Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist
← Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw | Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist gan William Williams, Pantycelyn |
'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
133[1] Y Ffordd Newydd.
M. H.
1 FFORDD newydd wnaed gan Iesu Grist
I basio heibio i uffern drist,
Wedi ei phalmantu ganddo Ef,
O ganol byd i ganol nef.
2 Agorodd Ef yn lled y pen
Holl euraid byrth y nefoedd wen;
Mae rhyddid i'w gariadau Ef
I mewn i holl drigfannau'r nef.
3 Os tonnau gawn, a stormydd chwith,
Mae Duw o'n tu, ni foddwn byth;
Credwn yn gryf, down maes o law
Yn iach i'r lan yr ochor draw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 133 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930