i gyfansoddiad yntau yn adfeilio; ac yn gynnar ym mis Mawrth, 1837, dychwelodd yr hun-glwyf ato gyd âg adnewyddol nerth. Ar y 9fed o'r mis hwnw, yr un flwyddyn (1837), rhoddes derfyn ar ei oes lafurus a defnyddiol, pan nad oedd efe ond 56 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Tregaron. Yr oedd Ebenezer Richard yn un o'r pregethwyr mwyaf defnyddiol a dylanwadol yng Nghymru. Anfynych y ceir dŷn, mewn unrhyw oes, yn meddu'r fath uniad hapus o gynnifer o gynheddfau gwasaneuthgar. Yr oedd yn addfwyn iawn, ac etto yn benderfynol; yn hynod o dduwiol, ac etto heb un gradd o ffug sancteiddrwydd; yn effeithiol iawn fel pregethwr, bob amser, ac ar brydiau ysgubai ei hyawdledd boppeth o'i flaen; yn ofalus a threfnus neillduol fel arolygydd gweithrediadau ei gyfundeb crefyddol, ac yn ddiwyd a diorphwys ynghyflawniad ei holl ddyledswyddau.

Nid oes genym hanes i ddim o waith Mr. Richard gael ei gyhoeddi, ond yr hyn sydd yn ei "Fywyd," gan ei feibion, E. W. Richard a H. Richard. Y mae'r gyfrol wir werthfawr honno yn cynnwys lliaws mawr o'i lythyrau at ei blant, a gwahanol gyfeillion, ac y maent yn rhagori o ran tynerwch duwiol, addysgiadau crefyddol, a gofal am achos y Gwaredwr bendigedig, ar unrhyw lythyrau a ddarllenasom ni, oddi eithr eiddo yr apostolion. Hefyd, cynnwys y llyfr "Rai o ddywediadau Mr. Richard ar amryw destynau, ac ar wahanol achlysuron;" talfyriad o amryw o'i bregethau; ac "engreifftiau o brydyddiaeth Mr. Richard." Y mae rhai pennillion o'i brydyddiaeth yn dangos y gallasai efe fod yn fardd gwych pe rhoddasai gymmaint o'i sylw i farddoniaeth ag a roddes i dduwinyddiaeth a chrefydd.[4]

Nodiadau

golygu
  1. THOMAS RICHARD ydoedd frawd i Ebenezer Richard, fel y gwelir uchod. Yn Nhreffin y ganwyd yntau, ar yr 11fed o Chwefror, 1788, ymhen tu a blwyddyn a dau fis ar ol ei frawd Ebenezer; ac ni bu brodyr erioed anwylach o'u gilydd. Er hyny, yr oeddynt yn bur wahanol eu tymherau. Yr oedd y gwahaniaeth yn bur hawdd ei ganfod, yn oed wedi iddynt dyfa i fynu, a chyrraedd ill dau i'r dosparth uchaf, o ran poblogrwydd a dylanwad, fel pregethwyr ym mysg eu cenedl. Yr oedd Ebenezer yn ddŷn tawel, gwaraidd, gochelgar, a chyfrwys; ond Thomas yn fwy agored, rhydd, prysur, ac anwyliadwrus Ymddengys mai bachgen gwyllt, a lled anystywallt, oedd efe, er maint oedd gofal ei rieni, yn enwedig ei fam, am dano. Dyma ei dystiolaeth ef ei hun:— Llawer gwaith y bu fy anwyl fam dduwiol yn wylo dagrau uwch fy mhen am ddod gyd â hi i'r society (y cyfeillachau neillduol). Minnau yn gwrthwynebu ar wastad fynghefn ar y llawr, fel y mae'r dylluan yn arfer ymladd, yn llawn llid a chynddaredd. Fel hyn y parheais mewn pob gwylltineb ac ynfydrwydd, yn meuddu ac yn gorchfygu pawb, hyd o ddeutu pedair ar ddeg oed."
    Gwelir wrth y difyniad yna na pharhaodd ei gyndynrwydd yn hir. O gylch y pryd hwnw (1797), teimlodd argyhoeddiadau llymion iawn ar ei feddwl, y rhai a derfynasant yn ei wneuthur yn ddyn newydd, ac ymroddes o hyny allan i fywyd a llafur crefyddol.
    Yn y f. 1803, ymhen ychydig wythnosau ar ol i'w frawd Ebenezer ddechrau pregethu, dechreuodd yntau ar y gwaith, a derbyniwyd y ddau ar unwaith, fel y gwelsom uchod, yn aelodau o'r Cyfarfod Misol; a pharhaodd y naill fel y llall yn y gwaith yn dra ymdrechgar a defnyddiol, ac yr oeddynt ymhlith y pregethwyr mwyaf defnyddiol a chymmeradwy hyd ddiwedd eu hoes. Dywedir nad oedd neb yn y Deheudir mor boblogaidd ag ef, oddi eithr ei frawd, Ebenezer, Ebenezer Morris, a John Evans, New Inn. Byddai torfeydd mawrion yn ei ddilyn o gapel i gapel, ac yn fynych iawn byddai "nerthoedd y byd a dduw yn cydfyned" â thraddodiad ei bregethau. Wrth ystyried ei boblogrwydd a'i fawr gymmeradwyaeth, y mae'n syn, braidd, paham na neilldnasid ef i'r holl waith, yn yr ordeiniad cyntaf, yn 1811, pan neillduwyd ei frawd ac eraill. Pa wedd bynag, ni wnaed hyny hyd y f. 1814.
    Ar y 30fed o Ebrill, 1819, priododd Mr. Richard Miss Bridget Gwynn, merch ieuangc dra chrefyddol, o deulu cyfoethog, yr hon oedd yn nith i, ac a fagwyd gan, Mrs. Jones o Faenorowen, ail wraig y diweddar Jones o Lan-gan. Ar ol priodi, aeth i fyw i balasdy bychan, perthynol i'r Gwynniaid, a elwid Cwrt, Llanllawer. Yn fuan wedyn, symmudodd i Drellewelyn, yn agos i Faenorowen Symmudodd oddi yno i le a elwid Crwca, i ffarmio, lle y cafodd lawer o helbulon byd. O gylch diwedd y f. 1824, symmudodd o'r lle helbulus hwnw i Abergwaun, lle y treuliodd ef a'i wraig rinweddol weddill eu hoes; ac fel "Richard Abergwann" yr adnabyddwyd ef o hyny allan, trwy holl siroedd Cymru a threfydd Lloegr.
    Wedi i Mr. Richard deithio yn galed, gartref ac oddi cartref, i bregethu "efengyl y deyrnas," gwanhaodd ei iechyd yn fawr rai blynyddau cyn ei farwolaeth, fel y caethiwyd ef bron yn hollol i'w gartref, a'r capeli cymmydogenthol. Tra'r oedd ef yn y gwendid hwnw, fe gollodd ei anwyl briod ar y 9fed o Fehefin, 1855, yr hyn a effeithiodd ddirfawr ar ei lesg gyfansoddiad. Yr oedd ei afael yn y byd hwn weithian yn llacio fwyfwy, a'i hiraeth am y nefoedd yn mawr gryfhau; ac ar ddydd Iau, y 8ydd o Ionawr, 1856, ac efe yn gyflawn O dangnefedd, "efe a hunodd yn yr Iesu," yn 78 oed.
    Nid ydym yn gwybod i ddim o'i waith gael ei gyhoeddi, ond a geir yn ei Fywgraphiad tarawiadol, gan y Parch. Edward Matthews, yr hwn sydd yn nodedig o ddyddorol Ni oddef ein terfynau i ni ddifynu dim o'i waith, ond y dernyn canlynol a dreuthodd wrth ryw gyfeillion, mewn canlyniad i'r llythyrau mynych a dderbyniai i'w wahodd i bregethu mewn gwahanol gyfarfodydd, pan oedd yn llesg â methedig, ac y mae hwn yn ddarlun hynod o'r dŷn. Dyma fel y dywedodd:— "Ah! y mae'r bobl yn camsynied yn ddirfawr: y maent hwy yn meddwl mai'r dŷn a welsant hwy yn y cymmanfaoedd ddengain mlynedd yn ol sydd yma yn awr. Nid hwnw, ffryns, sydd yma bellach. Yr oedd y dŷn hwnw yn wridgech a phenfelyn; ond y dŷn hwn yn welw a phenwyn. Yr oedd y dyn hwnw yn gryf ac yn gefn-gymmwys; ond y dyn hwn yn nychlyd ac yn wargam. Yr oedd y dyn hwnw yn ieuangc a heinyf; ond y dyn hwn yn hen ac anystwyth, Yr oedd y dyn hwnw yn gallu siarad, ac yn gallu gweiddi; ond y dyn hwn ni all siarad na gweiddi. Nid yr un dŷn, bobl, oedd y dyn hwnw a'r dyn hwn: dyw hwnw ddim yma yn awr. Ni byddaf mwy yn eich cyfarfodydd ond lumber; rhywbeth ar y ffordd, yn cymmeryd lle dŷn, heb allu gwneud gwaith dŷn. Yr wyf bellach yn dyfod i deimlo fy hun yn fwy cymmwys i'r bedd nag i'r pulpud. Y mae tymmor i bob peth; ac y mae thmmor pregethu wedi darfod, a thymmor gorphwys wedi dyfod. Gadewch fi yn llonydd bellach, canys nid y dyn yr ydych chwi yn ei ymofyn yma sydd yma yn awr."—
  2. Bywgraph. T. Richard, gan E. Matthews; Gwyddon, cyf. iz., t. 121; Cofiant John Jones, Talsarn, gan O. Thomas, t. 896; En. Cymru, J. T. J., cyf ii, t. 485; Cymru O. J., est. ii. t. 492.
  3. Ar ddymuniad amryw o gyfeillion heddwch, rhoddes Y Parch. Henry Richard y weinidogaeth i fynu rai blynyddau yn ol, er mwyn bod yn Ysgrifenydd Cymdeithas Heddwch; a chyd i hyny, y mae efe yn Aelod Seneddol, er ys blynyddau bellach, dros Ferthyr Tydfil.
  4. Bywyd y Parch. E. Richard, gan ei feibion, E. W. R. & H. R.; Method. Cymru, cyf. ii., t. 108; Gwyddon., cyf. ix. t. 117; Enwog. Cymru, I. F., t. 897; Enwog, Sir Aberteifi, G. Menai, t. 132; Cofiant J. Jones, Talsarn, O. T., t. 890; Enwog. Cymru, J. T. J., cyf. ii. t. 483; Cymru, O. J., cyf. ii., t. 490.