Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod IV

Pennod III Fy Mhererindod Ysbrydol

gan Evan Keri Evans

Pennod V

IV

GAN mai fy amcan yn yr ysgrifau hyn yw disgrifio profiad ysbrydol hyd y gallaf, a bod i'r profiad hwnnw wahanol arweddau sydd yn rhedeg i'w gilydd, y mae'n amlwg nad trefn amser yn hollol fydd cu trefn. Yn y bennod ddiwethaf ar gwrs fy nisgyblaeth feddyliol, yr wyf wedi gorfod dod i mewn i amser y bennod hon, am fod y cwrs hwnnw'n parhau, er nad mwyach yn brif ddiddordeb.

Sylwyd eisoes bod dysgu iaith neu fathemateg a'r cyfryw destunau yn cynhyrchu profiad gwahanol o ran ei ansawdd i unrhyw beth y gellid ei alw yn ysbrydoliaeth; mwy cywir, efallai, fyddai dweud mai felly yr oedd gyda mi, am na feddwn y ddawn sydd yn amod ysbrydoliaeth ynddynt. Bid a fynno am hynny, dug yr amgylchiadau yr oeddwn ynddynt y math o bleser sydd i'w gael yn unig drwy ymroddi i feistroli pwnc drwy nerth ewyllys: yn ôl llaw, fe ddwg y feistrolaeth honno ei hun fath o ysbrydiaeth gyda hi. Y mae'n werth bod heb ddawn amlwg yn aml pan fo hynny'n amod hunan—reolaeth. Ni bu fy mlwyddyn gyntaf mewn Athroniaeth—yr ail yn y cwrs—un dim yn wahanol yn ansawdd ei disgyblaeth i flwyddyn gyntaf y cwrs mewn Groeg a Lladin a Mathemateg, am y rheswm na allodd yr athro Veitch ddeffro cymaint o ddawn athronyddu ag a feddwn i. Heblaw hyn, yr oedd fy niddordeb pennaf yn ystod y tymor hwn yng nghyfarfodydd Henry Drummond. Dyma'r pryd y profais gyntaf ddim tebyg i fywyd newydd yng Nghrist. Ar lefel moesoldeb cyffredin ac uniongrededd rhesymol y buaswn yn flaenorol. Yr oedd eisiau'r profiad hwn—ar yr hwn y caf sylwi eto yn gychwynfan y cyfnod athronyddol a ddilynodd; oblegid 'rwy'n cofio'n dda bod ei newydd—deb rhyfedd yn fy ngorfodi i geisio ei gysylltu â'r gweddill o'm profiad. Beth yw ystyr pethau ?" ("What is the meaning of things?") oedd y cwestiwn mawr. Dechreua athroniaeth, meddai'r hen athronydd, mewn syndod—syndod at fod yn ei holl agweddau, yn arwain at yr ymgais i gyfrif amdanynt a'u cyfundrefnu. Y profiad newydd o Grist a agorodd fy llygaid i weld a rhyfeddu—yn raddol i ryfeddu at bopeth, a gofyn gyda Carlyle, "Is there one thing more miraculous than another?"

Yng nghwrs fy mywyd yr wyf wedi dyfod i gyffyrddiad â chryn nifer o'm brodyr yn y weinidogaeth yn meddu ar reddf athronyddu, sydd yn teimlo'r angen am gysylltu Cristnogaeth â'r cyfan o bethau, ac yn holi am y llyfrau gorau ar y pwnc. Bûm i'n fwy ffodus na hwy am i mi gael help Edward Caird i ateb y prif gwestiwn uchod, a'r cwestiynau llai sydd o'i gylch. Ni allaf yn y fan hon roddi i'r darllenydd syniad digonol am athroniaeth Caird, ond gallaf nodi sut y bu o help i mi, a deffroi ynof ddiddordeb newydd yn y cyfan o fodolaeth.

Diddordeb ydoedd, ar y cyntaf, cofier, yn ystyr bywyd, ac nid mewn athroniaeth fel y cyfryw, ond i'r graddau y credwn ei bod yn taflu golau ar yr ystyr hwnnw. Wrth gwrs, yr oedd pleser hefyd mewn ymarfer dawn newydd yn llwyddiannus. Yn y fan hon, ni ddymunwn adael yr argraff ar feddwl neb bod y porth yn eang na'r ffordd yn llydan. Ar y cyntaf, yr oedd, ys dywaid Plato, fel dod allan o ogof lle bu dyn yn gweld cysgodau pethau'n unig, i oleuni dydd, ac ymgyfaddasu i ofynion byd yr hanfodion. Ac yna, wrth fynd ymlaen, i ymgodymu â systemau Plato ac Aristotle, Kant, a Hegel, golygai lawer o ymdrech galed—rhy galed yn wir i'm cnawd i oni bai am yr ysbrydoliaeth a ddaeth i'm cynorthwyo.

Yr oedd dull Caird yn ei ddarlithiau wedi ei ddewis i helpu'r gwan. Ei safbwynt ef, fel y gwyddys, oedd yr un Hegelaidd, wedi ei newid a'i gymedroli lawer gan athrylith Caird ei hun. Ond arweiniai ni i fyny ato ar hyd llwybr datblygiad athroniaeth o'r oesau cynnar yng Ngroeg. Yr oedd y ffordd, felly, yn un gymharol rwydd i'w theithio gan y gwan a'r anghyfarwydd.

Yn ei lyfr bychan ar Hegel, gesyd Caird ei egwyddor ganol allan fel "marw i fyw "—egwyddor sydd i'w gweld yn weithgar mewn gwybodaeth a moesoldeb yn gystal ag mewn Cristnogaeth. Rhaid i'r gwyddonydd a gais ddod o hyd i wirionedd farw iddo ei hun a bodloni i roddi ei ddamcaniaethau ei hun i fyny pan fo ffeithiau'n gofyn hynny: heb hyn nid â byth i mewn i deml gwirionedd. Y mae moesoldeb, hefyd, yn golygu bod dyn yn gwneud ei nwydau a'i fuddiannau ei hunan yn iswasanaethgar i hawliau cymdeithas. Yr oedd dysg fel hon yn ateg ddeallol bwysig iawn i'r hyn a gawsom gan Drummond ar rannau o ddysgeidiaeth Crist, megis, "Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw, efe a erys yn unig, eithr os bydd efe marw efe a ddwg ffrwyth lawer"; ac yn arbennig ar bresendoldeb y Crist byw yn awr gyda'i eiddo—gwirionedd a ffurfiai ganolbwnc ei anerchiadau inni. Gan i Caird fy nghymell i fynd i mewn am Anrhydedd mewn Athroniaeth, ac i minnau gydsynio, treuliais wyliau'r haf dilynol—ac yr oedd gennyf dros chwe mis o wyliau!—i ddarllen y llyfrau neilltuol a oedd i'w meistroli. Cefais fudd a mwynhad anghyffredin yn y porfeydd breision hyn—rhai a oedd yn eu manylion yn newydd i mi; ond y llyfr a ddaeth â mwyaf o ysbrydoliaeth i mi yn ddiau oedd Prolegomena to Ethics yr Athro T. H. Green. Yr oedd yn anodd iawn ar y cyntaf, ar gyfrif ei gynnwys a'i arddull, ond dug yr ymdrech i'w feistroli, a'r weledigaeth wedi ei feistroli (i fesur, o leiaf) dâl cyfoethog gyda hi. Yr oedd rhywbeth yn debyg i'r profiad a gefais unwaith drwy ddringo'r Wyddfa drwy niwl tew ac yna ddod allan ar ôl ymdrech ddygn i oleuni haul, a gweld Ynys Fôn dros ben y niwl a guddiai Arfon yn gorwedd draw ar fynwes y weilgi.

Yr oedd yr athrawiaeth bod hyd yn oed Natur yn golygu egwyddor uwch-naturiol, nid y tu allan iddi ond yn weithgar ynddi; a bod gwybodaeth a moesoldeb yn golygu datblygiad graddol ynom o ymwybyddiaeth o order dragwyddol; a chan na all y fath order fodoli heb Ymwybyddiaeth Dragwyddol, bod y fath Ymwybyddiaeth yn bod ac yn ei hatgynhyrchu ei hun ynom ni dan amodau ein natur feidrol: yr oedd y fath athrawiaeth, nid yn unig yn cael ei chyflwyno fel damcaniaeth ond hefyd ei gweithio allan gyda gallu rhesymegol anwrthwynebol, yn fy nghodi yn y cwbl ohonof, gorff, meddwl, ac ysbryd, i fyd o gymysg swyn a sylwedd, nas dychmygaswn o'r blaen ei fod yn fy ymyl.

Fel y sylwyd uchod, morwyn i'm bywyd ysbrydol y golygwn i athroniaeth fod ar y cyntaf, ond yn raddol tueddai i'm meddiannu yn gwbl iddi ei hun. Y mae'n amlwg fy mod yn teimlo hynny, gan i mi osod i lawr yn y Beibl a ddefnyddiwn yn Glasgow gofnodiad o ymgysegriad newydd i'r Arglwydd dan y dyddiad Tachwedd 19, 1887. Fod bynnag, bu'r blynyddoedd dilynol hyd 1891 yn flynyddoedd o forio ymlaen dan lawn hwyliau ar lif athroniaeth. Nid yw'r ffigur o lif mewn perthynas ag athroniaeth yn taro'n naturiol ar glustiau pawb, ond felly yr oedd i mi yr adeg hon. Nid iswasanaethgar i fywyd ydoedd mwyach, ond bywyd ei hun teimlwn fy mod yn fy nghael fy hun ynddi. O gymharu'r cyfnod â'r un barddol gynt, yr oedd yr ymsylweddoliad a brofwn yn ddyfnach a chyfoethocach: teimlwn fy mod yn nes at galon a gwirionedd pethau, a bod bywyd mwy yn eiddo i mi.

Ni allaf lai na chyfrif yr hafau hynny (1886-7-8) ymysg hafau mwyaf uchel—blesurus fy mywyd. Er bod gennyf dros chwe mis o wyliau, gwyliau oeddynt i weithio, ac yn fwy o wyliau oblegid hynny. Yr oedd i hyfrydwch Natur hyfrydwch ychwanegol newydd i athronydd ieuanc nid llai o fwynhad haul a sêr, nef a daear, maes a môr, a gâi na phobl oedd yn eu mwynhau eu hunain ar lefelau is, ond mwy. Yr oedd llaw ddeddfol arholiad yn ddiau i fesur ar yr haf cyntaf, ond nid yn hollol, gan fod digon o le i nofio'n ddiwarafun yn Plato, a Spinoza, a Kant, ac eraill. Yr hafau dilynol yr oeddwn at fy rhyddid i ymgydnabod â systemau eraill, i'w beirniadu a chael fy meirniadu'n ddeallol ganddynt. A phan fo myfyriwr o unrhyw allu cynhenid yn ymgolli mewn astudiaeth o gyfundrefnau athronyddol, ni all na bydd rhyw gyfundrefn o'i eiddo ei hun yn ymffurfio yn ei feddwl, er bod ei phrif linellau, efallai, wedi eu cymryd o'r system neu systemau a apeliodd fwyaf ato.

Nid fel llyfrbryf yn y tŷ y treuliwn yr amser, ond yn yr ardd dan gysgod coeden, neu ar fryn uwchlaw'r tŷ, ar lannau afonydd, ac yn aml yn unigrwydd y goedwig, ac ar lan y môr. Fel hyn y deuthum i'r gyfathrach ddyfnach â Natur y cyfeiriwyd ati ym Mhennod II, ac y trodd athronyddu yn fath ar fywyd ac nid ymarferiad deallol yn unig. Gan mai delfrydiaeth Caird a Green a'm swynai fwyaf, perthynas y Tragwyddol" â Natur neu ryw agwedd arni oedd testun fy myfyrdod gan amlaf, ac wedi bod yn ymgodymu am oriau â rhyw ddyryswch, a chodi o'm heistedd a'm hamdden, yr oedd ffordd gan "y Tragwyddol" i ddyfod ataf ar hyd llwybr arall, fel pe dywedasai: "Ni elli ddod o hyd i mi drwy ddeall; nid gwrthrych wyf i i'w ddarostwng i esboniad, ond os mynni gyfeillachu â mi, ti gei." Y mae'r gwmnï- aeth nefol a gawn yr hafau hyn yn gwbl anhraethadwy—ni all geiriau ei disgrifio i'r sawl sydd hebddi, ac nid oes eisiau geiriau ar y neb a'i cafodd. Dywaid Byron hyd yn oed fod y gyfathrach a gâi ef â Natur yn gwbl anhraethadwy:

There is society where none intrudes
. . . . . . . . . in which I steal
From all I may be or have been before,
To mingle with the universe, and feel
What I can ne'er express. . . . . . .

"Presence"—"nid person" penodol—fyddai'r gair gorau i ddisgrifio'r hyn y deuwn i fath o gyfathrach hudol, megis drwy len, ag ef, megis y'i gelwir gan Wordsworth:

I have felt
A presence that disturbs me with the joy
Of elevated thoughts.

Rai prydiau, fodd bynnag, fe wnâi rwyg yn llen ffenomenau Natur i ddadlennu'i ogoniant. Y mae bod y prydiau hynny yn glir yn fy nghof ar ôl yn agos i hanner can mlynedd, yn profi eu bod yn arbennig iawn yn gystal ag anaml. Cefais y profiad am y tro cyntaf un hwyrddydd wrth edrych ar lwyn rhosynnau gwyllt ar waelod Gallt-y-fedw. Euthum yno wedyn gan obeithio a dymuno gweld yr un gogoniant, ond yr oedd wedi ymado—er bod y llwyn a'i rosynnau yno o hyd, nid oedd y berth yn llosgi mwyach. Cefais y profiad wedyn yn yr ardd fechan wrth gefn tŷ fy mrawd Emlyn yn Henffordd, lle yr eisteddwn un hwyr yn darllen llyfr y Prifathro Caird ar Athroniaeth Crefydd. Yr oedd yno dair coeden gweddol dal, a chefais olwg ar ogoniant y Tragwyddol heibio iddynt—mwy na gogoniant machlud haul. Wedi gweld darn o ffordd yn ymyl fy nghartref yn yr un modd "dan ffurf y Tragwyddol" (sub specie aeternitatis), 'rwy'n cofio mynd at y Parch. Evan Phillips i ofyn ei farn, gan y gwyddwn ei fod yn weledydd ysbrydol. Nid wyf yn cofio i mi gael help ganddo mwy na galw i'm cof olygiad Kant am " bethau ynddynt eu hunain "-help gwerthfawr iawn o safbwynt Neo-Kantiaeth a ddeil mai pethau fel y maent yn bod i Dduw yw "pethau ynddynt eu hunain."

Hoffwn i'r darllenydd ddeall mai nid ysbeidiau o ysbrydoliaeth a ddaw i ddyn yn fwy neu lai cyson oedd y profiadau hyn, ond mwy fel ffenestri'n agor i ogoniant arall.

Cefais tua hanner dwsin o'r canfyddiadau hyn, a dysgais maes o law mai nid profiadau i'w sicrhau drwy unrhyw ymdrech nac ymroddiad ar fy rhan i oeddynt, ond ymweliadau grasol i ddangos i mi nad oeddwn yn angof yn y nef, ac awgrymu fy mod i ddibynnu ar y gyfathrach fwy cyson, os llai gogoneddus, am y presennol.

Ond yr oedd y gyfathrach gyson hon yn aml yn codi i addoliad. Cyfeiriad at hynny sydd mewn llinellau a gyfansoddais yn Leipsic wedi clywed am farwolaeth dwy gyfnither a chefnder a oedd hoff iawn gennyf. (Cofiaf yn dda mai gwrando ar Faust yr oeddwn ac i'r teimladau tyner a'm meddiannai redeg yn naturiol i fold y penillion cyntaf yn Faust).

A oes cân ar wefus Ceri
Pan yw'n pasio ar ei hynt,
A yw'r mawl yn ysgwyd deri
Gallt-y-fedw megis cynt?

Gallai beirniad sych gredu mai dim ond ymdrech i fod yn farddonol sydd yn y drydedd llinell :

A yw'r mawl yn ysgwyd deri?

ond cyfeiriad sydd ynddi at brofiad neilltuol a gefais wrth gerdded drwy'r allt mewn storm o wynt, a blygai'r deri hyd at eu gwraidd ymron, a throi'r sŵn yn addoliad yn fy enaid.

'Rwy'n ffansïo, pe bawn wedi dal ymlaen i farddoni, ac ymberffeithio yn y gallu i osod allan wawr a chysgod y teimladau swynol a chyfrin a ddeuai imi y cyfnod hwn, y gallaswn fod wedi ysgrifennu rhywbeth o werth. Eto, nid drwg gennyf na ddaeth yr hen nwyd yn ôl.

Nodiadau

golygu