Er Mwyn Cymru/Islwyn a'i Feirniaid

Y Nodyn Lleddf Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Ffarwel i'r Mynyddoedd

ISLWYN A'I FEIRNIAID.

CAFODD Islwyn ddydd ei gyfeillion, a thranoeth ei edmygwyr hiraethlawn yn awr gwawriodd tradwy ei feirniaid. Nid yw beirniadu Islwyn ond y peth ddisgwylid; y peth diddorol yw dyfalu pa fath feirniadaeth fydd. Beth ddywed y bardd newydd-newydd, y newydd danlli, am gawr yr oes o'r blaen? A fydd yn debig i feirniadaeth ysgol Pope neu ddilynwyr Dr. Johnson ar Wordsworth, wedi ei seilio ar ganon ffurfiau neu ar synwyr cyffredin di-farddoniaeth? Ynte a fydd megis Herrick yn codi ei ben o fysg blodau i arswydo wrth gofio am ystormydd aruthr meddyliau Ford a Shakespeare?

Cyhoeddwyd cyfrol fechan o waith Islwyn yn 1867 yn cynnwys darnau digyswllt o'i ddewisiad ei hun. Cynhwysa ar ei wyneb ddalen ddyfyniad o Life Drama Alexander Smith, gŵr oedd a'i enw'n glodus pan oedd Islwyn yn Edinburgh; ond oedd iddo ef megis Falconer i Byron, neu Thomson i Wordsworth. Gwelodd Smith lawer o brydferthwch hynafol Stirling a swyn byth-newydd golygfeydd Skye; creodd Islwyn fyd newydd, a'i brydferthwch wedi ei ysbrydoli. Y mae byd anianol, ac y mae byd ysbrydol. Gellir gwisgo'r byd anianol â swyn rhyfedd, gwnawd hynny gan lawer Groegwr yng ngwydd ei fryniau digymylau, a chan lawer Cymro mewn gwlad lle tynerir agwedd ei chreigiau gan niwl esmwyth a thyner. Y mae'r bardd anianol yn eithaf tra'n darlunio ei fyd ei hun. Ond tragedy beirniadaeth ydyw darluniad gan y bardd anianol o fyd y bardd ysbrydol, meddwl yr efelychwr yn ceisio amgyffred y meddwl sy'n creu. Nis gwn am un gair Cymraeg yn rhoddi holl gynnwys y gair Saesneg benthyg tragedy, ond gwn fod enaid Cymru'n llawn o'r syniad. Ceir y trychineb di-enw hwn yn llenyddiaeth Lloegr yn y ddeunawfed ganrif. Credid fod cewri oes aur Elizabeth wedi darganfod hynny o wirionedd barddonol oedd yn bod, ac mai gwaith yr oes newydd oedd cywiro, llyfnhau, caboli, gloywi; oherwydd, ysywaeth, ni fedrai'r rhai gynt yr iaith Saesneg fel y dylid ei medru. A dacw Pope yn ystwytho Shakespeare, a Dryden yn odli Milton. Ac yng ngwydd byd bodlon a difraw, diweddodd y ddrama mewn geiriadur. Ac nid dyna'r unig drychineb hyd yn oed yn yr un ganrif. Daeth Ysgotyn o'r enw Hume i gondemnio meddwl y trwswyr a'r taclwyr; i'w ddirmygu, ac i'w ddistrywio; ac ar ei adfeilion cododd Wesley a Coleridge a Wordsworth fyd newydd rhyfedd. Ond cafodd yntau ei feirniaid. Safasant, rai ohonynt hyd heddyw, ar fryn yr anianol i edrych ar y byd ysbrydol agoresid i'r byd. Byd ysbrydol yw byd Islwyn; beth, tybed, wêl y beirniad ynddo, o fyd yr anianol, lle mae'r llygad o gnawd mor fyw a chlust o gnawd mor deneu i swynion y byd naturiol?

Os bernir Islwyn wrth dameidiau o'r fan yma a'r fan acw, bernir ef yn anianol, ac ni ddeallir ef. Os tybia'r beirniad fod y darn yma'n berffaith, a'r darn nesaf yn anfarddonol, nid yw'r llinyn mesur priodol yn eiddo iddo. I'w weld yn iawn, rhaid cymeryd Islwyn yn yr oll ag ydyw, yn ei fyd ei hun, a than y goleu sy'n dangos ei fyd yn ei ysbrydolrwydd newydd grëedig.

Nid oes ond ychydig o feddylwyr y byd a'u holl waith creadigol yn un cyfanwaith mawr o amgylch eu personoliaeth, yn beth ellir adnabod wrth arlliw digamsyniol eu henaid, arlliw, o'i weled a dry eu sorod, neu beth ystyrrid yn sorod, yn aur disglair. Y mae Islwyn ymysg y rhain. A oes rhyw Gymro arall? Gall beirniad craff ameu, oddiar brofion negyddol pwysig, mai Dafydd ab Gwilym anfonodd yr haf i Forgannwg. Ie, amheuir ai Shakespeare wnaeth i'r gŵr hwnnw gnocio ganolnos ym munudau mwyaf echryslawn drama Macbeth. Os tynnir Islwyn o'r byd a greodd, ni ellir ei amgyffred; os gwelir ef yn ei fyd ei hun, gwelir ef ym mhopeth a wnaeth mwy.

Os ceir beirniad yn rhannu byd Islwyn yn aur a sorod, er anfated yw'r gwaith, y mae peth o'r bai ar Islwyn ei hun.

Yn un peth, er fod y byd a greai yn un yn ei feddwl ef, eto bob yn ddarn y rhoddodd ffurf weladwy iddo. Adeiladodd yn brysur, ond ni chafodd fyw i roddi i'w feddyliau ysgrifenedig y cynllun a'r drefn fuasai yn dangos ei holl greadigaeth yn amlwg i'r hwn a red. Storm mewn goleuni ysbrydol, goleuni rhy wirioneddol i fedru tywynnu erioed ar dir a môr, oedd ei fyd ef. Y mae absenoldeb y cynllun yn esbonio methiant y beirniad anianol i weled byd Islwyn, ond nid yw yn ei esgusodi.

Peth arall, bu Islwyn ei hun hwyrach, a'i olygwyr wedyn yn sicr, yn anffodus oherwydd rhoi'r farddoniaeth yn ddarnau trwy'r wasg. Dechreuodd drwy wneud hynny ei hun. Pan gyhoeddwyd ei gyfrol fechan yn 1867, gwelodd y Cymry ar unwaith fod bardd mawr yn eu mysg. Gwelodd lawer yn weddol glir y newydd-deb creadigol oedd yng ngweithrediad ei feddwl, wedi ei eni o elfennau rhyfedd, y Chwyldroad Ffrengig ac athroniaeth Hegel, dau allu mawr y dyddiau diweddaf hyn,—y naill y gallu dinistriol mwyaf, a'r llall y gallu creadigol mwyaf ym myd y meddwl. Ond cipolygon welent, a buont lawer blwyddyn yn disgwyl am beth wyddent oedd mewn bod, sef tryblith o ysgrifeniadau adawodd Islwyn ar ol pan fu farw yn 1878, yn chwech a deugain oed. Yn 1897, agos ugain mlynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd y peth dybid yr adeg honno oedd holl waith Islwyn, yn gyfrol yn cynnwys 864 tudalen, ac ar draws 38,000 llinell. Ni osododd y golygydd ei hun yn feirniad, cyhoeddodd bopeth fedrai gael, heb nodyn nac awgrym o'i eiddo ei hun; credai, a chred eto, y deuai trefnwyr a beirniaid i egluro byd Islwyn yn ei gyfanwaith. Prynnodd pum mil o Gymry y gyfrol fawr honno. Erbyn hyn y mae Islwyn yn llefaru o bulpudau pob enwad yng Nghymru, ac y mae ei feddwl wedi disgyn fel gwlith adfywiol ar holl ysbryd llenyddiaeth Cymru. Disgynnodd ar yr anuwiol nas adnabu ef, fel ar y duwiol a ymlonyddodd ynddo.

Yn anffodus iawn argraffwyd y gyfrol fawr heb wybod fod ysgriflyfr arall yn llechu o'r golwg. Cyhoeddwyd honno yn gyfrol yng Nghyfres y Fil yn 1903. Er edifeirwch dwys iddo, trodd y golygydd yn rhyw fath o esboniwr,—gwnaeth y darnau'n ddigyswllt, a rhoddodd benawdau iddynt, er nad oedd y rhain ond geiriau Islwyn ei hun. Ac yn awr temtir y beirniad arwynebol i weled un Islwyn yn y gyfrol fawr ac Islwyn arall yn y gyfrol fach, er fod cynnwys y ddwy wedi ei ysgrifennu ar yr un adegau, ac fel rhan o'r un cyfanwaith.

Os tybia rhywun y medr farnu Islwyn trwy dderbyn rhannau o'i waith fel gwaith rhyw Islwyn mawr a rhannau eraill fel darnau o waith rhyw Islwyn bach, y mae wedi colli llwybr beirniadaeth. Rhaid deall ac esbonio'r cwbl. Rhaid cymeryd pob meddyliwr mawr yn yr oll ag ydyw, a'i waith fel un cread, yn hannu o bersonoliaeth fyw.

I'w deall yn iawn rhaid edrych ar un o ddarluniau Rubens neu Murillo fel cyfanwaith, y mae pob lliw yn rhoi rhyw olud i'r holl liwiau eraill, a phob wyneb yn esbonio'r wynebau eraill. Ond cymerer y darlun bob yn ddarn, ac y mae'r gogoniant adlewyrchir arno gan y darnau eraill yn colli. Ar ol yr arlunwyr hyn daeth arlunwyr is-Ellmynaidd na ddanghosai eu darluniau un gallu creadigol, ond yr oedd y rhannau'n berffaith. Os edrychwch ar bob dilledyn, pob ffrwyth, pob pryf, y maent oll yn berffaith; y mae'r manylder ffyddlawn i efelychu natur bron yn wyrthiol. Meddylier am un o'r brodyr lleiaf hyn yn sefyll o flaen un o ddarluniau Titian neu Velasquez. Ebe un,—" Nid yw'r cyfoeth o liwiau yn y darlun yn naturiol. Ond a welwch chwi blygion dillad y milwr acw? Y maent mor gywir a phe bai'r arlunydd wedi bod yn deiliwr ar hyd ei oes." Ac atebai'r llall, "Ie, ac a welwch chwi'r bluen acw yn aden y mymryn angel bach yn y gornel? Mae mor gywir a phe bai'r arlunydd wedi treulio ei fywyd i fagu ffowls." Ac ebai'r ddau,-"Diolch am ambell em fedrwn ddeall mewn darlun mor fawr."

Ni ellir deall Islwyn trwy edrych ar un cwmwl gwlanog yn ei ddydd, neu wrth wrando ar un sydyn waedd gwynt yn ei nos. Rhaid edrych ar ei fyd i gyd, dan ei ddiluw o oleuni ysbrydol.


Nodiadau golygu