Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod XII

Pennod XI Fy Mhererindod Ysbrydol

gan Evan Keri Evans

XII

Y MAE cystudd sy'n gwneud y galon gnawd yn ddinerth â'i duedd i daflu'r dioddefydd a fedd ronyn o ffydd yn ôl ar Dduw. Y mae yn help effeithiol i'n dysgu i farw i ni ein hunain. I'm hadfyfyrdod (reflection) presennol, yr oedd fel pe llefarai Duw (Iob xxxiii, 19 ff.): "Yr wyt wedi siarad llawer am farw i ti dy hun, ac i fesur wedi ymdrechu gwneud, ond nid hyd at waed; yr wyt wedi dysgu digon ar y mater, ond y mae eisiau dy ddisgyblu ymhellach fel na bo i ti ddibynnu arnat dy hun, ond arnaf i."

Yn ystod y blynyddoedd hyn cefais brofiadau eraill a oedd yn edrych i'r un cyfeiriad, ac mor bell ag y gallaf weld, yn gweithio at yr un nod o ddarostwng myfiaeth, ac yn y diwedd ei ddileu.

Ar ôl y seibiant o chwe mis a gefais yn 1924, darganfûm yn raddol, drwy braw gofalus, fod gennyf ddigon o adnoddau nerfol i wneuthur canolbwyntiad y cymundeb boreol eto'n bosibl. Ond sylwais yn fuan fod yna wahaniaeth amlwg nad oedd yn gynnyrch unrhyw ddymuniad na gogwydd ymwybodol o'r eiddof i. Yn ychwanegol at y "bedydd " ysbrydol a gawswn am flynyddoedd, deuai imi brofiad o bersonoliaeth fawr arall—mwy ym mhob ystyr na'r eiddof i, mwy ei maint, mwy ei nerth, mwy grasol, mwy syml, urddasol yn cymryd meddiant o'm hymwybod, a'i darostwng iddi ei hun, eithr heb ei dileu, a pheri i mi gyffesu'n rhydd: "Nid gennyfi, O Arglwydd, y mae hawl i fod, ond gennyt Ti: bydd Di, gan hynny, yn Arglwydd yn y natur feidrol hon." Yn flaenorol, hyd yn oed ynghanol y bedyddiadau a gawn, fy ngweddi oedd Glanha fi, iacha fi, cryfha fi," ond yn awr symudwyd y pwyslais o'r "fi" i'r "Ti": "Ti sydd yn bod, gennyt Ti mae'r hawl i fod, ac nid wyf i am fod onid ynot Ti." Yr oedd " yr hunan trwblus hwn" yn ymgolli mewn Mwy na thyrfa o ddeugain mil." Cofier mai nid syniad oedd, ac nid delfryd, ond rialiti cyffelyb i'm personoliaeth fy hunan, gyda'r gwahaniaeth ei fod yn anhraethol fwy o rialiti. Ni chefais lawer yn hanes y saint i egluro'r profiad, ond cofiais yn naturiol am yr "undod" sy'n ffurfio gradd uchaf y profiad ysbrydol yn ôl y cyfrinwyr (unitive stage y Sais); am ymadrodd Ioan, " Chwi ynof fi, a mi ynoch chwi," ac ymadroddion tebyg gan Paul. Yn ddiweddarach daeth i'm cof, mewn adfyfyrdod ar y profiad, ateb Edward Caird i un o'i ddisgyblion pan ofynnodd yr olaf iddo a oedd yn credu mewn anfarwoldeb personol. "Yes," oedd yr ateb, "or something better." Nid esboniodd yn fwy manwl beth oedd y "rhywbeth gwell," ond teimlaf yn sicr na fyddai'n hystyried ystad anymwybodol yn well neu yn uwch, eithr yn is. Yr oedd llawer o'r sant yn Caird, ac ni synnwn ddeall mai profiad fel yr uchod, ond â gwedd fwy athronyddol iddo, oedd yn ei feddwl—profiad o golli cyfyngiadau daearol ymwybod eithr heb golli hunaniaeth.[1] O leiaf, yr oedd y boddhad o ymgolli mewn Un mwy a mwy perffaith i mi yn anhraethol "well" nag unrhyw fath na graddau o "hunan-foddhad y gallwn feddwl amdano. Ar yr un pryd daeth i mi deimlad newydd o'm gwendid a'm distadledd yn ymyl y bersonoliaeth aruchel honno, a gwelais yn fwy clir fy angen am gymeriad cyfaddas i'r tragwyddol, un a fyddai'n ymateb i ofynion cyfathrach â Duw fel yr ymetyb athrylith ddisgybledig cerddor i bob gwawr a chysgod ym myd cerdd. Gwelais yn fwy clir na chynt mor ddiddeall yw maentumio bod diwinyddiaeth gyfundrefnol yn anghenraid crefydd i'w chadw rhag mynd yn fater o deimlad direol ac annibynadwy. Nid oes gan y golygiad hwn, y mae'n amlwg, le i Dduw byw. Nid teimlad, mae'n wir, ac nid rheswm chwaith, yw organ y bywyd ysbrydol, ond y ffydd sydd yn gweled yr Anweledig, yn mentro ar ei chanfyddiadau, a thrwy ufudd—dod ac adwaith amgylchiadau yn eu troi yn ddeunydd cymeriad cyfaddas i'r tragwyddol.

Yn ddilynol i hyn, wrth edrych i mewn i mi fy hun, canfûm fod llawer o'r hen bethau wedi myned heibio, neu ynteu wedi eu gwneuthur yn newydd. Cefais fod y llyfr" a fu gyhyd o amser yng nghefn fy meddwl wedi mynd. Nid yw yn flin gennyf am hyn. Yr oedd cymaint o brofiad ag a gefais i o Dduw ac o fyd " ffydd a gwybodaeth" yn ddigon i fychanu (dwarf) pob ymgais i'w osod allan mewn geiriau. Y peth mawr i mi yn awr, a'r " un peth angenrheidiol oedd byw iddo ("cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth "). Ar raddfa fechan, cefais weledigaeth a gwerthfawrogiad o fawredd a gwerthfawredd anhraethol yr ysbrydol tebyg i eiddo Thomas Aquinas, a barodd iddo ateb i gyfaill a geisiai ganddo barhau i ysgrifennu: "Ni allaf ysgrifennu rhagor: yr wyf wedi gweld pethau sy'n gwneud fy holl ysgrifeniadau megis gwellt."

Ni allaf ddweud bod fy nghariad at "y pethau oedd yn elw i mi," anrhydedd, safle, enw—gwahanol ffurfiau gwag-ogoniant—wedi "syrthio ymaith fel hugan" (Pennod III), ond gallaf ddweud gyda Phantycelyn eu bod "yn gwywo i gyd." Yr oeddwn yn rhinweddol wedi eu "cyfrif yn golled" wrth dderbyn Iesu yn Arglwydd. Eto, un peth yw gwneud hynny'n gyffredinol, yn y crynswth; peth arall yw ei gario allan yn ei fanylion. Peth arall eilwaith yw cael bod proses o wywo wedi bod ar waith a bod "teganau'r ddaear " yn "ddiflannu'n ddim." Dug hyn foddhad santaidd gydag ef, am' na allwn lai na'i gyfrif yn braw o gynnydd ysbrydol yn y dyn oddi mewn, a bod gwaith y greadigaeth newydd yn mynd ymlaen yn y dwfn. Clywswn ddywedyd bod dwy ail-enedigaeth, y gyntaf o'r naturiol i'r ysbrydol, a'r ail o'r ysbrydol i'r naturiol, h.y., pan fo'r ysbrydol wedi dod yn naturiol, neu ynteu yr uwch-naturiol yn dod yn naturiol uwch, a chredwn fod hynny'n digwydd yn awr yn fy hanes i. Eithr fel na'm tra-dyrchefid gan hunandyb, fe'm ducpwyd gan y Barwn Von Hügel i gyswllt â'r Curé d'Ars a'r Abbé Huvelin (Pennod X). Yr hyn a ddysgais ganddynt hwy—drwy ei weld ynddynt yn bennaf, gan mai ychydig a ysgrifenasant—oedd (1) mai ochr arall mawredd neu gynnydd ysbrydol yw bychander neu ddifodiant anianol, a (2) bod yr awdurdod dechreuol—yr initiative—ynglŷn â hyn i'w adael yn llaw Duw.

"Gwelir gweithrediad yr egwyddor marw i fyw" yn hanes y saint oll, ac yr wyf yn dra sicr mai nid mater o fwynhad deallol neu ddychmygol oedd fy niddordeb blaenorol ynddynt; ond er fy mod yn gwybod mai "cyfyng yw y porth," yr oeddwn heb lawn sylweddoli mai "cul yw y ffordd" hefyd. Diau ei bod yn wir fy mod am fod yn rhywun " wedi mynd i mewn drwy y porth, heb weld bod y ffordd yn arwain i gwbl ddiddymaint myfiaeth ac felly i ehangder y gwir fywyd. Yr oeddwn hefyd ar ôl darllen Yr Ornest Ysbrydol, Perffeithrwydd Cristnogol, etc., am gadw hunan—ddisgyblaeth yn fy nwylo fy hunan, am "weithio allan fy iechydwriaeth fy hunan" heb gofio ei bod i fod yn fynegiad o waith Duw ynof: Canys Duw sydd yn gweithio ynoch."

Er bod y Curé a Huvelin wedi cyrraedd dyfnderau o hunan-ddilead ac uchterau o wasanaeth ysbrydol a dueddai i ddigalonni dyn, yr oeddynt o leiaf yn dangos mai ffordd y groes yw ffordd y goron o hyd. Gwnâi hanes y ddau i mi gywilyddio oblegid fy mharodrwydd i gwyno a throi'n llwfr yn wyneb pob dioddefaint bach. Dywaid ei fywgraffydd am y Curé "fod ei enaid mewn undeb agosach â Duw nag â'i gorff ei hun." Am y rheswm hwn bu fyw y deugain mlynedd olaf o'i oes ar y nesaf i ddim o fwyd, a chwsg, a gorffwys, er mwyn gwasanaethu y miloedd a dyrrai ato am tua deunaw awr bob dydd. Yr oedd Huvelin, yntau, yn gorfod gorwedd mewn ystafell dywyll oherwydd dioddef gan gout yn ei lygaid a'i ymennydd, ond yn y fan honno—yng ngeiriau Von Hügel—"yn gwasanaethu eneidiau ag awdurdod goruchel cariad hunan—anghofus, a dwyn goleuni a phurdeb a thangnefedd i dorfeydd dirif o eneidiau trwblus a thrist a phechadurus," ac yn wahanol i Newman—yr hwn a dueddai i dristáu y sawl a ddeuai ato—yn pelydru llawenydd ac iechydwriaeth o'i gylch.

Yr oedd dirgelwch eu cryfder yn eu ffydd sicr yn Nuw, a'u galluogai i orfoleddu mewn dioddefaint. "Y mae Duw am eich santeiddio drwy amynedd," meddai'r Curé wrth glerigwr a ddaethai ato am wellhad; " rhaid inni weld pethau yn Nuw, ac ewyllysio yr hyn a ewyllysia Ef." "Ewch allan ohonoch eich hunan," meddai Huvelin wrth y Dduges Bedford, a aethai i geisio'i gyfarwyddyd, " ac yn ôl i anfeidroldeb Duw."

Y mae bywydau o'r math yma yn ymddangos yn eithafol nid yn unig i'r rhai a gais gyfyngu gwaith i bedair awr y dydd, ond hefyd i'r crefyddwr anianol na wêl onid ochr marw i hunan a dim o ochr byw i Dduw: "Eich bywyd sydd yn guddiedig gyda Christ yn Nuw." 'Rwy'n cofio cwrdd ag ysgolfeistr adeg y diwygiad a godai ei ddwylo mewn ofn a dychryn yn wyneb gofynion Imitatio Christi arno: un bach yng Nghrist oedd ef eto, heb archwaeth at ddim tu hwnt i fwyd llwy.

Cysyllta Huvelin bwys mawr â'r teip o gymeriad a gais Duw ffurfio ynom, a'n bod i'n rhoi ein hunain yn gwbl yn Ei ddwylo Ef. Ni olyga hyn nad ydym ni'n gwneud dim, gan fod hyn yn ffurf uchel ar weithgarwch enaid. Cynghora Von Hügel i ganiatáu i eraill beri dioddefaint iddo, ond na ddylai ef ei hun beri dioddefaint i neb; ei fod, serch hynny, i osgoi achosion cythrudd (irritation) megis darllen cyfnodolion crefyddol a mynychu pwyllgorau a chynadleddau, gan na fyddai hynny'n dygymod â'r teip o gymeriad a fynnai Duw ffurfio ynddo ef. Credaf fod doethineb uchel yn hyn. *** Wrth edrych yn ôl ar "droeon yr yrfa "—cyn cyrraedd bryniau Caersalem—llenwir fi â theimladau cymysg o ddiolchgarwch ac annheilyngdod. Cyfyd y teimlad olaf yn fwyaf arbennig o'm perthynas â'r weinidogaeth: nid wyf yn cofio cael y teimlad o gwbl mewn cadair athroniaeth. Gan fod fy nghyfeillion anianol yn cyfrif mai "dod i lawr" a wneuthum drwy adael cadair athroniaeth mewn prifysgol am y weinidogaeth, y mae arnaf flys gosod ar gof a chadw yn y fan hon y peth tebycafi ddatguddiad gwrthrychol a gefais erioed—i'm dysgu y gall "dod i lawr" yn fydol olygu "mynd i fyny " yn ysbrydol. Pan oeddwn yn cynnal cenhadaeth ym Mangor yn 1918, euthum i gael golwg ar y colegdy newydd, a gwnaeth ei braffter a'i urddas ysblennydd y fath argraff arnaf fel y dywedais rhyngof a mi fy hun, "Wel, wel, yma y gallaswn innau fod ac nid yn weinidog mewn capel bach yng Nghaerfyrddin," h.y., yn hollol ddifeddwl aeth yr adeilad gwych yn arwyddlun o ogoniant y bywyd academig, a'r capel bach yn symbol o fywyd crefydd. Troais i ffwrdd yn siomedig, a gweled mynyddoedd Eryri yn codi draw, ac yna meddai rhywun wrthyf mor glir â phe byddai'n dweud geiriau, eithr heb un llais, "Y pinaclau acw, ac nid capel bach y Priordy, yw'r arwyddluniau gorau o'r gwirioneddau yr wyt ti wedi dy alw i'w pregethu, y sydd â'u gogoniant gymaint yn fwy nag unrhyw ogoniant academig ag yw'r mynyddoedd acw na'r adeilad hwn, er gwyched ef." Diflannodd y siom, a syrthiodd y gwahanol werthoedd i'w lle iawn yn fy ymwybod; euthum innau i ffwrdd yn fwy na bodlon, yn wir, yn ddiolchgar am fy mreintiau mawr.

Diau fod gogoniant y bywyd academig wedi fy meddiannu unwaith yn fwy llwyr nag a feddyliwn, a bod y gwerthfawrogiad hwnnw ohono wedi codi i fyny i'm hymwybod am eiliad dan ddylanwad yr olwg ar wychter y colegdy, a cheisio adfeddiannu'r sedd a gollasai. Wrth gwrs, yr oedd y gwirionedd o ragoriaeth anhraethol Crist ar "y pethau oedd yn elw i mi" ymhlyg yn fy nghydsyniad â datganiad Paul, "Iesu yw yr Arglwydd," yng nghyfarfodydd Drummond, ac eilwaith yn ysgoldy Heol Awst; ond dyweder a fynner, bu y fath argraff ag a wnaed arnaf drwy gyfrwng dameg oedd â grym awdurdod gwrthrychol y tu cefn iddi, yn foddion i wasgu'r gwirionedd yn ddyfnach i'm hymwybod, a'i wneud yn rhan ohono, na'm hymgyflwyniad blaenorol, er, yn ddiau, na buasai mor effeithiol heb hwnnw.

Fel y cafodd yr Iesu Ei eni mewn preseb, ac ymwrthod â mawredd bydol er Ei demtio gan ddiafol, ymddengys bod absenoldeb rhwysg allanol yn angenrheidiol i brofi gwirioneddolrwydd teyrngarwch Ei ddilynwyr iddo; ac y mae'n drist sylwi fel y mae diafol o hyd yn llwyddo i ddwyn gwahanol fathau o wagogoniant i mewn i'r Eglwys, a'u dal o flaen llygaid anianol fel y pethau rhagorol i ymgyrraedd atynt. Ac y mae hyn yn wir nid yn unig y tu mewn i'r Eglwys Babaidd ac Eglwys Loegr, ond mewn Anghydffurfiaeth; oblegid, meddwn, os na allwn geisio ysblander cardinal neu esgob, gallwn fynd i mewn am enwogrwydd pregethwrol a'n galw yn dywysogion y pulpud, ac am ogoniant swydd a theitl academig a'n cyfarch yn y marchnadoedd a'n galw gan ddynion "Rabbi, Rabbi." Fe weddai inni gofio mai categori hollol baganaidd yw "anrhydedd " y sonnir cymaint amdano yn ein cyhoeddiadau crefyddol. Nid yn y pethau, wrth gwrs, mae'r drwg, ond ynom ni sydd yn eu gwneud yn eilunod. "Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, a heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth yr unig Dduw ?"

Ped edrychem ar bethau o safbwynt teyrnas Dduw fe welem fod gwasanaethu y rhai a gaiff etifeddu iechydwriaeth " y rhagorfraint fwyaf goruchel. "It is a privilege," meddai Dr. Pierson wrthyf un tro, to meet those with whom we shall be spending the eternal ages." Y mae eu gwasanaethu, yn sicr, yn uwch braint fyth, er mai ychydig o'i bobl, gallem feddwl, a ddisgwyliai Samuel Rutherford gwrdd ar ddeheulaw'r Tad:

Oh! if one soul from Anworth
Meet me at God's right hand,
Then Heaven will be two Heavens
In Emmanuel's land.

Y gwir yw nad yw " yr oes ddrwg bresennol " yn prisio gwerthoedd ysbrydol pur, a bod ymadawiad oddi wrth Dduw byw a'i ogoniant" cwbl arall," a gwrthodaf i fel un dderbyn barn y sawl a berthyn iddi. Nid oes hawl gan Gristion i fod yn siomedig ar fyd na bywyd sydd wedi ei ddwyn, ar waethaf pob diffyg a rhwystr, i feddiant o wir ystyr a gwirionedd bodolaeth. Y mae y neb a gwyna ar ei safle am na chafodd yr anrhydedd hwn neu arall yn dangos ei fod yn perthyn i'r oes hon a'i delfrydau o hunan—gais a hunan—ogoniant. Y praw o lwyddiant gwir yn yr oes bresennol yw ein bod ar bwys ei chyfleusterau ac ar waethaf ei rhwystrau wedi dod i berthynas iawn â gofynion yr oes a ddaw, i'r hon y dengys Crist y ffordd. Y mae llinellau Pantycelyn,

 
Boed fy mywyd oll yn ddiolch,
Dim ond diolch yw fy lle,

yn mynegi fy nheimlad innau, sef diolch am ddawn Duw yn y bywyd naturiol ynddo ei hun ac fel cyfle i ddod o hyd i'w ddawn anhraethol mewn bywyd tragwyddol; am y breintiau a'r cyfleusterau a ddaeth i'm rhan, fel ffynhonnau dyfroedd yn yr anialwch, i wneuthur fy mhererindod yn fwy diddorol na'm haeddiant; am hyd yn oed y galluoedd a ymddangosai yn elyniaethus ond a fu yn foddion i'm taflu yn ôl ar Dduw; ac yn bennaf oll, am Ei arweiniad anweledig Ef, nas gwerthfawrogwn ar y pryd, drwy argyfyngau a threialon i'm dwyn yn llwyddiannus i olwg pen y daith heb golli'r ffordd. Yr wyf wedi cael fy rhan o'm "curo gan y gwyntoedd" a'm "maeddu gan y don" a'm " dryllio yn erbyn creigiau," heb allu dweud, "blinais ar y ddaear hon" am fy mod mewn cyswllt ag amcan sy'n gwneud y bydoedd yn un a bywyd yn werth ei fyw hyd yn oed ymysg ffaeleddau anianol henaint.

Dywedais mewn pennod flaenorol (Pennod IV) nad oedd yn flin gennyf na ddaeth y brwdfrydedd barddonol yn ôl. Rhag i neb gamddeall a thybio fy mod yn dibrisio art, hoffwn esbonio mai "dod yn ôl " yn ei grym llywodraethol a olygwn, a mynd rhyngof â'r Mwy a ddaeth i'm rhan. Y mae y gwmnïaeth â Natur a'r ymhyfrydiad yn ei phrydferthwch, a'm mwynhad yng ngweithiau y beirdd sydd yn gallu eu mynegi mewn geiriau wedi cyfoethogi fy mywyd yn anhraethol ar hyd y blynyddoedd, ac yn parhau i wneud. Yn yr un modd y mae athroniaeth a gweithiau athronyddion sy'n ymdrin â bywyd yn ei gyfoeth a'i gwmpas a'i amcan uchaf—nid â haniaethau diwaed—yn parhau'n diddorol o hyd ar waethaf gwywdra arferol hen dyddiau. Eithr uwchlaw pob gwybod y sydd ag elfen o ddamcanu yn ei amharu, y mae adnabod Duw y sydd heb elfen o'r fath, ond a olyga ein bod ni nid yn unig yn gydnaws, ond hefyd yn gydrywiol ag Ef. Dyma ragorfraint fwyaf goruchel bywyd yn y byd hwn a phob byd—rhagorfraint hefyd sydd yn bosiblrwydd i bob un ac yn eiddo i bob un yng Nghrist, yr hyn a braw fod y bydysawd yn gyfiawn, am fod y gorau ynddo yn agored i bawb, neu ynteu yn dibynnu ar amod y gall pob un gydymffurfio â hi.

Yr wyf yn edrych ers blynyddoedd bellach ar fywyd ar y ddaear fel dechrau bywyd yn unig, a'i werth a'i lwyddiant i'w benderfynu nid o'r tu mewn iddo ei hunan, ond yn ei berthynas â'r bywyd cyfan, ac i'r graddau y mae yn ffitio i mewn i hwnnw, ac yn teimlo'n sicr mai nid y "rhai sydd lwyddiannus yn y byd" sydd o angenrheidrwydd yn llwyddiannus yn y bydysawd.

Mi feddyliais cawsai f'Arglwydd
Ei eni mewn brenhinol blas
Nes im weld Ei wir ogoniant
Ei wirionedd Ef a'i ras:
Yna gwelais yn y preseb gefndir gwell.

Tybiais, ac Efe yn gwybod '
Iddo ddod i lawr o'r nef,
Y gorchmynnai i'w ddisgyblion
Blygu a'i addoli Ef,
Ond fe'i cefais ar Ei liniau'n golchi eu traed.


Mi feddyliais cawswn f'Arglwydd
Yng nghwmpeini mawrion byd ;
Ymhlith mwrddwyr, ymhlith lladron,
Gwelais gynta'i wyneb pryd—
Ar y croesbren, nid yn llys brenhinoedd byd.

Nodiadau

golygu
  1. Yn un o'i lythyrau yn ei gyfrol goffa, fe ddywaid Caird, "The more life loses itself—in one sense—in the universal the more it becomes individualised." Tud. 187, gwêl hefyd tud. 197.