Er mynd i lawr dros dro i'r pridd
Mae Er mynd i lawr dros dro i'r pridd yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).
- Er mynd i lawr dros dro i'r pridd
- Daw'r corph i'r lan, o'r bedd ryw ddydd,
- Daw llu fel gwlith o groth y wawr
- Yn nydd y farn, o lwch y llawr
- Daw cyrph y Saint, i'r lan o'r bedd
- Yn nydd y farn, yn hardd eu gwedd
- Mewn nerth yn bur, fel corph mab Duw
- A cher ei fron dros byth cant fyw,
- Yn nydd y farn hi fydd yn drist
- Ar bawb a fydd heb ran yng Nghrist
- Trwm fydd eu baich, mawr fydd eu poen
- Heb le i ffoi rhag llid yr Oen.