Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod I

Rhagair Fy Mhererindod Ysbrydol

gan Evan Keri Evans

Pennod II

FY MHERERINDOD
YSBRYDOL


I

GOSODIR y teitl "Fy Mhererindod Ysbrydol" uwchben yr ysgrifau hyn am ei fod erbyn hyn yn weddol gyfarwydd i'r darllenydd. Ond hoffwn wneuthur dau sylw mewn perthynas â'i ddefnyddiad gennyf cyn myned ymhellach. (1) Yr wyf am iddo gau allan y dyb mai sgrifennu atgofion a wnaf. Y mae gennyf lawer o atgofion cysylltiedig ag amserau a lleoedd, yn ogystal ag â phersonau, y sydd yn ddiddorol i mi a rhai o'm cyfeillion; ond yr amcan yn yr ysgrifau hyn yw rhoddi hanes profiadau a all fod yn ddiddorol a buddiol i bererinion eraill ar y "ffordd dragwyddol." Ceisiais wneud yr atgofion yn iswasanaethgar i'r amcan hwn. (2) Wrth ddarllen ymlaen, fe wêl y darllenydd fy mod yn defnyddio'r gair "ysbrydol" yn ei ystyr eang, lle y saif am holl diriogaethau'r meddwl-fel y defnyddir ef gan athronyddion megis Hegel neu Eucken; ond hefyd, ac yn fwyaf neilltuol, yn ei ystyr cyfyng, fel yn y Testament Newydd, lle y cyferbynnir ef ag "eneidiol" (anianol), fel yn 1 Cor. ii, 14, 15.

Y mae y Dr. Scott Lidgett, yn yr hanes a rydd o'i "Bererindod Ysbrydol" ef yn y Christian World (Hydref-Tachwedd, 1935), yn alluog i ddweud ei fod yn argyhoeddedig iddo weithredu ym mhob argyfwng yn ei fywyd dan arweiniad dwyfol ("I have acted in each crisis under what I am convinced has been Divine Guidance "). Y mae hyn yn ddatganiad hynod i'w wneud gan neb pwy bynnag. Ychydig, yn sicr, yw nifer y rhai a all ei wneud, ac nid wyf i yn y nifer hynny. Y mwyaf a all y mwyafrif o saint ei ddweud—mor bell ag y gwn i eu hanes y tu mewn a'r tu allan i'r Beibl, yw, fod yr Arweinydd Dwyfol wedi eu dwyn yn ôl "o'u holl grwydriadau fföl" i lwybr Ei fwriadau Ef. Dyna fy mhrofiad innau. Yn wir, ni allaf ddweud fy mod wedi dewis o gwbl gyda golwg ar brif symudiadau fy mywyd, ond wedi fy nghario iddynt fel llong o flaen y gwynt. Os iawn galw hynny yn "arweiniaid dwyfol," nid oes gennyf wrthwynebiad; ond nid oedd dewisiad rhwng dau gwrs penodol. Am y rheswm hwn, byddai "Mordaith Pererin"—pererin â'i long yn cael ei chario yn awr ar un llifeiriant ac yna ar un arall, nes dod i mewn i'r rhedlif iawn, yn ffigur mwy cymwys. Bûm yn morio am flynyddoedd, er enghraifft, ar lif barddoniaeth fel pe na bai dim arall yn bod yn amcan bywyd, ac yna ar lif athroniaeth, gyda llawn cymaint o hwyl a diddordeb, nes dod i mewn i redlif canol hanes dyn yng nghrefydd yr Arglwydd Iesu Grist. Byddai athronydd, efallai, yn dweud fy mod yn y cyfnod cyntaf yn mynd ar ôl y prydferth, yn yr ail yn ceisio'r gwir, ac yn olaf y da a'r santaidd. Y mae'n amlwg, fodd bynnag, fod y ddau ffigur yn annigonol, gan y gall y tri hyn gyd—hanfodi yn yr un ymwybyddiaeth. Eto y mae'r gair "llifeiriant" yn un priodol i osod allan eu gallu llywodraethol yn ystod yr amser y maent yn brif ddiddordeb yr enaid, ac yn ei feddiannu'n gyfangwbl ymron.

Y tu ôl i'r anturiaethau hyn i geisio dod o hyd i'r bywyd llawnach, gorwedd cyfnod bore oes dan orchudd o hyd, a chan mai ynddo ef y mae eu dechreuadau, hawlia sylw wrth basio yn y bennod gyntaf hon. Ardal wledig, dawel, oedd ardal y Drewen yn yr hen amser, ac nid yw'n wahanol iawn heddiw, ond bod y tai to gwellt, fel y crefftwyr gwlad, wedi mynd, a'r bus yn ei dwyn i fwy o gyswllt â'r byd mawr. Y mae'r hen brydferthwch mewn bryn a dyffryn a dôl yn aros heb ei ddifwyno gan fasnach a chelfyddyd. Y mae'r siop ac efail y gof yno o hyd. ond nid yw y naill yn ganolfan masnach yr ardal fel cynt, na'r llall yn gyrchfan ei gwleidyddwyr. Hyd yn oed y pryd hwnnw nid oedd yr ardalwyr heb wybod llawer am hanes y byd drwy'r Faner fach a'r Faner fawr, a marced Castellnewydd, a sôn dim am bresenoldeb y gwŷr yng ngweithfeydd Mynwy a Morgannwg. Yr oedd y fro yn ferw adeg etholiad 1868, a chofiaf yn dda am Mr. Davies (" Squire ") Cilfallen, yn dod i lawr i Gwmcoy bob bore i gyfarfod y llythyrgludydd adeg y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani, a darllen yr hanes yn yr efail, gan ddatgan ei syndod mai'r olaf

oedd yn ennill y dydd ar waethaf ei broffwydoliaeth ef. Os na ellir dweud bod dim eithriadol yn ein cylchfyd agos i symbylu'r meddwl ieuanc i gyfeiriad art a llên a chrefydd, nid oedd yn gwbl ddifywyd yn un o'r cyfeiriadau hyn. Heblaw a ddysgem yng nghôr y Drewen, a dosbarth y solffa dan Eos Gwenffrwd, yr oedd Tomi Morgan a'i gôr yn perfformio gweithiau'r meistri yng Nghastellnewydd yn ymyl, a hyd yn oed yn mentro cystadlu—a chystadlu'n llwyddiannus— â phrif gorau Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin. Bu rhai ohonom, ar ôl hyn, yn canu alto yn ei gôr.

Daeth bendith addysgol fawr i ni'r plant gyda'r Ysgol Frytanaidd (British School), a dyfodiad Mr. John Jones yn ysgolfeistr iddi. Er na "chodwyd" mohono'n ysgolfeistr, fe'i ganwyd yn un. Yr oedd ganddo ddawn neilltuol i ennill serch plant, i gyffroi eu diddordeb, a chyfrannu addysg iddynt, a gwyddai'n dda am berthynas y gwahanol amodau addysg hyn a'i gilydd. Nia oes gennyf gof am unrhyw boen na chas ynglŷn â'r gwersi, gan mor ddiddorol a swynol y gwneid hwy ganddo. Unai â ni yn aml yn ein chwaraeon. Er nad oedd gennym bêl droed, yr oedd gennym ddigonedd o fryndir a doldir, gelltydd ac afonydd, at ein gwasanaeth. Bob amser, pan gyfarfyddai'r" cŵn cadno" gerllaw, caem fore o wyliau, a'r unig atgof o siom chwerw sy'n aros gennyf o'r amser hwnnw yw y siom o weld y cŵn a'r cotiau cochion yn ein gadael ar ôl ar fanc Penalltgeri, a hwythau'n diflannu dros y gorwel i gyfeiriad y môr.

Heblaw yr ysgol ddydd, yr oedd ganddo ysgol nos rai gaeafau i bawb a ddelai iddi. Gan ei fod yn llenor a bardd da, byddai clywed rhai o'i gynhyrchion yn atyniad ychwanegol i'r ysgol hon. Heblaw hyn trefnodd gyfarfodydd llenyddol—cerddorol bob gaeaf, a oedd yn newyddbeth yn yr ardal, ac yn boblogaidd iawn. Deuai " Hughes Llechryd" a'i deulu cerddorol fel rheol i gymryd rhan ynddynt. Tua 1868, 'rwy'n cofio iddo ddysgu nifer o drioedd Cymraeg imi i'w hadrodd yn un o'r cyrddau, ac ychwanegu fel diweddglo un o'i waith ei hun—yr unig un sy'n aros ar fy nghof. "Tri pheth sy'n dda gan fy nghalon: fod digon o fara a chaws gartref, fod British School yn y Drewen, a bod E. M. Richards wedi mynd i mewn i'r Parliament." Yr oedd yr olaf yn cwrdd ag archwaeth y cadeirydd, "Squire" Cilfallen, i'r dim, gan ei fod yn Rhyddfrydwr brwd.

Rhwng popeth, daeth ei ddyfodiad â thon newydd o fywyd i'r ardal, a bu ei ddylanwad ym myd diwylliant cyffredinol yn llawer mwy nag eiddo Selby Jones, y gweinidog, yn nhiriogaeth crefydd. Yr oedd i'r olaf glod ac edmygedd ymhlith y bobl fel pregethwr huawdl a chwmnïwr doniol.

Nid oedd dim eithriadol yn nodweddu crefydd yr ardal. Yr oedd y rhan fwyaf—ond nid pawb o lawer —yn aelodau crefyddol, yn glynu wrth yr hen athrawiaethau ac arferion y tadau, ac yn ceisio byw i fyny â gofynion moesoldeb cyffredin—dim mwy. O gymharu'r Drewen â'r Priordy (Caerfyrddin), y mae'n sicr gennyf fod effeithiau diwygiad 1859—60 wedi mynd heibio'n gyflymach na rhai diwygiad 1904—5. Nid oedd dim ohonynt yn aros erbyn 1870. i lygad bachgennyn— dim ond y sôn yn awr ac yn y man amdanynt i'r glust. Cofiaf gwyno wrth y Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, nad esgorodd y diwygiad ar unrhyw enghreifftiau o santeiddrwydd uchel ac amlwg. Ei ateb oedd fod y rhan fwyaf o flaenoriaid y Methodistiaid yn Sir Aberteifi wedi eu dwyn at Grist ganddo. Diau fod hynny'n wir, ac yn wir, efallai, hefyd am rai o ddiaconiaid y Drewen, er na allaf feddwl am un ohonynt yn gwerthu ei geffyl —fel Dafydd Jones, Poplar—a rhoddi'r arian, "bob dime goch," at achos Duw.

Fodd bynnag, cefais fy ngeni yn ail flwyddyn y diwygiad, a diau fod argraffiadau isymwybodol wedi eu gwneud arnaf ganddo, yn neilltuol gan i'm mam brofi yn helaeth o'i fendithion. Ynddi ac arni hi arhosodd yr effeithiau hyd y diwedd, a dug ei phlant i fyny "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd," ac âi hi a'm chwaer a minnau (yr unig rai o'r teulu gartref) i'r cwrdd gweddi wythnosol—yn gystal â chyrddau'r Sul—yn ddiffael. Aeth o'r byd mewn math o ecstasi, yn union fel pe bai'r byd ysbrydol yn brysio i mewn i'w chorff i hawlio ei eiddo ei hunan. Yr oedd fy nhad yn gweithio yng ngweithfeydd dur Mynwy, ac yn fwy deallol ei ogwydd a'i ddiddordeb y pryd hwnnw, er iddo, gyda threigl y blynyddoedd, ddatblygu'n fwy defosiynol na'r cyffredin.

Nid yw'n bosibl olrhain effeithiau gwahanol weithredyddion ei gylchfyd bore ar y meddwl ieuanc; ond cyfnod o hyfrydwch pur, amgylchynedig gan gariad a gofal diorffwys, yw cyfnod bore oes yn fy nghof i, heb chwerwder na chas yn ei ddifwyno. Efallai, bid siŵr, fod yna rai profiadau anhyfryd wedi eu gwthio i lawr i'r anymwybod—islaw traidd y cof—ac mai'r rheiny yw gwir achos llawer gwendid ac amherffeithrwydd sydd yn fy mlino o hyd.

Nodiadau

golygu