Ffugenwau (Mynyddog)

Ffugenwau.

Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad,
Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad;
Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro,
A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh;
Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed,
Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed.
Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn,
Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn,
A llewod ac arthod, eryrod a brain,
Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain.
Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan,
A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tan,
Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen,
A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen;
Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs,
A'i blastro ag enw fel label ar focs.
Mae Eos y Weirglodd, &c.
Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o dôn,
Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fôn,
Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir,
Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir;
'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad,
A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad.
Mae Eos y Weirglodd, &c.
Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son,
Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon,
Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys,
A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys,
A chyda'r rhai yna daw Morris--
Llanfairmathafarn eithaf
Rhosllanerchrugog,
Llanrhaiadr Mochnant,
Hugh,
A William Carey Williams a Dafydd--
Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll-llandysiliogogo goch
Pugh.