Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I (testun cyfansawdd)

Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I (testun cyfansawdd)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan)
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




ERTHYGLAU EMRYS AP IWAN—I.


EMRYS AP IWAN

DETHOLIAD

O

Erthyglau a Llythyrau

Emrys ap Iwan



I

GWLATGAR

CYMDEITHASOL

HANESIOL



Y CLWB LLYFRAU CYMREIG



Argraffiad Cyntaf—Hydref 1937



Diolcha'r Clwb Llyfrau Cymreig i Lyfrfa'r Eglwys
Fethodistaidd, Bangor, ac i'r Mri. Gee a'i Fab,
Dinbych, am bob hwylustod ynglŷn â
hawlfraint cynnwys y llyfr hwn




Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych, a rhwymwyd gan
George Tremewan a'i Fab, Abertawe



CYFLWYNEDIG

I

Mr. D. J. WILLIAMS,

ABERGWAUN



CYNNWYS

Rhagymadrodd
i Bully, Taffy, a Paddy
ii Pynciau i Blant
iii Paham Gorfu'r Undebwyr
iv Wele dy Dduwiau, O Walia!
v Y Llo Arall
vi Paul mewn dillad newydd
vii Gair at rieni Cymreig
viii Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel
ix Y Wladfa
x Llythyr Alltud
xi Llythyr arall Alltud
xii O Elba i Waterloo
xiii Detholion


RHAGYMADRODD

Peidiwch â chynhyrfu, wŷr Athen; glynwch wrth yr hyn a ofynnais gennych, sef peidio â chynhyrfu wrth y pethau a ddywedaf, ond gwrando. Yn wir, mi debygaf, cewch fudd o wrando. Canys yr wyf ar fin dywedyd wrthych bethau eraill, ac efallai y bloeddiwch allan rhagddynt; ond, da chwi, na wnewch hynny. Os lleddwch fi, nid hawdd fydd cael un arall tebyg—un sydd, mewn gair (er ei ddigrifed), yn eistedd ar y ddinas megis ar farch tal, telediw, sydd braidd yn swrth gan ei faint ac yn gofyn rhyw gacynen i'w gyffroi. Un felly ydwyf i, a chredaf fy nghyflwyno gan Dduw i'r ddinas; eisteddaf yn ddi-baid ar hyd y dydd ar bob un ohonoch ym mhob man, gan eich cyffroi a'ch perswadio a'ch ceryddu. Un arall o'm bath ni ddaw'n rhwydd i chwi, gyfeillion, ond os gwrandewch arnaf i, fe'm harbedwch. Chwithau, efallai, yn ddig fel rhai a gyffroer o'u cyntun, gan wrando ar Anytos, a'm lleddwch yn hawdd â dyrnod. Yna chwi gysgech ymlaen weddill eich oes, oni ofalai Duw amdanoch ac anfon rhywun arall ar eich gwarthaf. Gellwch amgyffred oddi wrth hyn mai rhyw rodd, yn wir, wyfi gan Dduw i'r ddinas: canys nid yn ôl dull dynion ydyw fy mod i yn esgeulus am fy mhethau fy hun ac yn gadael fy eiddo ofal ers cynifer blwyddyn bellach, ac yn ymwneuthur hyd â'ch pethau chwi, gan ddynesu at bob dyn fel tad neu frawd hynaf, a cheisio'i berswadio i ofalu am rinwedd. . . Canys dygaf i, mi gredaf, dyst digonol mai'r gwir a ddywedaf, sef fy nhlodi.

Allan o Amddiffyniad Socrates, yn ôl Platon. Cyfieithiad y Prifathro D. Emrys Evans.

Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a'm gwaed fy hun.

CODIR y geiriau olaf uchod fel math o is-bennawd gan Emrys ap Iwan ei hun i gyfres o erthyglau a sgrifennodd i'r Geninen o 1890 i 1892. Y prif deitl oedd Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys, a'r unig rheswm pam na chynhwyswyd hwy yn y gyfrol hon yw eu bod yn hawdd eu cael ers rhai blynyddoedd bellach yng Nghyfres y Ford Gron. Oblegid hynny penderfynwyd eu hepgor er mwyn cael lle i eraill a gladdwyd mewn hen gylchgronau a newyddiaduron.

Byddai'r un pennawd yn taro o flaen y rhan fwyaf o draethodau Emrys, ac y mae'n arbennig felly am gynnwys y gyfrol hon. Nid oedd dameg y gacynen yn ddieithr iddo ychwaith, canys efô ei hun a drosodd i Gymraeg eiriau dewr ei hoff arwr, Paul-Louis Courier:—

Arnat ti y mae llefaru, ac arno yntau [sef gwas y gyfraith] y mae dangos trwy ei erlyniad wirionedd dy eiriau. Wrth ddeall a chefnogi'ch gilydd, yn ôl dull Socrat ac Anytos, gellwch droi'r byd. Am hanes bywyd Emrys nid oes angen yma fawr mwy na chyfeirio'r darllenydd at gofiant yr Athro T. Gwynn Jones. Yn unig am fod y llyfr hwnnw hytrach yn anodd ei gael erbyn hyn, y codaf y braslun byr isod o erthygl y Parch. L. E. Valentine yn y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn Heddiw:—

Ganed ef yn Abergele ym mis Mawrth 1851. Nid oedd yn Gymro o waed coch cyfan, ac un tro, fe edliwiodd hyn yn finiog i'w gydwladwyr. Cyfeirio [yr oedd] at ei hen nain oedd yn Ffrances o addysg dda a fu'n gwasanaethu yn yr Hen Wrych yn ymyl Abergele. Priododd hi â Jones y pengarddwr yno, ac aethant i fyw i bentref Llanddulas. Gor-ŵyr i'r pen-garddwr hwn oedd Emrys.

Ar ôl gadael yr ysgol bu mewn siopau dillad yn Lerpwl, ond ymhen y flwyddyn dychwelodd yn arddwr i Fodelwyddan. Yn ddeunaw oed, ar ôl dechrau pregethu aeth i Goleg y Bala a chafodd wŷr fel Puleston Jones, Iolo Caernarfon, a Griffith Ellis yn gydfyfyrwyr. Ar derfyn ei gwrs yno bu'n cadw ysgol yn y Rhuallt ac yn gofalu am eglwys Saesneg yng Nghaergwrle. Yna aeth ar y cyfandir i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg ac i hyfforddi mewn Saesneg yn Lausanne a Bonn a Giessen. Ordeiniwyd ef yn Sasiwn yr Wyddgrug yn 1883, a bu'n byw yn Ninbych, Rhuthyn, Trefnant, a Rhewl, ac yn y Rhewl y bu farw ym mis Ionawr 1906, a chladdwyd ef ym mynwent y capel.

Rhyfedd fel y gellir rhoi cyfrif am fywyd y mwyaf anturiaethus o ddynion mewn ychydig o eiriau, ond y fath hanes a ddarnguddir gan air neu ddau ohonynt weithiau. Y flwyddyn mewn siopau dillad yn Lerpwl er enghraifft. Ni allai byth deimlo'r un fath tuag at Saeson wedyn, oblegid yno y daeth i'w hadnabod yn eu rhinweddau a'u diffygion. Gwyddai hefyd nad oedd yn Gymro o waed coch cyfan, ac o'i fachgendod parodd hynny chwilfrydedd ynddo i ymgydnabyddu â byd mawr y Cyfandir. Trwy fyw yn y ddau le, sylweddolai fwyfwy fod rhan ohono'n perthyn i Ewrop, a rhan i Gymru. Brwydr am unoliaeth o'r rhannau gwerthfawr hyn oedd ei frwydr fewnol, ac o'r synthesis hon y cyfoethogodd fywyd ei wlad, trwy ledu ar orwelion rhai o'i meibion disgleiriaf o hynny hyd heddiw.

"Ordeiniwyd ef yn Sasiwn yr Wyddgrug yn 1883." Dyna frawddeg gynhwysfawr arall. Gorfu ar ei enwad o hir ddiwedd arddel profiad a gweledigaeth newydd ar ôl brwydr gas ar ran rhai o'i 'mawrion.' Bu grym argyhoeddiad, llwyredd gwasanaeth, a dichlynder cymeriad yn drech o'r diwedd na phen-wendid Sais-addolgar, snobrwydd, a diffyg hunanbarch a hyder cenedlaethol cefnogwyr y mudiad i godi capeli Saesneg ar draul Cymry mewn ardaloedd Cymreig.

"Bu'n byw yn Ninbych, Rhuthyn, Trefnant, a Rhewl." Hynny yw, fe roes ei orau i eglwysi ei gyfundeb yn Nyffryn Clwyd, gan adael swm ei gyflog, hyd yn oed, i anrhydedd yr eglwysi a fugeiliai mor ofalus. Troes ei gefn ar bob cyfle i ennill clod a chyfoeth a chymdeithas dysgedigion ar y Cyfandir, er cryfed y dynfa. Rhydd yr Athro T. Gwynn Jones yr hanes fel y bu iddo gael cynnig perchenogaeth ysgol yn yr Yswisdir ar delerau ffafriol iawn, ac wrth edrych yn ôl ar ei yrfa fe gofia Emrys am gyfle arall a wrthododd er mwyn Cymru a'r Efengyl:—

Yn wir, pan oeddwn i yn iau, ac yn ystwythach fy nhafod nag ydwyf yn awr, mi gefais gynnig tri chant o bunnau am weithredu fel corresponding secretary yn Belgrade, prifddinas Servia; a phe buaswn wedi derbyn y cynnig, hwyrach y buaswn erbyn hyn yn gonsul, ac ar y ffordd i fod yn llysgennad.

 —Y Faner, Chwefror 27, 1895.

Nid un na dau ar lawr Dyffryn Clwyd heddiw sy'n barod i ddiolch iddo am y dewis a wnaeth. Ni cheisiodd ychwaith ennill ffafr arweinwyr ei enwad, ond eu gwrthwynebu'n gyndyn heb gyfrif y gost, pan welai fod achos, ac yn enwedig pan welai fod Cymru, ei hiaith, a'i chynhysgaeth feddyliol ac ysbrydol yn ddistadl neu'n eilbwys yn eu golwg. Dioddefodd ei wawdio'n gyhoeddus am hyn, megis yng Nghymdeithasfa'r Gogledd yn Llanidloes yn y flwyddyn 1881, pan oedd Emrys o flaen ei 'well' am feiddio gwrthod ufuddhau i 'bull y Pab bach o'r Bala.' Dyma'r hanes fel y codwyd yn y Cofiant gan T.G.J.:—

Mr. Jones [wrth y Dr. Lewis Edwards a'r Gymdeithasfa]: Yr wyf yn meddwl y dylid caniatáu mesur o ryddid llafar gyda rhyddid barn, onide, nid yw y rhyddid i farnu o nemor werth. . . Yr wyf yn ymatal rhag ysgrifennu yn erbyn amryw bethau ag yr wyf yn anghytuno â hwynt, am fod y rhai hynny yn bynciau dadleuadwy, ac mewn pethau felly yr wyf yn ymostwng i farn y mwyafrif; . . Ond nid wyf i yn cyfrif ffyddlondeb neu anffyddlondeb i iaith yn bwnc dadleuadwy. Ni allwn i bleidio dim â thuedd ynddo i Seisnigo'r Cymry heb fyned yn erbyn fy argyhoeddiadau politicaidd. (Chwerthin.)

I Emrys, felly, yr oedd ei argyhoeddiadau ar fater llunio bywyd gwlad a chymdeithas yn gysegredig. Crechwen Cymdeithasfa Llanidloes oedd ateb y cyfnod pryd yr oedd unigoliaeth yn ben mewn byd ac eglwys fel ei gilydd. Caent hwy flas ar ganu "Duw, cadw f'enaid bach o hyd uwch sŵn y byd a'i ddrygau," ac yr oedd Emrys iddynt hwy yn siarad yn wirion am ei fod o flaen ei oes.

Eto nid am iddo wrthwynebu'r 'mawrion,' nac am ei weledigaeth ar fywyd cymdeithas yn gymaint, y mae cynifer o bobl Dyffryn Clwyd yn barod i ddiolch amdano, ond am iddo ddewis aros yn eu plith a llafurio cystal gyda'r plant, sef had yr Eglwys. Na thybied neb mai dyn sur oedd, oblegid ni bydd plant byth yn hoffi dynion felly, ac y mae digonedd o brofion eu bod i gyd yn hoff o Emrys. Ymhell cyn bod sôn am ddysgu hygiene yn yr ysgolion, yr oedd ef wrthi yn eu dysgu yn Gymraeg i barchu'r corff, ac i wybod mwy amdano a'i anghenion, pwrpas y gwahanol rannau ohono, a'r modd i'w datblygu. A'r un gofal y gwrteithiai'r meddwl a'r ysbryd. Crefydd eang ddynol oedd ganddo, a'i neges i'r dyn yn gyfan, ac i gymdeithas a gwlad yn eu cyfanrwydd.

Lled-awgrymwyd gan ambell un yn ddiweddar mai Pabydd dirgel oedd. Gyda phob parch i'n brodyr Catholig, nid oes ganddynt unrhyw hawl iddo. Yn ei ddydd, fe'i cyhuddwyd ar goedd yn y Gymdeithasfa fod ei syniadau am natur a threfniant eglwys yn arwain i Annibyniaeth, ac yn ddiau yr oedd ef yn agos dros ben i'r ffin. Gwrthwynebai bob ymgais i "bresbytereiddio'r"[1] enwad trwy ganoli awdurdod ymhlith ychydig o arweinyddion yn hytrach na dilyn llais y mwyafrif. Ei ateb i'r cyhuddiad o Annibyniaeth oedd ei fod yn ofni bod tuedd y Corff yn arwain i Babyddiaeth. Y mae'n amlwg gan hynny ym mha gyfeiriad yr oedd tuedd Emrys. Helaethir ganddo ar yr un pwnc mewn paragraff o Lythyr Alltud lle y gesid argyhoeddiad yr unigolyn ymhell uwchlaw buddiannau unrhyw gorfforaeth eglwysig. Y meddyliwr a effeithiodd drymaf o bawb ar ei feddwl, ar ei arddull, ac ar ei holl weithgarwch llenyddol oedd Paul-Louis Courier. Gwrth-glerigwr tanbaid oedd Courier, a'i genhadaeth mewn bywyd oedd ymdrechu i ddiogelu rhyddid barn a llafar rhag cael eu cwtogi gan yr offeiriadaeth a llywodraeth glerigol ei thuedd. Emrys ap Iwan a gyfieithodd i Gymraeg ymosodiad Courier ar y Gyffes Ddirgel.

Paham, ynteu, y gellir dwyn y fath gyhuddiad â Phabyddiaeth yn ei erbyn? Yn bennaf, am iddo ar ôl hir gyd-fyw â Chatholigion rhagorol ar y Cyfandir, ddysgu eu parchu, a gweld mor wael yw llawer o'n rhagfarnau yn erbyn ein cyd-ddynion. Gwelodd nad yw'r eneidiau dethol i gyd yn yr un gorlan. Yr oedd ei enaid a'i feddwl yn ddigon mawr i weld y gorau mewn eraill, a hynny heb iddo fradychu dim o'i argyhoeddiadau ei hun. [2] Ni chafodd ei enwad erioed mo'i ffyddlonach, a'r cwbl a geisiodd ef ganddi ar ei ran ei hun oedd y fraint o gael ei gwasanaethu.

Yr oedd y gacynen ar waith hefyd ym Mreuddwyd Pabydd fel arfer. Ei ffordd effeithiol o yrru ei gyd-genedl i chwilio seiliau ei bywyd a'i phroffes oedd trwy beri iddi weld y seiliau hynny wyneb-i- waered am foment fach. "Fel y gallwyf ryw fodd yrru eiddigedd . . . Gwelai fod grym yn nadl y Tad Morgan ar falltod y sectau, ac unigoliaeth anorganaidd yr oes. Pwy a wad hynny heddiw, ac oni wna'r enwadau ateb yr her, ar bwy y bydd y bai os daw'r 'breuddwyd' i ben?

Nid bob amser y sylweddolir bod Emrys ap Iwan yn ysgrifennwr toreithiog. Fe fyddai ei holl weithiau yn ddigon i lenwi ugain o gyfrolau o faintioli hon, a dweud y lleiaf. Cafwyd dwy gyfrol o'i Homiliau eisoes. Diweddir y cofiant gan restr chwe thudalen o'i "Lythyrau i'r Wasg, ei Ysgrifau, a'i Lyfrau," ac y mae'r rhestr honno, er gwerth-fawroced yw (ac yr wyf yn dra dyledus iddi), ymhell o fod yn gyflawn. Y mae llaweroedd o bethau pwysig eto heb weled print o gwbl: hwyrach mai'r pwysicaf ohonynt yw llyfr o'i weddïau sy'n haeddu ei ystyried yn un o glasuron defosiynol y Gymraeg.

Gan hynny, y mae gofyn egluro pwrpas y gyfrol bresennol. Y mae traethodau Emrys yn amrywiol iawn. Ceir beirniadaeth lenyddol ganddo ar awduron a llyfrau Cymraeg a Ffrangeg. Ymdrinia'n aml â phynciau crefyddol, yn enwedig â lle'r iaith Gymraeg mewn addoli, ac fe sgrifennodd hefyd ar bynciau amrywiol megis ar broblem yr orgraff, ac ar ddulliau dysgu iaith. Y mae'r cwbl yn bwysig ac yn ddiddorol i'r eithaf, ac os bydd derbyniad i'r gyfrol hon fe fwriedir yn y man, gyhoeddi detholion eto o'r ysgrifau hyn, sef Ysgrifau Llenyddol, Ysgrifau Crefyddol, ac efallai Ysgrifau Amrywiol. Dealler nad o'r meysydd hyn y casglwyd yr ysgub bresennol.

Detholiad yw'r llyfr hwn, a detholiad bychan yn unig, o'r traethodau a'r llythyrau hynny a gyhoeddwyd gyntaf yn y Faner a'r Geninen, ac sy'n amlygu neges Emrys ar bynciau cymdeithasol a gwladgarol, ynghyd â'i allu i groniclo hanes. Gan fod y neges mor grisial glir gan Emrys ei hun, ofer fyddai rhoi crynodeb ohoni yma. Amcanwyd dethol yn y fath fodd ag i amlygu amrywiol agweddau o'r neges gyfoethog hon. Ysgrifennodd lawer ar gymeriad cenedlaethol y Cymro, y Sais, a'r Gwyddel. Cynhwysir Bully, Taffy a Paddy yn unig; ac o'r toreth a ysgrifennodd yn ffafr Ymreolaeth i Iwerddon ni cheir yma ond yr erthygl hon. Yr un modd, y mae ei neges wleidyddol i Gymru yn gyfan yn Paham y Gorfu yr Undebwyr. Yr ateb yw am eu bod yn 'Undebwyr,' a hefyd am eu bod yn apelio at reddfau parhaol y genedl Seisnig. Gofyn Emrys ymhle y mae gwleidyddwyr Cymru yn sefyll yn wyneb hyn, a chaiff eu bod yn rhanedig rhwng gwrthbleidiau a reolir o Lundain, ac yn ail, eu bod yn apelio at bethau eilbwys ym mywyd Cymru. Oblegid hynny ni wiw iddynt ddisgwyl ennyn sêl ac ymlyniad cyffelyb i lwyddiant yr Undebwyr yn Lloegr. Sôn am bethau ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd Emrys wrth gwrs, ac nid am ein hoes ni.

Ceir yma enghraifft o ffrwyth ei gariad angerddol at yr iaith yn y Gair at Rieni Cymreig yn anad unlle, ac y mae'r gacynen ar ei mwyaf pigog pan gaiff gyfle ar Paul yn ei ddillad newydd! Yr oedd ariangarwch a Sais-addoli yn atgas gan Emrys, ac fe gafodd ei gyfle arnynt yn Wele dy Dduwiau, O Walia! Cerydd cariad oedd pob cerydd a roes i Gymru, a phwy a wad ei hawl i'w rhoi ar ôl ystyried maint ei ymdrech er ei mwyn? Ffieiddiai hunangyfiawnder, ac yn enwedig pan gerddai law-yn-llaw â gormes. Am hynny yr oedd 'llwyddiant' yr Ymerodraeth i ymestyn ei therfynau trwy 'ryfel cyfiawn' yn anathema iddo. Ni byddai ei wawd byth yn greulonach nag wrth chwalu'n gandryll 'hanes' y rhyfeloedd hyn fel y ceid yn y Wasg Saesneg. Un ysgrif o fysg llawer o'r fath yw'r Sylwadau am y Rhyfel nad oedd yn Rhyfel.

Eithr y cyfle mawr a luniodd Emrys iddo'i hun i bortreadu Cymru ei ddydd yn ei chyfanrwydd oedd y ddau Lythyr Alltud. Yno y craffai ar ei bresennol gyda'r un medr ag a amlygodd yn y Breuddwyd Pabydd wrth ddyfalu dyfodol. Yr oedd ei lygad yr un mor graff hefyd yn gweld i'r gorffennol fel y gall y darllenydd farnu wrth ddarllen ei hanes o ymgyrch olaf Napoleon, sef O Elba i Waterloo. Gellir dal mai'r gwaith olaf hwn yw'r perffeithiaf ei gelfyddyd a luniodd erioed. Y mae'r portread o Napoleon a Blücher a Wellington yn ddiguro, a dangosodd eu hawdur fod ganddo ddoniau nofelydd gwrthrychol. Y mae'n herio rhai o ragfarnau anwylaf ei oes yn yr 'ochr' a ddengys, a medrused ei amddiffyn. Mawr oedd ymffrost ei oes yn ei rhyddfrydigrwydd,' chwedl Emrys ap Iwan, ac onid oedd Napoleon yn "ŵr a wnaed yn Ymherodr trwy ewyllys y bobl ac nid trwy fraint genedigaeth"? Ond prif gamp y darn cyffrous hwn yw amlder, ystwythder, ac uniongyrchedd y Gymraeg, ynghyd â'i gyfanrwydd cryno diŵyro, a'i drefniant. Anodd meddwl am ddarn cyhyd ag ef yn ein holl lenyddiaeth sy'n meddu'r rhagorion hyn i gymaint graddau wrth ddisgrifio ac adrodd un hanes cyflawn.

Nid oes dim camystumio ar yr iaith wrth ymdrin â phethau milwrol. Y mae'r eirfa yn wobr mynnu meddwl yn wastadol yn y Gymraeg a meddiannu ei holl adnoddau: gosgordd, marchoglu, gwarchod-lu, maeslywydd, cadlywydd, rhagfilwyr, ffwndrus, cilgwthio, magnelwyr, taethegwr, stradegydd, pencadlys, corfflu, cyfunoliaid.

Ar gyfer y llyfr hwn fe ddiweddarwyd yr orgraff a'r gystrawen yn gyson ag arferiad ein hoes. Ysgrifennwyd rhai o'r ysgrifau ganddo mewn orgraff oedd yn arbennig iddo ef ei hun, ac eraill yn ôl arfer gyffredin ei ddydd. Yr unig gysondeb posibl oedd yr hyn a wnaed, sef trwy ddiweddaru. Mân frychau cystrawen yn unig oedd gofyn am eu symud, gan fod gafael Emrys ar iaith ein clasuron rhyddiaith mor gadarn. Ni ofalai roi rhagenw o flaen enw neu ferfenw pan fyddai ffurfiau fel ei hun, &c., yn dilyn. Nid arferai'r cywasgiadau sydd mor hwylus pan fo'r fannod yn dilyn llafariad. Mwy anghywir. ganddo yw arfer ffurfiau fel o fy, &c., yn lle o'm. Yn fyr, fe symudwyd cryn lawer o'r cyfryw feflau yn unol â'n synnwyr drannoeth ni, ond gochelwyd rhag newid y geiriau sy'n nodweddiadol o Emrys ei hun, megis llenoriaeth, cenhedlig ('cenedlaethol' yw ystyr hwn bob tro ganddo), Cristiolus ('Cristnogol yn yr ystyr o fod yn 'Grist-debyg'), pleidebu, bwrnel, hendid, digofus, corffol, prestig, celfor(ion), dyfyn(ion), anniolchus, Rhyddfrydigion, dargeisio, tlodaidd, gwrthwynebrwydd, calleiddio, cydymlapio (gwell o lawer, debygaf i, nag 'oferlapio'!), politegwr, penddarol. Y mae i'r ffurfiau hyn wir ddiddordeb parhaol fel ffrwyth ymboeni llenor mawr i gymhwyso'r iaith i bwrpas newydd. Pwy na theimla rym geiriau fel 'Seisyn' a 'Chymroaidd'? Yr un modd, ni 'chywirwyd' y ddeuair 'gormodd' a 'boddlon': y rhain yw'r ffurfiau a ddefnyddir bob amser gan Emrys, a gellir dadlau'n gryf trostynt.

Y mae fy nyled yn drom i Mr. G. J. Williams, M.A., o Goleg Caerdydd, am ei barodrwydd i roi o'i amser gwerthfawr i ddarllen llawysgrif y llyfr hwn, a gwella cryn dipyn arni. Yr un modd y mae diolch yn ddyledus i Mr. Idwal Lewis, B.A., o'r Llyfrgell Genedlaethol, am ei barodrwydd i gywiro'r proflenni. Dymunaf ddiolch hefyd i Mr. Prosser Rhys am bob cyfarwyddyd, ac i'r cyfeillion yng Ngwasg Gee am eu gwaith graenus. Teg yw cydnabod mai yn y Llyfrgell Genedlaethol y deuthum o hyd i'r hen gopïau o'r Faner a'r Geninen.

Peth priodol iawn, yn fy marn i, yw cychwyn cyfres lyfrau'r Clwb Cymraeg â gwaith Emrys ap Iwan, oblegid ef oedd un o arloeswyr mwyaf y deffroad cyfoes sy'n peri bod y Clwb hwn yn antur bosibl heddiw.

Y mae'r darn isod o'r Pamphlet des Pamphlets gan Paul-Louis Courier, a droswyd i'r Gymraeg gan Emrys, yn egluro beth oedd prif gymhelliad y ddau wrth ysgrifennu, ac yn haeddu ei gofio fel cyffes dau lenor mawr, gwrol, a di-dderbyn-wyneb: —

Lleferwch wrth ddynion am eu helyntion ac am helynt yr awr, a pheri clywed o bawb eich llais, os mynnwch ymenwogi. Gwnewch bamffledau fel Pascal, Franklin, Ciceron, Demosthen, fel yr Apostol Paul a Sant Basil; canys yn wir, anghofiais y ddau olaf, dynion mawr, y darfu i'w traethodynnau ddileu llawer o hen ofergoelion paganaidd, ac ail greu llawer cenedl. Y mae pamffledau eraill wedi newid gwedd byd. Heuasant ymhlith y Saeson egwyddorion goddefiad, y rhai a gludodd Penn i'r Amerig; ac y mae'r wlad honno'n ddyledus i Franklin am gadw ei rhyddid trwy yr unrhyw foddion ag yr enillwyd ef iddi, sef trwy bamffledau, newyddiaduron, cyhoeddusder. Yr ydys yno yn argraffu popeth. Nid ys yn esguso dim twyll, boed ef swyddogol: nid ys yn twyllo'r bobl, am nad oes yno neb â chanddo awdurdod i gelwyddu, ac i ostegu pob gwrth-ddywedwr. Ni wna'r wasg nemor o ddrwg, ond hi a etyl lawer o ddrwg. Y mae dalennau argraffedig wrth amredeg bob dydd, a hynny'n helaeth, yn rhoi addysg rad a buddiol i laweroedd. Y mae agos pawb yn darllen y newyddiaduron, a gallai'r rhan fwyaf ysgrifennu iddynt hefyd, pe dysgent yn unig fynegi eu meddwl yn olau ac i'r perwyl. Nid rhinwedd gyffredin yn ddiau yw crynoder; nid peth hawdd yw cau llawer o synnwyr o fewn ychydig o eiriau. O! mor amheuthun yw dalen lawn mewn llyfrau! A chyn lleied o ddynion sy'n alluog i ysgrifennu deg dalen heb ffregod! Yr oedd yn anhawddach gwneuthur llythyr lleiaf Pascal na'r holl Encyclopédie. . .

Ni chadarnheir unrhyw wirionedd heb ferthyron, namyn y rhai y mae Euclid yn eu haddysgu. Yn unig trwy ddioddef oblegid ei syniadau y gall ddyn ddarbwyllo; ac am hynny y dywedodd Paul mewn effaith: Credwch fi, canys yr wyf yn fynych yng ngharchar. Pe buasai ef wedi byw yn esmwyth, ac wedi elwa ar yr athrawiaeth yr oedd yn ei phregethu, erioed ni seiliasai grefydd Crist. Tydi, gan hynny, Paul-Louis, winllanwr, yr hwn yn unig yn dy wlad sy'n foddlon i fod yn ddyn y bobl, baidd eto fod bamffledwr, a chyhoedda hynny'n uchel, uchel. Ysgrifenna, gwna bamffled ar ôl pamffled, tra na phallo iti ddefnydd ac achos. Dring i bennau tai, pregetha'r Efengyl i'r cenhedloedd, a gwrandewir arnat—os gwelir di cael dy erlid. Canys y mae'n rhaid wrth y cymorth hwn, ac ni wnei ddim heb Meistr de Broë. Arnat ti y mae llefaru, ac arno yntau y mae dangos trwy ei erlyniad wirionedd dy eiriau. Wrth ddeall a chefnogi'ch gilydd, yn ôl dull Socrat ac Anytos, gellwch droi'r byd.

Allan o'r Faner, Awst 23, 1882.
D. MYRDDIN LLOYD[3]

I

BULLY, TAFFY, A PADDY

FONEDDIGION,

John Bully, Ywain Taffi (alias John Jones), a Daniel Paddy ydyw enwau llawn y tri phenteulu yr wyf ar fedr sôn amdanynt. Bygylu teuluoedd eraill ydyw gwaith pennaf y penteulu blaenaf; ac oblegid hynny y gelwir ef yn Bully; hynny ydyw, Bygylwr. Ond gwelodd Mr. Bully yn lled fuan mai gwaith costus oedd ceisio darostwng Taffi o dan ei draed trwy fygyliaeth; ac am hynny, penderfynodd gyrraedd ei amcan trwy ffordd ratach. Wedi deall ohono fod Ywain yn bur ddantfelys, dechreuodd ei borthi â chyflaeth; ac oherwydd hynny, fe'i gelwir yn Taffi hyd y dydd hwn. Bernir mai er mwyn cael eu gwala o gyflaeth y mae cynifer o blant ieuangaf Taffi yn cywain i fryn Everton. Beth bynnag am hynny, y mae yn sicr gennyf y pery Taffi, druan! yn gwbl ddiddig cyhyd ag y caffo dipyn o gyflaeth, pa beth bynnag arall a fyddo yn ôl.

Gŵyr pawb mai â chloron, neu aeron y ddaear, y bydd Mr. Bully yn bwydo ei was, Paddy; a chan fod cloron yn bethau pur anhreuliadwy, y mae'n rhaid i Paddy wrth Holman's Pad yn dra mynych ar ei gnawd. O achos hynny, medd dysgedigion, y gelwir ef yn Paddy.

Preswylia Mr. Bully mewn palas mawr a gwych, a'i enw Anglestay. Ar godiad tir, y tu hwnt i wal orllewinol parc Anglestay, fe saif preswylfod etifeddol Ywain Taffi. Nid yw'r tŷ, mwy na'r tir, yn helaeth; ac o'r braidd y gellir dweud ei fod yn hardd. Ond y mae'n hawddgar iawn yr olwg, serch hynny; pe amgen, ni ladratesid ef, mi a debygaf. Ni ellir ei weled o bell, gan faint y derw sydd o'i amgylch; cuddir ei furiau ymron i gyd gan eiddew, ac y mae'r rhannau moel ohonynt yn llwyd gan henaint.

Ni raid i ddyn ond cerdded rhagddo encyd tua machlud haul, ac yna rhwyfo tros lain o ddwfr, na chaiff ei hun yn Erin; sef, hen etifeddiaeth eang Daniel Paddy. Cymerwyd ei dreftadaeth yntau oddi arno gan yr Ahab gan Bully. Y mae ei dŷ yn awr yn furddyn, a'i dir fel diffaethwch. Ni chaiff ddiwyllio ei dir ar ei delerau ei hun, ac ni fynn ei ddiwyllio ar delerau ei ysbeilwyr. Dyn gwlatgar ac annibynnol ei ysbryd yw Paddy, a dweud y gwir amdano. Er codi a machlud o'r haul laweroedd o weithiau er pan ysbeiliwyd ef, ni pheidiodd eto â thystio mai ef yw union berchen Erin; naddo, er cael ei alw yn gynhyrfwr, yn wrthryfelwr, ac yn fradwr am wneud hynny. Nid un a ddychrynir gan eiriau Disraelaidd ydyw ef. Ni chred ef fod dinoethi lladrad yn waeth peth na lladrata. Ni chred chwaith fod rhediad amser yn troi eiddo lladrad yn eiddo cyfreithlon. Prin y gellir disgwyl, gan hynny, i greadur gwirion fel ef deimlo grym un o ddeng air deddf llywodraethwyr y byd hwn; sef yw hwnnw, "Nac unioner cam er mwyn cyfiawnder yn unig." Eddyf Mr. Bully ei hun ambell Sabath, am ryw achos neu'i gilydd, ac i ryw ddiben neu'i gilydd, ddarfod iddo, ers talm, wneuthur cam â Phaddy. Ond (ebe Paddy) os ydyw yn cyffesu, paham nad edifarha; os ydyw yn edifarhau, paham nad uniona'r cam a wnaeth? A ydyw ei Feibl yn cyfiawnhau ei ymddygiad tuag ataf? Nac ydyw, Paddy, nac ydyw; ond y mae Mr. Bully weithiau yn gweled yn dda esbonio ei Feibl yn ôl ei ewyllys ei hun.

Ond y mae'n ddiamau y byddai'n well gan y darllenydd glywed y tri phenteulu hyn yn ymddiddan â'i gilydd, na'm clywed i yn ymddiddan â hwynt. Er mwyn peri deall yr ymddiddan, dylwn yn gyntaf oll, pa fodd bynnag, fynegi ddarfod i Paddy, ryw ddiwrnod, yn ôl ei arfer, ddweud a gwneud pethau terfysglyd iawn. Go ddiog ydyw Paddy, rhaid addef; ond yr oedd yn hawdd iddo, a'i wely yn galed, a'i gylla yn wag, ddeffroi yn fore y diwrnod hwnnw; a chyn codi ohono, aeth i ystyried gymaint esmwythach oedd gwely moch Mr. Bully na'i wely ef; gymaint gwell oedd bwyd helgwn Mr. Bully na'i fwyd ef; a chymaint mwy cysurus oedd ystabl helfeirch Mr. Bully na'r twlc clai y llechai ef ynddo.

Dymunasai Paddy fod yn gi, pe gwybuasai fod modd perchenogi cynffon heb gynffonna. Dymunasai fod yn geffyl, oni buasai fod arno ofn i Mr. Bully farchogaeth arno; ie, dymunasai fod yn fochyn, oni buasai iddo glywed bod y great beefeater weithiau yn bwyta bacon. Ond penderfynu aros yn ddyn, a mynnu hawliau dyn, a wnaeth Paddy. Cerddodd yn eon at balas Mr. Bully, a chan sefyll o flaen ffenestr agored y ddawnsfa, ef a lefodd, gan ddywedyd:—

"Hai, flaidd gwlanog, rhowch heibio lamsach, a gwrandewch ar fy nghŵyn; canys mynnaf ei thraethu, cyfarthed eich cynffongwn, a rhythed eich clepgwn gymaint ag a fynnont. Twt, twt! ni waeth ich' na heb fyned i ddangos gwyn eich llygaid, ac i droi eu canhwyllau hwynt tua'r nef. Gŵyr y nef o'r gorau eich bod chwi yn euog o bethau gwaeth o lawer na galw rheibiwr yn flaidd, a rhagrithiwr yn flaidd gwlanog. Nid wyf mwyach yn erfyn arnoch fy llywodraethu yn decach; ond yr wyf am ofyn ichwi eich llywodraethu eich hunan, a gadael i minnau fy llywodraethu fy hunan, fel y mynnwyf fy hun. Nid wyf mwyach am erfyn arnoch leihau'r rhent gorfawr sydd ar yr hen gors ddiffaeth a osodasoch im; oblegid nid wyf yn barnu ei bod yn iawn i mi dalu dim rhent i chwi am ddernyn o'm hen etifeddiaeth, gan mai myfi a'i piau i gyd oll. Nid wyf chwaith am erfyn arnoch leihau'r lliaws trethi eraill—gofyn am eu dileu yr wyf i; canys paham, yn enw cyfiawnder, y dylwn i fy ngwasgu fy hun, yn y radd leiaf, er mwyn porthi eich moethau a'ch mympwyon annuwiol chwi? Dyma fy arwyddeiriau i:—Let everyone mind his own business. Caffed pob dyn ei eiddo ei hun. Erin i Paddy, a Gwalia i Taffy."

MR. BULLY: Oh! 'eavens, what language! Sedition, sedition, unmitigable sedition! Treason, the most barefaced treason! Do I dream? or must it be a fact that this himpudent clod-'opper has dared to hinsult the first gentleman in the huniverse. The hidea! Dal ar hyn, Paddy; oni buasai ei bod yn well gennyf lywodraethu ar rywun nag ar neb, ac oni buasai fod arnaf dy eisiau i dalu trethi im, buaswn yn dy gicio i fyd arall heb ddim chwaneg o siarad; buaswn, myn Jingo.

TAFFI (gan edrych yn gall): Atolwg, fy arglwydd, gorffwyswch tra ceryddwyf i ef. Er ei fod yn gefnder im, ac yn debyg im mewn llawer o bethau, eto, ni bu nemor o gydnabyddiaeth rhyngof ag ef er pan gyhoeddasoch ei fod yn greadur peryglus. Ni byddaf i yn rhyfygu barnu neb, na dim, drosof fy hun, ond byddaf yn aros yn amyneddus hyd oni wypwyf pa beth fydd eich barn ddi-feth a diduedd chwi. Y mae arnaf ddiolch mawr ich, f'arglwydd, am y wybodaeth gywir sydd gennyf am bobl a phethau. Cyn ich, yn rasol, fy rhyddhau oddi wrth fy etifeddiaeth, a'm gwneuthur yn un o'ch gweision, meddyliwn yn fy ngwiriondeb fy mod i, ar y cyfan, cystal â rhyw ddyn arall, a bod Paddy yn gystal dyn â chwithau. Ond fe'm hargyhoeddwyd gan eich honiadau dibetrus a di-baid mai chwychwi ydyw'r dyn gorau a mwyaf yn yr holl fyd. Ni byddaf byth yn blino ar ddweud wrth fy mhlant gymaint rhagorach ydych chwi na mi, a byddaf yn achub pob cyfleustra i dyngu mai myfi ydyw'r mwyaf loyal o'ch holl weision. (Wrth Paddy.) Gyda syndod a dig y'th glywais yn cablu urddas, ac yn diystyru llywodraeth. Gyda syndod, oherwydd beiddio ohonot amau awdurdod Mr. Bully i wneuthur â thi yn ôl ei ewyllys ei hun; gyda dig, am dy fod wrth geisio bwrw ymaith yr iau yn taflu math o gondemniad arnaf i am ei dwyn yn dawel. Pa les it wingo yn erbyn yr anocheladwy? Cred ddarfod creu'r byd i wasanaethu Mr. Bully, a darfod creu Mr. Bully i lywodraethu'r byd. Tafl y syniad am ymlywodraeth i blith y pethau Utopaidd. Paham y chwenychi dy lywodraethu dy hunan, a'n meistr caredig yn dweud wrthyt yr ymgymer ef â'r drafferth i'th lywodraethu? Bydd foddlon; canys fy mhrofiad i ydyw hyn: bod gwasanaethu yn haws gwaith nag arglwyddiaethu. Peth arall, Paddy, nid wyt ti yn proffesu yr un grefydd, nac yn ufuddhau i'r un pab â Mr. Bully. Yr wyf fy hun yn barnu y dylai dyn gael rhyddid crefyddol—os bydd ei grefydd yn lled debyg i'r un a broffesaf i; ond yr wyf, er hynny, yn barnu na fyddai yn ddiogel gadael i Babydd fod yn feistr arno ei hun. Ac yr wyf yn sicr fod y farn hon yn uniawn; oblegid o enau Mr. Bully y cefais hi.

MR. BULLY: Da was, Taffi. Lleferaist fel y dylai gwas lefaru; ac er mai garw o beth ydyw ei bod yn rhaid i feistr ganmol ei was am wneud ei ddylet— swydd, eto, gan fy mod yn foneddwr par excellence, mi a ystyriaf rywbryd a ellir rhoddi rhywbeth it fel gwobr am dy ffyddlondeb; ond pa un bynnag a gaf egwyl i ystyried hynny ai peidio, parhâ di i ganu Byw fyddo Bully" yr un fath ag arfer. "Virtue is its own reward." Amdanat ti, Paddy, ni wn pa beth a wnaf â thi. Yr wyt yn anwareiddiadwy. Mi a'th driniais yn arw ac yn deg, ond aneffeithiol fu pob triniaeth. Mi a'th faeddais, ac a'th garcherais, ac a oddefais it hanner newynu; lleddais dy hoffaf feibion, a llathruddais dy ferched; ond nid ymostyngaist ddim. Yna, gan arfer mwynder, mi a ddanfonais geidwaid fy helwriaeth i'th droi'n Brotestant, ond ni fynnit; rhoddais hobaid o gloron it i'w plannu pan nad oedd gennyt arian i brynu rhai; rhoddais un o'm hen glosau it i guddio dy heglau; mi a'th ddysgais (ar dy draul dy hun yn wir) i regu yn yr iaith Bylaeg; ac a geisiais dy ddysgu i iawn seinio y llythyren R, ond nid oes gennyt ddiolch im am nebun o'r pethau hyn. Yr wyf yn coelio, bellach, na'th foddlonir byth, oddieithr cael ohonot yn ôl diriogaeth Erin; ond gwybydd na chei mohoni byth —na chei, cyn sicred â'm bod yn Gristion. Rhoes y Nefoedd di yn fy llaw, ac yr wyf yn penderfynu dal gafael ynot—ydwyf upon my honour. Yr oeddit yn sôn am dy hawliau etifeddol; ond oni wyddost fod gennyf i hawliau mwy cysegredig na'r rhai hynny, sef hawliau goresgyniad? Er gwaethaf dy anniolchgarwch a'th haerllugrwydd, yr wyf yn tystiolaethu yn awr eto, y filfed waith, fy mod yn ewyllysio gwneuthur pob cyfiawnder â thi, ond it addef fy awdurdod. Nid oes gennyt achos i gwyno hyd yn oed yn awr. Y mae rhai o'th feibion yn llenwi swyddau anrhydeddus yn fy nhŷ ac ar fy ystâd. Y mae un ohonynt yn ben cogydd, un arall yn ben cerbydwr, dau ohonynt yn geidwaid nid anenwog ar fy helwriaeth, ac nid oes dim ond dy gyndynrwydd ynfyd yn dy atal dithau rhag ymgymhwyso i fod yn ben goruchwyliwr ar fy holl feddiannau. What would'st thou have? My stars, pe rhoddid i Taffi hanner y ffafrau a roddir i ti, âi'n wallgof gan lawenydd!

TAFFI: O! fy meistr annwyl, pa beth a ddywedaf, pa fodd y traethaf fy niolch am eich cyfeiriad caredig at eich poor Taffi? Atolwg, gwnewch â mi fel y gweloch yn orau, canys gwyddoch pa rai ydyw fy anghenion yn well nag y gwn fy hun. Ni wrthodaf ddyrchafiad, ond os bernwch y gwnâi ddyrchafiad niwed im, yr wyf yn eithaf boddlon i barhau yn wastrodyn am byth. Na ato Bob Acres i mi frygawthan ynghylch fy "hawliau" priod, a dirwasgu ffafrau allan ohonot yn ôl dull Paddy.

PADDY: Och fi, Taffi, y mae'n chwith gennyf dy weled mor wasaidd. Mor wahanol wyt yn awr i'r hyn oeddit cyn llarpio o Mr. Bully dy fab, Llywelyn! Oni buasai fy mod yn gwan—obeithio y bydd yn dda gennyt cyn hir gael cydymdrech â mi o blaid iawnder yn erbyn cryfder, buaswn yn poeri ar dy wyneb o wir ddirmyg. Ond annoeth fyddai im wneuthur â thi yn ôl dy haeddiant a minnau'n awyddus i'th gael yn gyfaill ac yn gydweithiwr. Pwy a ŵyr na chei di a'th deulu olau newydd, a blas newydd ar y llinellau hynny na faidd ond meibion gwŷr eu canu:—

Gwell ymladd hyd at waed na bod yn gaethion,
Gwell marw'n ddewr na byw'n wehilion."

BULLY: Beth! ai amcanu yr wyt i beri i'm gwesyn ffyddlon gan Taffi 'laru ar ei wasanaeth, a chydweiddi â thi am ymlywodraeth—y cynhyrfwr digywilydd?

PADDY: Ie, canys hunangar iawn fyddwn pe gwarafunwn i Taffi gael yr un iawnderau â minnau, gan ei fod yn yr un cyflwr.

BULLY: Ond y mae Taffi foddlon ar ei gyflwr.

PADDY: Ydyw, ysywaeth, a hynny am yr un rheswm yn union ag y mae gweision Belial yn foddlon ar eu cyflwr hwy. Ond yr wyf i'n dal nad oes gan ddyn ddim hawl i fod yn foddlon yng ngwasanaeth Mr. Belial, na Mr. Bully, 'chwaith.

BULLY: Ped adferid i chwi eich rhyddid a'ch tiriogaeth, nid oes un ohonoch a fedrai gadw ei dŷ, na thrin ei dir. Meistr gwael a wneir o was.

PADDY: Eich bai chwi ydyw ein bod yn weision. Amdanaf i, nid wyf yn disgwyl, a minnau wedi bod cyhyd yn was, fedru gwneud trefn ar bethau mewn un dydd. Ond nid ydyw ddim i chwi pa un ai buan ai araf y dysg y gwas waith meistr. Hyn a wn y byddai'n well gan fy nheulu, o'r ddau, gael eu llywodraethu'n wael gennyf i na chael eu llywodraethu'n dda gan estron. Heblaw hynny, y mae'r gair ar led nad ydych yn llywodraethu'ch teulu'ch hun yn rhy dda, ond a ydyw hynny, debygwch chwi, yn rhoi hawl gyfreithlon i Mr. Russikoff i gymryd y llywodraeth oddi arnoch, yn unig am ei fod yn ddigon hunanol i dybied y medr lywodraethu'n well na chwi?

BULLY: Yn boeth y bo Mr. Russikoff! Y mae fy nyrnau yn ysu wrth glywed ei enw. Paham na buasai'r llwfryn yn derbyn fy her?

PADDY: Nid ydyw'r sylw yna'n ateb i'm gofyniad i.

BULLY: A wyddost ti beth, Paddy, y mae'n well gennyf di, er mai troednoeth wyt, na'r hen Russikoff yna. Mi rof it bâr o esgidiau, os medri ddychmygu rhyw gelwydd newydd amdano.

PADDY: Os ydyw'n dda gennych fi, cedwch eich esgidiau, a gadewch i mi fod yn feistr arnaf fy hun ac ar fy eiddo.

BULLY: Y mae gennyf ormod o gariad atat i'th ollwng yn rhydd, oes upon my honour.

PADDY: Gwarchod fi rhag y fath gariad. Rhy hunangar ydych, ac nid rhy ddyngar. Yr ydych yn proffesu bod yn garwr rhyddid, ond yn wirioneddol yr ydych y mwyaf gormesol o feibion dynion. Gwn ddarfod i chwi ryddhau rhai gweision oddi tan lywodraeth eu caethfeistri, ond y mae gennyf achos i feddwl wneuthur ohonoch hynny yn hytrach o genfigen at y meistri nag o gariad at y gweision. Yr ydych yn pleidio rhyddid ar bob ystâd oddieithr eich ystâd eich hun. Os bydd gwas rhyw feistr arall yn deisyfu bod yn ŵr rhydd, yr ydych yn galw ei ddeisyfiadau yn "ddyheadau naturiol a chyfiawn," ond gorflysiau ynfyd ac afiachus" y gelwch fy neisyfiadau i. Os cyfyd gwas gorthrymedig yn erbyn gorthrymwr pell, chwi a'i gelwch yn noble patriot, ond "bradwr atgas" y'm gelwir i am arfer hyd yn oed fy nhafod yn eich erbyn chwi. Os daw gwrthryfelwr o bell i'ch tiriogaeth, caiff ei noddi a'i foethi gennych; ond pa fodd, atolwg, y triniasoch fy meibion gwrthryfelgar i—Tone, Orr, Sheares, Russell, Fitzgerald, Emmet. O! Emmet, fy mab, fy mab! pa fodd y'th anghofiaf, Emmet? O'r holl feibion a fegais ac a gollais ni bu nebun mor gu gennyf â thydi. Ni bu erioed wrthryfelwr mwy aflwyddiannus na thydi, ond erys cylch o oleuni disgleiriach ar dy aflwyddiant di nag ar lwyddiant eraill. Ni bu i'r gorthrymedig erioed amddiffynnydd mwy dihunangar, mwy hawddgar, a mwy huawdl. Ond dy garcharu a'th grogi a wnaeth yr Herod hwn, a thorri dy ben ar ôl hynny. Fe'th fagwyd yn rhy dyner i orwedd mewn daeardy; yr oedd dy waed yn rhy bur i'w leipio gan y cŵn. Cywilydd oedd anurddo corff mor hardd; gresyn oedd torri ymaith fywyd mor ieuanc. Merthyr, ac nid bradwr, y'th elwir ymhobman oddieithr yn Anglestay. Am hynny, cwsg mewn heddwch, Emmet, fy mab.

BULLY: Os wyt yn methu â deall paham yr wyf yn llethu gwrthryfelgarwch yn fy nhiriogaeth fy hun, ac yn ei feithrin yn nhiriogaethau rhai eraill, myfyria ar y wireb hon:—" Circumstances alter cases." Exit.

TAFFY: Oio! Rhaid i mi geisio cofio'r rheswm yna. Dichon y bydd o mor gyfleus ac angenrheidiol i mi ag i Mr. Bully. Gwna hwnna'r tro yn gaead ar geg pob gwrthwynebwr. Ni fedraf gysoni fy holl ymddygiadau â'i gilydd, ond medraf gyfiawnhau pob un ohonynt yn wyneb y gwirionedd hwn—"Circumstances alter . . . Circum—. . ." Exit Taffi.

 ALLAN O'R Faner, EBRILL 21, 1880.

II

PYNCIAU I BLANT

(PUM SWLLT O WOBR)

FONEDDIGION,

Gan y bydd y nos ormesol, bellach, yn ymlid plant da yn gynharach—gynharach o'r heolydd i'r aelwydydd, nid anfuddiol fyddai rhoi pwnc dadleuol iddynt i ysgrifennu arno. Cânt ddewis yr un a fynnont o'r pynciau isod, a chânt gymryd yr ochr a fynnont wrth ymdrin ag unrhyw un ohonynt, oddieithr y blaenaf. Rhag i neb o'r plant ddweud na ŵyr pa fodd i ysgrifennu arnynt, mi a roddaf gyfarwyddyd bras iddynt o dan bob pwnc.

1.—Pa un ai mantais ai anfantais i Gymry yw'r Gymraeg?

Wrth ysgrifennu ar y pwnc hwn addefed y cystadleuydd yn gyntaf oll fod cariad dyn at iaith ei dadau yn un o'r "teimladau mwyaf cysegredig," ond profed yn ddi-oed ar ôl gwneud hynny fod yn weddaidd iddo fygu'r teimladau hynny, er dyfned ydynt, er mwyn "llesoldeb bydol." Dangosed y gwnelai Cymro yn gall pe newidiai ei iaith, ei grefydd, a'i Dduw hefyd, am dair punt yn yr wythnos yn lle dwy. Syniai'r werin gynt mai'r peth cyfiawnaf oedd y peth buddiolaf hefyd yn y pen draw—eithr profed y cystadleuydd fod y syniad yna'n anghywir; neu profed o'r hyn lleiaf, fod budd uniongyrchol a theimladwy ar y budd na byddo felly. Haered (nid rhaid iddo ymdrafferthu i brofi), haered, meddaf, nad yw ymlyniad cenedl wrth ei hiaith briodol yn ddim amgen na "rhagfarn" a clannishness. Er enghraifft, culni ysbryd sy'n peri i Gymro siarad Cymraeg yn hytrach na Saesneg; pe bai'n rhyddfrydig fe fwriai heibio ei iaith ei hun ac a fabwysiadai iaith y Saeson. Y mae ysbryd gwir ryddfrydig yn dysgu dyn i garu gwraig ddieithr yn fwy na'i wraig ei hun, i fawrygu cenedl elynol yn fwy na'i genedl ei hun, ac i ddewis iaith estronol yn lle ei iaith ei hun. Y mae'n wir na fynn y Saeson newid eu hiaith er dim, ie, ni fynn y rhan fwyaf ohonynt gymaint â chwanegu iaith estronol at eu hiaith eu hunain. Ond er mai hwy ydyw un o'r ddwy genedl fwyaf uniaith yn Ewrop, eto ni byddai'n foneddigaidd i Gymro eu galw hwynt yn clannish nac yn rhagfarnllyd: yn un peth am eu bod wedi achub y blaen arnom trwy fwrw'r geiriau yna i'n hwynebau'n gyntaf; a pheth arall, am mai hwynt—hwy yw ein harglwyddi—ein duwiau a ddylaswn ddweud. Y mae gennym ni'r Cymry bob hawl i'n gwaradwyddo ein hunain â phob rhyw enw drwg y gwelodd y Daily Telegraph yn dda ei roi arnom, gan fod hynny'n beth mor ddifyr gennym; ond nid oes gennym hawl i droi ar ein meistri gan ddywedyd, "Tinddu ddu ebe'r frân wrth yr wylan."

Dyma beth arall hefyd y gall y cystadleuydd ei haeru heb ofni cael ei wrthddywedyd gan y rhai na wyddant nemor am y Cyfandir, sef, "na lwyddodd un genedl i siarad dwy iaith am dymor hir." Y mae'r byd mor fawr, a phob rhan ohono, oddieithr Lloegr, mor ddieithr i'r rhan fwyaf o Gymry fel y mae'n ddiogel i Gymro cartrefol ddweud y peth a fynno amdano ac am ei drigolion.

Heblaw hynny, dyweded y cystadlydd mai cywilyddus o beth ydyw na ŵyr llawer o reithwyr a thystion Cymreig fawr fwy am iaith y Barwn Bramwell nag a ŵyr y Barwn Bramwell am eu hiaith hwythau. Yn sicr dylai'r Methodistiaid neu ryw gyfundeb cymwynasgar arall ddyfeisio rhyw gynllun i addysgu'r Cymry hyn i ddeall iaith y Barwn Bramwell a'i osgordd. Y mae anwybodaeth y barnwyr a'r dadleuwyr o'r iaith Gymraeg yn ennyn rhyw barchedigaeth dwfn yn enaid pob Cymro "diragfarn," ond gwrid a gyfyd i'w wyneb pan welo dyst neu garcharor heb fedru nemor o Saesneg. Dylid edrych ar Sais uniaith fel prodigy; ond dylid edrych ar Gymro uniaith yn benbwl. Traethed y cystadlydd ychydig o hanesynnau i gadarnhau'r gwirionedd uchod. Cymered yr hanesyn hwn fel cynllun:—Aeth gŵr a gwraig uniaith o Loegr i Ffrainc. Gan nad " arweinid hwy'n bersonol" gan Gaze na Cook, bu raid i'r gŵr ofyn rhyw gwestiwn i un o'r fforddolion brodorol, a chan i hwnnw ei ateb mewn iaith farbaraidd (cofier mai iaith farbaraidd y geilw'r Sais bob iaith na ŵyr ef mohoni), gan i hwnnw, meddaf, ei ateb mewn iaith farbaraidd, trodd y Sais uniaith at ei wraig a dywedodd gyda theimlad a gyfansoddid o dosturi, o syndod ac o ddigofaint, Gracious me! this fellow is as ignorant as Plato—he doesn't know a word of English!

Ac nid yn y llysoedd cyfreithiol yn unig y mae'r Gymraeg yn anfanteisiol, ond y mae felly hefyd yn y cynghorau plwyfol a threfol, ac addysgol ac iechydol a gedwir yng Nghymru. Bydd un ddau o aelodau'r cynghorau hyn yn Saeson, o ran iaith os nad o ran cenedl hefyd, ac nid peth hawdd i Gymry â llonaid eu pen o Gymraeg ydyw tynnu allan ohonynt eu hunain ddigon o ymadroddion Saesneg i ymddadlau â Saeson yn yr iaith Saesneg. Nid gwiw fyddai i bob aelod lefaru yn ei iaith ei hun fel y gwneir mewn un senedd ar y Cyfandir, ac fel y gwneir mewn amryw o gynghorau taleithiol yno, gan nad yw'r Saeson yn deall Cymraeg. Nid gweddaidd 'chwaith fyddai gosod anghenraid ar Sais i ddysgu Cymraeg neu fyned ynghylch ei helynt. Gan hynny, rhaid i bob Cymro "diragfarn" ac "unclannish" wybod mai'r peth gorau fyddai i ryw ddwsin o Gymry wneud ffyliaid ohonynt eu hunain er mwyn dangos eu parch i un Sais. Dangosed y cystadlydd na ddichon y Cymry eu parchu eu hunain heb fod yn euog o amharchu'r Saeson, ac na ddichon iddynt wneuthur tegwch â hwy eu hunain heb wneuthur cam â'u harglwyddi. Myneged ei alar hefyd oherwydd bod cynifer o Gymry mor rhyddfrydig i ddygymod ag iau caethiwed, ac yn ddiwethaf oll, cusaned ei gadwyni trwy gydganu â'r arglwyddi "God save our gracious Queen."

2.—Pa un ai mantais ai anfantais yw'r Saesneg i'r Saeson?

Profer, os mynner, mai mantais ydyw iddynt; ond os dewisir profi mai anfantais ydyw, dyweder na ddichon un Sais deithio trwy'r byd ei hunan, ac na ddichon gael unrhyw swydd enillfawr ac anrhydeddus mewn gwledydd tramor dan y llywodraeth hon na than ryw lywodraeth arall heb wybod y Ffrangeg. Gan na ddichon pen bychan gynnwys dwy iaith, profer y byddai'n rhesymolach i'r Saeson ymwrthod â'r Saesneg, ac ymfoddloni ar yr iaith fwyaf manteisiol yn unig, sef, y Ffrangeg. Noder hefyd mor fawr oedd anfantais Beaconsfield, ac mor anwybodus yr ymddangosai yng Nghynhadledd Berlin oblegid na fedrai mo iaith gyffredin ei gyd— gynghorwyr. O! na buasai'r Ffrancwyr, yr Ellmyn, y Rwsiaid, a'r Tyrciaid, o'r un ysbryd â nyni'r Cymry. Pe baent felly, buasent oll yn unfryd yn troi i'w Saesneg o barch i'm Harglwydd Sais.

3.—Pa un ai mantais ai anfantais i ddynion fyddai bod heb iaith o gwbl?

Os dywedir mai mantais fyddai hynny, dangoser y medr dynion eisoes wneud y ddau beth pwysicaf, sef bwyta a chysgu, heb yr un iaith, ac y medrent garu ac ymbriodi, ac ymbaffio ac ymgymodi, a chladdu ei gilydd hefyd heb iaith, pe rhoddent eu bryd ar hynny. Profer y byddai mwy o naturioldeb ar eu hysgogiadau, a mwy o fynegiant ar eu gwep pe baent heb iaith; y ceid gwared llwyr o'r pregethau hirwyntog, yr areithiau llywyddol, y cylch—lythyrau, yr hysbysiadau, yr enllibiau, gweniaith, Warton, Bradlaugh, y Police News, a phob rhyw geriach, pe baem heb iaith. Ar air, ceid y fath ddistawrwydd ar wyneb y ddaear fel y byddai Thomas Carlyle farw o lawenydd.

4.—Pa un ai mantais ai anfantais i gerddorion ydyw bod mwy nag un dón ar yr un pennill?

Os barna'r cystadleuydd mai anfantais ydyw, dyged resymau i brofi mai tystiolaeth yr oesau ydyw na chanodd un cerddor ddwy dôn ar yr un pennill am dymor hir. Boddlona'r werin, o'r hyn lleiaf, ar un. Wrth ddysgu tôn newydd, anghofiant yr hen. Pe ceisient gadw'r ddwy, anghofient y ddwy; neu ynteu, cymysgent y ddwy ynghyd, a byddai hynny'n waeth fyth.

5.—Pa un ai mantais neu anfantais i'r Swliaid yw eu bod yn groenddu?

Os dywedir mai anfantais, profer na feiddiasai'r Saeson eu trin mor annynol pe buasent yn bobl wynion. Yn wyneb hyn, dangosed y cystadlydd mai dyletswydd resymol y Swliaid yw troi'n wynion cyn gynted ag y gallont. Profer ei bod yn haws iddynt newid eu lliw na newid eu hiaith am nad ydyw eu lliw yn cyrraedd yn is na'r croen, ond bod iaith eu tadau wedi paratoi lle yn eu henaid, ac wedi gosod ei nod ar eu peiriannau tufewnol; ie, cyn medru ohonynt siarad gair ohoni.

Dyna bynciau'r gystadleuaeth; dyma'r rheolau eto:—

1. Ni chaniateir i neb a welodd lawer o'r byd, ac a ŵyr amryw ieithoedd gystadlu ar y pwnc blaenaf am fod perygl iddo fod yn fwy "clannish" a "rhagfarnllyd' na'r Cymry rhyddfrydig hynny a arhosodd ar hyd eu hoes tan ddylanwad y Saeson. 2. Ni chaniateir i neb manylaidd ei feddwl 'chwaith ymgystadlu arno rhag ofn iddo fyned i'w drin yn hanesyddol, yn athronyddol, ac yn anianyddol, yn ôl dull Marsh, Müller, Menzel, Carpenter, ac eraill.

3. Bydd yn rhydd i blant Cymreig brofi bod y Gymraeg yn anfanteisiol, cystal ag y gallont yn Gymraeg, ac ni chaeir hwynt allan o'r gystadleuaeth hyd yn oed os digwydd iddynt wybod tipyn o Saesneg.

4. Y mae'n rhydd i Saeson o bob oedran ymgystadlu os medrant brofi na wyddant un iaith heblaw'r Saesneg; eithr rhaid i'r ymgeiswyr Cymraeg fod naill ai yn eu plentyndod cyntaf, neu yn eu hail blentyndod.

5. Anfoner yr ysgrifeniadau trwy swyddfa'r Faner i ysgrifennydd "Cymdeithas yr Unieithogion," erbyn dydd Nadolig y flwyddyn hon. Cyhoeddir y traethawd gorau yn y Boy's Own Paper.

Y rhai hyn fydd y beirniaid: —Edward Levy Lawson, Esq., Daily Telegraph Office, London, author of "British Interests in the Moon," "Russian Intrigue, Affghan Treachery and Irish Ungratefulness," "Welsh Clannishness," &c. Richard Johnny David, Esq., author of "They Tuty of Welshmen to do ass they are towld," "How iss to turn a Welsman into a Hinglisman," &c.

Ydwyf, &c.,

 —Y GWOBRWYWR.

ALLAN O'R Faner, MEDI 1, 1880.

III

PAHAM Y GORFU'R UNDEBWYR

A llygaid Cymro Cymreig yr wyf i yn dewis edrych ar y cwestiwn y gofynnwyd imi ei ateb yn Y Geninen; a chan fod y cyfryw Gymro yn perthyn yn hytrach i ysgol nag i blaid y mae'n debygol na ŵyr y darllenydd gymaint amdano ag a ŵyr o am y Cymro Fydd. Boed hysbys ynteu mai Cymro Cymreig yw pob Cymro sy'n credu ac yn cyffesu mai cadw Cymru yn Gymreig o ran iaith ac ysbryd yw'r pwnc pwysicaf o bob pwnc gwleidyddol. Yn ei olwg ef, cadw'r Gymraeg yn fyw ac yn iach yw'r unig Geidwadaeth y mae'n weddus i'r Cymry ymegnio i'w hamddiffyn, a rhyddhau'r Dywysogaeth oddi wrth yr ormes Seisnig sy'n ei gwneud hi'n gadlas chwarae ac yn grochan golchi i bobl anghyfiaith ac anghyweithas ydyw'r unig Ryddfrydiaeth y mae'n wiw i'r Cymry ymladd drosti; canys y mae a wnelo'r Geidwadaeth a'r Rhyddfrydiaeth yma, nid yn unig â llwyddiant, ond hefyd â bywyd y genedl yr ydym yn perthyn iddi. Gan mai pobl anaml ydym, yn preswylio parth bychan o Ynys Brydain, ni allwn argyhoeddi estroniaid ein bod yn ddim amgen na Saeson heb eu llwyr wareiddio os na bydd gennym iaith wahanol. I ni, y Gymraeg yw'r unig wrthglawdd rhyngom a diddymdra, ac y mae'r sawl a dorro'r gwrthglawdd hwnnw, trwy barablu iaith ein gorchfygwyr heb raid nac achos yn euog o ddibrisdod sy'n dangos eu bod wedi colli pob parch iddynt eu hunain; a phan beidio dyn â pharchu ei hun y mae hwnnw i bob perwyl wedi peidio â bod. [4]

Er bod y Cymro Cymreig yn rhy falch i'w ddiddymu ei hun, nid yw o'n gulfarn o gwbl, fel y tybia rhai. Y mae o'n ewyllysio i'w gydwladwyr nid yn unig ddysgu Saesneg a darllen llenoriaeth Saesneg, ond hefyd ddysgu pedair prifiaith y Cyfandir, er mwyn ymgydnabod â phobl a llenoriaeth sy'n llai ynysaidd na rhai Prydain. Trwy dreulio tair neu bedair blynedd ar y Cyfandir, gwelent nad yw'r Saeson ddim mor fawr o lawer yng ngolwg cenhedloedd eraill ag ydynt yn eu golwg eu hunain, ac yng ngolwg y Cymry plentynnaidd sy'n credu bod "I say" yn Saesneg yr un peth â "Fel hyn y dywed yr Arglwydd " yn y Gymraeg. Gwelent ei bod yn rhaid i estron o Sais dalu mwy deirgwaith am ei fwyd a'i lety na rhyw estron arall, nid yn unig am ei fod yn anifail mwy ariannog, ond hefyd am ei fod yn anifail mwy didoriad, a bod yn rhaid gan hynny wrth fwy o amynedd i'w oddef. Gwelent mai syniad isel sy gan yr Ellmyn a'r Yswisiaid a'r Yswediaid am y Côd Addysg a luniwyd gan fasnachwr uniaith ac annysgedig a'i enw Forster, ac a adluniwyd gan ddynion sydd agos mor annysgedig ag yntau. Trwy dreulio rhai blynyddoedd ar y Cyfandir, fe ddysgent synio'n uwch am eu hen lenoriaeth eu hunain, ac yn is am lenoriaeth ddiweddar y Saeson.[5] Gwelent ohonynt eu hunain nad oes, ac na bu, cymaint ag un athronydd yn Lloegr, nad yw ei diwinyddion gorau yn yr oes hon ond corrod yn ymyl diwinyddion dwy o deyrnasoedd lleiaf Gogledd Ewrop, nad yw ei hesboniadau gorau ond lled-gyfieithiadau o esboniadau'r Almaen a'r Iseldir, nad yw ei geiriaduron helaethaf ond efelychiadau amherffaith o eiriaduron Ffrainc, ac nad yw ei dramodau mwayf poblogaidd ond cyfaddasiadau o ddramodau gwaelaf Ffrainc a'r Eidal, yr Ysbaen a'r Yswèd. Y mae'r Saeson yn cyniwair ymhell ac yn agos; er hynny, nid oes ganddynt, yn ôl eu tystiolaeth eu hunain, ddim un map nac un fforddiadur y gellir dibynnu arno. Cymerwn gysur; er bod gan y Saeson lawer gŵr grymus, un cawr sydd ganddynt, ac y mae hwnnw wedi marw er y flwyddyn 1616. Os nad oes gennym un Shakes— peare, y mae gennym iaith odidog, ac emynau ac alawon heb eu bath; ac os meithrinwn ein hiaith, odid na fydd yfory'r Cymry cyn deced â doe'r Saeson.

Y Cymro Cymreig yn rhagfarnllyd! Nac ydyw, yn wir. Fe fyddai agos cyn chwithed ganddo weled Saeson Lloegr yn anghofio eu hiaith eu hunain er mwyn myned yn Gymry uniaith ag yw ganddo weled Cymry Cymru yn anghofio eu Cymraeg er mwyn myned yn Saeson uniaith. Dyma'r cwbl Y mae o'n dadlau drosto, sef y dylai'r Cymry fod cyn ddysgediced ddwywaith o leiaf â Saeson cyffredin.

A ydyw'r Cymro Cymreig yn gulfarn wrth haeru y dylai'r Saeson yng Nghymru ymostwng i'r unrhyw amodau ag y mae'n rhaid i Gymry ymostwng iddynt yn Lloegr? Yn Lloegr y mae'n rhaid i Gymro ddysgu iaith y wlad cyn y rhoddir iddo un swydd gyhoeddus na swydd hyd yn oed fel gweithiwr ar un o'r ffyrdd haearn. Paham yr ydym ni'n goddef i Saeson uniaith gael pob rhyw swydd yng Nghymru, ac felly yn eu denu yma i heidio i'n gwlad? Ai am ein bod yn fwy haelfrydig, ai ynteu am ein bod yn ffolach na chenhedloedd eraill? Er mwyn gweld gwrthuni ein hymddygiad, dych— mygwn fod y Saeson yn ymddwyn tuag atom ni fel yr ydym ni yn ymddwyn tuag atynt hwy. Dych— myger eu bod ynghanol Lloegr yn troi cyfarfod yn Gymraeg neu yn hanner Cymraeg o achos bod yno ddau neu dri o Gymry uniaith yn ddigon hy i weiddi "Cymraeg, Cymraeg." Dychmygwn eu bod yn dewis Cymro uniaith i'w cynrychioli yng Nghaint neu yn Ynys Wyth, a'u bod yn llefain, Clewk, Clewk, wrth wrando ar y cyfryw gynrychiolydd yn traethu yng Nghymraeg llydan Sir Fôn ar y priodoldeb o roi ychydig o le i iaith a llenoriaeth Saesneg yn athrofeydd Caergrawnt a Rhydychen. Dychmygwn fod barnwyr ac ynadon Lloegr gan mwyaf yn Gymry heb fedru dim Saesneg, a bod y rhai sydd yn medru Saesneg yr un ffunud yn mynnu siarad yn Gymraeg; fod y dadleuwyr, wrth erlyn ac amddiffyn, yn apelio at y barnwyr a'r rheithwyr yn Gymraeg, ac yn gwastraffu amser i holi'r tystion trwy gyfieithydd. Dychmygwn fod trigolion St. Albans neu Clackton-on-Sea yn codi eglwys a phedwar capel ar gyfer ymwelwyr Cymreig a theulu neu ddau o breswylwyr Cymreig, ynghyd â dwsin o Saeson sydd wedi colli eu Saesneg wrth werthu llefrith, cwrw, cennin neu bysgod i'r Cymry hynny. Dychmygwn fod athrawon ysgolion Lloegr yn gwialenodio, ie, yn ffonodio eu disgyblion am siarad Saesneg yn yr ysgol, ac yn eu rhybuddio na siaradont "that vulgar English" y tu allan i'r ysgol chwaith. Dychmyger bod miloedd o goegynnod a choegennod ar hyd a lled Lloegr yn clebran Cymraeg yn y siopau, yn y trenau, a hyd yn oed mewn dosbarth yn yr ysgolion Sul, a hynny am eu bod yn synio bod siarad hen iaith go bur fel y Gymraeg yn beth mwy gweddus na siarad rhyw glytwaith diweddar fel Saesneg. Dychmygwn fod ar agos bob siopwr yn Lloegr gywilydd ei alw ei hun yn butcher, yn clothier, neu yn shoemaker, a bod Richard Cockburn, Cigydd; John Coldbottom, Dilledydd; ac Alfred Rawbottom, Crydd, yn serennu uwch ben y siopau. Dychmygwn fod Cwmni'r L. & N. W. R. yn dileu'r enw Runcorn Station, ac yn peri paentio ar yr ystyllen: Gorsaf yr Un-Corn; fod gweision Gorsaf Oxford yn gweiddi "Rhydychen" er mwyn boddio'r astudwyr Cymreig, a bod gweision gorsaf Caer er mwyn peri cyfleustra i farchnadwyr ffwdanllyd Cymru yn dywedyd wrthynt yn fwyn: "This way, gentlemen, to the Nerpwl train." Dychmyger (os gellir dychmygu peth mor anghredadwy) fod gweithwyr o Saeson ar rai o ffyrdd haearn Lloegr yn goddef i ddeuddyn uniaith â'u henw Huws a Dafis eu trin mor drahaus ag y mae gweithwyr o Gymry ar rai o ffyrdd haearn Cymru yn goddef i rai Saeson uniaith eu trin hwy. [6] Yn sicr, ni byddai'n fwy anweddus i'r genedl ieuengaf ddynwared y genedl hynaf nag ydyw i'r genedl a orchfygwyd ei hamharchu ei hun er mwyn dangos parch i'r genedl a'i gorchfygodd. Os dywed rhywun mai cenedl gydraddol ydym â'r Saeson ac nid un ddarostyngedig iddynt, yna paham na bai gennym senedd Gymreig? Neu, yn niffyg senedd Dywysogaethol, paham na bai nifer ein cynrychiolwyr yn y Senedd Ymerodrol yn gyfartal â nifer cynrychiolwyr y Saeson? Lle bynnag y bo "predominant partner," nid oes yno gydraddoldeb. Nid yw "predominant partner" yn ddim amgen nag enw mwyn ar orthrechwr—tyrant.

"Yr hynaf a wasanaetha'r ieuengaf." Dyna'r ffaith ar hyn o bryd, ond y mae'r Cymro Cymreig yn gobeithio na bydd hynny ddim yn ffaith byth; nid am ei fod yn ddigon plentynnaidd i roi coel ar broffwydoliaethau Myrddin a Thaliesin, eithr am fod ganddo gred yn Rhagluniaeth a chyfiawnder Duw. Fe demtid dyn i gredu nad oes Creawdwr a Llywodraethwr yn bod pe gorfyddai iddo gredu y goddefir i genedl mor waedlyd ac ysbeilgar â'r Saeson flino a llygru'r byd yn llawer hwy. Yn fuan neu yn hwyr, y mae traha cenedl yn dychwelyd ar ei phen ei hun, a pha genedl erioed a fu mor drahaus â'r Saeson? Y mae llawer cenedl o dan ei phawen er ys ugeiniau a channoedd o flynyddoedd; er hynny, nid oes odid un ohonynt wedi dygymod â'i chyflwr. Y mae miloedd ar filoedd o Gymry heddiw mor ffiaidd ganddynt fod yn ddarostyngedig iddi a phe buasent yn byw drannoeth ar ôl cwymp Llywelyn; ac fe godai Iwerddon, a'r Aifft, a'r India, mewn gwrthryfel yn ei herbyn yr wythnos nesaf, pe rhyngai bodd i Ffrainc neu Rwsia dorri asgwrn ei chefn. Os o'r braidd y mae hi'n gallu gorfod ar fân genhedloedd anarfog a hanner noethion, pa le yr ymddengys hi pan ddelo chwant arni i brofi ei gynnau newyddion mewn rhyfel yn erbyn cenedl gref? Gymry, nid yw ddoeth i chwi frysio i ymgolli ynghanol y Saeson—ni wyddoch beth a ddigwydd mewn deng mlynedd.

Ysywaeth, nid yw'r Cymry Cymreig eto wedi ymgyfuno'n blaid wleidyddol; ar wasgar y maent ar hyn o bryd ymhlith y pleidiau eraill. Y mae llawer ohonynt wedi ymuno â'r Cymry Fydd, o achos eu bod yn tybied bod y blaid honno ychydig yn llai Seisnigaidd na'r hen blaid Chwigaidd. Y mae eraill ohonynt yn parhau'n aelodau o'r blaid Chwigaidd am eu bod yn ofni bod swyddogion Cymru Fydd yn chwanocach i farchogaeth ar y teimlad Cymreig nag i'w fagu. Y mae nifer nid bychan o Gymry Cymreig yn Dorïaid, am eu bod yn credu y gall dyn fod yn Gymro da, beth bynnag fyddo'i syniadau am Fasnach Deg, am Iawn i Dafarnwyr, am Ynadon di-arian a di-ddysg, ac am y pwnc pitw pa un ai o lyfr ai yn syth o'r safn y gellir yn orau wenieithio i "enaid ein hannwyl frawd a ymadawodd o'r byd." Y mae llawer o'r Cymry Cymreig yn ymgadw ymhell oddi wrth bob plaid wleidyddol a'r sydd yn awr yn y maes, am eu bod yn barnu nad yw dynionach sydd yn ddiofal am eu braint bennaf ddim yn haeddu cael breintiau llai. Y mae byw ar gawl yn fyw rhy dda o lawer i'r sawl a ddiystyro'u genedigaeth-fraint.
***** Un arwyddair, sef "Cymru Gyfan," sydd gan y Cymro Fydd; ond y mae gan y Cymro Cymreig dri arwyddair, sef "Cymru Rydd, Cymru Gyfan, a Chymru Gymreig." Canys, heb fod yn Gymru Gymreig, Cymru mewn enw yn unig fydd hi. Y mae'r Cymro Fydd yn gwawdio'r waedd "Cymru i'r Cymry," ac yn ceisio boddhau'r Saeson heb lwyr anfoddhau'r Cymry trwy weiddi "Lloegr i'r Lloegrwys, a Chymru i'r Cymry ac i'r Saeson." Hyd yn oed pan fydd y Cymro Fydd yn gweiddi 'Cymru Gyfan," nid yw'n hawdd deall beth y mae o'n ei feddwl; ond yng ngenau'r Cymro Cymreig y mae'r ymadrodd yn gwbl ddiamwys, ac yn arwyddocáu: Cymry hyd at ei hen derfynau, sef Cymru hyd at Hafren.

Fe ŵyr y darllenydd bellach pa beth yw teimlad a pha beth yw credo'r Cymry Cymreig; ac fe eddyf eu bod yn ddosbarth cryf o ran nifer, ac y byddant yn gryf o ran dylanwad hefyd, ar ôl eu cyfuno'n blaid. Mewn gwirionedd, dwy blaid wleidyddol a ddylai fod yng Nghymru hyd oni chaffo hi ei hawliau cenhedlig, sef Plaid Gymreig a Phlaid Wrth-Gymreig, a gwneuthur y blaid olaf yn wannach wannach a ddylai fod ein hymgais pennaf. Peth plentynnaidd a gwaeth na phlentynnaidd yw inni ddynwared y Saeson trwy ymrannu yn Dorïaid "Duw a'n cadwo," ac yn Dorïaid Gafr a'u 'sgubo," yn Chwigiaid Dofion (Liberals) ac yn Chwigiaid Gwylltion (Radicals), yn Bleidwyr Athrawiaeth yr Iawn (Compensationists), ac yn Bleidwyr Barn Ddidrugaredd (Anti-Compensationists), cyn penderfynu'r pwnc pwysig pa un ai'r Cymry ai'r Saeson sydd i gael eu ffordd yng Nghymru, a pha un ai'r Gymraeg ai'r Saesneg sydd i fod yn iaith ysgolion a chynghorau a swyddfeydd a llysoedd barn Cymru.

Ar ôl dangos pa fath un yw'r Cymro Cymreig, yr wyf o'r diwedd yn dyfod at y gofyniad a roddwyd imi, sef, Paham y gorfu'r Undebwyr yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf? Yr wyf yn ateb yn fyr ac yn bendant mai am eu bod yn Undebwyr. Y mae'n hawdd gennyf gredu bod a wnelo Deddf Gwaharddiad Lleol ychydig bach â'r gorchfygiad, a bod a wnelo anallu, annifrifwch, a chroesdynnu arweinyddion y Blaid Chwigaidd beth yn ychwaneg ag ef; ond bwriad y blaid honno i roddi Ymreolaeth i Iwerddon ac i ddadsefydlu'r Eglwys yng Nghymru a barodd i'r Saeson ymgynddeiriogi yn ei herbyn. Torïaid hyd i fêr eu hesgyrn ydyw corff mawr y genedl Seisnig mewn materion cenhedlig, ac y mae'n ddiau fod y darllenydd wedi sylwi mai yn Lloegr ac yn y rhannau mwyaf Seisnig o'r gwledydd Celtig y cafodd yr Undebwyr fwyafrif mawr. Yr oedd Chamberlain yn Rhyddfrydol hyd at fod yn eithafol tra oedd ei blaid yn ymfoddloni ar ddeddfu i ddosbarthiadau trwy'r deyrnas, ond pan osiodd ei blaid ddeddfu i genhedloedd, sef i'r Gwyddelod a'r Cymry, ar wahân i'r Saeson, fe droes y gŵr o Birmingham yn Dori rhonc. Ac y mae Chamberlain yn hyn o beth yn deip neu yn ddangosiad teg o ryw naw o bob deg o'r genedl sy'n honni mai hyhi yw'r predominant partner. Gwybydd, ddarllenydd, mai brwydr rhwng y Celtiaid a'r Teutoniaid oedd y frwydr etholiadol a ymladdwyd y mis o'r blaen; ac ni all y Celtiaid byth mwy ddisgwyl am gymorth effeithiol gan y Saeson tuag at ei hennill hi. Pa beth gan hynny a wnânt er mwyn dwyn barn i fuddugoliaeth? Ymuno â'i gilydd yng Nghymru, Iwerddon, ac Ucheldiroedd yr Alban, i ffurfio Cynghrair Celtig, a chytuno i ymladd yn y modd mwyaf Parnelaidd am yr un a'r unrhyw beth, a hwnnw yn gyfryw beth ag a gynhyrfo wladgarwch y cenhedloedd darostyngedig hyd y gwaelodion. A pha beth amgen a all hynny fod na'r hawl ddwyfol i'w llywodraethu eu hunain fel y gwelont hwy yn dda? Neu, yng ngeiriau Freeman yr hanesydd: "The right of every nation to govern, or, if so be, to misgovern itself." Gan fod y Teutoniaid wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Celtiaid, cyhoedded y Celtiaid ryfel yn eu herbyn hwythau; ac er ein bod yn wannach o lawer na'r Saeson, yr ydym ynghyd yn ddigon cryfion i orchfygu. Ni faidd Lloegr ddangos ei holl rym yn erbyn y gwledydd agosaf ati, rhag ofn lleihau ei dylanwad yn ei thiriogaethau pell. Fe fyddai'n well ganddi ildio llawer iawn na dangos i'w gelynion ymhob parth o'r byd fod ei chymdogion agosaf mor anfoddog a gwrthryfelgar fel na allai hi ddim ymddiried iddynt ar adegau enbyd. Ofn ac nid cariad a barodd iddi ryddfreinio'r Pabyddion a dadsefydlu'r Eglwys yn Iwerddon; act ofn yn unig a bair iddi eto roddi ymlywodraeth i'r cenhedloedd sydd yn ddarostyngedig iddi. Os darfu iddi, trwy ofn, ildio cymaint i un genedl yn yr amser a fu, pa faint mwy, tybed, a ildia hi i dair yn yr amser a fydd? Lle da i Arglwydd Salsbri sefyll yn warsyth yn y fan y crymodd Duc Wellington.

Ysywaeth neu ysywell, y mae'r ymryson rhwng dosbarth a dosbarth wedi myned erbyn hyn yn ymryson rhwng cenedl a chenedl; a'r Saeson ynghyd â Cheltiaid Seisnigedig sydd wedi mynnu i hynny fod. Na sonier mwyach am Chwigiaid Cymru a Thorïaid Cymru; sonier yn unig am y Cymry a'r Gwrth-Gymry. Y mae'r Cymry yn lluosocach o lawer na'r Chwigiaid, ac fe ellir disgwyl i Gymry ymladd yn erbyn y gelyn cyffredin yn fwy calonnog o lawer nag y buont yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Rhaid addef bod ymgeiswyr y Saeson a'r Cymry Seisnigedig yng Nghymru wedi cynhyrfu mwy o deimlad o blaid Undebaeth nag a gynhyrfodd ymgeiswyr y Cymry yn ei erbyn, ac y mae'n hawdd canfod yr achos. Nid oedd gan ymgeiswyr y Cymry ddim i'w gynnig i'r Cymry fel cenedl heblaw dadsefydliad yr Eglwys, ac y mae hwnnw, arno ei hun, yn hytrach yn bwnc sectol nag yn bwnc cenhedlig; o leiaf, y mae'n anodd dangos i'r cyffredin ei fod yn ddim amgen na hynny. Fel hyn y mae'r cyffredin yn ymresymu: "Pa beth a all fod yn cynhyrfu'r Ymneilltuwyr gwleidyddol i alw'r sect sefydledig yn 'Estrones,' ac yn Eglwys Seisnig yng Nghymru'— ai cariad at eu cenedl neu at eu hiaith? Nage'n ddiau, canys y maent hwy eu hunain yn llenwi'r wlad ag estronesi Seisnig, a thrwy hynny yn dangos nad gwaeth i Gymro addoli yn iaith ei orchfygwyr nag yn iaith Llywelyn. Yr ydym yn methu â gweled bod Eglwys Loegr yn gwneud cymaint i Seisnigo Cymru ag eglwysi Seisnig yr Ymneilltuwyr. Fel rheol, y mae ynddi hi un gwasanaeth Cymraeg bob Sul, ond yn eglwysi Seisnig yr Ymneilltuwyr ni cheir clywed un gair o Gymraeg. O'r ddau, yr ydym yn meddwl y byddai Cymro yn llai o fradwr wrth fyned i eglwys hanner Saesneg nag wrth fyned i gapeli hollol Saesneg. Os o wladgarwch y maent yn chwenychu dadsefydlu Eglwys Loegr, dadsefydlant eu heglwysi Lloegraidd eu hunain i ddechrau. Peidiant â chyfrannu arian tuag at godi a chynnal y cyfryw 'eglwysi,' a bwriant allan o'r Senedd ac o'r cynghorau bob cynrychiolwr sydd trwy eiriau neu drwy arian yn cefnogi'r fath glybiau anghymreig. Yn boeth y bo'r Eglwyswyr a'r Ymneilltuwyr: rhyngddynt a'i gilydd hwy a ddinistriant Gymru ost cânt eu ffordd. Nid yw'r helynt sydd rhyngddynt ond ymgecraeth rhwng pechaduriaid a rhagrithwyr. Cenfigen sectol sydd wrth wraidd eu holl regfeydd. Awn i'n pebyll a gadawn iddynt, hyd oni chodo rhywun yng Nghymru a garo'i genedl yn fwy nag Eglwys Loegr ac achos' Saesneg."

Fel hyn y mae llawer o Ymneilltuwyr Cymroaidd yn siarad; am hynny, braidd y gellir disgwyl iddynt ymladd yn egnïol dros yr ymgeiswyr a fydd yn gofyn am eu cefnogaeth. Y mae rhai o'r ymgeiswyr Chwigaidd yn dangos llai o gallineb, os nad llai o wladgarwch hefyd, hyd yn oed na'r ymgeiswyr Torïaidd. Cymerer yr ymgeiswyr dros fwrdeisdrefi Dinbych yn enghraifft. Gan fod gennyf hawl i bleidebu yn Rhuthyn, fe ddanfonwyd i mi fwrnel o bapurau argraffedig a sgrifenedig oddi wrth y ddau ymgeisydd, Gwallter Morgan a Thudur Hywel. Yr oedd holl bapurau'r ymgeisydd Torïaidd mewn Cymraeg pur dda, a holl bapurau'r ymgeisydd Chwigaidd mewn Saesneg gweddol. Yr oedd y Tori yn dweud "y dylid cefnogi iaith, llenoriaeth ac arferion y Cymry," a'r Chwigiad yn dweud yr ymroddai fo i ofalu am "the affairs of this great nation." Fe'm llanwyd â digofaint a chywilydd wrth ddarllen cylch—lythyr mor ynfyd ac mor sarhaus, a phenderfynais ar y pryd na rown byth bleideb i ymgeisydd oedd yn caru'r "great nation" yn fwy na'i genedl fach ei hun: ond rhag ofn nad oedd o'n medru sgrifennu Saesneg yn ddealladwy, mi a euthum i Ruthyn er mwyn cael eglurhad ganddo yn Gymraeg ar ei ymadrodd rhyfedd. Ysywaeth, nid oedd o yno, ond fe ddywedodd rhai o'i gyfeillion (y nefoedd a faddeuo iddynt os dywedasant gelwydd politicaidd wrthyf) mai'r ysgrifennydd a oedd yn gweithredu dros yr ymgeisydd a wnaeth y llythyr anffodus oedd yn fy mlino, ac na wyddai'r ymgeisydd ei hun ddim amdano, er bod ei enw wrtho; a chan fod yr ysgrifennydd hwnnw'n fwy o Sais nag o Gymro, ac yn byw y tu hwnt i Glawdd Offa, nad oedd yn hawdd iddo gofio bod y fath genedl â'r Cymry yn bod, ac am hynny y byddai'n resyn imi gosbi'r ymgeisydd o achos anwybodaeth ei ysgrifennydd. Er bod hyn yn eglurhad aneglur iawn, ei dderbyn a wneuthum am ei werth, a rhoi fy llais— nid o blaid y Great Nationist, eithr yn erbyn yr Unionist, a phan glywais beth oedd diwedd y chwarae, yr oedd yn dda gennyf fod Morgan wedi colli, ac yn ddrwg gennyf fod Hywel wedi ennill.

Nid oes gofod i sôn am Mr. Herbert Roberts, yr hwn sydd, fel Martha, yn ofalus ynghylch llawer o bethau, a heb fod yn ddiofal am ddim oddieithr yr un peth angenrheidiol; nac am yr estron diddrwg sydd yn cynrychioli capelau dyledog Sir Fflint, yr hwn sydd, fel Mair a Phersis, yn cymryd llawer o boen yn yr Arglwydd i ddeall beth a fynn ei etholwyr anghyfiaith iddo ei wneud erddynt. Y mae'n ddigon i mi ddweud fod y rhai hyn, ac amryw o ymgeiswyr pellach, wedi aflwyddo mewn rhan neu yn gwbl, am nad oedd yn eu hanerchiadau ddim i gyffroi'r galon Gymreig. Os oedd ymgeiswyr Torïaidd yn gallu tanio Saeson a Chymry Seisnigedig trwy frygawthan am Undod yr Ymerodraeth, fe allasai'r ymgeiswyr Chwigaidd yr un funud danio'r Cymry trwy sôn am hawlio priod y Dywysogaeth. Os mynn ymgeiswyr mewn etholiad sôn am bob rhyw beth oddieithr y peth mwyaf, gan osod hawddfyd person a dosbarth yn uwch na rhyddid cenhedlig, pa fodd y gellir beio ar rai o'r etholwyr am gyfrif y Chwigiaid a'r Torïaid yn ddau dŷ masnachol, ac am eu bod yn cymryd eu cennad i fyned i'r siop lle y cynigir iddynt y fargen orau?

Erbyn hyn y mae'r Blaid Chwigaidd yn Lloegr agos wedi diflannu, a hyd yn oed ped ymddangosai hi eilwaith yn ei nerth ymhen chwech neu ddeu- ddeng mlynedd, hi a fydd yn rhy ofnus i ail gynnig i'r Cymry a'r Gwyddelod y pethau y gorchfygwyd hi o'u plegyd. Am hynny, nid trwy ennill ei ffafr hi, eithr trwy flino'r Blaid Dorïaidd, sef yw hynny, trwy flino corff y genedl Seisnig y gall y cenhedloedd darostyngedig godi eu pennau. Y mae Rhyddfrydiaeth bellach yr un peth â rhoddi rhyddid i'r cenhedloedd Celtaidd, ac y mae Torïaeth yr un peth â'u rhwymo â chadwynau pres yn lle â chadwynau haearn. "Y Teutoniaid yn erbyn y Celtiaid" fydd gwaedd y Torïaid, a'r "Celtiaid yn erbyn y Teutoniaid" fydd gwaedd y Rhyddfrydwyr: ac yn wir, meddaf i chwi, ni cheir byth lawer o'r cyfryw Ryddfrydwyr yn Lloegr. Rhaid i'r Cymry, mewn undeb â'r Celtiaid eraill, ymddarparu i ymladd yn erbyn cenedl gyfan, ac nid mwyach yn erbyn plaid; canys y mae'r etholiad diwethaf wedi dangos yn amlwg fod y Saeson bron i gyd yn unfarn yn erbyn cydnabod y Cymry a'r Gwyddelod yn genhedloedd priodol. Y mae'r gŵr bonheddig o Loegr yn addef bod y fath greaduriaid â lleidr Cymreig a llofrudd Gwyddelig, ond y mae o'n gwadu bod y fath bobloedd â chenedl Gymreig a chenedl Wyddelig. Un genedl sydd, os gwelwch yn dda, sef "y genedl fawr hon," chwedl Gwallter Morgan; ac aelodau annheilwng yw pawb o'r Cymry a'r Gwyddelod (oddieithr y drwgweithredwyr) ohoni hi. Sais bendigedig oedd Wellington pan gynorthwyodd o Bülow a Blütcher i orchfygu Napoleon yn agos Waterloo; ond damned Irish traitor" oedd o pan bleidiodd o fesur yn Nhŷ'r Arglwyddi i ddwyn ymwared i'r Pabyddion.

Nid yw ddrwg gennyf ddarfod dryllio'r gorsen Seisnig yr oedd Chwigiaid Cymru'n pwyso mor hyderus arni. Fe ellir disgwyl y byddwn bellach yn fwy o Gymry ac yn fwy o Geltiaid, ac fe argyhoeddir pob gwleidydd o gyfreithiwr mai ofer fydd iddo mwyach lefaru a gweithredu â'i lygad yn wastadol ar y sach wlân yn Nhŷ'r Arglwyddi. Heblaw hynny, fe geir yn ystod teyrnasiad y Torïaid ddigon o amser i ddysgu'r Cymry i chwenychu ac i geisio'r un peth ag y mae'r Gwyddelod yn ei geisio. Canys oni chawn Ymreolaeth ar yr un pryd â'r Gwyddelod, byddwn yn rhy weinion i gael Ymreolaeth byth. Am fy mod yn Ymreolwr cywir a chyson, yr wyf yn parhau i lefain, er gwaethaf gwawd Saeson arglwyddaidd a Chymry gwasaidd: Cymru i'r Cymry; Lloegr i'r Saeson; yr Alban i'r Albaniaid; Iwerddon i'r Gwyddelod! Yr eiddo'r Cymro i'r Cymro, a'r eiddo'r estron i'r estron!—Yn enw rheswm, pa beth sy decach? {{c| EMRYS AP IWAN.

ALLAN O'R Geninen, 1895.

IV

WELE DY DDUWIAU, O WALIA!

Cyfod dy galon a'th ael, ddarllenydd: nid ydyw dy wlad cyn waethed ag y dywedir ei bod. Y mae'n myned yn llai eilunaddolgar bob oes. Yn y dyddiau gynt, yr oedd rhifedi ei duwiau hi yn ôl ei dinasoedd; ond ni cheir ynddi bellach ond pump neu chwech, o'r mwyaf. Bu llawer ohonynt farw o wendid a hendid. Eraill, o eisiau amgenach croeso, a giliasant i wledydd dieithr, a'r lleill a alltudiwyd o achos y niwed a barent i'r wladwriaeth.

Gwelwyd bod Adramelech yn rhy hoff o gig plant—am hynny rhoddwyd ef i genedl fwy epilgar. Ni allai Rimmon a Baalpeor gydweithio; am hynny gorchmynnwyd i Rimmon, druan, fyned i chwilio am genedl nad ofnai olau dydd. Gwrthryfelodd y Cymry'n fore yn erbyn Baalzebub, duw'r gwybed; a'u dadl oedd hyn—dywedent nad teg oedd eu gorfodi i gynnal brenin rhwysgfawr dros flynydd— oedd crynion tra nad oedd raid wrtho ond am fisoedd yr haf; a haerent fod ganddynt ddigon o allu moesol a naturiol i ladd pob rhyw bryf a'u cosai hwynt yn ystod y misoedd oerion heb gymorth un duw. Yntau, gan ryfeddu'n aruthr wrth hanghrediniaeth, a gyflogodd i fyned i'r Eidal lle y mae'n cael ei wala o waith trwy gydol y flwyddyn. Cafwyd nad oedd y duwiesau Melpomene ac Urania yn gweddu yma, gan fod y naill yn ymdrin â phethau rhy uchel, a'r llall â phethau rhy ddyfnion; am hynny, gyrrwyd hwy'n anrheg i'r Germaniaid. Bellach, y mae'r rhan fwyaf o eilunaddoliaeth y genedl yn rhedeg mewn dwy sianel—Ariangarwch a Saisaddoliaeth! Yn lle rhannu eu calon fel cynt rhwng duwiau lawer, y mae'r Cymry yn awr wedi crynhoi eu holl serch ar ddau lo—y llo aur a'r llo Seisnig. Rhaid addef na ddangosant fawr o ragfarn yn eu heilunaddoliaeth, canys y maent yn parchu'r hen a'r diweddar. Y mae'r llo aur wedi bod yn dduw llawer oes a llawer gwlad. Gwnaethpwyd ef ond odid yng ngefail Tubal Cain, ond, ac addef y gwir, corrach o dduw go ddiweddar ydyw'r llo Seisnig. Ni all hawlio dim parch ar gyfrif ei oedran.

Un ydyw na wybu Israel ddim amdano. Ni chafodd erioed yr anrhydedd o eistedd yn ystafell y duwiau yn Rhufain. Erioed ni chodwyd allor iddo yn Athen. Ond os nad ydyw ei ddyddiau'n ymestyn i'r cynfyd, os nad aeth y sôn amdano hyd eithafoedd daear, y mae er hynny yn dduw gwir genedlaethol. Y Cymro a'i dyfeisiodd, y Cymro a'i toddodd, y Cymro a'i lluniodd, a'r Cymry yw'r unig genedl ar y ddaear sydd yn ei theimlo'n fraint i gael ei addoli. Ond gadewch i ni aros y tro hwn gyda'r un aur. Duw yw hwn na ddiystyrir mono gan un genedl ar y ddaear, ond nid oes ond Cymry, y Saeson a'r Americaniaid yn ei garu ef â'u holl nerth ac â'u holl feddwl. Y dyn ariannog ydyw'r homme comme il faut ym Mhrydain. Nid yw felly mewn gwledydd mwy gwâr. Ped ymholai'r Swediad ynghylch rhywun, gofynnai "Pa fodd y mae'n ymddwyn? Gofynnai'r Helvetiad, y Germaniad a'r Isdiriad, "Pa faint o wybodaeth sydd ganddo?" Gofynnai'r Ffrancwr, "Pa faint o ddawn—o esprit, sydd ganddo? Ond y Sais a ofynnai, "Pa faint o arian sydd ganddo?" Yn fyr, Sut droed sydd ganddo, medd y Swediad. Sut dafod sydd ganddo, medd y Ffrancwr. Sut ben sydd ganddo, ebe'r lleill; ond sut logell sydd ganddo, medd y Sais!

Achwynir yn fynych ddarfod i gyndadau ein cyfoethogion etifeddol gael eu tir a'u golud trwy drais. Addefaf hynny, ond eto y mae'n well gennyf i'r cyfoethogion boneddol hyn na'r cyfoethogion difonedd; y maent yn fwy hynaws, yn fwy difalch ac yn fwy diddichell. Yn wir, caech eu bod yn fwy o ddynion na hwy ymhob modd, pe peidiech ag edrych arnynt trwy offeiriaid. Geilw rhai'r dyn a bentyrrodd olud mewn byr amser yn self-made-man. Self-unmade-man y galwaf i bob corrach. A welsoch chwi ddyn a roes ei fryd ar ennill cyfoeth yn ymboeni i ddatblygu ei ddynoliaeth ryw dro? Beth, atolwg, yw'ch syniad chwi am ddyn? Os mynnwch eich annynoli'ch hun, penderfynwch fyned yn gyfoethog. Dyma'r ffordd frenhinol i grebachu'r enaid. Ond tebygaf eich clywed yn dadlau y gall dyn fyned yn ariannog heb fod yn ariangar. Addefaf y gall, trwy ddirfawr ffawd, ond dal yr wyf fod yr amserau hyn y fath fel na all dyn, fel rheol, bentyrru arian yn gyflym heb garu arian, heb hefyd esgeuluso'i ddyletswyddau tuag ato'i hun, at ei gymydog, ac at ei Dduw. Nid wyf yn tybied bod y grediniaeth hon mor ddieithr i chwi, fel y bo'n rhaid colli amser i ddangos y rhesymau y mae'n gorffwys arnynt. Ofnaf mai ychydig sydd yn rhedeg yn chwyrn i El Dorado—i wlad yr aur—heb wneud yr hyn sydd yn annheilwng o Gristion, os nad o ddyn. Gynifer sy'n dyfod i olud trwy fath o hapchwarae. Y naill o wir ddamwain a lwydda yn ei anturiaeth, ac a ddaw felly i anrhydedd, a'r llall, druan, a fetha, ac yna a fwrir allan o'r synagog—a hynny, cofier, nid o achos ei gamwedd, ond o achos ei anffawd. Yng ngolwg rhai dynion, y mae llwyddiant yn gosod sêl o gyfreithlondeb ar bob camwri. Gwir yw'r gair sy'n dywedyd nad gloew mo'r afon honno y mae ei dyfroedd yn chwyddo'n sydyn. "Llaw y diwyd a gyfoethoga"; ond ymgyfoethogi'n arafaidd naturiol y mae ef, ac os bydd yn dduwiol yn gystal ag yn ddiwyd, ni wna Duw byth ei felltithio â chymaint o gyfoeth ag a fo'n fagl iddo.

Mawr yw gallu'r llo aur! Trwy ei gymorth ef gall dyn gael bron unrhyw swydd a chwenycha, ond ysywaeth nid oes neb mor anghymwys â'r corrach i lenwi'r swyddau a gaffo; canys dyn yw ef na chymerodd hamdden erioed i drwsio'i ymennydd, ac i ysgubo'i galon.

Rhaid addef bod llawer, hyd yn oed o'r corachod hyn, yn rhoddi'n helaeth o'u gormodedd. Y mae eu rhoddion wrth eu barnu arnynt eu hunain yn werthfawr a chymeradwy; ond a ydynt hwy drwy'r cyfraniadau hyn yn gwneuthur iawn am y dylet— swyddau a esgeulusant, am y dull a gymerasant, a'r amser a dreuliasant i gasglu corff eu cyfoeth. Atebed eu cydwybod!

Clywais rai eglwysi gweiniaid yn gwynfydu na buasai ganddynt deuluoedd cyfoethog yn perthyn iddynt. Diolchwch lawer, meddaf i, am eich bod hebddynt. Byddech yn wannach nag ydych pe cyflawnid eich dymuniad. Ni ellwch ddychmygu creaduriaid mor gostus ydynt i'w cadw. Os ydynt yn rhoi llawer, y maent yn gofyn mwy. Llusgant yr eglwysi i ddyled ddianghenraid gan na bydd gan y cyffredin na llais na llaw yn yr hyn a wneir ganddynt y mae ysbryd gweithio ac ysbryd cyfrannu yn cael ei lethu. Pan fo llawer o gyfoethogion yn yr un eglwys y maent yn hollol ddiniwed, gan fod y naill yn disodli'r llall. Nid wyf yn meddwl eich bod chwi, Mr. Gol., wrth draethu ar ddirywiad yr eglwysi wedi gosod digon o bwys ar ddylanwad yr aelodau hynny a gamenwir yn bobl fawr. Y mae'r eglwysi, fel y gwyddoch, wedi dyfod i weled mai'r unig ffordd i gadw'r bobl hyn gyda'r Methodistiaid ydyw trwy eu gwneuthur yn flaenoriaid—nid yn ddiaconiaid, cofiwch—ond yn flaenoriaid yn ystyr lythrennol y gair. Wrth reswm, y mae diaconiaid yn bod, ond urdd o bobl gyffredin ydyw honno a ordeiniwyd i wasanaethu'r blaenoriaid. Nid wyf yn awr yn bwriadu cyfrif grasau na mesur cyraeddiadau'r blaenoriaid hyn. Nid oes neb call mor ynfyd â disgwyl i ŵr mawr ddiwyno ei glos brethyn trwy ddringo'r rhiwiau serth hynny y sonia'r caniedydd amdanynt; ond y mae'r cyffredin, druain werin, yn meddwl y dylent wneud hynny, ac y mae'r meddwl yma'n peri poen nid bychan i bobl respectable. Ni faidd y diaconiaid argymell ond yn unig yr ychydig rinweddau hynny y tybir bod y gŵr mawr yn eu meddu, na chwaith gondemnio ond yr ychydig feiau hynny y digwyddo'r gŵr mawr fod yn lân oddi wrthynt. Hwyrach yr ymwrola un o'r diaconiaid weithiau, ac y dywed wrth y mawr: "Mr. Dives, y mae'n rhaid i ni osod rhyw gerydd ar Ismael Tip. Meddwdod, ac ymladd yn y ffair." "Ai e," medd Mr. Dives, "dyma'r hyn a wnewch chwi: cerydd— wch ef yn dost am ymladd, ond na soniwch air am y meddwi. Byddwch dyner wrth Absalom er fy mwyn i." Anturia'r diacon ddweud ymhellach, Meddwodd dyn arall, Mr. Dives, ac er na bu'n ymladd fel y llall, fe ddywedir iddo ei warthruddo'i hun gymaint ag yntau." Edrychodd Mr. Dives yn syn—ac ymhen ennyd, dywedodd, "Dyma'r achos mwyaf dyrys a glywais erioed! Oni ellwch chwi edrych heibio iddo?" "Na allwn, yn wir," ebe'r diacon dewr, "canys y mae'r troseddwr ei hun yn disgwyl cerydd." "Gwna hynyna'r achos yn fwy dyrys fyth," ebe Mr. Dives. Ond toc, chwanegodd, "Os oes raid ei geryddu, ceryddwch ef am ei ynfyd— rwydd yn meddwi'r dydd, yn lle meddwi'r nos," mewn dull boneddigaidd," a chyn rhoddi cwlwm ar ei araith, "cynghorwch y tlodion i fod yn fwy cyfrwys a gwyliadwrus wrth bechu, gan gofio bod yr heddgeidwaid â'u llygaid arnom ymhobman." Er mwyn bod yn fanwl, dylwn ddweud ddarfod i'r gŵr mawr guddio'i drwyn yn ei gadach pan gododd y diacon i lefaru wrth y meddwon.

Rhag i chwi, Mr. Gol., feddwl fy mod yn llai enwog am fy nhegwch nag am fy nghallineb, dymunaf gyhoeddi bod amryw fasnachwyr, etc., yn dywedyd mai dyn iawn yw Mr. Dives. Er enghraifft, bûm heddiw gyda'r eilliwr, ac fel yr oeddwn dan ei ddwylo, dechreuodd ddywedyd ohono ei hun amled a disgleiried oedd rhinweddau Mr. Dives. Cyn gynted ag y sychodd y sebon oddi ar fy ngenau, gofynnais iddo," A yw Mr. Dives wedi cael tro?' "Tro," meddai yntau, "beth ydych yn ei feddwl?" "Wel," meddwn innau, "ei gablu fyddech chwi y troeon yr oeddwn yma o'r blaen." Troes yntau'r ymddiddan trwy ofyn "Oil, or Pomade, Mr. Trevethick?" Prin yr euthum dros y rhiniog na chlywn i ddweud bod Mr. Clipper newydd gael y gwaith o eillio Mr. Dives a'i feibion.

Wrth ddychwelyd adref, trois i ystordy gwin a gwirod Katch & Co., i brynu dwy botelaid o rum. Ar ôl cyfarch gwell i'm cydgrefyddwyr a ddig— wyddai fod yno, gofynnais i Mr. Katch pa lwydd oedd ar ei fasnach. "Eithaf gwael a fuasai arnaf i," meddai, "onibai am patronage Mr. Dives a Mr. Fast. Fe wyddoch chwi beth, Mr. Trevethick, Mr. Dives yw'r cwsmer gorau a fu gennym erioed. Os na aiff e i'r nefoedd, nid aiff neb yno. Gresyn ei fod yn ddiotwr mor yswil—rhaid i ni anfon yr holl farilau mewn orange boxes; ond y mae gan bob dyn ei wendid, meddai. Dichon y daw'n wrolach yn y man."

Y mae amryw fasnachwyr eraill hefyd yn arfer siarad yn uchel iawn am Mr. Dives, wrth ddieithriaid, a chyfeillion go dafodrydd fel myfi; ond dywedir eu bod hwythau'n siarad yn wahanol amdano wrth gyfeillion sy'n medru cadw cyfrinach.

Cofia, ddarllenydd, nad dyn arbennig ydyw Mr. Dives ond dyn dosbarth. Cefais un aelod ohono yma, ac aelodau eraill acw, a thraw—a'r cwbl a wneuthum oedd eu casglu ynghyd, a gwneuthur ohonynt un corff. Os taera dy gydwybod ddarfod i'th lygaid ei weled ef yn gyfan ryw dro, yn sicr nid arnaf i y bydd y bai. Os digwydd i ti, wrth gribo dy wallt o flaen y drych, ganfod Mr. D. yn sefyll ger dy fron, gelli ei ddychrynu ymaith yn hawdd trwy ddywedyd, "Rhaid i mi un ai peidio â phechu, neu beidio â blaenori."

 Rhaid yw gadael y llo Seisnig hyd dro arall.

 Yr eiddoch yn hynaws,

 IWAN TREVETHICK.

ALLAN O'R Faner, MAWRTH 21, 1877.

V

Y LLO ARALL

FONEDDIGION,

Yn fy llythyr o'r blaen, bwrw gwawd yr oeddwn ar y llo aur: fy ngorchwyl y tro hwn yw gwaradwyddo'r llo Seisnig, gan ei wneuthur ef yn ffiaidd yng ngolwg ei addolwyr. Yr wyf eisoes wedi dweud na ellir parchu mo'r llo Seisnig ar gyfrif ei enw na'i oed. Ond er mai'r hen a berchir, eto yr ieuanc a gerir. Buasai ei ieuenctid yn ei wneud yn anghymeradwy gan genhedloedd eraill, ond hyn yn anad dim sy'n peri i'r Cymry wirioni arno! Er mai llo Seisnig y gelwir ef, eto, mewn ystyr arall, nid oes yr un llo mwy Cymreig nag ef—ffrwyth cariad y Cymry ydyw. O dan bren deiliog yng Nghymru yr ymddygwyd arno; y Cymry a roes iddo sugn; ar borfa Cymru yr aeth yn fras. Cydnabyddaf fod gan y Cymry lawer i'w ddywedyd drostynt eu hunain, ac er mwyn hepgor trafferth iddynt hwy, byddaf mor garedig â nodi dau neu dri o bethau sy'n glod iddynt. Tra bo ambell genedl yn addoli'r pell—yr haul, er enghraifft—y mae'r Cymry'n addoli'r agos. Y genedl agosaf atom yw eu duw hwy. Tra bo ambell genedl yn addoli abstract idea, y mae'r Cymry yn addoli personau: nid amgen na'r Liverpool roughs, a physgod-wragedd Billingsgate. Hyn yna o ganmoliaeth i chwi wrth fynd heibio.

Ni raid dweud wrth y rhai craffaf ohonoch nad wyf i ddim yn erbyn i chwi barchu pob Sais sydd yn haeddu parch. Dywedodd un Sais mai'r Saeson gorau yw'r bobl orau ar y ddaear, ac mai gwerin y Saeson yw'r creaduriaid dylaf a dyhiraf. Yr wyf yn credu ei dystiolaeth. Y trueni yw bod y Saeson gorau gymaint llai eu nifer na'r rhai gwaethaf. Cydnabyddaf fod miloedd o Saeson yn bobl y gellir eu parchu. Dadlau yr wyf nad yw corff y genedl Seisnig ddim yn gyfryw bobl y dylem ni'r Cymry eu haddoli a'u dynwared.

Os gellwch, ac os mynnwch, anrhydeddwch bob Sais, ond gwnewch hynny heb aberthu'ch anrhydedd eich hunain. Dangoswch iddo annibyniaeth eich ysbryd, nid trwy ei boeni â dwrn a thafod, ond trwy beidio ag ymostwng i'w efelychu yn ei feiau cenhedlol, megis ei falchder, ei daeogrwydd, ei draheusder, a'i anwybodaeth. Yn y Sais, nid yw'r pethau hyn ond amlygiadau o'i ysbryd. Ynoch chwi y maent yn amlygiadau o wasaidd-dra. Yr ydych yn ceisio gweithio eich hunain i'r un ysbryd ag ef, trwy ddwyn yr un nodau ag ef.

Da chwi, byddwch yn Gymreigaidd; cedwch nodweddion mwyaf rhagorol eich cenedl: cedwch eich iaith; byddwch yn syml fel eich tadau. Trwy wneuthur hyn, chwi a godwch ragfur a atalia lawer drwg rhag dyfod ar eich gwarthaf o Loegr. Y mae'r ysbryd gwasaidd a'r duedd ddynwaredol sydd ynoch yn eich gwneud yn wiail ystwyth yn llaw'r diafol. Ef a ddywed wrthych, "Y mae gwŷr dysgedig yn Lloegr yn anffyddwyr; byddwch chwithau'n anffyddwyr, ac felly fe'ch cyfrifir yn ddysgedig. Defodaeth sydd yn y ffasiwn yn addoldai Lloegr. A fyddwch chwi yn olaf i ddilyn y ffasiwn? Y mae'n arferiad gan y Saeson i gicio'u gwragedd: a ddylai fod awdurdod gwrywod Cymru yn llai? Pobl uniaith ac anwybodus yw'r Saeson; gan hynny, ai gweddaidd ynoch chwi, weision, yw bod yn fwy dysgedig na'ch arglwyddi? Os mynnwch ladd cenfigen y Saeson tuag atoch, ymfoddlonwch ar wybod tipyn o'r iaith Saesneg yn unig; neu yn hytrach, byddwch heb yr un iaith, fel y Dic Sion Dafyddion. Gwnewch y tro, hyd yn oed felly, yn gymynwyr coed ac yn wehynwyr dwfr i'ch gorchfygwyr. Y mae'n rhaid i mi addef bod gennych chwi yng Nghymru un ddefod genhedlol na fynnwn er dim i chwi ei bwrw ymaith. Cyfeirio yr wyf yn awr at eich dull gweddus o garu. Rhaid i mi gael gan y Saeson fabwysiadu'r dull hwn, ond cyn y gallaf eu perswadio i wneud hynny, rhaid i mi beri iddynt gredu mai o Ffrainc y mae'r ddefod yn dyfod."

Dyna fel y sieryd y diafol. Fel beirniad teg, ni fynnwn ddweud gair yn amharchus am alluoedd y diafol, ond nid ofnwn ddweud, ie, yng ngŵydd y prif farnwr Cockburn, ei fod yn greadur mor gelwyddog â John Jones, o Lan——; am hynny, cred di fi, ddarllenydd. Yr wyf i yn adnabod y Saeson yn well na llawer; ac yr wyf wedi dyfod i weled mai'r ffordd orau i ryngu bodd y Sais ydyw trwy beidio â dangos yn rhy amlwg dy fod yn malio am ei anfodd. Ymostwng i Sais ac ef a'th fathra; gosod dy hun ar yr un tir ag ef, ef a'th barcha. A ydych chwi’n meddwl, Gymry, eich bod yn fwy eich parch gan y Saeson oherwydd eich bod yn ymboeni i ymdebygu iddynt, ac i fyw yn gwbl iddynt? Nid ydych felly yn sicr, y maent yn eich diystyru o eigion eu calon.

A welwyd erioed genedl mor blentynnaidd a gwasaidd â'r Cymry presennol? Dangosant eu gwaseidd-dra yn y pethau lleiaf yn gystal ag yn y pethau mwyaf. Clywir am bethau fel hyn weithiau. Gofynna'r lletywr i'r tafarnwr, "I say, man, beth yw enw'r dref acw?" "Llynllychar, syr."

Llynllychar, syr." "Pa beth?" Llynllychar, syr." A ydych chwi'n galw peth fel yna'n enw?" "Clywais ddweud nad oes yn yr enw yna, syr, un sain, syr, na cheir hi yn ieithoedd y Cyfandir, syr." "Beth yw ieithoedd y Cyfandir i mi? Sais wyf fi, a gŵr bonheddig hefyd. Dyma chwi: os na roddwch enw mwy Cristnogol ar y dref acw erbyn y deuaf yma nesaf, myn einioes—." "O! na enynned llid fy arglwydd Sais yn erbyn ei was, ac na reged ef yn ddirfawr. Ein tadau dwl a alwodd y dref ar yr enw yna. Atolwg, pa seiniau sydd yn peri tramgwydd i'm harglwydd, fel yr alltudiom hwynt. Ein hyfrydwch mwyaf ni'r Cymry fydd gwneud pob enw mor esmwyth ag sydd bosibl i gegau bendigedig Saeson." "Gwnewch hynny ar frys ynteu," ebe'r Sais, ac na roddwch achos i mi i fyned i drafferth i'ch rhegi'r tro nesaf."

Y mae'r Saeson wedi dyfod i wybod erbyn hyn na raid iddynt hwy ddim ymostwng i gyfaddasu eu genau at enwau Cymraeg gan fod y Cymry mor rasol â chyfaddasu'r enwau at eu genau hwy, ac mor ymostyngar hefyd fel ag i seinio pob enw—nid fel y dylid ei seinio, ond fel y camseinir ef gan y Saeson.—Clywais rywbeth ar wedd pregethwr yn gofyn am docyn i fyned i Penmenmore. O! fel yr oeddwn yn ei ddiystyru! Tebyg yw y buaswn wedi ei ffonodio i bwrpas onibai i'm cydymaith fy nyhuddo. Meddai wrthyf, a roddwch chwi achos i'r bachgennyn gwirionffol yna i ffrostio ei fod wedi ei gosbi gan Iwan Trevethick yn ddigyfrwng? Gadewch iddo dyfu tipyn cyn ei anrhydeddu â ffonnod. Hwyrach hefyd, ei fod yn myned i bregethu at yr Anglo-Welsh Presbyterians, a gwyddoch cystal â minnau nad oes odid neb o'r sect honno'n alluog i ddarllen a gweddïo yn Saesneg. Felly, ped analluogid y pregethwr hwn i fyned i'w gyhoeddiad, byddai gorfod ar y Presbyteriaid, naill ai myned allan heb addoli, neu ynteu fyned i wrando ar un yn pregethu yn eu hiaith eu hunain; a byddai'r pechod diwethaf yn fwy na'r cyntaf." A wyddoch chwi rywbeth am Benmaenmawr?" meddwn wrtho. "Na wn i," meddai yntau. "Felly," meddwn, "ni ddylech farnu eu bod hwy yno mor anhyddysg yn yr iaith Saesneg ag yw'r Anglo-Welsh Presbyterians mewn lleoedd eraill." "Felly, ni a'u cyfrifwn hwy yno yn eithriad," ebe fy nghyfaill. "Wrth reswm (meddwn innau)—na lefarwn ond am a wyddom."

Gan i mi gyffwrdd fel hyn â'r achosion Seisnig, gallaf sylwi mai gwaseidd-dra cenedlaethol a osododd sail y rhai hyn, ac mai rhodres rhai o'n cydwladwyr a gododd y muriau. Os digwydd i fethdalwr ac anturiwr, a golchwraig ddyfod o Loegr i ardal Gymreig, O! y fath gyffro a bâr hynny drwy'r gwersyll Methodistaidd! Heb ymofyn o gwbl a yw'r cyfryw bobl yn bwriadu trigo yn yr ardal, neu a oes ganddynt wynt at y Methodistiaid, gwneir brys i godi English Presbyterian Church iddynt, ac i gael English Presbyterian pastor arnynt. Addewir swydd anrhydeddus hefyd, i bob Trefnydd Calfinaidd Cymreig a elo yno atynt. Penodir un yn gyhoeddwr, un arall yn ddrysor, un arall yn arweinydd y canu, un arall i chwarae offeryn cerdd, ac un arall yn master of the ceremonies. Delir o flaen eraill y gobaith o gael eu gwneud yn flaenoriaid—lay elders, a siarad yn fanwl. Cysurir y lleill â'r ffaith ei bod yn llawer haws iddynt gysgu o dan bregethwr na ddeallant nag o dan bregethwr a ddeallant. Trwy nerth y cymhellion hyn, ac eraill o gyffelyb natur, llwyddir i gael cynulleidfa led gryno. Ond cyn pen hir y mae'r swyddau'n myned yn ddiwerth yn eu golwg, y Saeson yn diflannu, newydd-deb y peth yn colli, a'r bobl yn blino ac yn graddol ymwasgaru. Ond gan fod arnynt ormod o gywilydd i ddychwelyd at y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig, y maent yn myned at yr enwad Sefydledig, neu ynteu yn peidio â myned i un lle i addoli. Wrth fynegi bod yr achosion Seisnig mewn lleoedd Cymreig wedi bod yn achos i lawer golli eu tipyn crefydd, nid wyf ond yn dywedyd "geiriau gwirionedd a sobrwydd."

Dichon dy fod di, ddarllenydd, er gwaethaf y teimlad o dosturi, yn methu peidio â gwenu o glust i glust wrth ddarllen yr ymadroddion uchod. Nid i mi y mae'r clod, ac nid arnaf i y mae'r bai dy fod yn gwenu. Addefaf yn rhwydd nad oes gennyf i ddim dawn i wneuthur pethau cyffredin yn anghyffredin. Dywed disgyblion Lavater nad wyf i ddim yn enwog am fy ngallu disgrifiadol. Ni allaf i wneud mwy na nodi pethau yn union fel y maent. Gan hynny, os bydd i'r mynegiad syml hwn o ffeithiau perthynol i'r achosion Seisnig beri rhyw gymaint o ddifyrrwch i ti, dod y gogoniant nid i mi ond i sefydlwyr a chefnogwyr yr Anglo-Welsh Presbyterian Churches.

Ond dywedir wrthym gan y rhai a fynnai gael eu tybied yn broffwydi, "y mae'r iaith Gymraeg yn myned i farw." Felly. Darfyddai am bob iaith ar wyneb y ddaear pe bai pawb fel chwi. Pe trinid chwi fel yr ydych chwi yn trin y Gymraeg, trengai pob copa ohonoch cyn Calanmai. Pe gomeddai eich cyfeillion i chwi ymborth, pe tyngai mil o ynfydion fod argoelion marwolaeth yn eich gwedd, pe dygid eich arch i'ch ystafell, a phe cenid eich cnul yn hirllaes, pa sawl un ohonoch a fyddai byw i ddarllen llythyr nesaf Iwan Trevethick? Er bod fy syniad i amdanoch yr hyn yw, eto, yn gymaint â bod eich nifer mor lliosog, rhaid i mi gydnabod bod eich gallu i wneuthur niwed yn fawr. Gan hynny, os parhau a wnewch i gydfwriadu â'r Saeson yn erbyn bywyd y Gymraeg, y mae arnaf ofn mai marw a wna; ond os bydd i chwi am unwaith gymryd plaid y bobl wybodus ac annibynnol, a phenderfynu y caiff y Gymraeg fyw, byw a fydd. Y mae tynged yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar ewyllys y Cymry eu hunain. Ni ddywedaf y byddai marw crefydd Cymru ym marwolaeth y Gymraeg, er y credaf y derbyniai ergyd arw. Ond credaf yn sicr y derfydd am Fethodistiaeth o Gymru pan ddarfyddo am y Gymraeg. Er gwaethaf rhai eithriadau, y mae digon o ffeithiau i brofi bod hoedl y ffurf hon ar grefydd ynglŷn wrth hoedl y Gymraeg. Y mae Methodistiaeth yn llys— ieuyn mor genedlaethol fel na all dyfu ond ar bwys iaith genedlaethol. Nid yw rhai o'n harweinwyr heb wybod hyn. Gelyniaeth at Fethodistiaeth ddiledryw sy'n peri i lawer o Fethodistiaid hanner gwaed fod mor awyddus i sefydlu English Presbyterian Churches mewn lleoedd nad oes mo'u heisiau. Wedi y galluoger hwynt i godi nifer lled dda o'r achosion Seisnig hyn, gwnânt bont ohonynt i fynd trosodd i dir Presbyteriaeth. Gwisgant yr enw Presbyteriaid yn awr; yng nghwt yr enw daw'r trefniant.

Fethodistiaid, arferwch eich barn; na chymerwch eich hudo gan genhadon cyflogedig i roddi'ch arian at sefydlu achosion sy'n tueddu i niweidio crefydd, i ddinistrio'ch enwad, eich iaith, eich annibyniaeth, a'ch holl neilltuolion crefyddol a chenedlaethol. "Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd." A yw'r gair hefyd yn eich Beibl chwi? Os felly, mynnwch wybod ei rym

a'i ystyr. Fel personau neilltuol yr ydych yn hunangar iawn, ond fel cenedl yr ydych y rhai mwyaf anhunangar ar y ddaear. Ni fynnwn ar un cyfrif i chwi fod mor hunangar â chenedl y wlad honno where charity begins at home and ends at home. Ond am eich cariad chwi y Cymry, oddi cartref y mae'n dechrau, ac oddi cartref y mae'n terfynu. Os na adewch i hunangariad drigo o'ch mewn, bydded ynoch dipyn o hunan-barch ynteu. Dangoswch nad gwneud nyth i'r gog Seisnig yw unig amcan eich creadigaeth. Cofiwch mai eich sarhau eich hunain yr ydych, a sarhau'r Saeson hefyd, wrth aberthu'ch ceiniogau cochion i gynorthwyo pobl sy'n ymgreinio mewn aur a gemau. Gadewch i'r meirw gladdu eu meirw. Gadewch i'r Saeson ddarbod dros y Saeson—Saeson Lloegr dros Saeson Cymru, oni allant ddarbod drostynt eu hunain.

Ond os cudd eu mamau eu bronau rhagddynt, paham y mae'n rhaid i ni fyned yn famaethod iddynt? Os ydynt yn dyfod atom i fyw, boed iddynt eu cyfaddasu eu hunain atom. Onid ydym wrth eu bodd hwy, boed iddynt ddychwelyd i'w gwlad eu hunain. Y mae digon ohonynt eisoes yn bwyta braster y wlad hon heb i neb ei gwneud hi mor gysurus iddynt fel ag i ddenu chwaneg ohonynt yma. Dysgwch eu hiaith hwynt, ond nid er mwyn hepgor iddynt hwy'r drafferth i ddysgu eich iaith chwi. Dangoswch iddynt fod gennych iaith gwerth ei dysgu, ac iaith y mae'n rhaid iddynt ei dysgu cyn cael mwynhau eich rhagorfreintiau crefyddol, ac oni bydd eu hathrawon yn anfedrus iawn, a hwythau'n fwy pendew nag y tybiaf eu bod, gallant cyn pen blwyddyn ddeall a darllen Cymraeg yn rhwydd.

Ond y mae hyn oll yn impracticable, meddai'r gwŷr bach Seisgar. Tebygaf fod popeth yn impracticable i chwi ond llyfu traed y Saeson.

Pe buaswn yn Gymro o waed coch cyfan fel un ohonoch chwi, hwyrach y gallaswn gyd-ddwyn â'ch gwaseidd-dra; ond tra bo gwaed cenedl fwy annibynnol yn rhedeg yn fy ngwythiennau, ni allaf ond ystyried eich gwaseidd-dra yn ffieiddbeth, a chwithau yn ddirmygedig.

 Yr eiddoch, &c.,

 IWAN TERVETHICK (sic.)

ALLAN O'R Faner, EBRILL 11, 1877.

VI

PAUL MEWN DILLAD NEWYDD;

NEU O.C. 66 VERSUS O.C. 1877

Y mae'n debyg bod dyfodiad yr Apostol Paul i Lerpwl echdoe yn beth hysbys erbyn hyn i bawb sy'n arfer darllen y papurau beunyddiol. Yn wir, nid hawdd meddwl bod ffaith mor hynod â hon heb gyrraedd clustiau pawb eraill hefyd. Ofer gan hynny, fyddai i mi bellach ymdroi i fynegi o ba le, ac ymha long y daeth Paul yma, pwy a'i derbyniodd ef ar y man glanio, pa sawl rhoch magnel a ddychrynodd wylanod, sawl awyren a gystadlodd â'r ehedydd, sawl amserell aur a newidiodd feddiannydd, sawl seindorf a ganai "See the conquering hero comes," sawl ymladdfa a fu rhwng y gwahanol enwadau crefyddol amdano, beth oedd barn y benywod am ei berson, pa heolydd yr arweiniwyd ef ar hyddynt, ymha le a chyda pwy y ciniawodd, beth a ddywedodd yn ateb i'r toast "To the clergy," a chant o bethau eraill. Ymfoddlonaf yn unig ar roddi adroddiad o'r hyn a gymerodd le yn St. George's Hall drannoeth. Yno derbyniodd Paul GENHADAU (deputations): — 1. Oddi Wrth y Gwragedd.—Dyfod ato i ymofyn a wnaethant hwy pa fodd y bu i ddiwinydd o'i fath ef gael ei demtio i wneud sylwadau beirniadol ar wragedd chwedleugar, ac ar eu gemau, a'u gwallt, a'u gwisgoedd. Dywedent wrtho nad oes yn awr odid eneth ddengmlwydd oed ar nas gŵyr fod ei ateb i'r gofyniad mawr "Beth a wisgwn" yn gwbl gyfeiliornus y mae nid yn unig yn anghyson â deddfau chwaeth y merched eu hunain, ond hefyd, yn wrthwyneb hollol i ddeddfau misol golygydd anfarwol y Follet. Credent na allai byth broselytio holl wragedd Ewrop oni roddai iddynt berffaith ryddid i siarad ac i ymwisgo fel y mynnent." Atebodd Paul, "Angelesau diedyn, y mae'n ddrwg iawn gennyf ddarfod i mi erioed eich brifo; ond goddefwch i mi awgrymu'n fwynaidd nad teg iawn yw eich gwaith yn bwrw i'm dannedd ymadroddion a ysgrifennais mewn llythyrau cyfrinachol at Timotheus ac eraill. Ni ellwch chwi eich hunain lai nag addef y byddwch yn ysgrifennu llawer llythyr at eich cyfeillion na fynnech er dim iddynt gael eu cyhoeddi; ond felly ysywaeth y digwyddodd gyda'm llythyrau i. Byddai'n haws i chwi faddau i mi pe cofiech hefyd fy mod y pryd hwnnw yn hen lanc croendew, a gwyddoch o'r gorau fod pob hen lanc yn barotach i ddodi iau ar war merch nag i ddodi modrwy am ei bys. Ond wedi gweled ohonof ferched glân y Gorllewin, meddiannwyd fi gan deimlad mwy tyner. Teflwch oddi wrthych gan hynny bob rhwymau a osodais arnoch yn amseroedd yr anwybodaeth. Pe buasai merched y Dwyrain cyn laned ag ydych chwi, odid na phriodaswn un ohonynt. Beth bynnag am hynny, y mae'n sicr y buasai eu prydferthwch wedi fy atal rhag ymyrryd dim â'u ffasiynau. Cyn eich gollwng ymaith, dymunaf roi ar ddeall i chwi mai cymeradwy iawn gennyf i yw'r dull Jesebelaidd sydd ar eich cyrff a'ch gwisgoedd. Onid ymddangoswch yn y dull hwn mewn dawnsfeydd a chyngherddau, byddwch yn euog o guddio'ch gogoniant dan lestr." Ar ôl diolch iddo, aeth y merched ymaith yn llawen.

2. Oddi Wrth Brif Deilwriaid Rhydychen.— Gofyn i Paul a fyddai mor fwyn â dweud wrthynt beth oedd lliw a llun y cochl a adawodd Nhroas.

3. Oddi Wrth yr Eglwys Lydan:—Gofynnodd y cenhadau iddo a oedd yn parhau i goleddu syniadau mor gul am Iddewiaeth a chrefyddau eraill, ac a oedd yn barod i alw yn ôl y geiriau geirwon a lefarodd am Baganiaid moesol a dysgedig. Cyn myned allan, parasant iddo ddarllen Nathan der Weise, o waith Lessing, er mwyn ehangu ei gydymdeimlad.

4. Oddi Wrth y Bedyddwyr.—Gofyn iddo a glywsai gan Phylip beth oedd hyd, a lled, a dyfnder y llyn y bedyddiwyd yr eunuch ynddo; hefyd, a oedd gan geidwad y carchar blant bychain.

5. Oddi Wrth y Calfiniaid.—Gofynasant i Paul sut y bu i un fel ef, a gafodd ysgol dda, arfer ymadroddion mor amwys a llac yn ei lythyrau. Nid oeddynt heb gredu ei fod yn Galfiniad o'r iawn ryw, ond yr oedd wedi ysgrifennu rhai ymadroddion â gwedd Arminaidd arnynt. Credent pe cymerasai amser i ysgrifennu yn fwy manwl a chyson na buasai'r un Arminiad yn byw heddiw.

6. Oddi Wrth yr Arminiaid.—Nid oeddynt yn hoffi gwenieithio i neb, ond ni allent ymatal rhag tystio wrtho eu bod yn edrych arno fel un o ddisgyblion galluocaf Arminius. Bron na ddywedent ei fod yn ail i Iago ei hun. Er hynny, yr oedd yn ofidus ganddynt weled yn ei lythyrau rai geiriau a brawddegau â thuedd ynddynt i fagu Calfiniaeth. Dymunent wybod pa un ai i frys Paul, ai i ddichell rhyw adysgrifiwr yr oeddynt i briodoli'r brychau hyn.

7. Oddi Wrth y 'Sais-addolwyr.—Deisyfent gael gwybod gan Paul pa un yw'r ddyletswydd fwyaf Cristiolus, ai ceisio troi'r Cymry dwyieithog yn Saeson uniaith, ynteu pregethu'r Efengyl iddynt yn iaith eu mam.

8. Oddi Wrth y Pregethwyr Cerddorol.—Eisiau gwybod oedd arnynt hwy pa waith oedd yn dwyn mwyaf o elw iddo ef a'i gyfaill Silas, ai canu ynteu pregethu. Mynnent hefyd iddo ddywedyd wrthynt, ar ei wir, a oedd y gerdd a ganasant gynt yn y carchar cyn goethed â'r cerddi a genir ganddynt hwy ambell nos Sadwrn mewn capelau.

9. Oddi Wrth Undeb y Gweithwyr.—Eu neges hwy oedd gofyn iddo a oedd y cynghorion a roddodd i weision y Dwyrain yn yr oes apostolaidd yn gynghorion y disgwylid i weision Prydain eu gwneud yn yr oes rydd a golau hon. Os oeddynt felly, pa fodd y cydsafai'r cyfryw rwymedigaethau ag "annibyniaeth" y gweithiwr.

10. Oddi Wrth Ddosbarth o'r Amaethwyr.— Deisyfent gael gwybod a oedd sicrwydd bod gan y creaduriaid deudroed hynny a elwir gweision a morynion, y fath beth ag enaid o'u mewn; os oedd, dymunent wybod ymhellach a oedd rhyw rwymau arnynt hwy i ymddwyn tuag atynt fel perchenogion enaid. Gofynasant hefyd onid oedd yn tybied bod y gyfryw ystafell gysgu ag oedd ganddynt i'w llanciau a'u llancesau yn eu gosod hwynt ar dir manteisiol iawn i gyflawni'r gorchymyn cyntaf yn Genesis.

11. Oddi Wrth Ddosbarth Neilltuol o'r Cyfoethogion (gyda heddgeidwad o'u hôl).—Agorodd eu blaenor ei enau, gan ddywedyd "Y gwas Paul, y mae gennym beth i'w ddweud wrthych. Yn gyntaf dim dymunem ddwyn ar gof i chwi fod eich het am eich pen. (Paul yn ei thynnu mewn dychryn.) Bellach at ein cenadwri:—A ydych chwi, Paul, yn barod yn awr i gyfiawnhau'r cyfeiriadau pigog a diystyrllyd a wnaethoch atom ni, y Neo-Aristocrats, yn eich llythyrau at Timotheus, ac eraill? Pwy yn y wlad hon a wynebodd y cyfoethogion ac a lwyddodd? Gwybyddwch mai ynfytyn a chablwr a hunan-leiddiad yw'r neb a ddywedo'r gwir am yr arianogion, neu wrthynt." Yna Paul, wedi llygadu ar y gefynnau yn llaw'r heddgeidwad, a lefodd â llef uchel, "O! Timotheus, Timotheus, dy annoethineb di a'm dygodd i'r cyfyngdra hwn. Paham na losgaist fy llythyrau ar ôl eu darllen? Yn awr, gan hynny, boed fy ngham i arnat ti." Yna, gan syrthio ar ei liniau o flaen y dirprwyon, ef a ddywedodd, "O feistriaid, trugarhewch, trugarhewch. Am bob gair du a ysgrifennais amdanoch, yr wyf yn addo ysgrifennu cyfrol o iaith wen. Tyngu yr wyf heddiw na ddywedaf y gwir wrthych byth mwy. Ni soniaf mwyach am 'grai nodwydd ddur fy athro, ond cyhoeddaf i'r rhai goludog fod y fynedfa i'r nefoedd cyfled â drws eglwys a chyfuwch â phyrth Thebes. Addawaf gyhoeddi heddwch pryd na bydd heddwch. Dadleuaf dros godi achosion Seisnig, Ffrengig, ac Ysbeinig, mewn lleoedd nad oes mo'u heisiau gwnaf rywbeth, gwnaf bopeth, er mwyn ennill eich ffafr chwi, ac hefyd sicrhau fy nghysur fy hun."

Yna blaenor y ddirprwyaeth a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, "My dear Mr. Paul, y mae'n ddiogel gennyf fy mod yn mynegi teimlad pob un o'r rhai sydd gyda mi, wrth ddywedyd bod eich ymostyngiad yn ein cymodi (clywch, clywch). Nid ydym ni byth yn euog o faddau'n frysiog i'r neb a'n tramgwyddo, ond y mae'ch edifeirwch dwys a'ch addunedau difrifol chwi yn ein temtio i dorri ar ein harfer. Y mae'r ystwythder rhagorol a ddangosasoch yn awr wedi'ch gwneud yn werthfawr yn ein golwg. Cewch weled yn fuan y bydd ein cefnogaeth ni yn fantais anhraethol i chwi. In fact, Mr. Paul, it will be the making of you.' Ni raid dweud wrthych y gallwn ni wneud heboch chwi, y pregethwyr, ond ni all y pregethwyr wneud dim ohoni hebom ni. Gan hynny, gwyn ei fyd y gŵr a ŵyr pa fodd i'n boddhau. Yn awr, rhaid i ni fyned ymaith, onid e byddwn ar ein colled. Bydd yn dda gennym gael eich cyfeillach heno yn Puncto Place; anfonir cerbyd i'ch cyrchu. Au revoir."

Enter Iwan Trevethick yn ddigofus. "Paul, Paul, beth yn enw gwirionedd a ddarfu i chwi? Ai i chwarae'r ffon ddwybig y'ch gwahoddais i Brydain? Wele, mi a ddywedais ynof fy hun, ni wrandawant ar Iwan Trevethick am mai Iwan Trevethick ydyw, odid na wrandawant ar Paul. Erbyn hyn, wele Paul wedi dyfod, ond O! mor annhebyg ydyw iddo'i hun. Disgwyliais am lewddyn, ond llwfrddyn a ddaeth. Craig oedd o flaen fy nychymyg, ond ymenyn sydd o flaen fy llygaid. Edrychais am ŵr a ddatguddiai'r cerrig terfyn rhwng y byd a'r eglwys, yntau a gladdodd y garreg olaf. Disgwyliais am ddyn a gyhoeddai y gwir yn erbyn y byd '; yn lle hynny, mathrodd y gwir, a chydymagweddodd â'r byd. Bellach, Rodres, nac ofna. Ffug, cymer galon. Y Llo Aur, bydd fyw byth. Chwithau, Waseidd-dra a Gweniaith, teyrnaswch mewn heddwch. Wybodaeth, ymgryma i Gyfoeth. Gallineb, dod barch i Uchelgais. Llawenhewch, waseiddwyr, canys er pan ddaeth y Paul hwn i Brydain, fe chwanegwyd un at eich nifer. Ond ust! fy enaid, gwell yw ymliw nag ymson. Yn ddiau, Paul, siarad a gweithredu yn anghyson iawn a ddarfu i chwi heddiw, a gofidiaf am hynny hyd fy marw. Er hynny, aeth fy nigofaint heibio ar edyn y geiriau sydd newydd ddianc o'm genau. Yn awr gan hynny, Paul, pa lwybr a fyddai orau i mi ei gymryd i'ch cyfiawnhau? Geil fy nghariad ddyfeisio esgusion lawer i ddieuogi cyfaill." Atebodd Paul, "Ni ddywedais heddiw ond yr hyn a ddylaswn. Os mynnwch eich profi eich hun yn gyfaill i mi, esgusodwch, yn hytrach, y culni a'r llymder a ddangosais yn fy epistolau. Rhaid addef ein bod ni yn yr oes gyntaf yn llawer mwy pendant a rhagfarnllyd nag yw dynion yn yr oes hon. Os parhau a wnaf i fod megis cynt, byddaf ddeunaw can mlynedd, neu chwaneg, ar ôl yr oes. I ochel hynny, yr wyf am fy nghymodi fy hun â'r genhedlaeth hon trwy fy ngwneud fy hun ym mhob peth yn modern man. Clywais fod rhyw bethau a ysgrifennais ynghylch ffiniau barn a buchedd yn atal llawer o bobl weiniaid a gorgrefyddol rhag credu a gwneuthur yn ôl eu hewyllys. Yr wyf ar fedr esmwythau eu cydwybodau trwy symud pob maen tramgwydd oddi ar y ffordd. Yfory, mi a ym— neilltuaf i'r Hafod Unig, sydd ar fynydd Hiraethog, er mwyn cael hamdden i baratoi argraffiad newydd o'm hepistolau. Bwriadaf dynnu llawer oddi wrthynt, a chwanegu llawer atynt. Hyderaf y byddant yn eu gwedd ddiwygiedig yn, hollol ddi- dramgwydd. Gwnaf ymdrech deg i ddileu popeth sydd yn annygymod â chwaeth, ac yn aflonyddu ar gydwybod y beau monde. Cyhoeddaf y fath ryddid iddynt ag a'u dygo i deimlo na fydd yr efengyl fwyn, yn ôl Jean Jacques Rousseau, ond megis cyfraith gaeth wrth fy efengyl newydd i." Ocha fi, beth a glywaf. Ai diau, Paul, mai chwi ydych chwi; os mai e, rhad arnoch.

Exit IWAN TREVETHICK.

O.Y.—Hwyrach y dichon i ddieithrwch y dull hwn o ysgrifennu beri i rai anghyfarwydd gamfarnu ysbryd ac amcan yr ysgrifennydd. Fe allai y dywed y rhai craff wrthynt beth yw ergyd yr ysgrif.—I.T.

ALLAN O'R Faner, GORFFENNAF 11, 1877.

VII

GAIR AT RIENI CYMREIG

Awn allan o'm ffordd ped ymofynnwn ar hyn o bryd a yw'r iaith Gymraeg yn marw, ai nid yw; a yw hi'n haeddu byw, ai nid yw: yr hyn y mynnwn i chwi ei gofio ydyw ei bod yn fyw heddiw. Y mae yn ein plith ddigon a gormod o bobl i ddweud wrthych beth sydd gennych i'w wneuthur yn wyneb yr hyn a all fod. Fy ngwaith i yw cyfeirio'ch llygaid yn barchus at eich dyletswyddau yn wyneb yr hyn sydd yn bod. Y perygl ydyw i ni, wrth gael ein cynghori'n ddiddiwedd i ofalu dros drannoeth, anghofio bod i heddiw ei waith ei hun, a hefyd i anghofio bod y fath amser a heddiw yn bod. Swm y cyngor a roddaf i chwi yn y llythyr hwn yw, gwneuthur ohonoch yn y modd gorau yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneuthur ryw fodd. Yr ydych trwy'ch esiampl eich hun, neu trwy gyfryngau eraill, yn dysgu rhyw gymaint o Gymraeg i'ch plant. Yn awr, fy nadl yw os ydyw'r Gymraeg yn haeddu cael ei dysgu o gwbl, y dylai gael ei dysgu'n dda. Yng nghanol pobl a phethau Cymreig y mae eich plant yn byw; adnodau a chaniadau Cymraeg a ddysgwch iddynt; i wrando gwasanaeth crefyddol Cymraeg y mynnwch eu harwain. Yn awr, pa fodd y gall yr adnodau, yr emynau, a'r pregethau hyn gyrraedd eu hamcan arnynt, oni byddant yn eu prisio ac yn eu deall; a pha fodd y deallant hwy hwynt os na ddysgir hwy? Gan fod eich Saesneg chwi sy'n rhieni iddynt mor garpiog—mor garpiog o'r hyn lleiaf â'ch Cymraeg y mae'ch plant yn tyfu i fyny heb fedru siarad un iaith yn briodol. Yr wyf yn dweud hyn er cofio eu bod mewn ysgolion beunyddiol. Y mae arnaf ofn bod rhieni yn taflu'r gwaith o ddysgu eu plant yn rhy lwyr ar athrawon yr Ysgol Sabothol, yn gystal â rhai'r ysgolion beunyddiol. Y mae cael offeiriaid a bugeiliaid ac athrawon ysgolion i roddi addysg grefyddol i blant wedi dyfod yn fath o angenrheidrwydd erbyn hyn. Y mae llawer mam foethus yn cadw mamaethod llaeth mewn mwy nag un ystyr. Y peth nesaf a wna'r mamau hyn fydd rhoddi genedigaeth i'w plant trwy ddirprwy.

Y mae athrawon yn dra buddiol fel cynorthwywyr, ond ni ddylid gwneuthur dirprwywyr ohonynt. Yn briodol, braint a gwaith rhieni yw dysgu eu plant. Hwynt—hwy a allai wneuthur y gwaith hwn orau o lawer. Yn awr, un o'r pethau hynny y perthyn i'r rhieni eu dysgu mewn modd arbennig i'w plant ydyw eu hiaith. Ni all athro ddysgu Cymraeg i'w blentyn fel y gall ei fam ef wneud; ni all 'chwaith ddad-ddysgu'r math hwnnw o Saesneg a ddysgodd hi iddo. Cymer rhieni boen fawr i ddysgu iaith anwesog, floesg, i'w plant yn eu babandod, ond nid ymboenant ddim ar ôl hynny i'w dysgu i siarad yn groyw a phriodol. Onibai am athrawon ni cheid ond ychydig o blant a fedrai hanner deall eu Beibl, a hynny'n gwbl am na chynefinwyd hwy gartref â'i eiriau a'i ymadroddion, ac y maent ymhell o wybod y pethau hyn fel y dylent, er cael cymorth athrawon.

Y mae llawer ohonoch yn rhieni i blant na allant, oherwydd rhyw amgylchiadau, byth obeithio siarad Saesneg yn gywir a rhwydd. Cymraeg, yn ôl pob tebyg, fydd yr iaith a arferant yn bennaf hyd eu bedd. Yn awr, os oes raid iddynt siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg o gwbl, byddai'n dda iddynt allu gwneud hynny yn gywir ac yn olau. Fel y bo iaith dyn y bydd ei feddwl. Y mae'n rhaid i ddyn wrth iaith dda, nid yn unig i fynegi ei feddyliau, ond hefyd i roddi bod iddynt. Nid yn unig y mae'r meddwl yn dylanwadu ar iaith dyn, ond y mae ei iaith hefyd yn dylanwadu ar ei feddwl; ac felly, mewn modd anuniongyrchol, ar ei holl ymarweddiad. Wrth ddysgu arferion da i'ch plant, dysgwch iaith dda iddynt hefyd; ie, cofiwch fod dysgu iaith dda yn un o'r arferion da hynny. Onid oes gennych na gallu na hamdden i ddysgu'ch plant yn athrawiaeth iaith, dysgwch hi iddynt yn yr ymarferiad ohoni. Rhoddwch iddynt o leiaf bob cefnogaeth "foesol i'w dysgu. Peidiwch â siarad yn sarhaus amdani yn eu gŵydd hwynt. Anrhydeddwch hi pe na bai ond er mwyn ei henaint.

Er mai Ymneilltuwyr yw llawer ohonoch, y mae rhyw barchedig ofn yn dyfod arnoch chwithau o flaen yr hen hen eglwys yna. Yn wir, nid gwaeth gennych gael eich gweld yn myned yn sentimental uwchben ceiniog hyll, os gellwch, trwy'r rhwd a'r baw, ddarllen Anno Domini, MCCCCI.

Daliwch yn awr ar hyn o holl hen bethau Cymru, y rhyfeddaf a'r gwerthfawrocaf yw iaith Cymru. Atolwg, chwi drigolion tref Y Faner, pa beth yw'r murddyn llwydaidd afluniaidd acw sydd wedi meddiannu'r clogwyn mwyaf golygus yn eich tref? "Dyna'r castell." I ba beth y mae o dda? "I gadw flower shows." Onid yw o'n dda i ddim arall? "O ydyw, y mae'n dda i—i—i edrych arno." Oni ddymunech gael rhywbeth mwy buddiol, megis palas, neu garchar, neu fop-asylum, neu factory, neu felin wynt, yn ei le? "Dymunem gael y cwbl, ond nid un ohonynt yn lle'r hen gastell." Paham yr ydych mor anewyllysgar i dynnu i lawr adeilad mor hen, mor dyllog? "A! am ei fod felly y mae mor werthfawr yn ein golwg; y mae swyn yn ei henaint; y mae ideas yn ei dyllau." Beth, a yw pobl Dinbych hefyd ymysg y Ceidwadwyr? A yw golwg ar yr hen gastell yn gyrru eu Radicaliaeth i ffoi? O! na theimlent at eu hiaith fel y maent yn teimlo at eu castell; a hynny am yr un rhesymau, oni wyddant am rai cryfach. Ond y maent hwy, er yn arddel eu castell, yn gwadu eu hiaith. Gwna rhai ohonynt y fath "ymdrechion gorchestol" i ddynwared y Saeson fel y bo'n amhosibl i ddyn wybod mai Cymry ydynt—hyd oni chlywo hwynt yn siarad Saesneg. Gwyddoch fod gwŷr enwog yn Lloegr yn ysgrifennu'n gryf, ond yn ofer ysywaeth, yn erbyn yr ysbryd Vandalaidd sy'n llywodraethu'r dosbarth masnachol yn Lloegr; sef y dynion hynny a dynnai i lawr dŵr Llundain er mwyn cael y cerrig i godi darllawdy. Ai tybed nad oes gennyf innau a'm bath gystal achos i achwyn yn erbyn Vandaliaeth y meinionbethau hynny sy'n gwastraffu eu hamser i ddinistrio iaith na fedrasant hwy erioed mo'i dysgu: dynion sy'n dywedyd "surion, surion," am y sypiau grawnwin mawrion aeddfed" y maent hwy'n rhy gorachaidd i'w cyrraedd; dynion sydd â'u clychau trystiog diorffwys yn canu cnul claf nad yw eto'n meddwl am farw? Taera'r Stauntons Cymreig hyn mai marw o farwolaeth naturiol y mae'r iaith a ymddiriedwyd iddynt, ond dywed y wlad, os yw hi'n marw o gwbl, mai marw o eisiau ymgeledd a chefnogaeth y mae. Yr wyf yn ymostwng i natur, ïe, yn ei llid, oblegid y mae'r dinistr a wna natur yn naturiol, fel hyhi ei hun. Nid wyf yn gwarafun i'r glaw a'r cenllysg ddawnsio ar y cerrig mwyaf cysegredig; cânt hwy grafu'r addurniadau oddi ar yr adeilad mwyaf godidog, a lliwio ei wyneb â llwydni llawer oes; ond pan welaf ddwylo anwir yn dwyn ceibiau a llaid er mwyn rhagflaenu anian, byddaf yn cau ac yn codi fy nwrn, gan ddywedyd, "Ymaith, Vandaliaid, onid e mi a'ch. . . ." Ac nid adeilad o goed a cherrig difywyd a fynnai'r rhai hyn ei ddistrywio, ond adeilad o eiriau byw, prydferth-adeilad a wnaed nid gan ddyn, ond gan genedl, ac nid yn gyfangwbl gan genedl, eithr gan Dduw. Pan oedd Lloegr yn rhoddi ei holl nerth allan i lethu'r Gymraeg, glynodd eich hynafiaid wrthi'n gyndyn. Ond yn awr, gyda bod dysgedigion y Cyfandir wedi agoryd eu llygaid ar ei rhagoriaethau, dyma chwithau yn eich tro yn ceisio'i bwrw oddi wrthych. Ymddengys fod gwrthwynebiad ac erledigaeth yn dygymod yn well na dim arall â chwi, y Cymry. Pan erlidid yr hen Fethodistiaid o achos eu crefydd, yr oedd crefydd yn cynyddu. Pan ddirgymellwyd y tenantiaid i bleidleisio yn ôl ewyllys eu meistri tir, byddent yn sicr o ethol Rhyddfrydwyr; ond pan gawsant ryddid i bleidleisio yn ôl eu hewyllys eu hunain, dechreuasant ethol Ceidwadwyr. Yr unig ffordd i gael gan y Cymry i iawn wneuthur ydyw eu gorfodi—eu scriwio i gam wneuthur. Pe bai Lloegr unwaith eto'n arfer moddion treisiol i ddiddymu'r Gymraeg, buan y profid ei bod hi cyn gryfed â'r "dyn claf" o'r Dwyrain.

Anghyson iawn, debygaf i, yw gwaith llawer ohonoch yn talu athro am ddysgu gronyn o iaith farw, fel Lladin, i'ch plant, a chwithau'n eu hanghefnogi i ddysgu iaith fyw ac angenrheidiol fel y Gymraeg: iaith hefyd y mae gan eich plant gyfleustra mor rhagorol i'w dysgu. Ychydig iawn, fel y gwyddoch, hyd yn oed o ysgolheigion ein prif— ysgolion sydd wedi dysgu digon o Ladin i ddeall a mwynhau llyfr dieithr yn yr iaith honno. Nid yw dyn wrth ddysgu iaith ond yn dysgu'r moddion i gyrraedd rhyw amcan pellach. Nid dysgu Groeg a Lladin yw dechrau a diwedd dysgeidiaeth glasurol; ond y diwedd yw gwybodaeth o gynnwys yr ieithoedd hynny. Nid wyf heb gofio bod dysgu iaith ynddo'i hun yn ddisgyblaeth, ond o ddau fath o ddisgyblaeth y gorau yw'r mwyaf ffrwythlon. Gwir fod curo awyr yn ymarferiad buddiol i un peth, ond y mae curo clobos yn fuddiol i ddau beth.

Ond yr wyf, yn wir, yn tybied ynof fy hun nad y pwys a roddwch ar ddisgyblaeth feddyliol, ond eich awydd diwala i ddilyn defod ac arfer, sy'n eich cymell i daflu'ch punnoedd i logellau dieithriaid ymhongar ac anfedrus am gymryd arnynt ddysgu Lladin i'ch plant. Yr ydych chwi'n byw'n rhy agos i'r nation of utilitarians i gael dylanwadu arnoch gan ystyriaethau o'r fath yma. Beth sydd yn y ffasiwn? A beth sydd yn talu? Dyna'r unig ofyniadau sy'n ysgwyd eich enaid chwi, onid e? Ond nid oes arnaf ofn eich cyfarfod, ie, ar y tir hwn. Yr wy'n cydnabod eithriadau, wrth gwrs, ond a siarad yn gyffredinol, pa faint o aur ac arian a enillodd eich plant yng ngrym eu gwybodaeth o'r iaith Ladin? Ai am "wybodaeth" y soniais? Dyn a ystyrio! Nid mewn blwyddyn y dysgir iaith farw —yn ôl dull Prydain, beth bynnag er bod hynny o amser yn ddigon i ddysgu iaith fyw. Profiad y rhan fwyaf o'r plant ydyw, er gwaethaf yr aur a'r amser a dreuliwyd, na ddysgasant Ladin yn ddigon da i fedru ei chofio, chwaethach ei defnyddio. Ond pe buasai'r amser braf y buont yn clebran mensa, mensae; amo, amas, wedi ei dreulio ganddynt i ddysgu'r Saesneg trwy'r Gymraeg, a'r Gymraeg trwy'r Saesneg, onid ydych yn meddwl y buasent erbyn hyn yn llawer mwy defnyddiol iddynt eu hunain ac i eraill? Ydyw, gyfeillion, y mae gwybodaeth drwyadl o'r Gymraeg yn talu'n well na gwybodaeth elfennol o Ladin. A phaham yr ydych yn clegar fyth a hefyd ynghylch ffasiwn? Oni wyddoch chwi fod dysgu Cymraeg yn dyfod yn beth ffasiynol? Nid deg, na deg ar hugain, o enwogion y Cyfandir sy'n ymffrostio yn eu Cymraeg. Gan ei bod hi'n cael croeso yno, caiff wahoddiad i ddyfod i Loegr yn y man. Pan ddechreuir ei dysgu yn Lloegr, fe gais epaod Cymru ei dysgu hefyd, nid yn gymaint er mwyn yr iaith. ei hun, ag er mwyn dynwared y Saeson. Os mynnwch wybod pa beth a ddigwydd i Gymru ar ôl hyn, darllenwch arwyddion Ffrainc, canys y mae'r Saeson yn dilyn y Ffrancod, a'r Cymry yn dilyn y Saeson. Os gwelwch chwi gwmwl megis cledr llaw gŵr yn codi o Ffrainc, ar Loegr y glawia gyntaf, ond ni thyn ei odrau ato nes gwlychu holl Gymru hefyd. Bydd Cymru, ie, bydd Ewrop i raddau helaeth yr hyn a fydd Ffrainc. Oddi yno y Q cychwyn y drwg a'r da. Ffrainc yw mam gwareiddiad, a Lloegr yw ei famaeth. Os nad ydych yn coelio, edrychwch i waelod eich het a darllenwch.

IWAN TREVETHICK.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 26, 1877.

cychwyn y drwg a'r da. Ffrainc yw mam gwareiddiad, a Lloegr yw ei famaeth. Os nad ydych yn coelio, edrychwch i waelod eich het a darllenwch.
IWAN TREVETHICK.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 26, 1877.

VIII

SYLWADAU AM Y RHYFEL NAD OEDD YN RHYFEL

FONEDDIGION,

"Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant. . . A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill." Dyna'r chwarae. The national game, neu glorious war, y geilw Cristnogion Seisnig y cyfryw chwarae.

*

Dywedir mai'r achos paham y rhoir cymaint llai o gosb ar ddyn am gicio ei wraig a hanner lladd ei fam nag am ddwyn torth geiniog neu ŵy petrisen i dorri ei newyn ydyw er mwyn cynnwys, ac felly ddatblygu splendid fighting qualities'—ysblennydd ansoddau ymladdol' y Saeson.

*

Y mae'n ddiau bod buchedd y rhan fwyaf o'r milwyr Prydeinig yn eu cartref, yn eu cymhwyso'n arbennig i chwarae â chleddyf ac â bidog ar faes y gwaed. Cânt yno ddigon o gyfleustra i ddangos eu creulondeb a'u gwaedgarwch heb ofni dirwy na charchar na chrocbren.

*

Tybia llawer o aelodau Cymdeithas Heddwch' mai'r rhyfeloedd ymosodol a wna'r Saeson yn ddibaid sy'n peri iddynt ymhoffi mwy nag un genedl arall mewn paffio, ymosod, gyrru rhedfeirch, hela, saethu colomennod anafedig, ac arteithio creaduriaid direswm. Ond tybiaf i nad yw'n iawn dweud bod y naill beth yn peri'r llall, er bod y ddau, wrth eu harfer, yn cryfhau'i gilydd y mae'n ddiamau.

*

Mynegodd un o'r esgobion fod yn dda ganddo weled byddin Lloegr yn atgyfodi'r hen arfer o ruthro ar y gelyn â bidogau. Y mae'n sicr mai gwaith go ddof ydyw saethu at ddyn o bell. Y mae'n fwy tebygol y tarewch yr awyr neu'r ddaear ganwaith na tharo dyn unwaith; a phe llwyddech i daro dyn â'r ganfed ergyd, y mae'n annhebygol iawn y lladdech ef. Pwy a ŵyr, gan hynny, na allwn innau ymgreuloni digon i ollwng ergyd wyllt trwy'r mwg i ganol catrawd bell o elynion Seisnig, ond yn wir, os nad wyf yn fy nghamddeall fy hun, byddai'n rhaid i mi gael anian esgob Seisnig, neu gigydd Cymreig o leiaf, cyn y gallwn yrru llafn o ddur trwy galon unrhyw greadur.

*

Os oedd yr esgob yn awgrymu bod gan y milwr Seisnig fwy o ddawn i drin bidog nag i drin gwn, y mae ef yn iach yn y ffydd. Biff a bir yw bwyd a diod y Sais. Yn awr, y mae biff yn fwyd cryfhaol iawn, ac y mae cryfder corffol yn anhepgorol i drin bidog. Llygad da a dwylo diysgog sy'n angen— rheidiol i saethu'n union, ac y mae hi'n digwydd bod diod y Sais yn gwneud ei lygad yn bŵl a dyfrllyd, a'i law yn grynedig. Gan ei fod yn saethwr mor wael, y mae arno ofn wynebu dyn gwyn a disgybledig. Tybiodd ef yn ddiweddar fod y Boer gwyn, o hir drigo yng ngwlad dynion duon, wedi anghofio ymladd, ac am hynny ef a feiddiodd ddangos peth o'r draha tuag ato. Ond cafodd y Cristion meddw y fath gurfa gan y saethwr da hwnnw, fel y penderfynodd ynddo'i hun nad ymladdai ef byth mwyach ond â dyn du anrhyfelgar. Credir mai er mwyn adennill y prestig a'r gogoniant milwrol a gollasai Lloegr yn y Transvaal yr anfonodd hi ei chadlywydd gorau, a chynifer o'r milwyr gorau, i ddarostwng llafurwyr gorthrymedig ac annisgybledig yr Aifft.

*

Megis o ddamwain, wedi'r cwbl, y gorchfygodd hi'r trueiniaid hynny, er mor anghynefin yr oeddynt â rhyfela. Yn wir, nid eu gorchfygu mewn brwydr a wnaeth hi, ond eu dychrynu trwy ddisgyn arnynt yn ddisymwth yng nghysgod y tywyllwch. Y mae'n wir fod bai mawr ar Arabi neu rywun am na fuasai'r wyliadwriaeth yn fanylach, a'r cloddiau'n uwch. Pe gwnaethid Tel-el-Kebir yn hanner tebyg i Kafr Dowar, buasai diweddiad pur wahanol i'r rhyfel. Fe allai fod yr Eifftiaid yn meddwl bod y Saeson yn rhy falch i ruthro arnynt yn y nos, ac yn rhy wâr i arfer llawer ar y bidogau yn ôl dull cigyddlyd rhyfelwyr gynt. Byddant yn gwybod y tro nesaf y ceisiant fwrw ymaith yr iau na thâl cymryd dim yn ganiataol mewn rhyfel. Os cymerir rhywbeth yn ganiataol am y Saeson, cymerer hyn: sef, y bydd iddynt, wrth ymladd â phobloedd an— nysgedig mewn rhyfel, hyderu mwy ar fidogau'r gwŷr traed ac ar gleddyfau'r gwŷr meirch nag ar ynnau.

*

Er cymaint yw rhagoroldeb y Saeson a'r Ysgotiaid fel ymladdwyr, rhaid cael Gwyddelod i'w llywyddu. Gwyddel, fel y gwyddys, oedd Wellington, a Gwyddelod yw Syr Garnet Wolseley a Syr Frederick Roberts. Y ddau olaf ydyw'r unig gadlywyddion sydd wedi dangos tipyn mwy o fedrusrwydd na'r cyffredin ym mrwydrau diweddar Lloegr. Er hynny, ni thalai cynlluniau hen ffasiwn y ddau hyn ddim yn erbyn cadlywyddion Holland, neu Denmarc, neu y Swêd, heb sôn am gadlywyddion yr Almaen. Yr oedd y dull a gymerodd Wolseley i ymosod ar yr Eifftiaid yn y frwydr ddiwethaf yn un a arferid yn fynych ers talm. Ofer fuasai ei arfer eilwaith hyd yn oed yn erbyn yr Eifftiaid, gan mor hawdd ydyw ymbaratoi ar ei gyfer.

*

Nid oes gennyf i ddim parch i Wyddelod o'r fath yma, sydd yn ymwerthu i ryfela rhyfeloedd anghyfiawn Lloegr, yn lle arfer hynny o allu sydd ganddynt i geisio rhyddhau eu gwlad eu hunain. oddi wrth iau estronol. O na chodid ail Napoleon, mwy rhyddfrydig na'r cyntaf, i wneud i genhedloedd gormesol dynnu eu crafangau atynt, fel y gallai Cymru, Iwerddon, Bohemia, Poland, yr Aifft, a'r Ind eto godi eu pen! Pa hyd y goddefir i un genedl gadw un arall yn gaeth yn erbyn ei hewyllys? Nid oes dim yn fwy poenus i ddynion cyfan na meddwl eu bod yn aelodau o genedl ddarostyngedig. Gall hanner dynion anghofio eu bod yn gaeth, ie, gallant fyned yn y man i anghredu hynny. Y fath yw dylanwad caethiwed! Y mae hapusrwydd y dyn diysbryd yn annirnadwy i'r dyn ysbrydlon, ac y mae gofid y dyn ysbrydlon yn annirnadwy i'r dyn diysbryd.

*

Buasai'n dda gennyf pe llwyddasai'r blaid orthrymedig i roi curfa i'r blaid orthrymol; er hynny, bydd yn well i'r Eifftiaid eu bod wedi ymladd yn aflwyddiannus na bod heb ymladd o gwbl. Cânt fwy o barch a mwy o freintiau hefyd nag oeddynt yn eu cael chwe mis yn ôl pan oedd Saeson yn edliw iddynt eu bod yn rhy wasaidd i ymladd am eu hawliau. Anturiais broffwydo yn fuan ar ôl y diwrnod y bu'r Saeson yn profi eu teganau newyddion; sef eu cadlongau a'u gynnau, o flaen Alexandria, y diystyrai'r papurau Seisnig esgus Mr. Gladstone cyn gynted ag y byddai'r chwarae' ar ben. Gŵyr y darllenydd yn ddiau mai hyn oedd esgus Beaconsfield y ' Rhyddfrydwr,' sef mai arweinydd plaid filwrol oedd Arabi, nad oedd yn cynrychioli nemor neb heblaw'r blaid honno, ac mai ef a'i dipyn plaid oedd holl achos yr helynt. Pa beth, erbyn hyn, a ddywed y ddau barchusaf o'r papurau Llundeinig: "Y gelod estronol, ac nid Arabi, oedd gwir achos y rhyfel," medd y Standard. Ac meddai gohebydd yr un papur ddoe ddiwethaf, sef Hydref 4ydd: "Dylid anghredu pob adroddiad a anfoner i Loegr i ddweud bod y bobl yn rhegi Arabi. Y mae'r adroddiadau hyn, gan mwyaf, yn dyfod oddi wrth yr un personau diymddiried ag sydd wedi camarwain pobl Lloegr o'r dechrau. Yr Eifftiaid Seisnig a'r swyddogion Seisnig oedd yn taeru nad oedd y bobl yn pleidio Arabi, ac nad oedd ef yn ddim amgen nag arweinydd gwrthryfel milwrol; ac yn hytrach na chyffesu llwyred eu camsyniad, y maent eto fyth yn chwannog i weled difrifoldeb yn y croeso a roddwyd i'r Khedive, a chasineb nad yw yn ddiau'n bod, at Arabi.". . . "Y mae'n beth hollol hysbys mai'r Control ynghyd â'r cyflogau afresymol a roddid i Ewropiaid wedi eu gwthio ar yr Eifftiaid oedd achos cyntaf yr holl helbul yn yr Aifft. Hyn a roes ddechreuad i'r llef, 'Yr Aifft i'r Eifftiaid.'" Yr un peth a dystiolaetha gohebydd y Daily News ar yr un diwrnod, megis y dengys y dyfyn hwn: "Amlwg yw nad ymfoddlona'r bobl ar unrhyw ffurf o lywodraeth a dueddo i ddarostwng ymestyniadau cenhedlig. Mynych y clywir y swyddogion Seisnig uchaf yn dweud mai pleidwyr Arabi ydyw'r fyddin, ac eto cydnabyddir yn hollol gyffredinol fod y fyddin yn cynrychioli teimladau corff y bobl."

Fe allai y buasai'n garedicach amgeneirio na chyfieithu'r dyfynion uchod. Nid oes neb ar gystal tir â chyfieithwr i weled cyn lleied sydd gan ysgrifenwyr ac areithwyr Seisnig politicaidd o'r lucidity hwnnw y soniai Matthew Arnold amdano y dydd o'r blaen. Fe allai y dylid maddau i'r rhai sydd yn ysgrifennu y brysnegesau, ond ni ddylid maddau i ysgrifenwyr illucid y prif erthyglau. Er hynny, gwych yw gweled dynion yn cyffesu eu hanwireddau hyd yn oed mewn Saesneg afloew.

*

Wel, ddarllenydd, a wyt ti'n meddwl y byddai'n ormod i'r Eifftiaid gipio a chrogi'r Saeson celwyddog y cyfeirir atynt yn y dyfynion uchod? Onid wyt yn meddwl y dylai pawb sy'n caru cyfiawnder yn fwy na swp o Saeson neilltuol ymuno i ddiarddelwi gweinidogion presennol brenhines y Saeson am orchymyn dinistrio dynion ac eiddo ar bwys celwydd a oedd mor olau dri mis yn ôl ag ydyw yr awr hon? Y mae'n bryd i'r genedl anhawddgar wybod bod yng Nghymru filoedd o wŷr y mae'n dra ffiaidd ganddynt fod o dan lywodraeth rhyw ddeuddeg o Abneriaid na allant ymatal am ychydig o dymhorau rhag dywedyd, "Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau."

 Ydwyf, &c.,

 E.

ALLAN O'R Faner, HYDREF 11, 1882.

IX

Y WLADFA

FONEDDIGION,

Goddefer i mi ddweud na wn i ddim am yr Ap Iwan yr achwynodd Mr. Michael D. Jones arno yn Y Faner ddydd Mercher diwethaf am ddywedyd yn erbyn y Wladfa mewn newyddiadur arall. Hyd yn oed pe buaswn ar dir i ddywedyd nad yw Dyffryn Camwy y lle gorau i gartrefu ynddo, ni fynaswn er dim ddangos fy mod yn anniolchus i Mr. Jones am ei ymdrechion gorchestol i gadw'r Cymry'n genedl. Beth bynnag a ddywedir am y Wladfa, rhaid addef mai Mr. Michael Jones yw'r gorau o'r Cymry; a'i fod, oblegid yr hyn ydyw ac a wnaeth, yn haeddu mwy o anrhydedd na neb byw arall gan ein cenedl ni. Y mae yn y Dywysogaeth fwy na digon o Dorïaid a 'Rhyddfrydigion,' o drochwyr a thaenellwyr, a rhyw bleidiau felly; eithr y mae ynddi lawer rhy ychydig o Gristnogion ac o Gymry. Y mae'n amheuthyn cael Cymro yn dyfeisio ac yn dargeisio rhywbeth mawr cenhedlig, ac yntau o genedl wedi ei pharlysu gan hir orthrwm gwladol, a chan enwadaeth eglwysig o'r fath gulaf a gwrthunaf. Caffed y cyfryw genedlgarwr beth clod cyn ei farw.

O barch iddo yr wyf yn arfer Mr. o flaen ei enw yn lle'r cyfenw Pabyddol sydd mor annwyl gan fân offeiriaid Ymneilltuol. Y mae lle i ofni mai ar orchudd llythyr yn unig y mae ambell un yn cael 'Parch.'

 Ydwyf, &c.,

 EMRYS AP IWAN.

ALLAN O'R Faner, HYDREF 18, 1882.

X

LLYTHYR ALLTUD

O L——, YNG NGHYMRU,
y зydd o Dachwedd, 1882.

FY ANNWYL DAD,

Rhaid i ti a'm ceraint eraill yn Fflandrys ysgrifennu'n helaethach ac yn fynychach ataf nag y gwnaethoch hyd yma, onid e, rhaid imi ddychwelyd adref cyn gorffen dysgu Cymraeg. Daeth gaeaf trist Prydain ar fy ngwarthaf cyn yr amser. Daeth tawch Tachwedd i'r wlad cyn canol mis Hydref, a pha alltud a ddichon aros yn y fath wlad heb gael llythyrau yn fynych o fro siriolach? Nid yw ein hoff Fflandrys, y mae'n wir, mor glir a sych ei hawyr â thaleithiau uchaf Belg (heb sôn am Ffrainc a'r Ital), ond y mae hi'n baradwys wrth Brydain—yn baradwys o ran ei hawyr, dealler, ac nid o ran ei golygfeydd. Y mae ym Mhrydain, ac yng Nghymru yn enwedig, olygfeydd nad oes mo'u hardded yn holl Fflandrys; er hynny, golygfeydd ydynt sydd, ysywaeth, yn fynychach o'r golwg nag yn y golwg. Gwn fod o'm blaen ddyffryn tirion, a mynydd cribog y tu hwnt iddo, ond ni welais mohonynt ers wythnosau, ac y mae'n amheus gennyf a welaf hwynt eto, canys y mae'r tarth yn gorwedd arnynt mor ddioglyd a phe na bai byth yn meddwl cyfodi. Gwn fod y môr yn agos, a bod clebren o afon yn cludo chwedlau iddo o Lyn——; ond nid yw sŵn y naill na'r llall yn cyrraedd hyd ataf rhag tewed yr awyr. Nid oes dim sŵn amgen na sŵn marwaidd a mesuredig y glaw. O! fy nhad, ni elli ddychmygu fel y mae tywydd y wlad hon yn pylu cynheddfau dyn ac yn gorthrymu ei ysbryd. Nid rhyfedd gennyf fod cynifer o'r trigolion mwyaf pruddglwyfus yn cymryd eu temtio tua diwedd y flwyddyn i achub y blaen ar Angau, ac i redeg i ymdwymo i Uffern, o ganol tarth mor oer a llaith!

Yr wyf yn gweled erbyn hyn ddangos ohonot dy fod yn ŵr doeth pan orchmynnaist na thraethwn fy marn wrthyt am y Cymry a'u pethau hyd oni fyddwn wedi dysgu eu hiaith, ac ymdroi am fisoedd wedi hynny yn eu plith. Dylit gyhoeddi'r gorchymyn hwn yn Saesneg, er mwyn y praidd a arweinir gan y bugeiliaid Cook o westy i westy ar draws y Cyfandir. Bydd llawer o'r teithwyr brysiog ac unieithog hyn, cyn gynted ag y dychwelont adref, yn ymosod i lefaru ac i ysgrifennu pethau rhyfedd amdanom ni, Gyfandirwyr. Er hynny, byddai'n ddifyr gennyt eu clywed yn camseinio enwau syml ar ddynion a lleoedd, megis Vandyck, Jordaens, Brüssel, a Waterloo. Seiniant y rhai hyn a phob enw estronol fel pe baent enwau Saesneg heb ystyried nad oes un genedl arall yn seinio â, ê, î, ô, ú, j, r, fel y gwnânt hwy! Ac y mae Cymry crachddysgedig yn eu dilyn, er y byddent yn agosach i'w lle pe dilynent eu cydwladwyr hollol annysgedig. Er enghraifft, seiniant y j sydd yn niwedd fy enw personol, ac yn nechrau fy enw teuluol, fel petai hi dzh! A hynny heb un rheswm amgenach na bod y sain hon yn un annwyl a chyffredin gan y Saeson. Gresyn fod y Cymry mor chwannog i ddynwared cenedl sy'n gwneud popeth wrth ei mympwy ac nid wrth reol! Gan eu bod yn dewis cyfeiliorni gyda'r Saeson mewn pethau bychain, hawdd y gelli gredu na fyddai'n anodd ganddynt (er gwaethaf crefydd a chydwybod) fyned mor bell â chyfiawnhau anghyfiawnderau'r Saeson yn yr Aifft. Yr wyf yn meddwl yn fynych am y geiriau a ddywedaist wrthyf pan oeddwn yn cychwyn oddi cartref y waith gyntaf: "Y mae'r hyn sydd iawn bob amser yn amlwg ac yn syml i'r neb y byddo ei lygad yn syml; glŷn wrtho yn y bach ac yn y mawr, hyd yn oed pe bai pob plaid yn dy erbyn."

Yr wyf i eisoes yn medru digon o Gymraeg i ddeall popeth a glywaf ac a ddarllenaf, eithr bydd yn rhaid imi aros yng Nghymru am rai misoedd eto cyn y gallaf lefaru'r iaith yn rhugl a chywir. Y mae hi, fel pob iaith hen a chywrain, yn bur anodd i'w dysgu'n berffaith, er ei bod yn un o'r rhai hawsaf i'w dysgu'n amherffaith. Y mae cannoedd o Saeson yng Nghymru ers blynyddoedd heb ei medru hyd yn oed yn amherffaith. Ni wn yn iawn pa un ai rhy falch, ai rhy ddiog, ai ynteu rhy ddiallu ydynt i'w dysgu. Odid na'th gynorthwya'r ffeithiau canlynol i farnu trosot dy hun: (1) Nid yw'r Saeson eto wedi ymddyrchafu digon i deimlo ei bod o werth iddynt ddysgu dim na fyddo yn elw ariannol iddynt. (2) Y maent yn chwannog i alw pob iaith na fedrant hwy mo'i dysgu yn iaith farbaraidd. Y maent yn hyn yn debyg i lwynog Aesop—yr hwn, wedi iddo neidio a neidio yn ofer at sypiau grawnwin mawrion aeddfed,' a aeth ymaith, gan ddywedyd, Surion, surion ydynt!' (3) Rhaid addef bod y Saesneg, o ran sain, ar ei phen ei hun ymhlith ieithoedd adnabyddus Ewrop, ac am hynny, y mae'n anodd anghyffredin i Saeson lefaru unrhyw iaith arall yn ddealladwy, ac yn anodd i bob cenedl arall lefaru eu hiaith hwythau. Dywedir mai yn yr oes hon, ac yn Neheudir Lloegr yn bennaf, yr aeth y Saesneg yn dafodiaith mor bŵl a chymhenllyd. Proffwyda rhai y cyll hi'n fuan bob sain, oddieithr y seiniau sïol, os pery corff y genedl i ddilyn ysgoegynnod Llundain. Nid rhyfedd bod cathod y Cyfandir yn rhedeg i'r drysau pan elo Saeson heibio, canys y mae'n hawdd i greaduriaid amgenach na chathod feddwl nad ydynt wrth ymddiddan yn dweud dim ond ps, ps, ps, yn ddi-dor.

Er na bûm cyhyd yn dysgu Cymraeg ag y bûm yn dysgu Saesneg, eto yr wyf yn gallu ei hynganu a'i llythrennu'n gywirach o lawer. Yr oeddwn o'r blaen yn gynefin â phob sain sydd ynddi, oddieithr sain yr ll. Y mae hon yn fwy chwern na sain yr ll Ysbaeneg. Gorchfygais hon hefyd cyn cyrraedd Cymru, canys trewais, yn y trên rhwng Llundain a Chaerlleon, wrth deulu Cymreig yn cynnwys tad a merch a mebyn, ac wedi darfod i ysgytiad nerthol y cerbyd gyflwyno'r ferch imi yn bur ddiseremoni trwy ei thaflu drwyndrwyn yn fy erbyn, gofynnais iddi yn Saesneg fod mor garedig â'm hyfforddi i seinio'r Gymraeg. Atebodd hithau na fedrai hi mo'm hyfforddi, a'i fod yn amheus ganddi a fedrai neb arall chwaith, ond ei bod yn ewyllysgar iawn i ddweud ll gynifer o weithiau ag a fynnwn, ac y cawn innau ei dynwared. Hi a chwanegodd na chafodd hi, ac na bu raid iddi wrth gymaint â hynny o fantais. Tybed, meddwn innau, y medr pob plentyn Cymreig seinio pob llythyren yn unig trwy ddynwared eraill, a heb ddim hyfforddiad?. Diau, meddai hithau, fod rhai plant yn myned yn bur hen cyn medru ynganu ll neu r, ond pwy all ddim wrth hynny?—Y rhieni, meddwn innau, y rhieni. Pan welont hwy y bydd eu plentyn yn methu ag iawn seinio rhyw lythyren trwy ddynwared eraill, dylent ddangos iddo pa fodd i ystumio ei enau a'i dafod. Os byddant yn rhy annysgedig—nid wyf yn cyfeirio atoch chwi, Mademoiselle—os byddant yn rhy annysgedig i wneud hynny, dylent beri i'w plentyn edrych i mewn i'w genau hwy pan seiniont lythyron anodd. Er nad wyf i mor ieuanc ag y bûm, ac nad yw fy mheiriannau llafar, oherwydd hynny, mor ystwyth â rhai plentyn, eto tyngaf wrthych, yn yr ysbryd mwyaf diymhongar, y gallwn adrodd y seiniau anhawsaf tan y nef pe cawn ysbïo genau'r sawl a'u gwnâi. Er mwyn praw, yr wy'n addo seinio'r l ddyblyg yn ebrwydd os goddefa'ch brawd bach imi chwilio ei enau (ei geg a ddylwn ddweud) tra byddo ef yn ei seinio. Gwnaeth y bachgennyn ymdrechiadau gorchestol i ufuddhau i orchymyn ei chwaer, ac i'm boddhau innau, ond bu'r cwbl yn ofer. Yr oedd gan y crwtyn bochgoch gymaint o ddawn i weled ochr ddigrif pethau fel na fedrai gadw'i dipyn ceg yn yr un ystum am chwarter munud. Bob tro yr osiai ddweud ll delai arno bang o chwerthin o'r iachaf ac o'r mwyaf heintus a glywaist erioed. Pa ieithoedd a chenhedloedd bynnag a gynrychiolid yn y cerbyd, yr oedd pob un yn deall ac yn teimlo oddi wrth chwerthin anorchfygol y bachgen. Ymunodd pawb ag ef yn ddifrifol, nes tywallt dagrau na ddaeth eu purach o ffynnon galar—pawb ond y tad. Gallwn i feddwl nad oes mo fath priodi a phlanta i sobri gŵr o Brydeiniwr. Ond dichon fy mod yn gwneud cam â'r gŵr hwn; feallai mai gweddw ydoedd, a'i fod wrth weled ei ferch yn ymddiddan mor rhydd â gŵr ifanc dieithr yn ofni y collai geidwades bresennol ei dŷ cyn y gallai ef gael o hyd i un well yn ei lle; neu, feallai mai hen ysgolfeistr ydoedd, wedi llwyddo trwy hir arferiad i atal ei dueddiadau chwerthingar er mwyn cadw ei ofn ar ei ddisgyblion direidus. Gweli, fy nhad, na bu dim neilltuol rhyngof i a'r lodes, onid e, buaswn wedi mynnu gwybod erbyn hyn pa beth yw galwedigaeth ei thad; pa faint o eiddo byw a marw sydd ganddo; pa sawl plentyn; pa sawl merch; os dwy neu chwaneg, pa un ohonynt yw ei anwylyd; a oedd ei gyndadau yn chwannog i ail-briodi; a oes ganddo frodyr neu chwiorydd di- briod neu ynteu di-blant â'u hamgylchiadau'n gyfryw byddai'n werth i ddyn ddeisyfu dydd eu marwolaeth; pa un ai creaduriaid grasol yn marw pan fynno eraill, ai ynteu creaduriaid cyndyn, herllyd, yn marw pan fynnont hynny eu hunain, yw'r perthnasau? Pa beth yw cyflwr eu cylla? A ydyw eu hysgyfaint yn holliach? Os felly, a ydyw'n debygol y dymchwelir hwynt yn ddisymwth gan y parlys neu ag ergyd haul? &c., &c. Nid yw'r rhai hyn ofyniadau di—bwys hyd yn oed yn Fflandrys. Y maent ym Mhrydain yn bwysicach na gofyniad ceidwad y carchar i Baul a Silas.

Wi! gwelaf i'r Gymraes yma fy nhynnu oddi ar fy llwybr fel y tynnodd y Graig Fagnedig long Agib. Glynaf, bellach, fel ci tarw wrth yr ll hyd ddiwedd yr hanes. Dyn sobr oedd y tad fel y dywedais, ac am hynny medrodd ef wneud yr hyn y methodd ei fachgen â'i wneud. Cyn pen munud awr yr oeddwn yn medru seinio ll cystal â neb—ac yn gwybod hefyd nad yw deintyddion Prydain ddim mor daclus eu gwaith o lawer â deintyddion Belg.

Ymddengys i mi mai llyfnder geiriol ac ystwythder brawddegol yw prif ragoriaethau'r Gymraeg. Y mae hi, yn y peth blaenaf yn rhagori ar y Ffrangeg, ac yn y peth olaf yn rhagori hyd yn oed ar yr Ellmynneg a'r Italeg. Nid oes ynddi gynifer o lafarogion agored ag sydd yn yr Italeg ac ieithoedd eraill deheudir Ewrop, ac am hynny nid yw hi mor ganadwy â hwynt. Er hynny, y mae'n fwy canadwy filwaith na'r Saesneg, ac am hynny y mae'n syn gan dramorwyr fel myfi glywed Cymry yn canu 'Elias' a'r 'Mesïa' yn Saesneg. Y mae gan y Saeson ryw reswm am ganu yn yr Italeg, ond nid oes gan Gymry ddim rheswm am ganu cymaint yn Saesneg. Yr wyf yn casglu bod y Cymry sydd heb wybod ieithoedd tramor, na thystiolaeth dysgedigion am ieithoedd, yn meddwl bod y Saesneg yn dlysach ac yn bereiddiach na'r Gymraeg! Gallit feddwl mai geiriau tlysion iawn yw Iacob (neu Siacob), Siôr, Siârl, Siôn, Sionyn, Siân, Mari, Cadi, Sara, Grâs—yn enwedig wrth eu bod mor debyg eu sain i enwau anwylaf y Cyfandirwyr; ond gwybydd fod y rhai hyn yn enwau gwrthun, gwahanglwyfus ym marn y Cymry, a hynny ymlaenaf am eu bod yn rhy Gymreigaidd; ac yn ail, am eu bod yn dlodaidd eu tarddiad. Gwell gan Gymry'r ffurfiau Seisnigaidd ac anfarddonol Dzhêcob, Tsharls, Dzhón, Dzhonni, Dzhên, Mêri, Cêt, Sêra, Grês! Dyry'r rhai mwyaf di-chwaeth ohonynt enwau mwy anghydgerdd fyth ar drefi, tai, a ffyrdd. Galwant Hewl y Bont (Rue du Pont) yn Bridge Street—dau air na fedr un o bob mil o Gymry na Saeson eu hynganu'n briodol heb ymatal yn hir rhyngddynt i dynnu eu tafod o'r drysni.

Na'th arweinied y gwiriondeb hwn i feddwl mai cenedl angherddgar yw'r Cymry. Y mae lliaws mawr ohonynt yn hoffi canu ac yn medru canu; ie, y mae rhai miloedd ohonynt yn mynnu canu pa un bynnag ai medru ai peidio. Diau y buasai'r Cymry yn genedl amgenach o lawer pe buasent yn llai cerddgar, neu o leiaf pe buasent yn ymhoffi llai mewn tonau lleddf. Yr wyf i'n credu bod Platon (Pleton neu Pleto y llysenwa Cymry'r pagan hwn) yn llygad ei le pan ddywedodd fod cerddoriaeth gwynfannus alarllyd yn anwreiddio dynion, ac felly yn eu hanghymhwyso i fod yn aelodau o wladwriaeth berffaith. Rhaid imi addef y bydd yr alawon a genir mewn addoldai Cymraeg yn fy meddwi â'u swyn, ond wedi'r elwyf adref, a sobri, a dechrau fy chwilio fy hun, byddaf yn canfod, er fy ngofid, fy mod wedi llesgáu a masweiddio, gorff ac ysbryd. Nid yw dyn byth mor analluog i wrthsefyll temtasiwn a phan fyddo'n myned allan o addoldy Protestannaidd neu Babyddol ar ôl bod yn gwrando cerddoriaeth synhwyrus. Er hynny, y mae'n debygol mai'r pryd hwnnw y bydd ef yn ei deimlo ei hun yn fwyaf crefyddol. Tybiaf i mai cyflwr darostyngedig y Cymry ydyw'r achos bod eu cerddoriaeth mor sentimental. Dylwn ddweud wrthyt fod eu halawon gwladol neu wladgarol yn ŵraidd ac yn iachus odiaeth. Os cyfansoddwyd y rhai hyn ar ôl dyddiau Ywain Glyndyfrdwy, rhaid bod y cyfansoddwyr yn bur annhebyg eu hysbryd i'r rhan fwyaf o'u cyd-wladwyr.

Y mae yng Nghymru bregethwyr nad oes mo'u rhagorach hyd yn oed yn Ffrainc, ond bydd pregethau gweddol y Ffrancod byw yn hwy na phregethau gorau'r Cymry, a hynny am fod mwy o ôl celfyddyd arnynt. Ymddengys bod siaradwyr ac ysgrifenwyr Cymru heb wybod neu ynteu heb gredu eto mai celfwaith yn unig sydd yn hirhoedlog. Celfyddyd yw popeth,' meddai Goethe; fe'i credodd llawer o'r Ellmyn, ac am hynny llwyddasant. Er hyn oll, gwelais gwyno mewn rhyw newyddiadur fod pregethwyr presennol Cymru, y rhai ifangaf ohonynt yn neilltuol, yn rhy goeth ac yn rhy gelfydd'! A glywaist ti erioed am ddyn pwyllog yn cwyno o achos gormod coethder, neu'n haeru bod celfyddyd yn taro'n erbyn natur berffeithiedig? Fe allai fod gan y cwynwr hwnnw ryw wirionedd dan ei ewin, ond gan nad oedd ef ei hun nac yn goeth nac yn gelfydd, ef a fethodd â chaffael geiriau cyfaddas i amlygu ei feddwl. Byddaf i mor fwyn a thybied mai 'anghoeth' a feddyliai wrth 'goeth,' ac mai anghelfydd' a feddyliai wrth 'gelfydd.' Os wyf i'n iawn dybied, yr oedd yntau'n iawn synied. A siarad fel llenor yn unig, diau gennyf mai anghoethder ac anghelfyddyd yw dau fai pennaf pregethwyr ifainc a chanol oed Cymru. Os ydyw'n ddiogel imi hyderu ar adysgrifwyr a dynwaredwyr, byddai'n hawdd profi yn wyneb rheolau pwysicaf gramadeg ac areitheg, fod pregethwyr yr oes o'r blaen (ac y mae rhai ohonynt eto'n fyw yn yr oes hon) yn fwy celfydd na'r to presennol o bregethwyr, a bod eu llwyddiant i'w briodoli i fesur mawr i'w celfyddyd. Rhaid addef bod ganddynt wrandawyr coethach nag sydd gan bregethwyr yr oes hon, canys yr oeddynt yn ddarllenwyr dyfal ar y clasuron cysegredig; ond y mae lle i ofni nad yw eu hepil gan mwyaf, er llawned eu silffoedd, yn darllen dim yn y byd mwy clasurol na Thrysorfa y Plant a newyddiaduron Lerpwl. Gweli, gan hynny, y dichon ddyfod amser pan fydd pregethwr coeth yn anghyfaddas i wrandawyr Cymreig, a phan fydd yn rhaid iddo, er mwyn bod yn gymeradwy, ymdebygu mwy o ran syniadau ac arddull i swyddogion Byddin Iachawdwriaeth nag i Rowlands o Langeitho, a physgotwyr chwaethus Galilea.

Bydd y Cymry yn achanu'r rhan olaf o'u pregethau yn fwy na phregethwyr un genedl arall y gwn i amdani. Pan wnelont hynny'n gynnil, yn amldonog, ac yn gydwedd â'r ymadroddion, bydd y dylanwad yn hyfryd ar bob dosbarth. Er nad ydyw'r achanu hwn, ond odid, yn ddim amgen na'r llith-ganu Eglwysig wedi ei drosglwyddo i bregethau Ymneilltuol, eto y mae'n gweddu'n dda i'r Gymraeg, gan fod ei geiriau hi'n goddef eu llusgo a'u nyddu'n fwy na geiriau ieithoedd eraill y Gogledd-Orllewin.

Er bod mwy o bellter rhwng Ymneilltuwyr Cymru a'r Eglwyswyr nag sydd rhwng Protestaniaid a Phabyddion rhannau o'r Cyfandir, eto y mae'r Ymneilltuwyr yn glynu'n dynn wrth amryw o ddefodau priodol yr Eglwys, ac yn mabwyso rhai eraill yn barhaus. Y maent mewn un neu ddau o bethau yn gor-Babyddu'r Pabyddion. Tybiasit ti, yn ddiau, y buasai'n ddigon gan Brotestaniaid trwyadl ymfoddloni ar un gwasanaeth crefyddol wrth gladdu corff marw; eithr gwybydd eu bod yn gyffredin yn darllen ac yn hirweddio wrth "godi'r corff," ac yn y capel, ac wrth y bedd, er bod y bedd yn fynych gerllaw'r capel. Nid ŷnt yn teimlo dim gwrthwynebrwydd at yr hen ddefod driphlyg hon, ond y mae gan rai ohonynt wrthwynebrwydd mawr i offrymu yn yr eglwys—gwrthwynebrwydd cydwybodol, meddant hwy. Hyfryd gan gybydd gael ei gydwybod yn foddlon i gadw'i bwrs.

Anffawd yr Eglwys yng Nghymru ydyw ei chysylltiad â gwladwriaeth estronol a gwrth-genhedlig. Anffawd y rhan fwyaf o'r Ymneilltuwyr ydyw'r cyfleustra sydd gan eu blaenoriaid cyfoethog i ddynwared Arglwydd Beaconsfield a'r brenin Nebuchodonosor yn ddigerydd. Nid yw llawer o'r rhai hyn yn gwasanaethu nac yn cynrychioli un eglwys, a phaham y mae'n rhaid iddynt, a hwythau'n gwybod y pery eu brenhiniaeth hyd awr eu marwolaeth, a'u harswyd hyd derfyn dydd eu claddedigaeth? Gwybydd di na fynn rhai o'r Ymneilltuwyr cyfoethog ddim bod yn petty tyrants; ac na chaiff eraill ohonynt fod yn petty tyrants—mewn eglwysi y bydd ynddynt saith o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. Pan fyddo amryw o gyfoethogion anghytras yn blaenori yn yr un eglwys, y mae'r naill, fel y mae orau, yn cymedroli gorfynt a dylanwad y llall. Nid yw'r rhai traheusaf o'r blaenoriaid ariannog yn ddigon anghall i herian a dial mewn modd uniongyrchol ar neb o'u gwrthwynebwyr; byddant yn ymddiried y bryntwaith hwn i'r diaconiaid.

Yr wyf wedi ysgrifennu mwy o'r hanner na hyn, ond rhag cael ohonot ormod o waith darllen ar unwaith, cadwaf y gweddill hyd yr wythnos nesaf. Fy annwyl dad, derbyn barch a serch puraf dy unig fab,

 EMRIJ VAN JAN.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 13, 1882.

XI

LLYTHYR ARALL ALLTUD
(Na ddarllened neb hwn.—Y Cyf.)

O L——, YNG NGHYMRU,
y 9fed o Dachwedd, 1882.


FY ANNWYL DAD,

Dyma fi bellach yn anfon i Fflandrys y gweddill o'm sylwadau am Gymru, y Cymry, a'r Gymraeg.

Cyfeiriais at Fyddin Iachawdwriaeth. A glywaist ti sôn amdani? Defodwyr taeogaidd ydyw'r fyddin, yn rhyfela yn erbyn drygau ysbrydol ag arfau cnawdol, a hynny yn ôl rheolau cnawdol. Ni allasai'r cyfryw fyddin gyfodi ond mewn gwlad ag ynddi gymysgedd o anwybodaeth, o ffolineb, o afledneisrwydd, ac o ysbryd milwrol. Clywais fod adran ohoni newydd ymosod ar Baris. Beiddiaf broffwydo na lwydda'r cyfryw bobl ddim yno. Nid yw'r Ffrancod mor hogynaidd â'r Saeson; a pheth arall, ni wnaeth neb hyd yma nemor o dda nac o ddrwg yn Ffrainc oni byddai'n ddyn coeth. Cais yr aelodau ddychrynu'r diafol â ffyn a phedyll, a chanant i Grist fel pe canent i ymgeisydd seneddol. Fel hyn y diwedda un o'u hemynau, er mai teg addef na cheir mohono ymysg eu hemynau argraffedig: 'Hen fachgen braf yw'r lesu (For he's a jolly good fellow '), &c. Dywed rhai eu bod yn gwneud lles nid ychydig yn Lloegr. Diau eu bod, canys pa ddyn, neu pa gymdeithas, ar wyneb daear a ddichon wneud drwg digymysg? Pe'u gwelit ti, yr wyf yn credu y'th argyhoeddid bod tuedd gyffredinol y moddion a arferant yn hytrach yn niweidiol nag yn llesol, ac felly y bydd y niwed a barant yn fwy parhaus na'r lles a achlysurant. Sut bynnag, y mae'n anodd gennyf synied am Apostol y Cenhedloedd yn ymostwng i fabwyso tactics y Cadlyw a'r Gadlywes Booth.

Er fy mod i, fel pob dyn coeth, yn condemnio 'moddion gras' Byddin Iachawdwriaeth, eto'r wyf yn addef bod eisiau cyfundeb crefyddol rhyddach a mwy gwerinol yn Lloegr ac yng Nghymru hefyd. Gan fod y cyfundeb gorau yn myned yn ddarostyngedig i hierarchaeth neu glwb swyddogol erbyn y byddo'n drigain neu ganmlwydd oed, odid na fyddai'n dda i ymgodiad, neu ynteu i ymneilltuad mawr ddigwydd unwaith ym mhob oes, o leiaf. Bydd cyfundeb crefyddol yn colli ei nerth ysbrydol pan elo'n beiriant dyrys, costus, a respectable, yn ystyr Saesneg y gair. Diau mai'r cyfundeb mwyaf ei beirianwaith a fydd yn llwyddo fwyaf yn allanol, ond gwyddost ti, sy'n gydnabyddus â'r haneswyr eglwysig mwyaf amhleidgar, fod yr hyn a ystyrir yn llwyddiant cyfundebol yn cydfyned yn gyffredin â dirywiad mewn crefydd bur a Christnogaeth seml. Yn feddyliol, syniad isel sydd gan y genedl Gymreig amdani ei hun. Hi a eddyf, Yn wir, yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf.' Y mae'r syniad hwn yn ei hatal rhag dyfeisio dim, rhag cychwyn dim ohoni ei hun, rhag edrych ar ddim trwy ei llygaid ei hun, a rhag barnu dim trosti ei hun. Digon ganddi hi ddilyn y dyn nesaf ati, sef y Sais. Ef yw ei cholofn niwl y dydd, a'i cholofn dân y nos. Pan symudo ef, symuda hithau; pan safo ef, saif hithau. Y llo hwn yw ei heilun hi, a chan y gwyddost pa fath un ydyw'r eilun, gelli ddyfalu pa fath rai ydyw'r eilun-addolwyr.

Ond yn grefyddol, y mae hi, fel y genedl Seisnig, yn genhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid.' O bob ymffrost, ymffrost crefyddol yw'r gwrthunaf. Bydd fy nhrwyn a'm genau'n crychu pan glywaf weddïwr o Gymro yn diolch i Dduw nad yw ef a'i gyd-wladwyr 'fel dynion eraill y tu hwnt i'r môr. O! na buasent, meddaf i. Ni fynnwn dyngu nad oes mewn rhai parthau o Belg a Ffrainc gymaint o anfoesoldeb ag sydd yng Nghymru; ond yn sicr, y mae'r anfoesoldeb hwnnw'n llai amlwg, ac y mae cymaint sydd yn amlwg yn llai gwrthun. Y mae pob cenedl a welais i, oddieithr y Saeson, yn rhagori'n ddirfawr ar y Cymry mewn boneddigeiddrwydd, gonestrwydd, geirwiredd, a sobrwydd. Gellir gweld mwy o feddwon mewn pentref Cymreig ar un nos nag a welir yn hanner y Cyfandir mewn dwy flynedd. Y mae'n wir fod yma yn awr lai o lawer o feddwi cyhoeddus ar y Sabothau nag a fu, ond i atalfâu cyfreithiol ac nid i'w crefyddolder eu hunain y dylai'r Cymry ddiolch am hynny. Y mae'n rhyfedd gennyf i na all cenedl sydd yn ymffrostio cymaint yn ei Christnogaeth lywodraethu ei chwant am ddiodydd meddwol heb fyned ar ofyn y wladwriaeth.

Cydnebydd y Prydeinwyr tecaf a mwyaf cydnabyddus â'r Cyfandir fod Cyfandirwyr yn bucheddu'n fwy Cristnogaidd na Phrydeinwyr o fore dydd Llun hyd ganol nos Sadwrn, ond taerant fod Prydeinwyr yn bucheddu'n fwy Cristnogaidd na Chyfandirwyr ar ddydd Sul. Yn fwy Iddewaidd fe allai, ond nid yn fwy Cristnogaidd. Y maent yn wlad hon yn rhoi mwy o bwys ar hyd yr addoliad nag ar ei ddwyster a'i angerddoldeb. Y mae'r dyn a gysgo mewn dau wasanaeth yn fwy crefyddol yn ei olwg ei hun ac yng ngolwg eraill hefyd na'r dyn a fyddo'n effro mewn un yn unig. Darganfûm un ffaith bwysig, sef, nad yw'r rhan fwyaf o'r Prydeinwyr, er eu holl siarad am y Saboth, yn addoli'n gyhoeddus nemor fwy na ninnau, hyd yn oed o ran amser. Nid yw'n ddim gan wragedd Cymreig aros gartref, a chadw eu morynion gartref i ddarparu cinio. Nid yw'n ddim gan y gwŷr a'r gwragedd aros gartref i gysgu tan bwys y cinio hwnnw hyd amser te. Yng Nghymru, cyfrifir bolera, cysgu, neu ymgecru yn llai o drosedd Sabothol na myned allan o greadigaeth gyfyng y saer maen i rodio'n llon yn awyr a than heulwen Duw. Byddwn ni wedi gorffen ein gwasanaeth crefyddol cyntaf cyn i grefyddwyr Cymru droi yn eu gwelyau, a phaham gan hynny y beiant hwy arnom am ddewis treulio corff y dydd o faes yn hytrach nag o fewn? Onid yr heol a'r parc yw tŷ'r Cyfandirwr pan fyddo hi'n hindda?

Y mae gennyf achos i feddwl, pe peidiai llywod— raethau gwladol ag ymyrryd ar y Saboth, y cedwid ef yn rhyddach yn y wlad hon nag mewn un wlad arall. Y mae'r rhan fwyaf o'i chrefyddwyr mor ariangar fel na allont edrych ar blant y byd hwn yn masnachu heb fynnu cael rhyw esgus i fasnachu eu hunain. Oni fyddi'n meddwl weithiau, fy nhad, fod llywodraethau gwladol yn rhoi gormod o gyfleustra i grefyddwyr i ragrithio, a rhy ychydig iddynt i ymwadu ac i aberthu?

Y mae Ymneilltuwyr Cymru yn Brotestaniaid tra gwrth-Babyddol; er hynny, y mae'n anodd i ddyn ar ei dro fel myfi ganfod llawer o wahaniaeth rhyngddynt a'r Pabyddion; canys y mae llawer o'u swyddogion hwythau, os nad o'u haelodau cyffredin hefyd, yn rhoi mwy o fri yn weithredol ar fân drefniadau a seremonïau amheus nag ar egwyddorion cyffredinol a thragwyddol. Nid ymgrymant i'r Forwyn Fair, ond ymgrymant yn addolgar i greaduriaid gwaelach na hi o lawer. Gwadant anffaeledig— rwydd y Pab o Rufain, ond cydnabyddant anffaeledigrwydd plaid neilltuol, yn enwedig os bydd y blaid honno yn cyfansoddi mwyafrif. Er hynny, y maent yn beio ar y mwyafrif a gollfarnodd Grist am eu bod yn ystyried bod croeshoeliad yn ormod o gosb am alw brenin yn gadno, a phenaethiaid y bobl yn ffyliaid, &c. Ar air yn unig y maent yn cydnabod 'hawl pob dyn i farnu trosto ei hun '; ac yn wir, y mae'n amheus gennyf a allent gydnabod hynny'n wirioneddol heb ymwrthod â Chyffesion Ffydd, neu ynteu ymrannu'n. fân gyfundebau aneirif. Ymddengys imi ei bod yn rhaid i Brotestaniaeth gyson a llwyr ddiweddu mewn unigoliaeth. Gofynnaist yn dy lythyr diwethaf a oes rhywrai heblaw Henry Richard yn cynrychioli Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Oes, liaws; eithr gan eu bod hwy oll yn perthyn i'r Hold-your-Peace Society, y maent yn ddynion rhy ymostyngar i'r chwip' weinidogaethol i wneud sôn amdanynt y tu hwnt i'r môr.

Byddit ti, weithiau, yn cyhuddo'r Belgiaid Ffrancaidd o ymddwyn yn anghyfiawn tuag at y Belgiaid Fflemig. Dyn a ystyrio wrthyt! Beth a ddywedit pe'n trinid ni, Fflemiaid, fel y trinir y Cymry gan y Saeson? Yng Nghymru y gelli weled anghyfiawnder yn ei nerth. Caiff Sais bob swydd yng Nghymru heb fedru dim Cymraeg, tra na chaiff Cymro un swydd werthfawr yn Lloegr heb fedru Saesneg. Pa beth a ddywedi yn erbyn y

Ffrancod yn awr? Nid addysgir iaith yr aelwyd a'r addoldy yn yr ysgolion gwladol, er bod y Cymry'n talu trethi fel y Saeson! Saesneg yw iaith y cyrtiau, y cynghorau, a'r gorsafoedd! Yn Saesneg y cyhoeddir pob hysbys— iad llywodraethol a chyfreithiol, er bod y Gymraeg yn gyfoethocach o dermau cyfreithiol na'r Saesneg. Yn Saesneg yn unig y mae'r rheolau a'r rhybuddion a geir yng ngherbydau'r trenau sy'n rhedeg trwy Gymru, tra ceir hwynt yn y Fflemeg, y Ffrangeg, a'r Isellmyneg yn y trenau sy'n tramwyo Belg. Eto y mae llai o angen am hyn ar y Fflandrysiaid nag sydd ar y Cymry, canys nid oes nemor ohonom ni heb fedru'r Ffrangeg.

Paham, meddi, y mae'r Cymry'n goddef y fath orthrwm afresymol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg?—Am fod y rhan fwyaf ohonynt wedi myned yn rhy wasaidd i deimlo dim oddi wrtho. Clywir y rhai mwyaf penwan ohonynt hwy eu hunain yn gofyn yn ddigon digywilydd, naill ai o fregedd neu o ddifrif, Paham y gwneir ymdrech i gadw'r Gymraeg yn fyw?' Ni chlywais fod cwp! o lanciau erioed wedi trochi'r cyfryw rai er mwyn calleiddio tipyn arnynt.

Y mae'r ysbryd ymwahangar neu ddosbarthol sy'n llywodraethu pobl y wlad hon, ynghyd â'r ysbryd proselytiol sy'n corddi'r gwahanol gyfun— debau, yn eu cymell i adeiladu capelau costus gogyfer â Saeson, a Chymry Seisnigaidd. Pan ddelo Seisyn i ardal Gymreig, brysia'r cyfundeb hwn i godi capel iddo, yna cyfundeb arall, nes peri i ddyn dybied ddarfod cyflawni'r broffwydoliaeth sy'n dywedyd: "Yn y dydd hwnnw, saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr," &c. Gan na ddichon Sais, er cymaint dyn ydyw, lenwi tri neu bedwar o gapelau, bydd yn rhaid i'r achoswyr Seisnig arfer pob rhyw foddion i hudo Cymry o'r capelau Cym— raeg. Ni bydd yr hudo hwn yn myned yn gwbl ofer. Cyfrifir pob un o'r Cymry a hudir yn dri, neu bump, neu saith o Saeson, yn ôl syniad y cyfrifwr am werth cymharol Sais a Chymro. Wedi hynny, cyhoeddir y cyfanrif mewn llyfryn fel y gwelo pobl y wlad fod ' achos yr Arglwydd yn myned rhagddo yn aruthrol, er gwaethaf gwrthwynebiad Sanbalat a'i lu; ac fel yr argyhoedder pawb fod eglwys Saesneg yn gofyn cymaint o gymorth ariannol wedi myned ohoni'n gref a phan oedd hi'n wan! A elli di synied, fy nhad, am breswylwyr Fflandrys yn lladd eu hiaith trwy sefydlu achosion Ffrancaidd cyfatebol i'r achosion Seisnigaidd hyn? Ac eto y mae'r Gymraeg gymaint tlysach na'r Fflemeg ag ydyw Cymru na Fflandrys. Yn wir, nid oes gan y Cymry mwyach ddim y gallant ymffrostio ynddo'n arbennig heblaw eu hiaith; ac wele! y maent trwy ddirfawr draul a thrafferth yn cynorthwyo eu darostyngwyr i ddileu honno! O! y Fandaliaid di—chwaeth, ai tybed y gwyddant pa beth y maent yn ei wneuthur? Ys anodd dirnad paham yr ymddiriedodd Rhagluniaeth iaith mor farddonol ac mor athronyddol i bobl y mae cynifer ohonynt yn rhy bŵl i weled ei gwerth.

Bu gynt ymosod nid bychan ar ein mamiaith ninnau; ond magodd hynny benderfyniad yn y Fflemiaid i fynnu diwygiadau gwladol sydd wedi bod nid yn unig yn adfywiad i'w hiaith, ond hefyd yn fantais feddyliol a masnachol i'w meibion. Pan ddywedwyd wrthynt fod y Fflemeg yn marw, brysio i ymofyn am feddyginiaeth iddi a ddarfu iddynt hwy, ac nid canu cnul a chloddio bedd iddi. Pan gredasant ei bod yn glaf ac mewn enbydrwydd y teimlasant ac y dangosasant faint eu serch tuag ati. Wrth ei chlaf—wely y gwybuasant fod eu hoedl hwy ynglŷn wrth ei hoedl hithau, ac am hynny llefasant, Bydded byw y Fflemeg fel y byddo byw y Fflem— iaid!" Ai er y pryd hwnnw, fy nhad, y mae hen glychau Antwerp yn canu mor llon?

Yr wyf yn gobeithio, er mwyn yr hyn sydd hen a rhagorol, y bydd i ymgais boeth Seisgarwyr i orffen y Gymraeg gynhyrchu teimlad cryfach nag erioed o'i phlaid. Yn wir, yr ydys eisoes yn gweled arwyddion mai effaith holl ddadleuon Achoswyr Saesneg fydd llwyr argyhoeddi corff y genedl mai addysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion beunyddiol, a hynny ar draul y wladwriaeth, ydyw'r feddyginiaeth fawr rhag unieithogrwydd, gorthrwm casglyddol, drwg-effeithiau'r Achosion Saesneg,' a dinistr cenhedlig. Pe bawn i'n Gymro, hyn a bregethwn yn barhaus: Rhodder cyfleustra i blant deg a thair sir Cymru i ddysgu iaith odidog eu tadau; os esgeulusa rhywrai'r cyfleustra hwnnw, boed iddynt ddarbod trostynt eu hunain, ac nid myned ar ofyn cynull— eidfaoedd Cymraeg am arian i godi capelau Saesneg, ac i gynnal bugeiliaid Saesneg. A adwaenost ti, fy nhad, ryw ddyn doeth a bregethai'n rhesymolach?

Rhag iti feddwl yn rhy wael am y Cymry, dylwn chwanegu bod ganddynt fwy o ddawn naturiol nag unrhyw genedl arall yng Ngogledd Ewrop, oddi-eithr y Ffrancod a'r Gwyddelod; ond o ddiffyg beiddgarwch a dyfalwch, nid yw eu dawn yn tycio dim iddynt. Nid oes ganddynt na gwyddoniaid na chelforion fel sydd gennym ni; er hynny, y mae cannwyll llygad gwyddon, a llun llygad celfor gan liaws ohonynt. Y mae ieuenctid Cymru yn dra chwannog i ymgymryd â'r pethau hynny y gellir, neu y tybir y gellir, llwyddo ynddynt yn fwyaf cyflym a didrafferth, sef pregethu, canu, a datganu. Rhaid addef nad oes raid i ddyn astudio nemor i wneud y tri pheth hyn yn gymeradwy ymhlith pobl y byddo'u barn a'u gwybodaeth yn brin. Er bod cyfnod y beirdd a chyfnod y pregethwyr, a chyfnod y cerddorion Cymreig yn cydymlapio, eto ac edrych o bell, gellir dweud bod cyfnod y beirdd wedi myned heibio, bod cyfnod y pregethwyr ar fyned heibio, a chyfnod y cerddorion yn agos i'w bwynt uchaf. Ymddengys i mi fod y pregethwyr yn gallach yn eu cenhedlaeth' na'r beirdd, canys y maent hwy [yn cofio'r adnod] . . "Na chau safn yr ŷch sydd yn dyrnu." Nid er mwyn ychen y maes nacychen Rhydychen' yn unig yr ysgrifennwyd hyn, ond er mwyn pob creadur sydd yn dyrnu—yn llafurio er mwyn eraill, pa un bynnag ai clerigwr, ai pregethwr, ai blaenor, ai athro, ai politegwr, ai cerddor, ai bardd. Am ddyrnu ac nid am fod yn ŷch y dylid gwobrwyo pob dyn, onid e, fy nhad?

Er mai ychydig o lenorion ac o ddiwygwyr cymdeithasol a gwladol sydd yng Nghymru, ac er eu bod o achos eu prinder yn fwy anhepgor na degau o bregethwyr, eto nid oes dim yn sicr iddynt hwy ond erledigaeth yng nghanol eu hoes, esgeulus— tra yn niwedd eu hoes, a chlod ar ôl marw.

Os mynn fy nghyfaill Egmont gael o hyd i wraig brydferth heb chwilio llawer, deued i Gymru. Yma y mae'r merched mwyaf croenlan a welais i. Ond dealled ef eu bod hwy, at ei gilydd, yn fwy an— wybodus na merched y Cyfandir, ac yn falchach o lawer iawn. Diau y byddai merched y Cyfandir cyn falched â hwythau pe megid hwy a'u haddysgu yn gyffelyb. Addysg fas a diwerth iawn a gaiff merched Cymreig gan athrawesau Seisnig mewn teulu ac mewn gwest-ysgol (pension). Pan ddelont o'r gyfryw ysgol, odid byth y bydd rhieni parchus' yn perffeithio'u haddysg trwy eu hanfon am flwyddyn neu ddwy i ffermdy neu westy i ddysgu gwaith tŷ; yn hytrach byddant yn eu cadw gartref i chwarae ar y piano, i ganu Beautiful Star, ac i frodio antimacassars.

Bydd rhai o'r cyfoethogion Cymreig yn cymryd arnynt fod yn Gymroaidd iawn ar lwyfan Eisteddfod (gwyddost pa beth yw Eisteddfod?), ond ni byddant yn cyflogi neb i addysgu eu plant yn iaith y brodorion. Ni chlywais addo ohonynt gynorthwyo un cyhoeddwr i argraffu ac i werthu'n rhad yr hen ysgrifau Cymraeg sy'n pydru mewn cistiau. Nid wyf chwaith yn meddwl iddynt godi cerflun na chofgolofn i Lywelyn nac i Ywain Glyn Dŵr, nac i un Cymro enwog arall. Diolched ysbryd Van Artwelde ac ysbryd Goswyn Verreyck nad yng Nghymru y'u ganwyd.

Y mae tai trefi Cymreig yn is ac yn fwy diaddurn hyd yn oed na thai trefi Seisnig. Nid oes un parc cyhoeddus ynglŷn â'r pentrefi. Ni welais mewn un parth goed ffrwythog rhwng y caeau, nac ar ochrau'r priffyrdd. Nid oes llwybr cyhoeddus trwy'r gerddi a'r perllannau. Yn wir, y maent wedi eu cau â gwaliau neu ynteu â gwrychoedd uchel. Gallwn i feddwl bod gwrychoedd a gwaliau mor angenrheidiol i gadw Prydeinwyr yn onest ag ydyw deddfau seneddol i'w cadw'n sobr.

Dylwn ddywedyd wrthyt fod yng Nghymru gymdeithasau dirwestol sy'n gwneud ymdrechion canmoladwy i sobri eu cydwladwyr. Gresyn hagen fod cynifer o'u haelodau yn eu niweidio eu hunain, a dirwest hefyd, trwy haeru pethau mor ddisail ac anniffynadwy. Nid digon ganddynt bregethu y dylai pawb yn wastadol ac ymhobman lwyr ymwrthod â phob diod feddwol. Diau y gallent brofi ei bod yn annichon i genhedloedd gwancus didoriad o fath y Prydeinwyr fod yn sobr heb fod yn llwyrymwrthodwyr; ac wedi profi hynny, gallent brofi ymhellach yn wyneb rheswm ac Ysgrythur ei bod yn angenrheidiol i bobl felly fod yn llwyrymwrthodwyr er mwyn bod yn sobr. Heblaw hynny, gallent brofi y dylai yfwr bychan beidio ag yfed dim pe gallent brofi y byddai hynny'n foddion i gadw eraill rhag yfed gormod. Ond ni fynn llawer o ddirwestwyr Cymru aros ar y tir diogel yna. Gwastraffant eu hamser a'u doniau i geisio profi bod y Beibl yn gorchymyn i bob dyn ymhobman edifarhau,' a llwyrymwrthod hefyd! Gwn i a thithau'n dda fod gwin cri yn troi'n feddwol ohono'i hun ymhen wyth neu naw diwrnod, ac eto, nid yw'r ffaith hon, na thystiolaethau hanesiol, yn atal rhai dirwestwyr Prydeinig rhag haeru na fyddai Crist a'i ddisgyblion ddim yn yfed gwin eplesedig. Yn ddiweddar dyfeisiodd masnachwyr rhyw ddiod a elwir yn rasol yn 'win anfeddwol' gogyfer â dirwestwyr eithafol Prydain Fawr; a hon a yfant mewn rhai mannau yn lle gwin gwirioneddol i gofio angau'r Gwaredwr. Dywedant mai diod debyg i hon oedd y gwin naturiol a'r gwin gwyrthiol a yfwyd yn y wledd briodasol yng Nghana Galilea. Yr wyf ar dir i ddywedyd wrthyt bod hynny cyn wired â bod yr adnod hon yn Efengyl Ioan: "Cato fi! Meistr Llywodraethwr-y-wledd, pa ddiod yw hon a osodaist ger fy mron i, a'm gwraig, a'm cyfeillion? Onid wyt yn ystyried mai mewn ystafell briodas yr ydym, ac nid mewn ystafell feddygol? A fynnit ti wneud yr holl wahoddedigion yn sâl? A fynnit ti ddwyn y pruddglwyf arnaf i a'm priod wrth ddechrau byw? Dos! brysia! pâr ddwyn gwin—y gwin sydd yn llawenhau; fel y tynner yr adflas oddi ar ein genau. Hai! gwydraid o ddwfr oer hefyd i'r cyfaill acw, i'w atal rhag llesmeirio. Hm! gwell gan bawb, a gwell i bawb, fuasai gwledda ar ddwfr glaw nag ar y sucan merfaidd hwn." Byddai'n annichon gennyt gredu ddarfod i'r Iesu ddifetha chwe llestraid o ddwfr glân trwy ei droi yn 'win anfeddwol,' pe gwyddit pa fath drwyth ydyw. Beth a fyddai iti anfon ychydig gostreleidiau o winoedd gorau'r Cyfandir fel y gallwyf ddangos i'm cyfeillion tra dirwestol nad yw peint o win meddwol, os bydd yn ddigymysg, nac yn fwy penddarol nac yn fwy temtiol na pheint o 'win anfeddwol.'

Yr ydys yn teimlo gorthrwm y Llywodraeth Seisnig yn ddirfawr nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn yr ynys oll. Y mae'n anodd dyfalu pa fodd y mae'r amaethwyr a'r llafurwyr yn gallu byw; canys nid yw'n gyfleus iddynt hwy ysbeilio'r Eifftiaid a'r Indiaid yn enw gwareiddiad er mwyn chwanegu at ffrwyth llafur gonest. Gwyddost fod deddfau tirol y wlad hon yn wahanol i ddeddfau tirol pob gwlad arall. Y mae'n amheus gennyf a wyddost pa mor drymion a lluosog ydyw'r trethi a'r tollau. Gyda llaw, a elli di ddyfalu pa faint y mae'n rhaid i ddyn ei roi am sigâr a werthir yn Ffrainc a'r Almaen am ddimai? Dim llai na phedair ceiniog. Rhaid i'r llywodraeth gael dwy geiniog a dimai o bris pob wns o'r baco mwyaf cyffredin. Paham, tybed, y mae wystrys gymaint drutach ym Mhrydain nag ym Melg? Gwyddost y ceir yn y café harddaf ym Mrüssel ddeuddeg o wystrys, gwydraid o win, a bara ac ymenyn, am swllt a dimai. Ni chaut yn y bwyty mwyaf cyffredin yn Llundain ddeuddeg o wystrys yn unig, heb sôn am win, &c., am lai na deunaw ceiniog! Wystrys Belg! Goffi Ffrainc! Fara'r Almaen! Sigarau'r Yswisdir! —Gwae chwi pan ddychwelwyf i'r Cyfandir.

Cred fy mod yn ymdrechu bob amser ac ymhob— man i fucheddu'n deilwng o'm tad ac o'm cenedl. Er fy mod mewn gwlad ddieithr y mae anrhydedd Fflandrys megis rhactal rhwng fy llygaid.

Derbyn, fy nhad, gofion cynhesaf dy annwyl fab,

 EMRIJ VAN JAN.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 20, 1882.

XII

O ELBA I WATERLOO

Hwyrach y dywed rhai mai peth pur anghyson yw i mi, sy'n gennad hedd, dreulio amser i draethu am dair brwydr y lladdwyd ac y clwyfwyd ynddynt agos i gan mil o wŷr heb achos amgenach na bod Siôr y Trydydd a phenaduriaid uchelwaed eraill yn cenfigennu wrth ŵr a wnaed yn ymherodr trwy ewyllys y bobl ac nid trwy fraint genedigaeth. Ni cheisiaf i ymgyfiawnhau, ond addef a wnaf yn hytrach fod pob dyn yn euog o ryw anghysonderau neu'i gilydd, ac un o'm hanghysonderau i yw hyn: fod yn gas gennyf ryfel yn fy nghalon, yn enwedig ryfel y cryf yn erbyn y gwan; ac eto fod yn ddiddorol gennyf yn anad dim ddarllen hanes brwydrau rhwng byddinoedd disgybledig; ac yn ddiddorol gennyf rodio ar draws ac ar hyd y meysydd lle y cymerodd y brwydrau hynny le, ac ar hyd y ffyrdd y cerddodd yr ymladdwyr ar hydddynt i'r meysydd hynny.

Heblaw hynny, hanes Ffrainc o ddechrau'r Chwyldroad hyd ddiwedd teyrnasiad Napoleon ydyw'r hanes mwyaf swynol i mi o bob hanes, a hanes y cyfnod hwnnw ydyw'r unig hanes y gallaf i ddweud fy mod wedi rhoddi blynyddoedd i'w astudio. Y mae'n naturiol i mi, gan hynny, wybod llawn mwy am y frwydr a fu rhwng Napoleon a Wellington ar y deunawfed o Fehefin, 1815, nag am y frwydr a fu yn amser Abram rhwng Amraphel brenin Sinar a Bera brenin Sodom.

Er cynifer o ddynion rhyfedd a ddaeth i'r amlwg yn y cyfnod cyffrous y crybwyllais amdano, Napoleon yn ddiau oedd y rhyfeddaf. Plentyn y Chwyldroad ydoedd o, ac fe ellid meddwl bod Ffrainc y pryd hwnnw mewn gwewyr o achos ei bod ar esgor arno ef.

Ac heblaw mai Napoleon oedd dyn enwocaf ei oes, efô yw dyn enwocaf pob oes, oblegid y mae eisoes fwy o lyfrau wedi eu scrifennu amdano ef nag am un dyn arall ar y ddaear. Fe dystiolaethodd Mr. Gladstone mai Napoleon oedd y dyn mwyaf ei ymennydd a fu yn y byd er amser Iwl Cesar; ac fe gydsynia pawb mai Hannibal, Cesar, a Napoleon yw'r tri chadlywydd pennaf a welodd y byd. Yn wir, yr oedd Napoleon yn fwy o gadlywydd na Cesar, er bod Cesar yn fwy o lywodraethwr, yn fwy o lenor, ac yn fwy o ddyn, nag oedd yntau. Yn awr, gan ei fod yn ŵr mor hynod, ac yn dangos yn ei ddyddiau gorau gymaint o ddychymyg wrth ryfela ag a ddangosodd Dante wrth farddoni, a Raffael wrth baentio, nid yw'n anweddus i mi a'r darllenydd draethu a darllen ychydig amdano. Er mai Napoleon yn ei wendid a welwn yn Waterloo— Napoleon wedi colli ei wallt, wedi colli ei iechyd, wedi colli ei ynni, ac wedi colli mesur o'i gof hefyd; eto, fel mai Hannibal ydoedd Hannibal er i Scipio ei orchfygu ym mrwydr Zama, felly Napoleon ydoedd Napoleon er i Wellington a Blücher ei orchfygu yntau ym mrwydr Waterloo.

Nid brwydr ddiwethaf Napoleon oedd y frwydr gyntaf a gollodd o. Yr oedd y frwydr fawr benderfynol a'i hysigodd yn anaele wedi ei hymladd er ys un mis ar hugain cyn brwydr Waterloo. Fe brofwyd yn Rwsia y gallai natur ei orchfygu, ac fe brofwyd yn Leipsig y gallai dynion hefyd ei orchfygu; ac fe fu gwybod ei fod yn orchfygadwy yn gymorth i'w elynion i'w orchfygu yn Waterloo. Wrth weled ei fod wedi colli'r rhan fwyaf o'i hen sawdwyr yn eira Rwsia fe gytunodd y rhan fwyaf o alluoedd Ewrop i gasglu naw can mil o wŷr er mwyn ei lethu ym mherfeddion yr Almaen, ac wedi tridiau o ymladd tost, llwyddasant i wneud hynny. Y mae'n wir i Napoleon, trwy wahanu ei elynion, orfod arnynt mewn amryw o frwydrau ar ôl hynny, ond fe argyhoeddwyd seneddwyr Ffrainc nad oedd bosibl mwyach godi digon o filwyr newyddion i wrthsefyll holl Ewrop; am hynny diorseddasant eu Hymerodr ac a wnaethant amodau heddwch â'u gwrthwynebwyr. Fe gytunodd Napoleon i ym— alltudio i Ynys Elba, ac yn ddi-oed fe esgynnodd Louis 'r Deunawfed i orsedd Ffrainc. Cyn pen hir fe glywodd Napoleon nad oedd y brenin hwn ddim yn rhyngu bodd i'r Ffrancod ymhopeth; ie, ef a glywodd fod y cynrychiolwyr oedd wedi ymgyfarfod yn Vienna i ad-drefnu map Ewrop ac i rannu'r ysbail wedi myned i ymdaeru â'i gilydd, a bod Ostria, Lloegr, a Ffrainc eisoes yn ymbaratoi i fyned i ryfel yn erbyn Prwsia a Rwsia. Yr oedd aelodau'r Gyngres ar fedr ymwahanu pan ddygwyd iddynt y newydd brawychus fod Napoleon wedi dianc o Elba ac wedi glanio'n ddiogel ar dueddau Ffrainc. Gresyn iddo fod mor frysiog, canys pe buasai fo wedi oedi dychwelyd hyd ryw fis ymhellach, fe a gawsai'r boddhad o weled prif alluoedd Ewrop yn rhy brysur yn ymladd â'i gilydd i allu ymyrryd ag ef. Dyma'r amryfusedd cyntaf a wnaeth Napoleon yng nghorff yr amser a elwir yn "gan niwrnod." Er cymaint oedd llid y galluoedd yn erbyn ei gilydd, yr oedd eu cenfigen yn erbyn Napoleon yn fwy; am hynny, hwy a benderfynasant ymheddychu â'i gilydd er mwyn ymuno ynghyd i ddarostwng yr hwn a alwai Siôr y Trydydd "the Corsican upstart," yr hyn o'i gyfieithu yw "conach Cors." Fe geisiodd Napoleon ganddynt adael iddo eistedd yn llonydd ar orsedd Ffrainc, ond ni fynnent hwy gymaint â derbyn ei genhadon. Penderfynu a wnaethant yn hytrach ddanfon miliwn o filwyr i ymosod ar Ffrainc o bob cyfeiriad, sef 260,000 o Ostriaid o dan lywyddiaeth Schwartzenberg; 170,000 o Rwsiaid o dan Barclay de Tolly; 150,000 o Brwsiaid o dan Blücher; 120,000 o bobl gymysg o dan Wellington, ynghyd â byddin— oedd eraill llai o'r Sbaen a'r Ital. Lloegr oedd yn dwyn y rhan fwyaf o'r baich yn y rhyfel hwn fel yn y rhyfeloedd o'r blaen, canys heblaw'r arian a wariodd hi i gasglu ac i gynnal ei byddin ei hun, hi a roddodd ddeuddeng miliwn o bunnau i gynorthwyo'r galluoedd eraill oedd mewn cynghrair â hi; a hynny, dealler, yn y flwyddyn 1815 yn unig. Y mae'r ddyled o fwy na chwe chan miliwn. yr aeth y deyrnas hon iddi yn ei hymdrech i adsefydlu brenhiniaeth etifeddol yn Ffrainc heb ei thalu eto, ac fe bery'r ddyled hon i fod yn orthrwm ar ein gwlad dros lawer o genedlaethau.

Ar ôl gweled nad oedd wiw iddo ddisgwyl am heddwch fe ymbaratôdd Napoleon i ryfel. Yr oedd ei anfanteision yn fawr, canys ar ôl ei gwymp yn Leipsig yr oedd popeth yn Ffrainc wedi myned i gyflwr didrefn. Yr oedd y wlad, o hir ymladd â holl Ewrop, wedi ei hysbyddu o filwyr cymwys i ryfel, ac yr oedd bellach fwy o hen filwyr Napoleon ym myddinoedd ei elynion nag yn ei fyddin ef ei hun. Yr oedd corff y genedl oddieithr y Fyddin wedi blino ar ryfel ac yn chwenychu heddwch. Yr oedd pleidwyr y frenhiniaeth eto'n lluosog yn y wlad ac yn dra gelynol i Napoleon, a chan fod y rhain yn Babyddion brwd, yr oeddent yn ei gasáu yn fwy o achos iddo ddwyn ymaith a charcharu'r Pab. Yr oedd pleidwyr y Weriniaeth hefyd agos mor wrthwynebol i'r Ymerodraeth ag oeddynt i'r Frenhiniaeth, ac er mwyn ennill cefnogaeth y rhain fe fu raid i Napoleon roi swydd uchel a phwysig i'r diegwyddor Fouché, yr hwn y buasai'n well gan yr Ymherodr ei saethu na'i anrhydeddu, am ei fod yn gwybod bod y Fouché hwn yn ymohebu'n fradwrus â Wellington a Metternich. Yr oedd amryw o'i hen swyddogion yn anfoddlon i'w wasanaethu o achos llw a wnaethant i'r Brenin Louis, ac nid oedd gan y milwyr fawr o ymddiried yn y rhan fwyaf o'r swyddogion a dorrodd eu llw er mwyn derbyn uchel swyddau drachefn o dan yr Ymherodr. Nid oedd neb yn amau nad oedd Ney yn hollol ddi- ragrith wrth gilio'n gyntaf oddi wrth yr Ymherodr at y Brenin, ac wrth gilio drachefn oddi wrth y Brenin at yr Ymherodr; ond yr oedd yr ymdeimlad o'i anwadalwch a'i anghysondeb wedi effeithio cymaint ar ei ymennydd ef ei hun fel y barnodd Napoleon hyd y funud olaf nad oedd yn ddiogel iddo ymddiried un rhan o'r fyddin i Ney yn yr ymgyrch bresennol. Er gwaethaf y rhwystrau hyn. ac eraill, fe wnaeth Napoleon bethau rhyfedd yng nghorff y byr amser a gafodd i ymbaratoi; canys. erbyn y ddeuddegfed o fis Mehefin yr oedd ganddo 250,000 o filwyr yn barod i ryfel ar gyffiniau Belg,. yr Almaen, yr Ital, a'r Sbaen. Ysywaeth, fe fu raid iddo ddanfon trigain mil o'r rhain i ddarostwng gwrthryfel a godasai'r Brenhinwyr yn y rhan o Ffrainc a elwir La Vendée. Dyma'r gyntaf o'r aml anffodion y cyfarfu Napoleon â hwynt yn ei hynt anffortunus i Belg. Oni buasai'r gwrthryfel hwn, fe fuasai'r fyddin Ffrengig oedd dan ei arweiniad ef yn fwy na'r gryfaf o'r ddwy fyddin wrthwynebol oedd yn sefyll agosaf i Ffrainc. Yn lle bod ganddo gan mil a hanner o filwyr yn croesi'r cyffiniau i Belg, nid oedd ganddo mwyach prin gant a chwarter o filoedd. Y mae'n wir fod y nifer hwn yn fwy na digon yn llaw Napoleon i orchfygu Blücher a Wellington ar wahân; ond pe buasai'r ddau hyn yn cyfuno eu byddinoedd ynghyd, yr oedd yn amheus, a dywedyd y lleiaf, a allesid eu gorchfygu yn yr amgylchiadau presennol; canys rhaid cofio nad oedd Napoleon ei hun mo'r dyn egnïol a fuasai cyn colli ei iechyd yn Rwsia, ac nad oedd ei fyddin chwaith ddim cystal ag y buasai hi gynt, ac nad oedd ganddo mwyach gynifer o swyddogion medrus ag a fuasai ganddo unwaith. Yr oedd Berthier, sgrifennydd ei orchmynion a phennaeth ei osgordd, wedi cefnu arno; felly hefyd yr oedd ei frawd-ynghyfraith Murat, pennaeth ei farchoglu; ac yr oedd Mortier, pennaeth ei warchodlu, wedi clafychu ar y ffordd. Yr oedd absenoldeb Mortier yn Waterloo agos mor bwysig ag absenoldeb Grouchy.

Er y byddai'n ormod dywedyd bod gan Blücher gystal milwyr ag oedd gan Napoleon, eto yr oedd ganddo y waith hon filwyr mwy profedig. Yr oedd milwyr Wellington ychydig yn llai eu nifer ac yn fwy anghyfartal eu gwerth na milwyr Blücher. Tramorwyr oedd y rhan fwyaf ohonynt o lawer; ac yr oedd y rheini oll, oddieithr yr Hanoferiaid, wedi bod yn ymladd am dymor o dan Faner Ffrainc. Bu hyn yn gymorth nid bychan iddynt i ymladd yn erbyn y Ffrancod yn y rhyfel hwn. Yr oedd yr Hanoferiaid hefyd yn filwyr deallus a phrofedig, canys yr oeddynt hwythau gan mwyaf wedi bod yn ymladd o dan Wellington yn y Sbaen. Yr oedd y bumed ran o'r fyddin oedd gan Wellington yn Belg yn Frytaniaid a Gwyddelod, ac er mai dynion anneallus ac anfoesol wedi eu cymryd o blith gwehilion y bobl oedd y rhain agos i gyd, eto yr oedd Wellington trwy ddisgyblaeth lem wedi eu gwneuthur yn ymladdwyr gwych. Yr oeddynt yn barod i ryfela yn erbyn pob gelyn oddieithr y cnawd a'r diafol, ac nid oedd arnynt ddim ofn marw cyhyd ag y caent ddigon o gigfwyd a chwrw a chysgu tra byddent yn fyw.

Cant a chwech o filoedd oedd nifer y milwyr oedd gan Wellington yn barod i gyfarfod â Napoleon. Ac arfer ffigurau crynion, dyma eu nifer yn ôl eu cenedl: 50,000 o Ellmyn, 29,000 o Fatafiaid (Is- Ellmyn) a Belgiaid, a 21,000 21,000 o Brydeiniaid a Gwyddelod. Fe welir felly mai ffôl o beth yw galw byddin Wellington yn fyddin Seisnig cymhwysach o lawer fyddai ei galw'n fyddin Ellmynnig; ie'n wir, yn fyddin o Ellmyn y dysgesid y rhan fwyaf ohonynt i ryfela gan Napoleon ei hun. Fe fu miloedd lawer o Brwsiaid hefyd yn ymladd unwaith o dan Faner Ffrainc, ond gwybydder nad Ellmyn yw'r Prwsiaid o ran gwaed na chymeriad, er eu bod ers talm o amser bellach yn siarad iaith yr Ellmyn.

Gair byr eto am y tri maeslywydd yn y rhyfel hwn. Yr oedd Blücher erbyn hyn yn ŵr penllwyd deuddeg a thrigain oed, ac er ei fod yn gweithio'n galed yn amser rhyfel, ac yn pechu'n galed yn amser heddwch, eto yr oedd o'n parhau i fod mor heini ac egnïol a'r llanc iachaf yn ei fyddin. Dyn gwrol hyd at fod yn ddibris ydoedd o. Efô, yn wir, oedd yr unig gadlywydd yn Ewrop nad oedd arno ddim o ofn Napoleon. Er i hwn roi curfa dost iddo lawer gwaith, eto nid oedd modd ei ddychrynu na'i ddigalonni. Yr oedd ei ddull rhydd a thadol yn ei wneud yn annwyl gan ei filwyr, ac nid oedd neb â chanddo gymaint o ddawn ag ef i danio eu hysbryd. Ond os Blücher oedd calon a llaw byddin Prwsia, Gneisenau oedd ei hymennydd, ac yr oedd Blücher ei hun yn ddigon gonest i addef hynny; canys pan oedd o unwaith mewn cyfeddach ym Merlin, ef a ddywedodd wrth ei gymdeithion, "Mi a wnaf yn awr beth na all neb ohonoch chwi ei wneud, canys chwi a'm gwelwch yn cusanu fy mhen fy hun," a phan oeddynt yn rhyfeddu pa fodd y gallai wneud y fath beth, ef a gododd ac a roes gusan i'w gyfaill Gneisenau, gan ddywedyd, "Dyma fy mhen i." Bryd arall, pan ddywedwyd wrtho fod Athrofa Rhydychen yn bwriadu ei raddio yn Ddoethor, fe atebodd yntau, "O'r gorau; ond os mynnant fy ngwneud yn Ddoctor, hwy a ddylent wneud Gneisenau yn ddrogydd (druggist); canys os mai myfi sy'n rhoddi'r pelennau, efô sy'n eu gwneuthur."

Yr oedd y Maeslywydd Wellington yn ddyn cwbl wahanol i Blücher o ran ei dymer, er ei fod o ran cyneddfau yn debycach i Blücher nag i Napoleon. Dyn pwyllog a thra gochelgar oedd o; ac er ei fod yn falch a phenderfynol iawn, eto nid oedd o un amser yn rhy falch i gilio rhag gelyn cryfach nag ef ei hun. Ond er y byddai fo'n fynych yn gwrthod brwydr, ni byddai fo byth yn ymroddi ar ôl ei derbyn. Fel ymladdwr amddiffynnol ar faes cyfyng yr oedd o'n ddiguro; ond yr oedd o'n rhy amddifad o ddychymyg i ragori fel ymladdwr ymosodol ar gylch eang. Y mae hyn yr un peth a dweud ei fod yn daethegwr—yn tactician rhagorol, ond ei fod yn stradegydd—strategist israddol. I allu cynllunio ymlaenllaw, y mae'n rhaid i ddyn allu gweled yr anweledig; a rhagoriaeth uchaf Wellington oedd gallu gweled yn eglur yr hyn oedd ger ei fron yn unig. I wneuthur cyfuniadau mawrion a llydain. cyn brwydr y mae'n rhaid wrth awen (genius), ac nid ydoedd gan Wellington ddim awen. Er bod y gwŷr cymhwysaf i farnu yn addef iddo wneud camgymeriadau pwysig yn yr India, yn y Sbaen, ac ym Melg hefyd; eto, trwy ryw ddamwain neu'i gilydd, ni ddioddefodd fawr o niwed oddi wrth y camgymeriadau hynny; ac oblegid hyn y cyfrifid ef yn ei ddydd y maeslywydd mwyaf ffortunus yn Ewrop. Ni ellir ei osod ef gyda Napoleon a Hannibal yn y rhes flaenaf o gadlywyddion, na chwaith gyda Turenne a Marlborough yn yr ail res, ond y mae agos pawb yn barod i'w osod gyda Ffredrich Fawr a Moltke ar ben y drydedd res.

Y mae'n hysbys nad oedd Wellington, o achos oeredd ei natur, ddim mor hoff gan ei filwyr a'i swyddogion ag oedd Napoleon a Blücher; er hynny, yr oedd ganddynt barch mawr iddo, a llawer iawn o ymddiried ynddo.

Odid na welodd pob un ohonoch ddarlun ohono o'i ysgwyddau i fyny. Y dyn tebycaf a fu erioed i John Elias, os nad yw darlun John Elias yn un dychmygol ac anghywir fel y darlun genethig a wnaed o Williams, Pant-y-celyn. Pen hirgul a thalcen cyfyng; llygaid pŵl yn edrych yn union ar eu cyfer; arleisiau isel a bochgernau uchel; trwyn mawr crwm fel trwyn Rhufeiniwr, a gên oedd yn hwy na'i drwyn. Ei enau oedd yr unig ran o'i wyneb oedd yn weddol Roegaidd. Y mae'r holl bethau hyn gyda'i gilydd yn dangos bod ganddo ewyllys gref a chydwybod fawr, ond ei fod yn pallu mewn crebwyll a chydymdeimlad; fod ganddo fwy o ddawn i ddirnad nag i amgyffred; hynny ydyw, fod ei feddwl yn hytrach yn gryf nag yn eang. Ar air, y mae'r wyneb yn peri ichwi synio'n dda am y dyn; ond nid oes ynddo ddim swyn na dim dirgelwch—dim i'ch tynnu i syllu arno'n ddi-baid fel ar wyneb Napoleon. Yr ydych yn gweled y cwbl sydd ynddo ag un drem, ac yna'n myned rhagoch at eich gorchwyl gan ddywedyd mai Gwyddel gwych oedd Wellington.

Hwyrach y byddai'n fuddiol imi chwanegu mai yn yr un flwyddyn â Napoleon y ganed ef, ac mai mewn ysgol filwrol yn Ffrainc yr addysgwyd yntau'n bennaf; ond ni ragorodd o mewn dim heblaw gwybodaeth o'r Ffrangeg. Dyn go ddwl y cyfrifid ef yn ei ieuenctid, ond fe gyfrifid ei frawd Richard yn ddyn disglair iawn. Oni buasai i hwn, trwy ei fawr ddylanwad yn y Llywodraeth, ddyrchafu ei frawd iau i swydd anrhydeddus yn y Fyddin, fe fuasai Arthur, Duc Wellington, wedi gadael ei wlad mewn digalondid, a threulio'i fyd fel masnachwr yn yr Amerig. Fe ddylai llwyddiant Wellington beri cysur i bob bachgen pendew.

Am Napoleon, ni ellir dweud ei fod ef mor gydwybodol â Wellington, nac mor onest â Blücher chwaith; ond o ran ei deithi meddyliol yr oedd o gymaint uwch na hwynt—hwy ag ydyw'r bardd na'r prydydd. Ni allasai un o'r ddau hyn orchfygu tair rhan o bedair o holl Ewrop, a'u cadw am gyhyd o amser dan ei droed. Ni allasai un ohonynt wneud ei wlad mor waraidd ac mor llwyddiannus â Ffrainc yn ystod yr amser pan oedd Napoleon yn bennaeth y Weriniaeth ac yn bennaeth yr Ymerodraeth. Ni allasai ac ni fynasai un ohonynt hwy roddi i'w wlad ddeddfau mor syml ac mor deg â'r rhai sy'n sgrifenedig yn y Code Napoléon. Ni allasai un ohonynt chwaith, heb ymddrysu, ymddiddori ymhob rhyw beth yr oeddid yn ei ddysgu, yn ei ddyfeisio, ac yn ei wneuthur yn ei wlad ei hun ac ym mhob gwlad arall. Ond er bod Napoleon yn ddyn mawr, yr oedd ynddo gryn lawer o'r plentyn hefyd; neu'n hytrach, o eneth wedi ei difetha gan ei mam. Gwên angel oedd ganddo fo pan fyddai fo'n gwenu, a chuwch cythraul oedd ganddo pan fyddai fo'n cuchio. Yr oedd ei wyneb cyn ystwythed â maneg; ac fe ellid darllen arno ei deimladau o bell. Yr oedd o'n rhy dymherog ac yn rhy sydyn ei symudiadau i ymddangos yn urddasol bob amser ac ymhobman. Er hyn oll, yr oedd y fath swyn yn ei olwg ac yn ei lais fel yr oedd o'n gwirioni ei filwyr; ac fe gyfrifid ei bresenoldeb ef yn eu plith yn gyfartal â deugain mil o wŷr. Er ei fod yn ddiofal iawn am fywyd ei filwyr, eto'r oedd o'n bur ofalus am eu cysur a'u llwyddiant; ac fe daera rhai mai o achos iddo ymdroi gormod i ymweled â'r clwyfedigion. ar faes Ligny y collodd o'r frwydr yn Waterloo. Y mae'n anodd iawn credu y buasai fo mor garedig gan ei filwyr pe buasai fo mor ddideimlad ag y dywed rhai ei fod. Pan fyddai fo'n dyfod i'r golwg, nid peth anghyff— redin o gwbl fyddai gweled rhywbeth tebyg i'r hyn a welwyd ar faes Waterloo, sef milwr clwyfedig â'i fraich yn hongian gerfydd un neu ddau o'r gewynnau, ac yntau'n ei thynnu ymaith oddi wrth ei gorff, ac yn ei thaflu i fyny i'r awyr gan lefain, 'Byw byth fo'r Ymherodr!

Y mae'n sicr fod pob un ohonoch wedi gweled darlun o Napoleon; ond a welsoch chwi ddarlun da ohono? Os gwelsoch, nid anghofiwch mono byth. Dyn bychan o gorffolaeth, ac iddo ben mawr a gwddf byr. Go denau pan oedd yn ieuanc, a go dew yn ganol oed. Wyneb moel, clasuraidd ei doriad, yn dangos ei fod yn hanfod o'r hen Roegiaid. Pryd gwelw, ac arno wawr felynaidd. Talcen uchel a llydan, a'i waelod yn ymdaflu allan dros ddau lygad llawn—dau lygad oedd weithiau'n befr ond nid yn deryll; ac weithiau braidd yn gibog ond nid yn llym chwaith, eithr hytrach yn ddwys, ac fel pe buasent yn edrych ar bawb ar yr un pryd, ac yn cyniwair trwy'r ddaear a thrwy amser, draw, draw, i ber— feddion tragwyddoldeb. Trwyn syth, heb fod yn fain nac yn drwchus; a gwefusau lluniaidd odiaeth fel pe baent wedi eu naddu â chŷn Phidias. Ar air, yr oedd o'n gyfryw ddyn, fel pan welid ef yn myned heibio, y dywedai mamau'r Cyfandir wrth eu plant, Wele'r dyn," neu "Dacw fo." Nid oedd raid i neb ddywedyd, "Wele'r Ymherodr," neu "Dacw Napoleon."

Pan oedd o'n ieuanc yn yr ysgol nid oedd o'n ddwl nac yn ddisglair chwaith. Mewn mesuroniaeth a hanesyddiaeth yn unig yr oedd o'n rhagori. Fe wyddai ei athrawon bod ynddo lawer o allu cuddiedig, ond gan ei fod yn llencyn ymgilgar a thawedog, fe fuasai'n rhyfedd iawn gan ei gyd— ysgolheigion glywed rhywun yn proffwydo mai Bonaparte bach o Ynys Cors fyddai, cyn pen ychydig flynyddoedd, y gŵr enwocaf yn yr holl fyd.

Cyn imi ymdroi i sôn am y tri maeslywydd yn rhyfel byr y flwyddyn 1815, mi a ddywedais fod Napoleon wedi gyrru byddinoedd i amddiffyn Ffrainc o du'r de a'r dwyrain, ac wedi dwyn ei fyddin ogleddol, sef ei brif fyddin, hyd yn agos gyffiniau Belg erbyn y deuddegfed o fis Mehefin. Ef a wnaeth hyn yn gyflym ac yn ddirgel odiaeth, fel na wyddai Blücher a Wellington pa bryd nac ymha fan y croesai fo'r cyffiniau er mwyn ymosod arnynt. Yn wir, yr oedd yn anodd ganddynt gredu y beiddiai fo ymosod arnynt o gwbl hefo byddin oedd agos yn llai o'r hanner na'u byddinoedd hwy; ond os gwnâi o hynny, yr oedd Wellington yn barnu mai ymosod a wnâi o'n gyntaf ar ei fyddin ef yng ngogleddbarth Belg, a Blücher yntau'n barnu mai ymosod a wnâi o'n gyntaf ar ei fyddin ef yn neheu— barth Belg. Ond nid oedd Napoleon yn bwriadu gwneud y naill beth na'r llall, na dim arall a fyddai'n foddion i wthio'r naill fyddin i freichiau'r llall. Ei fwriad ef yn hytrach oedd rhuthro ar y fan lle yr oedd asgell aswy byddin Wellington yn ym gyffwrdd ag asgell dde byddin Blücher, er mwyn eu gwahanu oddi wrth ei gilydd, ac yna ymosod hefo'r rhan fwyaf o'i fyddin ar y Prwsiaid, tra byddai fo a'r rhan leiaf o'i fyddin yn atal Wellington rhag eu cynorthwyo hwynt; ac yna ar ôl gorchfygu Blücher, troi a dinistrio Wellington—oni lwyddai hwn i ffoi rhagddo mewn pryd. Er mwyn cwblhau'r cynllun hwn fe ddarfu i Napoleon ar fore'r pymthegfed o Fehefin groesi'r afon Sambre gyferbyn â Charleroi, ac o Charleroi ef a arweiniodd gorff ei fyddin tua'r gogledd-ddwyrain yng nghyfeiriad Namur lle'r oedd pencadlys Blücher; ac a yrrodd adran ohoni o dan lywyddiaeth Ney tua'r gogledd yng nghyfeiriad Brüssel lle'r oedd pencadlys Wellington, er mwyn iddo ef a Ney feddiannu'r groesffordd fawr sy rhwng Sombreffe a Quatre Bras, ac felly, dorri'r cymundeb rhwng Blücher a Wellington. Yr ydys yn cydnabod bod cynllun Napoleon a'i holl gyfuniadau cyffredinol y rhai gorau a allesid eu dychmygu ac yn gwbl deilwng o'i awen, ac o'r tu arall y mae pob beirniad cymwys a di—ragfarn hyd yn oed ymhlith y Prwsiaid a'r Saeson yn addef bellach fod trefniadau Blücher a Wellington y rhai gwaelaf a allesid eu gwneuthur, ac nad oes fawr o ddiolch iddynt hwy am na ddinistriwyd eu byddinoedd yn llwyr ar yr unfed dydd ar bymtheg o Fehefin, ac am na buasai Napoleon drannoeth yn Brüssel yn ôl ei arfaeth. Yn un peth, yr oedd eu byddinoedd yn rhy wasgar— edig o lawer, ac am hynny ni ellid eu crynhoi ynghyd mewn byr amser. Peth arall, yr oeddynt yn sefyll yn rhy agos i gyffiniau Ffrainc, ac am hynny yr oedd yn rhaid iddynt ymgrynhoi megis o dan ynnau'r Ffrancod. Er bod cynllun Napoleon yn berffaith, ni allwyd ei gwblhau yn hollol, canys y diwrnod cyn i Napoleon groesi i wlad Belg fe ddarfu i ddau o'i brif swyddogion oedd yn eu calon yn bleidiol i'r Brenin Louis adael y fyddin a myned drosodd at y Prwsiaid a datguddio iddynt gymaint ag a wyddent o fwriad yr Ymherodr. Fe roes hyn gyfleustra i'r llu o Brwsiaid oedd yn gwylio'r cyffiniau o dan y Cadlywydd Ziethen i arafhau cerddediad y Ffrancod ar hyd y ffyrdd culion sy'n arwain i Fleurus, ac amser i Blücher i gasglu ynghyd 88,000 o'i fyddin i ymyl pentref Ligny, yr hwn sydd o flaen Sombreffe. Fe ddanfonodd Blücher y newydd yn ddi-oed i Wellington, ac a ddymunodd arno frysio i grynhoi ei fyddin ac i ymwasgu at asgell dde ei fyddin ef gerllaw Ligny, er mwyn iddynt ill dau gydosod ar Napoleon. Ond ni fynnai Wellington gredu bod cyrch Napoleon yn y cyfeiriad hwnnw, ac am hynny ateb a wnaeth o na byddai'n ddiogel iddo orchymyn i'w filwyr ymdeithio tua Ligny hyd oni châi o chwaneg o sicrwydd. Fe ddanfonodd Blücher ato eilwaith i ddywedyd nad oedd dim amheuaeth nad oedd y rhan fwyaf o'r fyddin Ffrengig wedi croesi i Belg yng nghymdogaeth Charleroi, a'i fod ef yn bwriadu ei gwrthsefyll yn Ligny. Ar ôl derbyn y genadwri hon, fe orchmynnodd Wellington i ran o'i fyddin symud hyd i Nivelles, ond nid cyn belled â Quatre Bras a Ligny. Y mae'n ddiamheuol y buasai'n well gan Wellington oedi cyfarfod â Napoleon hyd oni buasai'r Ostriaid a'r Rwsiaid wedi cyrraedd Rhein. Ar ôl colli tair awr ar ddeg i betruso ac i ymesguso, fe roed math o orfod arno i symud yn nes at Blücher trwy i ddau gadlywydd tramor oedd yn ei fyddin, sef Saxe— Weimar a Perpoucher, gymryd saith mil o Felgiaid, Batafiaid, ac Ellmyn, o Nivelles heb ganiatâd Wellington, er mwyn meddiannu pedair croesffordd Quatre Bras. Ymddygiad anturus y rhain a gadwodd y sefyllfa bwysig honno rhag syrthio i ddwylo rhagfilwyr y fyddin Ffrengig. Cyn gynted ag y bu'n wiw gan Napoleon roi swydd i Ney yn ei fyddin, ef a ymddiriedodd iddo fintai gref o filwyr, gan orchymyn iddo ysgubo popeth oddi ar ei ffordd yn Quatre Bras, ac yna ar ôl gadael rhai o'i wŷr i feddiannu'r lle, brysio gyda'r lleill ar hyd ffordd Namur er mwyn ymosod ar gefn ac asgell aswy'r Prwsiaid, tra byddai fo'n ymosod arnynt o'r tu blaen. Fe fuasai'n hawdd iawn i Ney wneud hynny pe buasai fo'n debyg iddo'i hun; ond am y rheswm a grybwyllais o'r blaen, yr oedd o yn y rhyfel hwn yn hollol ffwndrus, gan ei fod yn gweithredu weithiau yn rhy arafaidd ac weithiau yn rhy frysiog. Wrth weled milwyr yn yr adeiladau, yn y coed, a thu ôl i'r cloddiau, yn Quatre Bras, fe dybiodd o fod holl fyddin Wellington o'i flaen; ac am hynny ef a oedodd ddechrau brwydro hyd oni chyrhaeddai chwaneg o'i adnoddau; ac ar ôl dechrau ymladd, ymladd yn llesg a gochelgar iawn a wnaeth o, fel pe buasai arno ofn syrthio i fagl. Fe roes hyn gyfle i Wellington, o ganol y prynhawn ymlaen, i ddwyn mintai ar ôl mintai o Brüssel, fel yr oedd ganddo cyn nos gymaint ddwywaith o wŷr ag oedd gan Ney, er bod gan Ney cyn dyfodiad Picton gymaint ddwywaith o wŷr ag oedd gan Dywysog Oranje, yr hwn oedd yn llywyddu cyn dyfod Wellington i'r maes. Pe buasai Ney wedi ymladd mor benderfynol yn erbyn yr ychydig ag y darfu iddo yn niwedd y dydd ymladd yn erbyn y llawer, ef a allasai fod wedi meddiannu Quatre Bras cyn i gymaint ag un Brytaniad gyrraedd y lle, ac wedi gallu cynorthwyo Napoleon i lwyr ddifetha'r Prwsiaid. Fe ddigwydd odd peth arall pur anffodus i'r Ffrancod ar y diwrnod hwn; yr oedd Napoleon yn ddoeth iawn wedi gosod y Cadlywydd D'Erlon gyda phum mil ar hugain o filwyr o'r tu ôl, megis trydydd troed stôl, yng nghyrraedd y ddwy fyddin Ffrengig, er mwyn iddi fod yn barod i gyfnerthu'r naill neu'r llall pan fyddai gwir angen am hynny. Wrth weled nad oedd Ney wedi dyfod i ymosod ar y Prwsiaid o'r tu cefn, fe ddanfonodd yr Ymherodr orchymyn i D'Erlon wneud hynny; ond cyn i hwn gyrraedd y Prwsiaid, ef a gafodd genadwri arall oddi wrth Ney yn dymuno'n daer arno ddyfod i'w gynorthwyo ef, am nad oedd ganddo mwyach prin ddeunaw mil o wŷr i ymladd yn erbyn deugain mil Wellington. Rhag ofn bod Ney mewn perygl, fe ymdeithiodd D'Erlon tua Quatre Bras, ond erbyn iddo gyrraedd yno yr oedd y nos wedi terfynu'r frwydr, a Ney wedi encilio i'r wersyllfa yr oedd o ynddi cyn dechrau ymosod. Felly, fe fu pum mil ar hugain D'Erlon yn ymdeithio yn ôl ac ymlaen y prynhawn hwnnw heb danio un ergyd i gynorthwyo Ney na Napoleon. Pe buasai Ney wedi galw amdano ynghynt, neu wedi peidio â galw amdano pan oedd o ar fedr amgau'r Prwsiaid, fe fuasai goruchafiaeth Napoleon y diwrnod hwnnw yn llwyrach o lawer. Er hynny, ef a gwblhaodd ei amcan mewn rhan; canys ef a orchfygodd y Prwsiaid yn dost, ac er na lwyddodd Ney i orchfygu'r fyddin gyfunol yn Quatre Bras, fe lwyddodd yntau i'w rhwystro hi i gynorthwyo'r Prwsiaid. Yr oedd Wellington wedi addo bod yn Ligny erbyn pedwar o'r gloch, ond ni chafodd o gyrraedd yno o gwbl; a chan fod y Prwsiaid wedi eu cilgwthio o Ligny, fe fyddai Napoleon ei hun drannoeth ar dir i gilgwthio Wellington o Quatre Bras. Brwydr waedlyd iawn oedd brwydr Ligny; canys fe gollodd y Prwsiaid tuag ugain mil o wŷr, ac fe gollodd y Ffrancod ddeng mil. Tua chwe mil a gollodd Wellington yn Quatre Bras, ac ychydig dros bedair mil a gollodd Ney. Rhagoriaeth eu magnelwyr a'u marchogion a alluogodd y Ffrancod i beri cymaint o golled i'w gwrthwynebwyr.

Ar ôl brwydr Ligny fe ddychwelodd Napoleon i'w bencadlys yn glaf, ac a aeth i'w wely heb roi dim cyfarwyddiadau i'w swyddogion. Naw ar gloch bore drannoeth ef a aeth mewn cerbyd i weled maes y gad am ei fod yn rhy wael i farchogaeth. Er bod cysuro'r clwyfedigion yn waith da yn ddiau, eto y mae'r rhan fwyaf yn beio Napoleon am wneud hynny ar fore pan oedd pob munud o amser mor werthfawr iddo; ac yn ei feio'n enwedig am na ddanfonasai fo ran o'i fyddin dan Grouchy i ymlid y Prwsiaid yn gyntaf dim yn y bore; a rhai yn ei feio am ddanfon Grouchy o gwbl yn lle danfon cadlywydd iau a bywiocach. Y mae'n sicr na buasai fo, er gwaethaf ei afiechyd, ddim mor ymarhous pe gwybuasai fo fod y Prwsiaid, yn lle encilio'n anhrefnus tua'r de-ddwyrain i Namur, yn encilio'n weddol drefnus tua'r gogledd-ddwyrain i Wavre, a bod corfflu newydd o Brwsiaid o dan Bülow wedi ymuno â hwynt ar y ffordd. Gan fod y rhan fwyaf o'r Ellmyn a oedd ym myddin y Prwsiaid wedi ffoi yn ystod y nos tua Namur, fe dybiodd Napoleon mai tuag yno yr aethai'r holl fyddin. Yr oedd hi'n brynhawn yr eilfed dydd ar bymtheg pan gafodd Grouchy orchymyn i gymryd 34,000 o wŷr i ymlid ac i wylio'r Prwsiaid gorchfygedig, ac yr oedd hi'n brynhawn pan gychwynnodd Napoleon i Quatre Bras. Yr oedd hi'n ddeg o'r gloch y nos pan wybu Grouchy fod rhan o'r fyddin Brwsiaidd wedi myned tua Wavre, ond pe gwybuasai fo'r cwbl, yr oedd yr holl fyddin wedi cyrraedd yno erbyn hynny; ac felly yr oedd hi ar y ffordd i Brüssel oedd yn gyfochrol â'r ffordd oedd yn myned o Quatre Bras i Brüssel trwy Waterloo a thrwy ganol coedwig Soignes. Ar hyd y ffordd olaf hon yr enciliodd Wellington a'i lu ar ôl iddo glywed am orchfygiad ac encil y Prwsiaid. Fe hysbyswyd iddo fod Blücher yn bwriadu crynhoi ei filwyr yn Wavre, ddeuddeng milltir o du'r dwyrain i Waterloo, ac fe ddanfonodd yntau gennad i hysbysu Blücher y gwrthsafai fo Napoleon ym Mont St. Jean o flaen Waterloo tan yr amod bod Blücher yn addo anfon dau gorfflu o bum mil ar hugain i'w gynorthwyo. Fe atebodd Blücher y deuai o i'w gynorthwyo, nid â dau gorfflu yn unig, eithr â'i holl fyddin. Nid oes eisiau dweud yr enciliasai Wellington o Waterloo fel yr enciliodd o o Quatre Bras pe nad addawsai Blücher ymuno ag ef. Y mae'n iawn dweud hefyd na buasai Blücher chwaith, er mor feiddgar oedd o, ddim wedi addo dynesu at Wellington ar draws y wlad o Wavre, pe gwybuasai fo fod Napoleon wedi danfon Grouchy ar ei ôl; canys fe fuasai'n hawdd i hwn groesi ei lwybr a'i atal dros hir amser yn y mynedfeydd culion sy rhwng Wavre a Waterloo. Yr oedd penderfyniad Blücher a Wellington i ymuno yn Waterloo yn eu gosod mewn sefyllfa fwy peryglus nag yr oeddynt ynddi ar yr unfed dydd ar bymtheg; ie'n wir, yn yr un sefyllfa yn union ag yr oedd y Prwsiaid ynddi ym mrwydr drychinebus Jena. Erbyn hyn, y mae agos pob sgrifennydd milwrol yn condemnio eu cynllun a'u cadlywyddiaeth, er eu bod yn addef bod llwyddiant yn cuddio lliaws o ddiffygion. Pa waeth, ebe un, eu bod wedi anghofio elfennau cyntaf milwriaeth—" though they blundered, they blundered into victory"; ac y mae'r fuddugoliaeth honno i'w phriodoli i ddaear laith Waterloo, ac yn bennaf oll i amryfusedd cadarn Grouchy.

Dychwelwn bellach at Napoleon. Erbyn iddo gyrraedd Quatre Bras, yr oedd byddin Wellington, oddieithr y gwŷr meirch, wedi myned ymaith. Fe ymlidiodd y Ffrancod ar ôl y rhai hyn hyd i Genappe ac ymhellach, ond ni allasent wneud llawer o niwed iddynt gan iddi ddyfod yn law taranau anghyffredin. Gwnaeth hwn y ffordd fel afon, a'r meysydd o'i deutu fel siglen. O achos yr anhawster i deithio yr oedd hi agos yn nos pan gyrhaeddodd y fyddin Ffrengig y tir llechweddog oedd yn wynebu gwersyllfa byddin Wellington ar ucheldir Mont St. Jean. Yr oedd hi o hyd yn glawio'n drwm, a pharhau i lawio a wnaeth hi hyd bump ar gloch y bore, fel y bu raid i'r milwyr, druain, orffwys ar y ddaear ddyfrllyd ynghanol yr ŷd gwlyb. Fe gafodd y prif swyddogion le i ymlechu ym mhentref Planchenoit oedd o'r tu ôl i'r fyddin, ac yn yr ychydig dai oedd gyda'r ffordd fawr. Nid oedd cyflwr y cyfunoliaid yn llawn mor druenus, am eu bod hwy ar dir uwch a sychach, ac mewn ardal â mwy o dai ynddi. Heblaw hynny, yr oeddent hwy bellach yn agosach i'r storfeydd yn Brüssel, fel y cawsant hwy well swper a gwell borefwyd na'r Ffrancod.


Pan oleuodd bore tarthog y deunawfed dydd o Fehefin, fe welodd y Ffrancod eu bod yn gwersyllu ar lechwedd tua milltir a hanner ei hyd a oedd yn disgyn yn raddol i bantle nad oedd ond prin yn ddigon llydan i'w alw'n ddyffryn, nac yn ddigon dwfn i'w alw'n lyn. Yn gyfarwyneb â'r llechwedd, ac o du'r gogledd i'r pantle, yr oedd trum, yr hwn oedd uwch a serthach tua'i ben gorllewinol na thua'i ben dwyreiniol. Y pryd hwnnw, yr oedd o'n uwch o gryn dipyn, ac yn serthach o lawer, nag ydyw o'n awr ar ôl gwneud y domen sydd arno. Ar hyd ael y trum hwn, yr oedd magnelau'r fyddin gyfunol, ac mewn pant lled gysgodol y tu hwnt i'r magnelau yr oedd corff y fyddin. Yn rhedeg yn gyfochrol â llinell y magnelau, ychydig o'i blaen, yr oedd ffordd gul a oedd y pryd hwnnw'n ddofn a gwrychiog, yr hon oedd i wasanaethu yn lle ffos i rwystro ac i anhrefnuso'r marchoglu ymosodol. O flaen pen gorllewinol y trum, sef o flaen asgell dde'r fyddin gyfunol, yr oedd Plas neu Gastell Goumont, a elwir weithiau'n Hougomont, yn cynnwys amryw adeiladau cedyrn, a pherllan, a choedwig; ac ynddynt yr oedd deunaw cant o Frytaniaid ac Ellmyn. Gyferbyn â chanol y fyddin rhwng pen a throed y bryn ac ar ymyl gorllewinol y ffordd fawr i Brüssel yr oedd fferm La Haye Sainte, yn yr hon yr oedd rhai cannoedd o Hanoferiaid. Gyferbyn ag asgell aswy'r fyddin yr oedd ffermydd Ter la Haye a Papelotte, yn llawn o filwyr Ellmynnig, Is-Ellmynnig a Belgaidd. Y mae'n amlwg i bawb fod sefyllfa'r fyddin yn un gadarn odiaeth, ac yn un anodd iawn i'w goresgyn mewn byr amser; ond y mae'r rhan fwyaf yn dweud ei bod yn sefyllfa anfanteisiol iawn i ymgilio ohoni pe digwyddasai i'r fyddin gael ei gorchfygu. Yr oedd milwyr Wellington wrth godi eu pennau uwchlaw'r trum a'r cloddiau yn gallu gweled holl fyddin Napoleon yn sefyll yn drefnus ar y llechwedd noeth a oedd o'u blaen; ac fe ddywedir na welwyd erioed fyddin harddach o ran gwisgiad ac arfogaeth. Yr oedd y fyddin cyn dechrau symud wedi ei threfnu'n dair llinell, y naill linell y tu ôl i'r llall ac yn fyrrach na'r llall; fel yr oedd hi'n debyg ei llun i wyntell. Reille oedd yn rheoli'r asgell aswy, yr hon oedd gyferbyn ag asgell dde'r fyddin gyfunol o dan y Cadlywydd Seisnig Hill. D'Erlon oedd yn rheoli'r asgell dde, yr hon oedd gyferbyn ag asgell aswy'r fyddin gyfunol o dan Picton a Kempt. Napoleon ei hun oedd yn rheoli craidd neu ganol y fyddin, a'r Tywysog Oranje oedd yn rheoli craidd y fyddin gyfunol.

I'r rhai na welodd faes y frwydr, hwyrach y dyry darluniad Victor Hugo eglurach syniad amdano na'm darluniad i, ac na darluniad neb arall. Y mae o'n peri i'r darllenydd feddwl am y llythyren A, wedi ei rhoi i orwedd ar lawr â'i phwynt yn cyfeirio i'r gogledd. Y mae coes dde'r llythyren yn dynodi'r ffordd o Nivelles, a'i choes aswy yn dynodi'r ffordd o Genappe; y llinell groes sydd ar ei thraws yn dynodi'r ffordd gau rhwng pentref Ohain a Braine l'Alleud; blaen y llythyren yn dynodi Mont St. Jean lle'r oedd Wellington; pen y goes orllewinol yn dynodi Hougomont, a phen y goes ddwyreiniol yn dynodi La Belle Alliance lle'r oedd Napoleon. Ar ganol y llinell groes hon y bu'r ymosod mwyaf penderfynol, a cheisio ennill y sefyllfa dri—onglog oedd rhyngddi hi a blaen y llythyren oedd diben yr ymosod hwnnw. Dealler nad oedd y ddwy fyddin ddim i gyd o fewn y ddwy ffordd y mae dwy goes y llythyren yn eu dynodi, canys yr oedd esgyll y ddwy fyddin yn ymestyn drostynt ymhell. Yn wir, yr oedd La Belle Alliance ar ffordd Genappe yn hytrach ynghanol byddin ôl Napoleon nag ar ei chwr.

Y mae ychydig o wahaniaeth barn rhwng yr awdurdodau am rifedi'r ddwy fyddin. Fe ddywed hanesyddion Ffrainc mai 68,000 o filwyr oedd gan Napoleon, a bod gan Wellington 75,000; ac fe ddywed prif hanesyddion Prydain a'r America mai 68,000 neu 70,000 oedd gan Wellington, a bod gan Napoleon 72,000 o leiaf.[7]

Credu yr wyf i mai'r rhai olaf sydd gywiraf yn hyn o beth; er hynny, y cwbl sy sicr ydyw na allai byddin Napoleon ddim bod yn fwy na 72,000, ac na allai byddin Wellington ddim bod yn llai na 68,000. Felly, ac arfer rhif cofadwy, oddeutu deng mil a thrigain oedd nifer pob un o'r ddwy fyddin. Ond am ychydig iawn o amser y bu'r ddwy fyddin yn ogyfartal; canys yn fuan ar ôl i'r frwydr ddechrau fe fu raid i Napoleon anfon deng mil o filwyr i wrthsefyll y Prwsiaid oedd yn ymosod ar ei gefn a'i asgell aswy; a phan gyrhaeddodd y rhain i'r maes hanner awr wedi pedwar ar gloch fe fu raid iddo rannu ei fyddin yn ddwy—y naill i wynebu'r fyddin gyfunol o du'r gogledd, a'r llall i wynebu'r fyddin Brwsiaidd o dan Bülow. Y mae pawb yn cytuno yn hyn o beth, sef bod gan Napoleon fwy o farchogion ac o fagnelwyr nag oedd gan Wellington, a bod gan Wellington fwy o wŷr traed nag oedd gan Napoleon.

Y mae rhai yn beio ar Napoleon am na buasai fo wedi dechrau'r frwydr yn foreach, a cheisio dymchwelyd y fyddin gyfunol cyn i'r Prwsiaid ddyfod ar ei warthaf, ond y mae'r rhain yn anghofio nad oedd Napoleon ddim yn disgwyl y Prwsiaid; am nad oedd o wedi ei rybuddio eu bod yn agos gan y cadlywydd a ddanfonesid i'w gwylio. Gan ei fod wedi gorchymyn i Grouchy ymgadw mewn cymundeb ag asgell dde ei fyddin ef, yr oedd yn fwy naturiol iddo ddisgwyl Grouchy na disgwyl y Prwsiaid.

Yr oedd ganddo ddau reswm am oedi dechrau'r frwydr hyd yr hanner awr olaf o'r bore. Yn un peth: Gan fod miloedd lawer o'r milwyr oedd ym myddin Wellington wedi bod yn ymladd unwaith dan ei Faner ef, ac o hyd yn bleidiol iddo yn eu calon, yr oedd o'n disgwyl i'r rheini gilio ato; a chilio a wnaethent yn ddiau oni buasai i Wellington eu cymysgu â milwyr ffyddlonach. Peth arall; a dyma'r rheswm pwysicaf: nid oedd y tir wedi sychu digon i fod yn llawr cymwys i wŷr meirch ac i fagnelau symudol; a chofier mai yn y pethau hyn yr oedd nerth Napoleon; er y buasai'n well iddo wrth fwy o wŷr traed ar ddiwrnod fel hwnnw. Yr oedd hi, gan hynny, o fewn hanner awr neu lai i hanner dydd pan roes yr Ymherodr Napoleon arwydd i ddechrau'r frwydr.

Ei gynllun oedd cymryd yn gyntaf oll yr adeiladau diffynedig oedd yn sefyll o flaen y fyddin gyfunol, ac yna hollti ei chanol a throi ei hasgell aswy. Yr ydys yn cydnabod bod y cynllun cyffredinol hwn y gorau a allesid ei ddychmygu; ond yr ydys yn addef hefyd na ddangosodd Napoleon erioed cyn lleied o ynni a medr i weithio ei gynllun allan. Yr ydys yn cynnig tri rheswm am hyn. Y blaenaf yw bod Napoleon yn dibrisio medr ei wrthwynebwr Wellington trwy dybied y gallai fo'n hawdd orfod arno trwy nerth braich yn unig, heb ymdrafferthu i ystrywio dim. Yr ail yw, bod dyfodiad disymwth y Prwsiaid wedi drysu ei gynllun cyntaf, ac wedi ei demtio i ruthro ar y fyddin gyfunol cyn ei gwanhau yn ddigonol â thân ei fagnelau. Y trydydd yw, ei fod yn rhy glaf i farchogaeth nemor er mwyn gweled â'i lygad ei hun pa beth yr oedd ei swyddogion yn ei wneud yng nghyrrau eithaf y maes. Y mae'n hysbys ei fod dros y rhan fwyaf o'r diwrnod hwnnw yn eistedd ar gadair rhwng La Belle Alliance a Rossomme, â'i bwys ar fwrdd a osodesid o'i flaen. [8] Oherwydd y pethau hyn, ni allodd Napoleon gyflawni ei holl fwriad. Ef a lwyddodd, y mae'n wir, i gymryd ffermydd Papelotte, Ter la Haye, La Haye Sainte; ac i feddiannu coedwig a pherllan a gardd Castell Hougomont hefyd; ond ni allodd o gymryd y castell ei hun, na'r ffermdy, na'r adeiladau eraill oedd ynglŷn ag ef; ac fe gollodd filoedd o filwyr wrth geisio ei gymryd. Gan fod Hougomont y pryd hwnnw yn guddiedig gan goed, nid oedd modd i Napoleon weled o'r fan lle yr oedd o pa mor gadarn oedd y lle. Pe na buasai fo'n dioddef cymaint gan glwyf y marchogion a dolur y garreg, diau y buasai fo wedi marchogaeth hyd yno, ac wedi atal ei filwyr penboeth rhag colli eu gwaed yn ofer, trwy orchymyn iddynt ymfoddloni ar gadw meddiant o'r goedwig a'r berllan, neu ynteu trwy orchymyn i Kellerman ddinistrio'r adeiladau â magnelau. Er y buasai meddiannu Hougomont yn fanteisiol iawn i Napoleon, ac yn ddinistriol i Wellington, eto nid oedd yr Ymherodr wedi meddwl am aberthu llawer o'i filwyr er mwyn ennill y lle; canys nid ar asgell dde Wellington yr oedd o'n bwriadu ymosod yn benderfynol, eithr ar ei asgell aswy, yr hon oedd yn wannach ac yn haws i'w chyrraedd. Yn unig er mwyn cuddio'i fwriad i ymosod ar yr asgell aswy y darfu iddo'n gyntaf oll ymosod ar Hougomont. Dau ar gloch yr oedd o'n bwriadu gwneud ym— osodiad penderfynol, ac yr oedd o'n hyderu y byddai fo wedi llwyr orchfygu Wellington erbyn tri. Ond pan oedd hi'n tynnu at un ar gloch, ef a wybu er ei syndod bod deng mil ar hugain o Brwsiaid o dan Bülow yn cyfeirio tua'i asgell dde. Drysodd hyn ei gynlluniau, a rhoes orfod arno i anfon deng mil o filwyr o dan y Cadlywydd Lobau i geisio atal yr adran gyntaf hon o fyddin Blücher rhag cyrraedd y maes. Yn lle gwneud ymosodiad penderfynol ar fyddin Wellington, ymfoddloni a wnaeth o bellach ar wneud cyfres o ruthriadau er mwyn ennill amser. Yn wir, nid oedd y frwydr o'i dechrau i'w diwedd fawr amgen nag ymgyrchiadau o du'r Ffrancod yn erbyn sgwariau'r fyddin gyfunol; magnelau'r fyddin hon, o'r tu arall, yn tanio arnynt pan fyddent yn dyfod, a'u marchogion yn rhuthro arnynt pan fyddent yn cilio yn ôl i ailymffurfio. Pan fyddai'r marchogion Ffrengig yn dyfod, fe fyddai magnelwyr Wellington yn ffoi i'r sgwariau, ac yna'n dychwelyd at y magnelau pan giliai'r marchogion. Pan fyddai gwŷr meirch Wellington yn rhuthro i lawr y bryn wrth eu pwysau, hwynt-hwy a fyddai drechaf; ond pan anturient fyned i'r gwaelod gwastad, neu hyd at y llechwedd cyferbyniol, gwŷr meirch Ffrainc a fyddai drechaf. Yn ystod un o'r ymgyrchoedd hyn fe laddwyd ac fe glwyfwyd dwy ran o dair o'r Scotiaid Llwydion mewn ychydig funudau; ac o'r pum mil o wŷr traed a arweiniodd Picton yn erbyn y Ffrancod ni ddychwelodd deunaw cant. Collodd cannoedd o feirch a marchogion Ffrengig hefyd eu hoedl trwy gwympo bendramwnwgl i'r ffordd ddofn y soniwyd amdani—ffordd oedd bron yn anweladwy hyd oni ddelai dyn i'w hymyl; ac ar ôl i hon mewn ambell fan ymlenwi â chelaneddau briwedig y gallodd y marchogion byw fyned drosti i ben y bryn yr oedd byddin Wellington yn sefyll arno.

Dywed rhai rhai sgrifenwyr milwrol y dylasai Napoleon, pan welodd y Prwsiaid tuag un ar gloch yn dyfod yn ei erbyn, encilio, ac ymladd y frwydr ar dir mwy manteisiol iddo'i hun, dyweder yn Genappe; ond gan ei fod yn ymherodr yn gystal ag yn gadlywydd, yr oedd rhesymau gwleidyddol yn ei rwystro i wneud hynny. Heblaw hynny, yr oedd o'n disgwyl y buasai Grouchy yn ymosod ar y Prwsiaid o'r tu cefn tra byddai Lobau gydag adran o'i fyddin ef yn ymosod arnynt o'u blaen; ac felly, y dinistrid hwynt rhwng dau dân. Ond y mae'n hysbys bod Grouchy wedi colli golwg ar y rhan fwyaf o fyddin Blücher, ac yn tybied ei bod i gyd o'i flaen gerllaw Wavre.

Er cymaint o ddryswch a barodd ymddangosiad y Prwsiaid i Napoleon, yr oedd o'n gwbl hyderus y gallai fo eu gwrthsefyll hwy a gorchfygu byddin Wellington hefyd. Yr oedd o erbyn canol y pryn— hawn wedi ysgytio cymaint ar y fyddin hon, ac yr oedd yr arwyddion ymhob cyfeiriad mor ffafriol, fel y danfonodd o gennad i Baris i hysbysu nad oedd dim amheuaeth mwyach am ganlyniad y frwydr; ond yn fuan wedi hyn fe aeth ei obaith am fuddugoliaeth yn llai sicr, canys pan oedd hi'n hanner awr wedi pedwar ar gloch fe lwyddodd y Prwsiaid i ymwthio hyd i'r maes. Calonogodd hyn y fyddin gyfunol yn fawr, a digalonnodd ychydig ar y fyddin Ffrengig. Bellach yr oedd yn rhaid i Napoleon droi wyneb ei asgell dde tua'r dwyrain er mwyn ymladd â'r Prwsiaid. Rhwystrodd hyn hwynt rhag ymosod yn effeithiol ar asgell aswy byddin Wellington. Pan ymwthiodd y Prwsiaid o'r tu ôl i Napoleon trwy ymosod ar bentref Planchenoit fe fu raid iddo droi cwr ei asgell aswy yn hytrach tua'r de, fel yr oedd rhan o'i fyddin erbyn hyn â'i chefn at gefn rhan arall oedd yn ymladd yn erbyn Wellington. Er hyn oll, fe barhaodd y frwydr yn amhenderfynol hyd hanner awr wedi chwech, ac o'r pryd hwnnw hyd yr awr y daeth yr ail adran o fyddin Blücher i'r maes, yr oedd rhagolygon Napoleon yn ddisgleiriach nag y buont ar hyd y dydd. Yn ystod yr oriau hyn fe gilgwthiwyd y Prwsiaid o Planchenoit dair gwaith —y drydedd waith hyd ymhell o'r maes. Rhoes hyn gyfle i Napoleon i ymosod yn ffyrnicach ar ganol byddin Wellington.

Pan oedd Napoleon wedi myned tua Planchenoit i arolygu'r ail ruthr yn erbyn y Prwsiaid fe ymosododd Ney hefo'r marchoglu ar fyddin Wellington; a hynny yn erbyn gorchymyn pendant yr Ymherodr i oedi ymosodiad penderfynol hyd oni byddai fo wedi cilgwthio'r Prwsiaid hefo'r gwŷr traed. Y canlyniad oedd na ellid ar y pryd gyfnerthu Ney â gwŷr traed. Fe wyddys mai peth colledus iawn, ac aneffeithiol hefyd, yw ymosod ar sgwariau hefo gwŷr meirch yn unig; ac o'r tu arall mai ymffurfio yn sgwariau ydyw'r peth gwaelaf oll i gyfarfod â rhuthr gwŷr traed, a phe buasai Ney wedi aros hyd. oni ddychwelsai'r gwŷr traed o Planchenoit, ni thyciasai sgwariau Wellington ddim. Er i Ney beri i Napoleon ddigio wrtho am byth am ei fyrbwylltra yn aberthu cynifer o'r gwŷr meirch y buasai'n rheitiach eu harbed hyd yr awr olaf, eto yr oedd ei ymosodiad yn un mor ofnadwy fel na feiddiasai Wellington ddim sefyll yn ei erbyn, oni buasai ei fod yn gwybod bod yr ail adran o fyddin Blücher yn agos i'r maes. Yn yr ymosodiad hwn fe lwyddodd Ney i dorri llinell flaen y fyddin gyfunol, ac fe addefa'r Cadlywydd Kennedy a rhai Saeson eraill ei fod wedi gwneuthur cryn hollt yn yr ail linell, a hollt nid bychan yn y drydedd linell hefyd; fel nad oedd dim yn eisiau bellach ond gwŷr traed i wahanu'r fyddin gyfunol, ac i feddiannu'r ffordd i Brüssel. Fe lwyr ddarniwyd un o'r catrodau Seisnig; fe ddrylliwyd saith o'r sgwariau, ac fe yrrwyd yr adran Seisnig-Ellmynnig oedd dan lywyddiaeth Alten ar ffo hyd ar ffordd Brüssel. Yn y cyfwng peryglus hwn fe benderfynodd Wellington aberthu'r rhan fwyaf o'i wŷr meirch er cynorthwyo'i wŷr traed i dorri grym y Ffrancod; ond gan nad oedd gan un genedl y pryd hwnnw wŷr meirch a allai ddal ymhwrdd gwŷr meirch Ffrainc, fe wthiwyd Cumberland a'i farchogion yn anhrefnus i blith y floaduriaid a'r clwyfedigion oedd yn tagu'r ffordd i Brüssel. Ffoes deuddeng mil, sef y rhai mwyaf dibrofiad o'r Brytaniaid a'r rhai mwyaf anffyddlon o'r tramoriaid, i ymlechu yng nghoedwig Soignes, a rhedodd llawer hyd i Brüssel, gan gyhoeddi bod y frwydr wedi ei cholli; ac yn wir, yr oedd yn naturiol iddynt feddwl hynny, canys heblaw'r dinistr a wnaethai rhuthr Ney ar rengoedd byddin Wellington, yr oedd y Ffrancod eisoes wedi cymryd trigain o fagnelau a chwech o faneri.

Er hyn oll, fe welodd Ney mai ofer oedd iddo geisio llwyr dorri'r drydedd linell â gwŷr meirch yn unig; am hynny, ef a archodd i'r rhain gadw'u tir tra byddai fo'n anfon at yr Ymherodr i ddeisyfu gwŷr traed; ond ni allai Napoleon eu hepgor ar hyn o bryd, canys yr oedd yn amlwg erbyn hyn fod yn rhaid iddo nid yn unig ymladd â'r deng mil ar hugain o Brwsiaid oedd yn curo arno o du'r de ac o du'r dwyrain, ond hefyd ymbaratoi yn erbyn 30,000 eraill oedd yn dyfod arno o'r gogledd— ddwyrain. Gorchymyn a wnaeth o, gan hynny, i Ney gadw'i dir am ryw awr, tra byddai fo'n myned â rhan o'i warchodlu i gilgwthio'r Prwsiaid oedd yn ceisio meddiannu pentref Planchenoit o'i ôl. Ar ôl gwneud hynny'n bur effeithiol, ef a ddychwelodd gyda chwe mil o'i wŷr traed i gynorthwyo Ney ar fryn St. Jean. Fe drefnwyd tua dwy fil o'r rhain i wneud yr ymosodiad cyntaf. Gan fod Wellington yn gwybod bod y Prwsiaid o dan Bülow yn dychwelyd i ail ymosod ar gefn ac ystlys y Ffrancod, a bod y Prwsiaid dan Ziethen ar ymuno ag asgell aswy'r fyddin gyfunol, ef a allodd yn ddiberyg! dynnu ei asgell aswy ato er mwyn cyfnerthu canol ei fyddin yn erbyn ymosodiad y gwarchodlu Ffrengig. Ef a ffurfiodd ei fyddin ar lun bwa, er mwyn gallu tanio ar yr ymosodwyr o bob cyfeiriad. Tanio a wnaeth hi yn effeithiol ofnadwy nes teneuo rhengau'r ymosodwyr yn fawr. Er hynny, ni syflodd y rhain ddim. Ar ôl ymwasgu ynghyd, taniasant hwythau, ac ar ôl tanio hwy a ymbaratoesant i ymosod â bidogau. Ond cyn iddynt allu gwneuthur hynny fe ymagorodd y bwa, a chyfododd y gwarchodlu Seisnig megis o'r ddaear, gan saethu i'w hwynebau bron o hyd braich. Er hynny, nid gwrthsafiad pybyr Wellington a barodd i'r adran flaenaf o'r gwarchodlu Ffrengig encilio oddi ar fryn St. Jean, eithr peth arall nad yw'r rhan fwyaf o'r hanesyddion Seisnig yn dewis sôn amdano.—Pan oedd Napoleon wrth droed y bryn yn trefnu pum bataliwn o'i hen warchodlu i fyned i gyfnerthu'r gwarchodlu iau a oedd yn ymladd dan Ney ar ben y bryn, fe welwyd bod y Prwsiaid o dan Ziethen wedi ymuno ag asgell aswy byddin Wellington, ac wedi llwyddo i dorri bwlch yn llinell y Ffrancod, nes gwahanu'r Ffrancod oedd yn wynebu'r Prwsiaid o dan Bülow oddi wrth y Ffrancod oedd yn wynebu'r fyddin gyfunol dan Wellington. Ar yr un pryd fe welwyd bod y Prwsiaid oedd dan Bülow bron wedi cyrraedd yr unig ffordd y gallai'r Ffrancod encilio ar hyd—ddi tua Ffrainc. Y mae'n wir fod pelennau'r Prwsiaid yn disgyn ar y ffordd hon ers oriau, ond y pryd hwn, ar ôl cymryd ohonynt bentref Planchenoit, y gallodd y Prwsiaid beryglu'r cymundeb a oedd ar y ffordd honno rhwng yr ymladdwyr Ffrengig a'u hadnoddau. Parodd hyn gyffro a dychryn mawr ymhlith y Ffrancod. Wrth weled y Prwsiaid ar amgau o'u hamgylch, a'i bod bellach yn rhy ddiweddar i ddisgwyl ymwared oddi wrth Grouchy, hwy a frysiasant yn anhrefnus iawn i gyrraedd y ffordd y daethent ar hyd-ddi o Ffrainc. Yn y cyfamser fe orchmynnodd Wellington a Blücher i'r holl filwyr oedd danynt gerdded rhagddynt yn eu herbyn. Yr oedd y gweddill o fyddin Wellington yn rhy luddedig, ac yn rhy amddifad o farchogion i'w hymlid hwynt ymhellach na La Belle Alliance; ond fe barhaodd Blücher i'w hymlid ar hyd y nos,, gan eu lladd yn ddiarbed, a'u rhwystro i orffwys am funud awr. Dechreuodd y fyddin Ffrengig ffoi yn fuan wedi wyth o'r gloch; ond yr oedd hi'n nos pan daniwyd yr ergyd ddiwethaf ar faes y gad, canys fe safodd gwŷr y gard, sef yr hen warchodlu Ffrengig, ynghanol y rhyferthwy o elynion oedd yn eu hamgylchu; ac yn lle ymostwng, hwy a syrthiasant agos i gyd.

Nid oedd Ney gyda'r gwarchodlu hwn; er hynny, yr oedd o yn un o'r rhai olaf i gilio oddi ar fryn St. Jean. Er iddo wneud dau amryfusedd cadarn yn y frwydr hon, eto ef a brofodd y waith hon, fel y profasai fo lawer gwaith o'r blaen, mai efô oedd y dewraf o'r dewrion." Yr oedd ei gap yn dyllog a'i wisg yn garpiog gan fwledau, a'i gleddyf wedi ei dorri yn ei hanner. Yr oedd pump o feirch wedi eu lladd dano; ac er hynny, clwyfau ysgafn a gafodd o ei hun. Ar ôl colli ei holl wŷr ei hun, a gweled ohono fintai heb bennaeth arni yn cilio o'r maes, ef a redodd ati, ac a barodd iddi sefyll, gan ddywedyd Deuwch, fy ngharedigion, a gwelwch fel y gall Marsial Ffrengig farw." Gresyn na chawsai fo farw ar y maes yn hytrach na marw ym Mharis fel un a farnwyd yn euog o fod yn ffyddlonach i'w Ymherodr nag i'w frenin.

Er mai byddinoedd cymharol fychain oedd yn ymladd yn Waterloo, yr oedd y frwydr yn un waedlyd iawn. Y mae'r Prwsiaid eu hunain yn addef iddynt golli saith mil o wŷr. Y mae'r rhai mwyaf diragfarn o'r hanesyddion milwrol Seisnig yn dywedyd i Wellington golli pymtheng mil neu un fil ar bymtheg o wŷr, a hanesyddion tramor yn barnu ddarfod iddo golli mwy na deunaw mil. Ni wyddys yn fanwl pa nifer o wŷr a gollodd Napoleon, am ddarfod i rai miloedd ohonynt fanteisio ar ei gwymp i ddianc adref heb roi dim cyfrif ohonynt eu hunain. Ond yr ydys yn tybied iddo golli pum mil ar hugain o leiaf, a chyfrif y lliaws a laddwyd ac a glwyfwyd wrth ffoi ar hyd ffordd Genappe. [9] Er nad oedd colled y Ffrancod fawr fwy, os dim, na cholled eu gwrthwynebwyr, eto yr oedd yn fwy o anffawd iddynt hwy golli pum mil ar hugain allan o un fil ar ddeg a thrigain nag oedd i fyddinoedd Wellington a Blücher golli tair mil ar hugain allan o gant a thri deg o filoedd. Pe collasai'r rhain gymaint arall ag a wnaethant, fe fuasai ganddynt yn niwedd y frwydr fwy o filwyr wedyn nag oedd gan Napoleon yn ei dechrau.

Am fod maes y gad mor gyfyng, ac felly mor llawn o filwyr, y collodd Napoleon a Wellington gynifer o wŷr. Pe buasai'r ddaear yn sych fe fuasai eu colled yn fwy fyth, am y buasai mwy o'r pelennau ffrwydrol yn ymddryllio wrth syrthio ar y ddaear, yn lle ymgladdu yn y llaid. Er hynny, ni allai daear Waterloo fod yn sychedig iawn ar ôl yfed gwaed hanner can mil o laddedigion a chlwyfedigion.

Y ddau dro y bûm i'n ymweled â maes Waterloo. ni welid un march rhyfel yn cloddio'r dyffryn, ac ni chlywid un waewffon yn tincian ar ddwyfronneg y marchog. Yr oedd llais yr utgorn, twrf tywysogion, a'r bloeddio, wedi distewi. Nid oedd yno ddim sŵn oddieithr sŵn yr adar yn canu yn y coed; dim mwg oddieithr y mwg oedd yn esgyn o simnai ambell fwthyn; na dim llwch heblaw'r llwch a godai gyr o ddefaid ar y ffordd. Y mae'n awr dawelwch lle y bu unwaith gyffro mawr. Doe, yr oedd y maes hwn yn goch gan waed; neithiwr fe olchwyd ei wyneb â glaw o'r nefoedd, a'r bore fe'i sychwyd â phelydrau'r haul; fel erbyn heno y mae maes Waterloo yn bur debyg i'r hyn ydoedd gan mlynedd yn ôl, oddieithr ei fod yn ffrwythlonach gan lwch esgyrn y lladdedigion. Yn ddiau y mae'r ddaear yn fwy anghofus hyd yn oed na'i thrigolion.

ALLAN O'R Geninen, EBRILL A GORFFENNAF, 1899.

XIII

DETHOLION

Dywedir mai'r cyffyr gorau yr unig gyffyr, yn wir—i weithio ymaith gamsyniadau'r claf, oni bydd yng ngraddau olaf ei glefyd, yw gwawd. Cariad at y gwir sydd yn fy nghymell i ollwng y gyfrinach hon allan, ac nid un bwriad i ddrygu masnach Mr. Hollaway, nac i ddifrïo ei belennau.

*

Cenedl uniaith yw'r Saeson yn anad un genedl yn Ewrop. Ni fynnant ac ni fedrant ddysgu un iaith ddieithr. Chwenychant bopeth sydd eiddo'r cenhedloedd eraill, ond eu rhagoriaethau moesol a meddyliol. Addefaf eu bod hwythau'n chwenychu gwybodaeth ymarferol; sef y wybodaeth honno sy'n dwyn aur yn ei llaw ddeau a beef yn ei llaw aswy. Yn awr, ai yn ei hanfoes a'i hanwybodaeth y dylem ddynwared cenedl arall? A ddylem ni ymgyrraedd at fod yn bobl uniaith am fod y Saeson felly? Y mae dau rinwedd yn perthyn i'r Saeson. Y maent yn lân, ac y maent ar amserau yn hael. Yn y pethau hyn mi a'ch cynghorwn i'w hefelychu. . .

. . . Wrth ddweud y Saeson, nid wyf yn dweud bod y Cymry yn well na hwynt, nac yn gystal a hwynt; canys pa fodd y gall dynwaredwyr fod yn well na'r rhai a ddynwaredant?.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 27, 1876.

Ond ni byddai raid i'r Telegraph arswydo cymaint rhag dylanwad yr eisteddfodau "cenedlaethol." Meddwl yr wyf i eu bod, yn y wedd sydd arnynt yn awr, yn gwneuthur mwy i fagu Saesnigaeth nag i goleddu'r iaith Gymraeg. Felly, yr achos paham yr wyf i'n anghymeradwyo'r eisteddfodau ydyw eu bod yn llawer rhy lân oddi wrth y "bai" arbennig a rydd y Telegraph yn eu herbyn. Gwnaethpwyd eisteddfod yn anfuddiol i'r Cymry pan aethpwyd i'w chyfaddasu i'r Saeson.

ALLAN O'R Faner, EBRILL 23, 1879.

Y mae un peth yr wyf innau'n dechrau 'laru arno, sef dolefain digllon y Saeson uwch ben y naw neu ddeg o arglwyddi tirol ac o oruchwylwyr anghyfiawn a saethwyd y flwyddyn hon yn Iwerddon, a hwythau, bobl waedlyd ac ysbeilgar, heb orffen llawenhau oblegid y miloedd o ddynion amgenach a saethwyd yn Asia ac yn Affrig. Addefodd Mr. Forster ei hun fod llai o ladd ac o ladrata yn Iwerddon y flwyddyn hon nag a fu ers blynyddoedd lawer; a phrofodd Mr. Parnell ac eraill mai yn y parthau hynny lle y mae dylanwad y Cynghrair Tirol fwyaf y mae lleiaf o drais. Y mae'n hysbys fod mwy o lofruddio ac o ladrata mewn un wythnos yn Llundain nag sydd mewn mis yn yr holl Iwerddon, ond gan fod llofruddion Llundain yn ddigon call i arbed lords ac agents, ac i fwrw eu llid yn gyfangwbl ar eu cydradd—megis eu mamau, eu brodyr, a'u cariadau—ni chedwir nemor o dwrf ynghylch eu gweithredoedd.

*

Y mae rhai, gan faint eu hawydd i fod yn fwy Cristnogol na Christ, yn pregethu y dylem ni'r Cymry garu ein hysbeilwyr yn fwy na phe buasent yn genedl onest, a hynny heb ofyn ganddynt nac edifeirwch nac iawn. Yr ydym wedi bod cyhyd mewn caethiwed, ac wedi ymddygymod cystal â fo, fel na fynn y rhan fwyaf ohonom gredu eu bod mewn caethiwed. Y mae gwifrau ein cawell mor anweledig o feinion, a'r Saeson annwyl yn ein porthi mor ofalus â briwsion a dwfr, fel yr ydym yn tosturio wrth yr adar rhyddion, druain, sy'n chwilio'n ofer am damaid ar hyd y meysydd, ac am glwyd glyd yn y perthi di-ddail. Byddai mor anodd i argyhoeddi corff y Cymry fod y Sais yn feistr tost, anghyfiawn, ag a fyddai i argyhoeddi'r annuwiol mai meistr felly yw'r diafol.

*

Y mae'n amheus gennyf a faidd y Twrc ei hun honni ei fod mor fedrus â'r Sais ar y gwaith o orthrymu. Dial disymwth a dychrynllyd, y mae'n wir, ydyw dial y Twrc. Daw i lawr fel cawod o law taranau—yn fras iawn, ond anfynych y dêl; a phan ddelo, nid hir y pery. Yn ddefni parhaus y disgyn camwri'r Sais; a chamwri pa un o'r ddau ydyw'r mwyaf anoddefadwy, tybed? Y mae'r Cymry, oblegid hir gynefindod, wedi myned i edrych ar y defni hyn fel peth mor angenrheidiol a bendithiol â gwlith y nefoedd. . . Aethom mor wasaidd fel yr ydym yn cymryd plaid gorthrymwyr estronol yn erbyn perthnasau sydd tan yr un ddamnedigaeth â ninnau. O! ein tadau dewrion, pa fodd y'ch wynebwn ym myd yr ysbrydoedd?

*

Y mae rhagor rhwng Protestaniaid a Phrotestaniaid, ac y mae rhagor hefyd rhwng Pabyddion a Phabyddion. . . O'r braidd na ddywedwn fod Pabyddion Iwerddon yn llai cul nag Ymneilltuwyr Cymru; canys edrycher gynifer o Brotestaniaid a etholant i'w cynrychioli yn y senedd. Os bydd ymgeisydd seneddol yn wladgarwr, nid ymofynnant hwy, ac ni faliant chwaith, pa un ai Pabydd ai Protestaniad fyddo. Dywedant wrtho yn hytrach:

". . . Irish-born man,
If you're to Ireland true,
We heed not blood, nor creed, nor clan,
We've hands and hearts for you.

ALLAN O'R Faner, RHAGFYR 22, 1880.

Pe baem yn fwy tyner wrth adar newynog, ac yn fwy llym wrth ormeswyr cyfoethog, byddem yn llawer tebycach i'r dyn Crist Iesu nag yr ydym.

*

Y mae'n rhyfedd fod yr holl adar hyn yn aros yma tros y flwyddyn, a ninnau mor ddiofal amdanynt. Paham, lwyd-y-gwrych, a chennyt tithau ddwy aden, na theithit i ganlyn yr haf o amgylch y ddaear? Os yw'n well gennyt aros yn dy unfan, paham nad ymsefydli mewn rhyw ddinas Fahometanaidd, lle y bydd dy fwyd a'th fywyd yn sicr? Fe allai fod yn rhy anodd gennyt ganu'n iach am byth i Gymru; os felly, ymwêl â hi yn nechrau haf, pan fyddo'i hwyneb yn las fel yr wybr, a phan ymddangoso'r rhos a'r gwyddfid a'r briallu megis cynifer o sêr wedi eu hau ar hyd-ddo. O! y mae Cymru yn dlos yn yr haf; ond gwyddost, aderyn, mai anodd yw byw ynddi ar hyd y flwyddyn. Sut y gellir disgwyl it ddotio ar yr eira gwyn, ac yntau'n claddu dy ymborth allan o'th olwg? Dos ymaith, gan hynny, ym mis Medi, a dychwel ym mis Mai Tyred yma megis aderyn dieithr o wlad bell, oblegid rhai o bell a berchir yng Nghymru, ac nid rhai o agos. Pe deuit yma yng nghymdeithas y cogau a'r gwenoliaid, ac adar pendefigaidd felly, fe gedwid digon o dwrf yn dy gylch. Rhaid it addef mai aderyn eithaf diaddurn a diawen ydwyt (na ddigia wrthyf am ddweud y caswir), ond er hynny, pe deuit yma yn ymwelydd blynyddol, caut groeso mawr. Gofynnid yn bryderus ym mis Mai, "A welsoch chwi lwyd-y-gwrych?" neu ynteu dywedid, Cyn sicred â'm bod yn sefyll ar y fan yma, dyna lais llwyr-y-gwrych "; a phan fyddit wedi cychwyn ar dy hynt i fro gynhesach, dywedai llawer un, "Wel! wel! dyna lwyd-y-gwrych wedi mynd."

ALLAN O'R Faner, IONAWR 19, 1881.

Y mae'n ymddangos bod Mr. Darlington wedi arfer meddwl bod y Cymry mor ddiolchgar i'r Saeson am eu darostwng, ac am eu cadw o hyd mewn caethiwed, fel y mae ei ysbryd Seisnig yn ymgynhyrfu ynddo wrth weled bod eto "glymblaid fechan" heb allu ymgynefino â'r iau. Pe buasai Lloegr ers chwe chan mlynedd yn ddarostyngedig i Ffrainc, y mae Mr. Darlington yn rhoi ar ddeall y buasai Ffrancwr yn llefaru'n gall odiaeth pe buasai fo'n ymliw â chniw (clique) o Saeson anfoddog fel hyn: "Yn enw rheswm, pa beth sydd arnoch ei eisiau? Y mae gennych fwy na deg ar hugain o aelodau yn cynrychioli'ch tipyn gwlad yn y Tŷ Isaf ym Mharis, ac y mae'n rhydd iddynt draethu eu meddwl am bob rhyw beth sydd ar y ddaear, yn y môr, ac yn yr awyr, ond iddynt ei draethu yn iaith y Weriniaeth. Y mae amryw o gŵn Lloegr yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi: canys y mae un Sais yn helwas i'r Blaid Chwith, ac o'i flaen ef fe fu un arall yn segur- swyddwr ynddi; ac yr oeddym yn talu iddo ddwy fil o bunnau yn y flwyddyn allan o'r trethi, yn unig er mwyn eich boddhau chwi. Ar bwys yr unrhyw drethi, yr ydym yn gallu bod yn ddigon caredig i sefydlu ysgolion Ffrengig ym mhob rhan o'ch gwlad, er mwyn dysgu'ch plant i lefaru, synio, ac i deimlo fel y Ffrancod. Y mae amryw o'ch cydwladwyr chwi eich hunain wedi ymuno â'n byddin; rhai yn eu meddwdod, rhai er mwyn cael arian i feddwi'n weddol gyson, a rhai er mwyn swyno merchetos â'u gwisg filwrol. Ac fe gollodd rhai o'r llanciau Seisnig hyn eu gwerthfawr waed wrth gydymladd â'r Ffrancod dros y Weriniaeth yn Siam, yn Toncin, ac ym Madagascar; fel, pa gamwri bynnag a wnaethpwyd i helaethu terfynau'r Weriniaeth, y mae'r Saeson oll mor gyfrifol amdano â'r Ffrancod."

***

Mewn gwirionedd, y mae hanesyddiaeth a daearyddiaeth, a phopeth, yn cyd-ddywedyd ei bod yn bryd inni bellach ymuno yn un bobl fel y bydd llygod yn ymgolli mewn cathod. Yr ydym yn barod iawn i gyfeillachu â chwi—ar ein telerau ein hunain.

Y mae rhyw ochr rywiog ac ysmala, oes, i ymhongarwch y Sais; ac am hynny, mi allaf gydymdeimlo nid ychydig â'r pysgod-longwr Seisnig hwnnw a lefodd wrth weled yr un a'r unrhyw wynt yn gyrru ei long ef yn ei hôl, a llong arall o Holand yn ei blaen: "Ah! God cares far more for them furriners than he does for his own countrymen."

***

Hwy [y Saeson] a allant hela brodorion Deheubarth Affrig i ogofeydd ac yna eu chwythu yn llarpiau â phylor ac â dynamid, ac yn union wedyn hwy a sychant eu genau ac a geryddant y Twrc am nad yw o'n difetha'r Armeniaid yn y dulliau diweddaraf a mwyaf gwyddonol. Hwy a gondemniiant Ffrainc a'r Eidal a Rwsia yn dduwiolaidd iawn am ysbeilio tiroedd pobl eraill yma a thraw fel pe na baent yn cofio mai trwy ladd a lladrata yr aethant hwy eu hunain yn genedl gref. Doe, hwy a fynnent fyned i ryfel yn erbyn Rwsia am fod y deyrnas honno â'i llygad ar ryw borthladd yn eithaf y Dwyrain; heddiw hwy a fynnant ymgynghreirio â Rwsia er mwyn rhannu Asia rhyngddynt.

***

Hwy a gymhellant opiwm a gwirodydd am bris uchel ar baganiaid er mwyn cael arian i ddanfon cenhadon a Beiblau iddynt yn weddol rad. Y maent yn gwareiddio ac yn Cristioneiddio paganiaid trwy ladd a llewygu'r rhan fwyaf ohonynt, a thrwy ddysgu pechodau newyddion i'r gweddill. Os oes gan genedl o'r fath yma ymdeimlad cryf o'r digrif, yna ni wn i ddim pa beth sy ddigrif.

***

DETHOLION O SYNNEDIGAETHAU MR. DARLINGTON: GWRTHATEB." ALLAN O'R Geninen, EBRILL, 1896.

Fe fyddai'r hyn sydd yn wladgarwch yn Scandinafia yn garn-fradwriaeth yng Nghymru, ac y mae'r pethau sy ddamnedig yn Nhir y Twrc yn bethau canmoladwy yn Nhir y Matabeliaid.

O "DDEUDDEG CŴYN MR. DARLINGTON." ALLAN O'R Geninen, HYDREF, 1896.

Y mae'n wir bod y môr, wrth ddygyfor, yn bwrw allan fwy na digon o dom a llaid; ond pe peidiai â dygyfor, ef a drôi yn ferllyn, ac a fagai hen gasnach gwyrdd sebonllyd, a phenbyliaid ysgoewan, a llygod duon llechwrus, a llyffaint defosiynol yr olwg. Yn wir, Syr, y mae ysbwrial y môr yn dda i rywbeth; ond pa beth, tybed, a ellir ei wneud ag epil dwfr merllyd? . . Buasai Iwerddon yn awr mor ddi-nod â Chymru, druan, onibai bod rhyw angel o wladgarwr yn disgyn ar amserau i gynhyrfu'r dwfr. Tystia Thierry, yr hanesydd Ffrangeg, fod Tywysogaeth Cymru, yn amser Llywelyn ap Iorwerth, yn fwy gwâr a menwydus—hynny ydyw, yn fwy intellectual, na phob cenedl arall yn Ewrop; ac yr wyf yn tybied y gallasai'r wlad fach honno, fel gwlad Canaan gynt, fod yn oleuni i'r cenhedloedd o hynny hyd yn awr, pe codasai ynddi chwaneg nag un Ywain Glyn Dŵr i bwtian y tân.

***

Ni ddichon dyn fod yn ffyddlon i'w genedl ei hun heb fod yn anffyddlon i'r genedl y byddo'n ddarostyngedig iddi. Bu pob Gideon yn wrthryfelwr; bu pob Ystephan yn heretic—yng ngolwg rhywrai. Ond tybed ei bod yn weddus i chwi a fu'n carcharu gwladgarwyr byw, daenu blodau ar feddau gwladgarwyr meirwon?

ALLAN O'R Faner, MAWRTH 15, 1882.

Pleidiaf bob cynigiad a gynigier i leihau cyflogau'r teulu brenhinol a'u lluosog weision di—les; i leihau traul y fyddin a'r llynges, y rhai a gedwir er mwyn gormes a gwag ogoniant; i leihau'r trethoedd a'r tollau anghymedrol sy'n llethu'r werin, ac i leihau'r holl segur—swyddau a grewyd ar gyfer gwenyn gormes.

ALLAN O'R Faner, MAI 3, 1882.

FONEDDIGION,

Gan fod Cristionogion, gan mwyaf, yn amser rhyfel yn llefaru nid yn unig fel ynfydion, ond hefyd fel anffyddwyr, bydd yn dda gan y gweddill sy'n hoffi gwirionedd a chyfiawnder gael tystiolaeth bod yr anffyddwyr yn llefaru'n bur Gristionogol. Byddai'n dda i ninnau fod yn fwy anffyddol mewn rhyw ystyr, canys pe baem felly, ni byddai mor hawdd gennym draflyncu'r celwyddau amlwg ac anghyson a ddywedir am y Mahdi a'i ddilynwyr gan ddyhirod sy'n ymelwa ar hygoeledd, balchder, a bwystfileiddrwydd diarhebol y werin Seisnig. Metha gan rai ddeall i ba beth y mae anffyddwyr dda, ond pe bai'r byd hebddynt hwy pwy a geid i gyhoeddi egwyddorion teyrnas nefoedd pan ryngo bodd i weinyddiaeth Plaid Heddwch, Cynildeb a Diwygiad yrru'r gorchymyn hwn i'r pencadlys: "Cyfoded yn awr y llanciau a chwaraeant ger ein bronnau ni"? Nid dysgawdwyr yr Ymneilltuwyr, bid sicr, canys nid i gondemnio rhyfeloedd anghyfiawn y galwyd hwy, ond i gondemnio rhyfeloedd Torïaid, megis Beaconsfield a Salisbury. Gwell gan lawer ohonynt hwy logellu eu tipyn Cristnogaeth na rhoi achos i neb eu cyhuddo o fod yn anffyddlon (yn disloyal, chwedl ein Presbyteriaid) i'r blaid wleidyddol a enillodd iddynt yr hawl ogoneddus i weddïo'n waelach na chlerigwyr wrth fedd corff marw.

***

[Ar ôl codi rhai paragraffau o'r cylchgronau Saesneg Truth a'r Cambridge Press, lle y mae anffyddwyr amlwg yn traethu eu barn yn ddi- floesgni ar y rhyfel yn yr Aifft a'r Swdân, diwedda Emrys ei lythyr â'r paragraff isod. —D.M.L.]

Ond yr wyf i'n gobeithio ymhellach y gallant [sef y Swdaniaid] nid yn unig ei chadw [sef Cartŵm], ond hefyd y cadwant allan ohoni y giwed Ewropeaidd sydd ymron i gyd yn ennill eu bywoliaeth trwy gadw diotai ac ufferndai, tan nawdd y galluoedd "Cristionogol "; ac felly yn llygru pobl foesolach a deallusach na hwy eu hunain. (Gyda Ilaw, paham na ddylai'r Cartwmiaid hefyd gael local option?) Ac os ydyw'r Proffwyd Arabaidd yn awyddus i lesáu cenhedloedd wedi eu melltithio â "gwareiddiad," hynny ydyw, rhai wedi eu dysgu i bechu mewn modd scientific a sanctimonious, yr wyf yn disgwyl y bydd iddo ddanfon i Gymru a Lloegr ychydig ugeiniau o genhadon i'n dysgu i fyw yn syml, yn sobr, ac yn onest. Dangosed i'r Saeson nad yw dal yn gaeth bersonau ddim cynddrwg yn y diwedd â dal yn gaeth genhedloedd; a dangosed i'r cadlywyddion a'r milwyr Gwyddelig beth mor chwithig yw eu gweled hwy, yn anad pawb, yn ymladd rhyfeloedd y Saeson—y byddai'n llai o ddrwg iddynt, o'r ddau, ymddifyrru mewn siglo Tŵr Llundain â dynamit nag ymogoneddu mewn anrheithio'r Swdân. Gwneled ef a'i ddilynwyr a wnelont, yr wyf i'n dymuno llwydd ar eu harfau hwy, ac ar arfau pawb y gorfyddo arnynt amddiffyn eu hannibyniaeth yn erbyn gormeswyr, fel yr argyhoedder yr holl bobloedd, yn Gristionogion, yn Fohamediaid, ac yn baganiaid, a hynny cyn dydd y farn, fod Duw yn bod, a'i fod yn Dduw cyfiawn, am ei fod "yn gwneuthur cyfiawnder yn y ddaear."

 Yr eiddoch, &c.,
 E

ALLAN O'R Faner, CHWEFROR 18, 1885.

Yn wir, y mae rhai o ddisgyblion mwyaf eithafol Rousseau yn haeru mai trafferth ofer yw dysgu unrhyw iaith; a gwaeth nag ofer, am fod iaith yn rhoi cyfleustra i ddynion i wag-siarad ac ymddadlau, i enllibio ac i absennu, i draethu celwydd a gwen— iaith, ac i dyngu a rhegi. Yr un ffunud fe all ambell Gymro, er mwyn cyfiawnhau ei anghysondeb ei hun, neu ynteu er mwyn difyrru pobl eraill, ddwyn rhyw ddadleuon yn erbyn arfer moddion i gadw iaith ei wlad yn fyw; er hynny, nid ydyw'r cyfryw ddadleuon yn mennu dim ar y Cymry sy'n ymwrando â greddfau a chydwybod y genedl. Cydwybod y genedl, meddaf; canys y mae'r undod a berthyn i genedl yn ei gwneud hithau, fel y person unigol, yn berchen cydwybod; ac y mae'r gydwybod genhedlig hon yn sisial wrth genedl y Cymry, fel wrth bob cenedl arall, nad oes ganddi ddim mwy o hawl i ddibrisio ei bywyd ei hun nag sydd gan berson i ddibrisio ei fywyd yntau.

***


Swm yr hyn a ddywedwyd ydyw bod y genedl, fel y teulu, yn gysegredig; a'i bod, fel y teulu, wedi ei hordeinio gan Dduw i ddysgu dyn. Fel y mae'r teulu wedi ei ordeinio i ddysgu dyn i garu ychydig yn lle un, sef efe ei hun, felly y mae'r genedl wedi ei hordeinio i ddysgu dyn i garu llawer yn lle ychydig; nad ydyw'r teulu a'r genedl amgen na dwy ris i'w gynorthwyo i esgyn oddi wrth hunangarwch at ddyngarwch, sef cariad cyffredinol; mail priod iaith ydyw prif nod cenedl, a'r etifeddiaeth werthfawrocaf a ymddiriedwyd iddi gan y tadau; ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, yn enwedig yr eiddo cenhedlig hwn, ei fod yn waeth na'r di-ffydd. Pe gwyddwn fod y dywediad yn rhy gryf gan rywun, mi allwn rywbryd eto ei gadarnhau â thystiolaethau rhai o brif ddiwinyddion ac athronyddion ac addysgwyr y byd. Chwi a wyddoch fod y fath beth yn bod â Moesoldeb Cymdeithasol; ac ymhob llyfr o fri sy'n ymdrin â hynny fe ddywedir bod dysgu'n dda ein hiaith ein hunain yn ddyletswydd foesol—ïe, yn ddyletswydd grefyddol, nad ydyw hi'n ail i un ddyletswydd arall.

ALLAN O'R Faner, CHWEFROR 27, 1895.

Nodiadau golygu

  1. Ef piau'r gair.
  2. Y mae diwylliant Cymraeg eang yn ddisgyblaeth mewn goddefgarwch crefyddol, oblegid y mae cynifer o bethau gorau ein llenyddiaeth yn glwm annatadwy wrth fwy nag un ffurf o Gristnogaeth. Y mae casineb at unrhyw un o'r ffurfiau hynny yn ein rhwystro rhag gweld gwerth ein cynhysgaeth genedlaethol yn ei chyfanrwydd, ac oblegid hynny yn peri i ni fod yn llai o Gymry. Gwyddai Emrys ap Iwan hyn yn dda.
  3. Bu farw Emrys ap Iwan ym 1906, gan hynny mae ei holl waith ymhell allan o hawlfraint. Yn wir, gan fod deddfau hawlfraint Cymru a Lloegr yn perthyn i lyfrau yn unig, ac nid erthyglau mewn papurau newyddion a chylchgronau, hyd ddechrau'r 20G ni chafodd y mwyafrif o’r erthyglau sydd yn y cyfrolau byth eu hamddiffyn gan hawlfraint.
    Gan fu farw David Myrddin Lloyd, awdur y rhagymadroddion i'r tair cyfrol yng Nghyfres Erthyglau Emrys ap Iwan, ym 1981, bydd ei weithiau ef, gan gynnwys y rhagymadroddion hyn, o dan hawlfraint hyd 2052.
    Cyhoeddwyd y gyfrolau dros 80 mlynedd yn ôl. Daeth y cyhoeddwr, Y Clwb Llyfrau Cymreig, i ben ei daith dros 80 mlynedd yn ôl, gan hynny mae pob dim ond yr ychydig tudalennau o ragymadrodd yn sicr yn y parth cyhoeddus. Bernir mae defnydd teg yw dyfynnu yr ychydig dudalennau o ragymadrodd gyda gweddill corff y llyfrau sydd bellach allan o hawlfraint.
  4. "Yn Ffrainc mi a fedraf Ffrangeg; ond paham y dylwn siarad estroniaith yn fy ngwlad fy hun?"—Lessing yn Minna von Barnhelm.
  5. "English science can now boast of but very few noted living names any more than can English literature."—Daily Chronicle, September 12, 1895.
  6. Y mae'n ymddangos fod gan y Saeson anhawddgar hyn ffordd newydd i gael gwared o'r gweithwyr Cymreig, sef eu gyrru i weithio ymhell oddi cartref, a thrwy hynny beri iddynt deimlo bod eu cyflog yn rhy fach i'w cynnal hwy mewn llety.
  7. Y mae awdur y Great Commanders of Modern History yn dywedyd i Wellington ddwyn 45,000 o Quatre Bras, iddo alw 21,000 o Nivelles, a rhyw 4,000 o leoedd eraill, a bod ganddo felly 70,000 ar y maes, heblaw'r 17,000 neu 18,000 a adawodd o yn Hal i ddiogelu ei asgell dde.
  8. "In some of the most critical and terrible moments of the Waterloo campaign he seems to have been scarcely able to keep himself awake."—Encyclopædia Britannica.
  9. Y mae tramorwyr, megis y Ffrancwr Thiers a'r Prwsiad von Damitz, yn taeru bod colled Napoleon yn Waterloo yn llai o rai miloedd na cholled ei wrthwynebwyr. Y mae Dr. Sloane, o'r tu arall, yn haeru darfod i'r Ffrancod golli 30,000, tra na chollodd y Cyfunoliaid fwy na 22,500. Gwell gennyf i dderbyn tystiolaeth y pleidiau eu hunain am eu colledion eu hunain na derbyn tystiolaeth eu gwrthwynebwyr. Felly yr wyf yn derbyn ffigur uchaf y Ffrancod am golled Napoleon, ffigur uchaf y Prwsiaid am golled Blücher, a ffigur uchaf Brytaniaid ac Americaniaid am golled Wellington.
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.