Fy Mhererindod Ysbrydol (testun cyfansawdd)

Fy Mhererindod Ysbrydol (testun cyfansawdd)

gan Evan Keri Evans

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Fy Mhererindod Ysbrydol
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Evan Keri Evans
ar Wicipedia

FY MHERERINDOD
YSBRYDOL



Gan



Y Parch. E. KERI EVANS, M.A.




LERPWL;

GWASG Y BRYTHON

HUGH EVANS A'I FEIBION. CYF.

RHAGAIR

NID yn aml y bydd hynafgwr a fyddo'n dipyn o lenor heb gais oddi wrth rywrai o genhedlaeth ddiweddarach am benodau o'i atgofion. Ni ddihengais innau: crefai un cyfaill hoff am wybod hanes beirdd dyffryn Teifi pan oeddwn yn llanc, tra teimlai un arall, gŵr gradd, fwy o ddiddordeb yn fy ffrindiau ac athrawon coleg. Ni pheidiais â rhoddi ystyriaeth i'r ceisiadau hyn, ond ni theimlwn mwyach ddigon o ddiddordeb ynddynt, ac ni phrisiwn eu gwerth yn ddigon uchel, i eistedd i lawr i ysgrifennu fy atgofion amdanynt. Eithr cododd i fyny i'm sylw, fel y Wyddfa uwchlaw'r bryniau, fy mhrofiad crefyddol mewn cyfnod diweddarach fel peth y gallai disgrifiad ohono fod o fudd i genhedlaeth o bregethwyr heb brofiad pendant, ond a dreuliant eu hyni i "ddyrnu gwellt" hen athrawiaethau neu haniaethau newydd difywyd. Gwyddwn i rywbeth o leiaf, am brofiad diriaethol o'r bywyd ysbrydol, a'm bwriad cyntaf oedd rhoddi fy hanes fel y'i ceir o bennod vi. ymlaen. Eithr wrth aros uwch ei ben a cheisio dod o hyd i'w ddechrau, gwelais na allwn ei wahanu oddi wrth fy mywyd blaenorol. Y pryd hwn y gwawriodd arnaf y gellid disgrifio cyfnodau fy mywyd fel ffurfiau ar ymchwil am y Prydferth, y Gwir, a'r Sanctaidd. Yn wir, er i mi athronyddu llawer ar ystyr bywyd, nid oeddwn wedi taflu golwg ar fy mywyd fy hun yn ei gyfanrwydd a cheisio'i gyfundrefnu. Fel hyn aeth y chwe phennod a fwriadwn yn ddeuddeg: gallasent fynd yn llawer mwy ped ymhelaethaswn yma a thraw. Eto, er tyfu o'r penodau dan fy nwylo, ni ddaeth i'm meddwl eu cyhoeddi yn llyfr hyd ar ôl eu hymddangosiad yn Y Dysgedydd, a derbyn ohonof dystiolaethau amrywiol i'r budd a ddaeth o'u darllen. Wedi hynny y mae llawer wedi ymbil arnaf eu cyhoeddi yn llyfr, a rhai y mae gennyf barch i'w barn yn dweud ei bod yn ddyletswydd arnaf. Yr wyf hefyd wedi derbyn awgrymiadau gwerthfawr gyda golwg ar ychwanegu at y cynnwys, a'i wneud yn llyfr sylweddol. Ond buasai hynny yn ei chwyddo'n ormodol, ac yn fy nghario allan o'r amcan ymarferol syml sydd gennyf fi mewn golwg. Ni allaf ond ychwanegu tri neu bedwar nodiad y gellir eu darllen yn y fan hon neu ynteu ar y diwedd.

Nid oedd gennyf un amcan llenyddol wrth ysgrifennu. Yr hyn a geisiwn oedd bod yn gywir, ac osgoi'r demtasiwn i orliwio. Credaf fy mod wedi llwyddo yn hyn. Diau na all iaith byth wneud tegwch â phrofiadau ysbrydol-nac unrhyw brofiad yn wir ond gall awgrymu teimladrwydd ansylweddol, a phan wna hynny, nid yw yn gywir.

Go brin y mae angen dweud na cheisiais ond dilyn prif linellau y patrwm o fywyd a wewyd yn fy hanes i. Y mae symudiadau y mil myrdd teimladau, siomedigaethau, amgylchiadau, y gweithiai ewyllys a delfryd ynddynt, yn bethau y mae'n rhaid eu gadael i ddychymyg a phrofiad y darllenydd.

Y mae wedi bod yn ffasiwn ymhlith diwinyddion sydd â'u tuedd i wneud gwirionedd a'u cyfundrefn hwy yn un, i gondemnio'r syniad o weithrediad Ysbryd Duw ar y system nerfol. Diwinyddion, meddaf, yn fwy na meddylegwyr, y rhai sydd fel rheol yn fwy gwylaidd yn eu damcaniaethau ynghylch perthynas ysbryd a chorff. Rhaid i Ysbryd Duw, fe ymddengys, gyfyngu ei weithrediad i diriogaeth syniadau haniaethol! Y mae eu safle yn sawru yn gryf o'r golygiad gnosticaidd am berthynas Duw â mater, a natur uwchraddol y deall. Ceisiais i ddisgrifio fy mhrofiad yn hollol syml heb dreio damcanu yn ei gylch. Yr hyn a wn yw mai symud yn nes i mewn at graidd rialiti a wneuthum wrth basio o fyd fy syniadau haniaethol i diriogaeth profiad diriaethol. Ni wn beth yw adweithiad y meddwl diwinyddol i'r esboniad gwyddonol diweddar ar natur mater.

Ar ôl peth petruster y cynhwysir pennod xi. yn y llyfr. Mor ddwfn ac ystyfnig yw ein rhesymoliaeth gynhenid fel y mae fy adweithiad cyntaf i ddisgrifiadau o'r fath yn un o amheuaeth. Dim ond fy ngwybodaeth uniongyrchol o'r ffeithiau ynghŷd â'r ffaith bellach i mi ysgrifennu'r hanes ymhen diwrnod neu ddau a hawlia iddo le ymysg profiadau'r daith. Gall ymddangos i rywai fod yna ddisgyniad amlwg o fyd iechydwriaeth enaid i iseldir iechyd corfforol. I'm tyb i, esgyn a wnawn pan ddygir y corff yn fwy dan lywodraeth yr ysbryd-y mae yr olaf yn ehangu ei lywodraeth. Fe gofiwn hefyd fod y cyfrinwyr yn cyfrif yr ystad o rodio ar y bannau (illuminative stage) yn llai perffaith na'r ystad o undod â rialiti diriaethol, ac yn iswasanaethgar iddi.

Rhoddir y darlun i gwrdd â dymuniad cyfeillion.

E. KERI EVANS.

FY MHERERINDOD
YSBRYDOL


I

GOSODIR y teitl "Fy Mhererindod Ysbrydol" uwchben yr ysgrifau hyn am ei fod erbyn hyn yn weddol gyfarwydd i'r darllenydd. Ond hoffwn wneuthur dau sylw mewn perthynas â'i ddefnyddiad gennyf cyn myned ymhellach. (1) Yr wyf am iddo gau allan y dyb mai sgrifennu atgofion a wnaf. Y mae gennyf lawer o atgofion cysylltiedig ag amserau a lleoedd, yn ogystal ag â phersonau, y sydd yn ddiddorol i mi a rhai o'm cyfeillion; ond yr amcan yn yr ysgrifau hyn yw rhoddi hanes profiadau a all fod yn ddiddorol a buddiol i bererinion eraill ar y "ffordd dragwyddol." Ceisiais wneud yr atgofion yn iswasanaethgar i'r amcan hwn. (2) Wrth ddarllen ymlaen, fe wêl y darllenydd fy mod yn defnyddio'r gair "ysbrydol" yn ei ystyr eang, lle y saif am holl diriogaethau'r meddwl-fel y defnyddir ef gan athronyddion megis Hegel neu Eucken; ond hefyd, ac yn fwyaf neilltuol, yn ei ystyr cyfyng, fel yn y Testament Newydd, lle y cyferbynnir ef ag "eneidiol" (anianol), fel yn 1 Cor. ii, 14, 15.

Y mae y Dr. Scott Lidgett, yn yr hanes a rydd o'i "Bererindod Ysbrydol" ef yn y Christian World (Hydref-Tachwedd, 1935), yn alluog i ddweud ei fod yn argyhoeddedig iddo weithredu ym mhob argyfwng yn ei fywyd dan arweiniad dwyfol ("I have acted in each crisis under what I am convinced has been Divine Guidance "). Y mae hyn yn ddatganiad hynod i'w wneud gan neb pwy bynnag. Ychydig, yn sicr, yw nifer y rhai a all ei wneud, ac nid wyf i yn y nifer hynny. Y mwyaf a all y mwyafrif o saint ei ddweud—mor bell ag y gwn i eu hanes y tu mewn a'r tu allan i'r Beibl, yw, fod yr Arweinydd Dwyfol wedi eu dwyn yn ôl "o'u holl grwydriadau fföl" i lwybr Ei fwriadau Ef. Dyna fy mhrofiad innau. Yn wir, ni allaf ddweud fy mod wedi dewis o gwbl gyda golwg ar brif symudiadau fy mywyd, ond wedi fy nghario iddynt fel llong o flaen y gwynt. Os iawn galw hynny yn "arweiniaid dwyfol," nid oes gennyf wrthwynebiad; ond nid oedd dewisiad rhwng dau gwrs penodol. Am y rheswm hwn, byddai "Mordaith Pererin"—pererin â'i long yn cael ei chario yn awr ar un llifeiriant ac yna ar un arall, nes dod i mewn i'r rhedlif iawn, yn ffigur mwy cymwys. Bûm yn morio am flynyddoedd, er enghraifft, ar lif barddoniaeth fel pe na bai dim arall yn bod yn amcan bywyd, ac yna ar lif athroniaeth, gyda llawn cymaint o hwyl a diddordeb, nes dod i mewn i redlif canol hanes dyn yng nghrefydd yr Arglwydd Iesu Grist. Byddai athronydd, efallai, yn dweud fy mod yn y cyfnod cyntaf yn mynd ar ôl y prydferth, yn yr ail yn ceisio'r gwir, ac yn olaf y da a'r santaidd. Y mae'n amlwg, fodd bynnag, fod y ddau ffigur yn annigonol, gan y gall y tri hyn gyd—hanfodi yn yr un ymwybyddiaeth. Eto y mae'r gair "llifeiriant" yn un priodol i osod allan eu gallu llywodraethol yn ystod yr amser y maent yn brif ddiddordeb yr enaid, ac yn ei feddiannu'n gyfangwbl ymron.

Y tu ôl i'r anturiaethau hyn i geisio dod o hyd i'r bywyd llawnach, gorwedd cyfnod bore oes dan orchudd o hyd, a chan mai ynddo ef y mae eu dechreuadau, hawlia sylw wrth basio yn y bennod gyntaf hon. Ardal wledig, dawel, oedd ardal y Drewen yn yr hen amser, ac nid yw'n wahanol iawn heddiw, ond bod y tai to gwellt, fel y crefftwyr gwlad, wedi mynd, a'r bus yn ei dwyn i fwy o gyswllt â'r byd mawr. Y mae'r hen brydferthwch mewn bryn a dyffryn a dôl yn aros heb ei ddifwyno gan fasnach a chelfyddyd. Y mae'r siop ac efail y gof yno o hyd. ond nid yw y naill yn ganolfan masnach yr ardal fel cynt, na'r llall yn gyrchfan ei gwleidyddwyr. Hyd yn oed y pryd hwnnw nid oedd yr ardalwyr heb wybod llawer am hanes y byd drwy'r Faner fach a'r Faner fawr, a marced Castellnewydd, a sôn dim am bresenoldeb y gwŷr yng ngweithfeydd Mynwy a Morgannwg. Yr oedd y fro yn ferw adeg etholiad 1868, a chofiaf yn dda am Mr. Davies (" Squire ") Cilfallen, yn dod i lawr i Gwmcoy bob bore i gyfarfod y llythyrgludydd adeg y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani, a darllen yr hanes yn yr efail, gan ddatgan ei syndod mai'r olaf

oedd yn ennill y dydd ar waethaf ei broffwydoliaeth ef. Os na ellir dweud bod dim eithriadol yn ein cylchfyd agos i symbylu'r meddwl ieuanc i gyfeiriad art a llên a chrefydd, nid oedd yn gwbl ddifywyd yn un o'r cyfeiriadau hyn. Heblaw a ddysgem yng nghôr y Drewen, a dosbarth y solffa dan Eos Gwenffrwd, yr oedd Tomi Morgan a'i gôr yn perfformio gweithiau'r meistri yng Nghastellnewydd yn ymyl, a hyd yn oed yn mentro cystadlu—a chystadlu'n llwyddiannus— â phrif gorau Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin. Bu rhai ohonom, ar ôl hyn, yn canu alto yn ei gôr.

Daeth bendith addysgol fawr i ni'r plant gyda'r Ysgol Frytanaidd (British School), a dyfodiad Mr. John Jones yn ysgolfeistr iddi. Er na "chodwyd" mohono'n ysgolfeistr, fe'i ganwyd yn un. Yr oedd ganddo ddawn neilltuol i ennill serch plant, i gyffroi eu diddordeb, a chyfrannu addysg iddynt, a gwyddai'n dda am berthynas y gwahanol amodau addysg hyn a'i gilydd. Nia oes gennyf gof am unrhyw boen na chas ynglŷn â'r gwersi, gan mor ddiddorol a swynol y gwneid hwy ganddo. Unai â ni yn aml yn ein chwaraeon. Er nad oedd gennym bêl droed, yr oedd gennym ddigonedd o fryndir a doldir, gelltydd ac afonydd, at ein gwasanaeth. Bob amser, pan gyfarfyddai'r" cŵn cadno" gerllaw, caem fore o wyliau, a'r unig atgof o siom chwerw sy'n aros gennyf o'r amser hwnnw yw y siom o weld y cŵn a'r cotiau cochion yn ein gadael ar ôl ar fanc Penalltgeri, a hwythau'n diflannu dros y gorwel i gyfeiriad y môr.

Heblaw yr ysgol ddydd, yr oedd ganddo ysgol nos rai gaeafau i bawb a ddelai iddi. Gan ei fod yn llenor a bardd da, byddai clywed rhai o'i gynhyrchion yn atyniad ychwanegol i'r ysgol hon. Heblaw hyn trefnodd gyfarfodydd llenyddol—cerddorol bob gaeaf, a oedd yn newyddbeth yn yr ardal, ac yn boblogaidd iawn. Deuai " Hughes Llechryd" a'i deulu cerddorol fel rheol i gymryd rhan ynddynt. Tua 1868, 'rwy'n cofio iddo ddysgu nifer o drioedd Cymraeg imi i'w hadrodd yn un o'r cyrddau, ac ychwanegu fel diweddglo un o'i waith ei hun—yr unig un sy'n aros ar fy nghof. "Tri pheth sy'n dda gan fy nghalon: fod digon o fara a chaws gartref, fod British School yn y Drewen, a bod E. M. Richards wedi mynd i mewn i'r Parliament." Yr oedd yr olaf yn cwrdd ag archwaeth y cadeirydd, "Squire" Cilfallen, i'r dim, gan ei fod yn Rhyddfrydwr brwd.

Rhwng popeth, daeth ei ddyfodiad â thon newydd o fywyd i'r ardal, a bu ei ddylanwad ym myd diwylliant cyffredinol yn llawer mwy nag eiddo Selby Jones, y gweinidog, yn nhiriogaeth crefydd. Yr oedd i'r olaf glod ac edmygedd ymhlith y bobl fel pregethwr huawdl a chwmnïwr doniol.

Nid oedd dim eithriadol yn nodweddu crefydd yr ardal. Yr oedd y rhan fwyaf—ond nid pawb o lawer —yn aelodau crefyddol, yn glynu wrth yr hen athrawiaethau ac arferion y tadau, ac yn ceisio byw i fyny â gofynion moesoldeb cyffredin—dim mwy. O gymharu'r Drewen â'r Priordy (Caerfyrddin), y mae'n sicr gennyf fod effeithiau diwygiad 1859—60 wedi mynd heibio'n gyflymach na rhai diwygiad 1904—5. Nid oedd dim ohonynt yn aros erbyn 1870. i lygad bachgennyn— dim ond y sôn yn awr ac yn y man amdanynt i'r glust. Cofiaf gwyno wrth y Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, nad esgorodd y diwygiad ar unrhyw enghreifftiau o santeiddrwydd uchel ac amlwg. Ei ateb oedd fod y rhan fwyaf o flaenoriaid y Methodistiaid yn Sir Aberteifi wedi eu dwyn at Grist ganddo. Diau fod hynny'n wir, ac yn wir, efallai, hefyd am rai o ddiaconiaid y Drewen, er na allaf feddwl am un ohonynt yn gwerthu ei geffyl —fel Dafydd Jones, Poplar—a rhoddi'r arian, "bob dime goch," at achos Duw.

Fodd bynnag, cefais fy ngeni yn ail flwyddyn y diwygiad, a diau fod argraffiadau isymwybodol wedi eu gwneud arnaf ganddo, yn neilltuol gan i'm mam brofi yn helaeth o'i fendithion. Ynddi ac arni hi arhosodd yr effeithiau hyd y diwedd, a dug ei phlant i fyny "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd," ac âi hi a'm chwaer a minnau (yr unig rai o'r teulu gartref) i'r cwrdd gweddi wythnosol—yn gystal â chyrddau'r Sul—yn ddiffael. Aeth o'r byd mewn math o ecstasi, yn union fel pe bai'r byd ysbrydol yn brysio i mewn i'w chorff i hawlio ei eiddo ei hunan. Yr oedd fy nhad yn gweithio yng ngweithfeydd dur Mynwy, ac yn fwy deallol ei ogwydd a'i ddiddordeb y pryd hwnnw, er iddo, gyda threigl y blynyddoedd, ddatblygu'n fwy defosiynol na'r cyffredin.

Nid yw'n bosibl olrhain effeithiau gwahanol weithredyddion ei gylchfyd bore ar y meddwl ieuanc; ond cyfnod o hyfrydwch pur, amgylchynedig gan gariad a gofal diorffwys, yw cyfnod bore oes yn fy nghof i, heb chwerwder na chas yn ei ddifwyno. Efallai, bid siŵr, fod yna rai profiadau anhyfryd wedi eu gwthio i lawr i'r anymwybod—islaw traidd y cof—ac mai'r

rheiny yw gwir achos llawer gwendid ac amherffeithrwydd sydd yn fy mlino o hyd.

II

DAW profiad hynod a chwbl arbennig i'r neb a gais atgynhyrchu cyfnod yn ei fywyd sydd wedi hen basio: er i lawer o'r ffeithiau fod yn ei gof, y mae'r hen awyddfryd a'i deimladau wedi mynd, a medr edrych arno ei hun fel ar rywun arall, "myfi ac nid myfi." Ni threiais o'r blaen atgyfodi cyfnod o'm hanes mewnol o lwch y gorffennol, ond fel hyn y teimlaf yn awr mewn perthynas â'r chwe blynedd o frwdfrydedd barddol a'm meddiannodd rhwng pedair ar ddeg ac ugain oed.

Nid yw yn hynod yn y byd bod hogyn deuddeg oed yn ceisio efelychu'r emynau sydd wedi mynd yn rhan o'i ymwybod y mae ei duedd ddynwaredol yn arwain yn naturiol i hynny; ond y mae ei fod, yn ddiweddarach, yn cael ei feddiannu gan dwymyn awenyddol sy'n bychanu pob amcan ac ymgais arall yn ei olwg, yn sicr yn eithriadol. O leiaf, ymddangosai i mi felly mewn unrhyw hogyn ysgol y dyddiau hyn. Rhaid inni ragdybied rhyw gymaint o ddawn gynhenid i'w wneud yn bosibl, yn gystal â rhyw symbyliadau yn y cylchfyd i ddeffro'r ddawn. Ychydig, yn sicr, a gwan oedd yr olaf yn fy nghylchfyd i. Yn arbennig, nid oes gennyf unrhyw gof am ddechreuadau fy nghariad at gynghanedd. Rwy'n cofio fy hen athro yn yr Ysgol Sul, Deio Clinllwyd, yn adrodd rhai o linellau Goronwy Owen un prynhawn Sul i ni hogiau difeddwl:

Cyfyd fal yd o fol âr
Gnwd tew eginad daear,—
A'r môr a yrr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don;

a theimlo bod rhyw nerth dieithr ynddynt, ond yn sicr heb wybod dim am gynghanedd y pryd hwnnw. Nid yw o bwys ceisio olrhain y dechreuadau. Yn ddiweddarach, daeth help o amryw gyfeiriadau. Yr oedd gan Gwynionydd—a oedd yn giwrad yng Nghenarth—fab o'r enw Tegid yn Ysgol Ramadeg Emlyn, yr hwn a ddôi â gweithiau y prifeirdd yn fenthyg i mi oddi wrth ei dad, ac yn eu plith gramadeg Siôn Rhydderch. Ef fu fy athro cyntaf yng nghywreinion a mathau gwahanol cynghanedd. Athro digon trwsgl: y mae argraff ei englynion trystfawr yn fy nghof fel sŵn rhugliadau troliau trwm, o'u cymharu â symudiad modurol esmwyth cynghanedd ddiweddarach.

Hynotach na dim oedd imi rywsut ddyfod i gyswllt â dau hogyn arall, Howel Lewis[1] ac Ebenezer Jones,[2] yn yr ysgol ramadeg, a oedd hefyd yn barddoni, a ffurfio math o driwyriaeth (triumvirate) barddoli ddewis testunau i ganu arnynt ac eilwaith i fod yn fwrdd beirniadol. Ni pharhaodd y trefniant hwn yn hir, gan eu bod hwy yn rhy brysur gyda'r gwaith o baratoi ar gyfer arholiad Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Gofynnodd Mr. Selby Jones i minnau fynd yn bregethwr, ond ni fynnwn, gan nad oedd gennyf ddiddordeb mewn dim ond barddoni. Hyn hefyd a fynnodd benderfynu beth i'w wneud i ennill bywoliaeth. Gofynnais i'm mam geisio gan fy mrawd Emlyn, fel dyn busnes, sicrhau lle i mi mewn banc, er mwyn i mi gael digon o hamdden i farddoni. Ni ddaeth dim o hyn, ac felly dewisais fynd yn saer, fel eraill o'r teulu. Treuliais dair blynedd ar fy mhrentisiaeth, ond treuliais nid yn unig fy oriau hamdden, ond hefyd lawer o'm horiau gwaith—wrth weithio —i saernïo englynion a phenillion.

Yr oeddwn yn cystadlu'n gyson, a rhywbeth yn y gwŷdd yn barhaus: yn ennill yn aml, a cholli'n amlach, yn neilltuol ar y cyntaf. Gan fy mod yn beiddio cystadlu ar destunau fel Y Ddaear, Goleuni, Anfarwoldeb, Gwirionedd, etc., yr oedd yn ofynnol i mi ddarllen llawer ar seryddiaeth, daeareg, etc., ac erthyglau yn Y Gwyddoniadur a llyfrau eraill a oedd yn llyfrgell fy nhad. Wrth edrych yn ôl, 'rwy'n gweld i'r tair blynedd hyn fod yn rhai o dyfiant a disgyblaeth yn feddyliol a moesol yn fy hanes. Gan fy mod i fod yn y gweithdy am chwech o'r gloch y bore, haf a gaeaf, wedi cerdded dros filltir o ffordd, nid oedd cyfle i ddiogi. Buasent yn flynyddoedd caled i hogyn oni bai fod ei ddiddordeb mewn rhyw destun neu'i gilydd yn ysgafnhau'r baich, yn byrhau'r ffordd i'r dref yn gystal ag oriau gwaith wedi cyrraedd. Fel hyn ieuid disgyblaeth a diddordeb ynddynt, a chedwid y meddwl ieuanc rhag llawer o demtasiynau y meddwl a'r corff segur.

Ond beth am yr ymchwil am y prydferth? Nid oes eisiau dweud mai syniad haniaethol (abstract) yw "y prydferth" fel y sonnir amdano gan ysgrifenwyr athronyddol, ac mai peth prydferth, neu berson prydferth, a gais yr enaid. Dyna fy hanes innau. Ac er bod mwy o symbyliadau i ddatblygu'r ddawn gerddorol yn y teulu a'r ardal, ac i minnau ar y dechrau ymateb iddynt, diau mai'r gynneddf awenyddol oedd gryfaf yn fy natur, a hi a orfu maes o law. Yr oeddwn yn hoff yn ieuanc o eiriau prydferth; yn raddol dysgais garu brawddegau a ffigurau a drychfeddyliau prydferth. Digon amrwd yn ddiau oedd y canfyddiadau a'r syniadau ar y cyntaf, a'r mynegiadau ohonynt yn fwy amherffaith fyth. Yr oedd tuedd i orliwio neu ddwyn y dwyfol a'r nefol i mewn i fwyhau disgleirdeb y lliwiadaeth neu wneud i fyny am ei ddiffyg—megis galw'r enfys yn

Oludog bleth o flodion—y wawrddydd,
Neu erddi angylion.

Y mae'r aruchel (sublime) yn gynwysedig yn y prydferth athronyddol. Nid wyf yn sicr am y beiddgar, ond gan y cymeradwyid ef gan feirniaid y dyddiau hynny fel y molir cynildeb heddiw, yr oedd yn gystal â chymhelliad i feirdd ieuainc i "feiddio" dweud, er enghraifft, am y llew:

Ei ru fel rhaeadr a fydd,
Megis dirmyg ystormydd!

Ac wrth ddisgrifio "ystorom Awst ar y môr,"

Llwybr y llong yw llwybr cymyl yr wybrau.
Gwawdia'r daran ddyn gwan. O'r eigionau
Rhydd fyned wna'i riddfannau—ef i'r lan,
A'i lef wan fydd yn uwch na'r elfennau.

Ond diau fod cymaint o wir ag o feiddgarwch yn y llinell olaf; yr hyn a ddengys ei bod yn bosibl mynd i eithafion gyda "chynildeb." Y mae i'r pwys a roddir iddo heddiw ei le fel protest yn erbyn y duedd i orwneud neu orliwio, ond nid yn erbyn y priodoldeb o ddisgrifio storm yn wahanol i awel. Yr unig egwyddor sicr yw "cydfyned ag Anian."

Nid wyf yn barnu i mi gynhyrchu un cyfanwaith prydferth yn ystod y blynyddoedd hyn, ag eithrio rhyw fan bethau, efallai: unoliaeth traethawd yn fwy nag unoliaeth artistig sy'n nodweddu yr awdlau ar "Y Goleuni" a'r "Ddaear" (yr olaf yn ddeunaw cant o linellau!). Y delfryd y dyddiau hynny oedd dyfod i fyny â'r farn "fod y bardd hwn wedi disgyn fel eryr ar ei ysglyfaeth a sugno ei holl waed ef."

Eto yr oedd ynddynt dameidiau digon prydferth. Cefais gryn foddhad yn ddiweddarach o ddarganfod fy mod wedi taro ar rai o gymariaethau y prifeirdd Saesneg flynyddoedd cyn eu darllen. Ni wyddwn, er enghraifft, fod Shelley yn cymharu "ieir bach yr haf" â "winged flowers" pan ddywedwn eu bod i'w gweld

Ddegau ar chwaraefa'r rhos
Fel adeiniog flodionos;

nac ychwaith fod Tennyson wrth ddisgrifio tanbeid— rwydd blodau eithin wedi canu

The furzy prickle fire the dells,

pan ddisgrifiwn i eithin glannau Teifi a Cheri'n gyffelyb

A thanio moelydd mae eithin melyn;

—yr hyn a ddengys y gall prentis rai prydiau gael yr un llygedyn o ysbrydoliaeth â meistr.


Ond y wobr werthfawrocafa enillais i drwy ymchwil y blynyddoedd hyn oedd dysgu ymgydnabod å Natur yn amrywiaeth dihysbydd ei phrydferthwch : gwobr anhraethol fwy gwerthfawr na chadair a chlod am ei bod yn gyfoethogiad mewnol, ac yn mynd yn rhan o ddyn "nas dygir oddi arno."

Wrth gyfansoddi ar destun fel "Y Goleuni," yr oedd un oedd o ddifri, a'i galon yn y gwaith, yn cadw ei lygad ar y gwrthrych a ddisgrifiai. Cofiaf fy nhad yn cael difyrrwch mawr wrth ddarllen englyn o'r eiddof pan yn hogyn ysgol, i " Wawr" nas gwelswn erioed. Eithr pan ddaeth yr amser i mi fod wrth fy ngwaith am chwech o'r gloch y bore, cefais fantais i ymgydnabod â holl raddau gwawr a chysgod, a chyfoethogi fy nychymyg â'r profiad ohonynt. Gwir fod fy ngwerthfawrogiad ohonynt eto yn rhy arwynebol a chyfyngedig i'r arweddion mwyaf amlwg, ond yr oedd yn wir mor bell ag yr oedd yn mynd. Yr oedd hefyd yn fwy onest ac iach na'r ffasiwn bresennol o droi testunau naturiol yn lledrithiau meddyliol y gellir canu amdanynt heb ofn condemniad safon wrthrychol. Ac yn sicr, yr oedd yn well paratoad-gan eu bod yn waith yr un Awdur-ar gyfer y gyfathrach fwy ysbrydol à Natur a ddaeth i mi yn ddiweddarach, pryd y'm harweiniwyd

Heibio i degwch
At y Tegwch gwir ei hun.


III

Y MAE y chwe blynedd nesaf yn gyfnod pwysig yn hanes fy nhererindod, er bod fy mhrofiad ynddynt yn dra gwahanol i forio mewn llifeiriant. Yr oedd fy llong fechan braidd yn ddidrefn, ac eisiau ei gwneuthur yn ship-shape: yn arbennig yr oedd eisiau esmwythau a chryfhau gweithrediad ei llyw a'i galluogi i redeg cwrs mwy sicr ac union, a llai at drugaredd y gwynt a'r tonnau.

Yn union wedi gorffen fy mhrentisiaeth, euthum i Forgannwg i gyrchu cadair Eisteddfod Treherbert, Nadolig, 1879. Gan fod fy chwaer yn byw yn Fern- dale, arhosais gyda hi, ac yna, yn nhŷ fy mrawd yn Amwythig am rai misoedd. Dyma fy ymweliad cyntaf â Morgannwg, ac yr oedd yn newid awyr mewn mwy nag un ystyr i mi. Er godidoced yr olygfa o Ben Rhys, blinid fi'n fawr yn y cwm gan liw yr afon, a chan nad oedd yr hwyl farddonol wedi peidio eto, cofiaf ganu, pe troid Teifi a Cheri "i'r un lliw â dyfnder nos" ac "oddi rhwng eu glennydd rhos"

I orfod llifo drwy ddyrysni
Glynnau gwelw o fŵg a thân,
Ffoai cerdd o donnau Teifi
Ni wnâi Ceri furmur cân.

Ond nid i farddoni y treuliais fy amser yn Ferndale ac Amwythig, ond i ddarllen yr awduron Saesneg, yn feirdd a nofelwyr, gyda llawer o fudd a chyfoethogiad meddwl.

Wedi dychwelyd adref ym Mai, synnwyd fi gan waith eglwys y Drewen yn pasio penderfyniad, heb unrhyw gais oddi wrthyf, nac ymgynghoriad â mi, i ofyn i mi ddechrau pregethu. Ni wyddwn y pryd hwnnw fod y saint yn pwysleisio bod i arweiniad dwyfol ochr wrthrychol a goddrychol (subjective), h.y., na ddylai neb, er enghraifft, fynd i bregethu oblegid teimlo tuedd i hynny, heb fod yr eglwys hefyd yn agor drws iddo. Y wedd oddrychol oedd wannaf ynofi—yr oedd braidd yn negyddol, gan mai y mwyaf allwn ddweud oedd nad oeddwn yn teimlo ar fy nghalon i barhau yn saer, a bod ynof edmygedd mawr o'r pulpud a chydymdeimlad gwir â chrefydd. Yr oeddwn yn hoff o wrando pregethau, a bûm lawer tro yn mynd gyda Howel Lewis o Ysgol Ramadeg Emlyn, fel gwrandawr i fwynhau'r bregeth, ac fel cyfaill i gynnal ei freichiau yn yr eglwysi cylchynol. Fodd bynnag, gan i'r drws gwrthrychol agor, euthum i mewn drwyddo. Ni wn a ddylai'r ffaith i gystadlu eisteddfodol syrthio ymaith fel hugan oddi amdanaf—heb unrhyw benderfyniad nac ymdrech ar fy rhan—fy nghadarnhau yn y gred i mi wneud yn iawn. Ond felly y bu, gydag un eithriad. Gan fod gennyf bythefnos wedi pasio i Goleg Caerfyrddin cyn ei bod yn amser danfon y cyfansoddiadau i mewn i Eisteddfod Genedlaethol Merthyr, ac arnaf innau eisiau pres, cyfansoddais gywydd ar Haearn," ac ennill hanner y wobr. Nid wyf yn cofio a ddechreuais yn Eden ai peidio, ond gorffennais yn hollol uniongred gyda'r milflwyddiant, pan fydd

Cloddiwr yn trin y cleddy'
I waedgochi'r lon fron fry;
A gloyw ffagl y wayw—ffon
Yn bladur i ladd blodion.


Ymddengys bod fy mhapurau yn arholiad y Coleg yn ddigon da yng ngolwg yr awdurdodau i'w cyfiawnhau i'm cymell i fynd i mewn am y "London Matric," ac addo rhyddid oddi wrth wersi cyffredin y Coleg os gwnawn hynny. Derbyniais y cynnig yn eiddgar, ac ymdeflais i'r gwaith o ddifri. Nid tasg fechan ydoedd i un a fu chwe blynedd yn barddoni wrth ei bleser. Yr oedd rhai testunau i'w meistroli o'r gwael od, megis Ffrangeg, Physics a Fferylliaeth—yr olaf heb help un experiment (fel y cefais allan), a'r testunau eraill oll, ag eithrio Groeg, heb nemor ddim o help athro. Ond llwyddais i basio yn y dosbarth cyntaf. Yna digwyddodd peth tra hynod. Yr oedd hysbyseb am Ysgoloriaeth Dr. Williams ar fur y tu mewn i'r Coleg. Gwelais ef ugeiniau o weithiau wrth fynd i mewn ac allan heb iddo wneuthur un argraff neilltuol arnaf, ond un dydd, wedi dychwelyd o'r Coleg, ar ganol fy nghinio, fflachiodd i'm meddwl y dylwn. gystadlu am yr ysgoloriaeth. Ni wyddwn ddim am bwysigrwydd strong impulse y saint, ond prin y gellais orffen fy nghinio cyn rhedeg i lawr am fanylion yr ysgoloriaeth. Wedi eu cael, gyrrais am y clasuron oedd i'w paratoi heb ymdroi, ynghŷd à llyfr ar Trigonometry a oedd yn destun newydd i mi. Gweithiais arnynt hwy yn bennaf yn ystod y tymor, er nad esgeuluswn wersi'r Coleg. Eisteddais yr arholiad yr hydref dilynol, ac enillais un o dair ysgoloriaeth.[3]

Yr oedd gadael Castellnewydd am y Coleg Presbyteraidd fel gwthio fy nghwch o Geri i Deifi, ond yr oedd gadael y Coleg Presbyteraidd am Brifysgol Glasgow fel mynd o Afon Teifi i mewn i Fae Aberteifi —o ddosbarth o ddeg i ddosbarth o gannoedd, a sôn dim am y dosbarthau eraill a oedd yno. Heblaw hyn, yr oedd yr holl beirianwaith addysgol o draddodi darlithiau a chymryd nodiadau, yn hytrach na pharatoi adran o lawlyfr ac ateb cwestiynau yr athro arni, yn wahanol—yn brofiad newydd a disgyblaeth newydd. Deuai ysbrydoliaeth newydd hefyd o weithio dan wyr cyfarwydd (experts) cydnabyddedig drwy Ewrob, megis Caird, a Jebb, a'r Arglwydd Kelvin (er mai'r darlithwyr oedd yr athrawon gorau yn nhestun yr olaf.) Nid braint fechan, ychwaith, oedd dod i gyffyrddiad â myfyrwyr disglair a ddaeth yn enwog yn ôl llaw. Yr oedd David Smith (awdur The Days of His Flesh) yn gystal ysgolor mewn Groeg a Lladin ag oedd yn y Saesneg. Y mae gennyf anrheg o lyfr (Sartor Resartus) oddi wrtho, ac ar ei ddechrau, yn yr iaith Roeg, "Ducpwyd y llyfr hwn oddi arnafi, David Smith. Y lleidr yw E. K. Evans." Yr oeddwn yn meddwl—yn wir, yn sicr yn fy meddwl —hyd onid euthum i symud y llwch oddi arno'n ddiweddar, mai'r Dr. Griffith Jones a roddodd y llyfr i mi: tric o eiddo peirianwaith y cof, yn ddiau, yn cysylltu'r rhodd nid â'r rhoddwr, ond â'r hwn a'i dug gyntaf i'm sylw. Nid oeddwn yn yr un dosbarthau ag Alfred E. Garvie, ond bûm yn cynrychioli Prifysgol Glasgow gydag ef, yn erbyn y tair prifysgol arall, am Ysgoloriaeth Ferguson, yr hon sydd yn agored i'r pedair prifysgol. Un sydd wedi sgrifennu llyfrau mwy byw nag un o'r ddau yw Ernest F. Scott. Cofiaf gyfarfod ag ef ganol nos yn Crewe, ef yn dod o Rydychen a minnau o Gastellnewydd, i gystadlu am y George A. Clark Fellowship, ac yn byrhau'r ffordd oddi yno i Glasgow drwy adrodd "Locksley Hall" ar yn ail.

Yr oedd Hugh Black yno hefyd, gyda'i lais llafar godidog. Yr oeddwn innau'n dipyn o ganwr y pryd hwnnw yr oeddwn wedi agos anghofio hyn hyd oni ddarllenais yng nghofiant Sylvester Horne yn ddiweddar gyfeiriad canmoliaethus ataf fel y cyfryw yn ei ohebiaeth â'i dad. Disgleiriai Horne mewn llawer peth, ond yn bennaf yn y Debating Society—yr oedd o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na neb a oedd yno fel siaradwr difyfyr rhydd a rhwydd ar bynciau gwleidyddol.

Iswasanaethgar i'r gwaith mawr o bregethu'r Efengyl y bwriedid i'r blynyddoedd hyn fod, ond fel y mae yna duedd gyson i'r moddion fynd yn amcan, felly yr aeth dysg, 'rwy'n ofni, yn brif amcan gyda minnau, neu o leiaf yn un a'm rhwystrai i weld mawredd y prif amcan. Rhaid i mi gyffesu na welswn y mawredd hwnnw yn glir o'r blaen, ond aeth yn llai clir. Eto ni chollais olwg arno, fel y dengys y ffaith i mi wrthod mynd i mewn am gwrs pellach yn Rhydychen. Wedi i mi ennill Ysgoloriaeth Ferguson, gwahoddodd yr Athro Edward Caird fi i'w dŷ i'm hannog i fynd i Rydychen. Atebais fod y blynyddoedd yn pasio, a'm bod am setlo i lawr i waith bywyd, ond yr hoffwn fynd i un o brifysgolion yr Almaen am flwyddyn. Yn garedig iawn, ymgymerodd â dwyn y mater o flaen y Senate a sicrhau i mi y ddwy ysgoloriaeth (Ferguson, a'r Ewing a enillaswn yn flaenorol) i'm cynnal yno, er bod telerau'r olaf yn gofyn i mi aros yn Glasgow i baratoi myfyrwyr ar gyfer gradd yr M.A. mewn athroniaeth. Trefnwyd i mi fynd i Leipsic, yn bennaf am mai yno yr oedd Wundt, ond bûm hefyd yn gwrando darlithiau Luthardt ar Ddiwinyddiaeth, Roscher a Brentano ar Economeg, ac Elster ar Goethe. Ni allaf ddweud i mi dyfu dim yn ysbrydol (mewn un ystyr) yn yr Almaen. Arferwn fynychu yr eglwys fechan y bu Bach yn organydd ynddi fore'r Sul, gyda rhyw ddwsin eraill, ac am chwech o'r gloch wasanaeth Saesneg a gynhelid gan yr Americaniaid a oedd yno. Nid oedd gwasanaeth hwyrol yn yr eglwysi Almaenaidd hyd y gwelais i, ond digon o gyngherddau o bob math.

IV

GAN mai fy amcan yn yr ysgrifau hyn yw disgrifio profiad ysbrydol hyd y gallaf, a bod i'r profiad hwnnw wahanol arweddau sydd yn rhedeg i'w gilydd, y mae'n amlwg nad trefn amser yn hollol fydd cu trefn. Yn y bennod ddiwethaf ar gwrs fy nisgyblaeth feddyliol, yr wyf wedi gorfod dod i mewn i amser y bennod hon, am fod y cwrs hwnnw'n parhau, er nad mwyach yn brif ddiddordeb.

Sylwyd eisoes bod dysgu iaith neu fathemateg a'r cyfryw destunau yn cynhyrchu profiad gwahanol o ran ei ansawdd i unrhyw beth y gellid ei alw yn ysbrydoliaeth; mwy cywir, efallai, fyddai dweud mai felly yr oedd gyda mi, am na feddwn y ddawn sydd yn amod ysbrydoliaeth ynddynt. Bid a fynno am hynny, dug yr amgylchiadau yr oeddwn ynddynt y math o bleser sydd i'w gael yn unig drwy ymroddi i feistroli pwnc drwy nerth ewyllys: yn ôl llaw, fe ddwg y feistrolaeth honno ei hun fath o ysbrydiaeth gyda hi. Y mae'n werth bod heb ddawn amlwg yn aml pan fo hynny'n amod hunan—reolaeth. Ni bu fy mlwyddyn gyntaf mewn Athroniaeth—yr ail yn y cwrs—un dim yn wahanol yn ansawdd ei disgyblaeth i flwyddyn gyntaf y cwrs mewn Groeg a Lladin a Mathemateg, am y rheswm na allodd yr athro Veitch ddeffro cymaint o ddawn athronyddu ag a feddwn i. Heblaw hyn, yr oedd fy niddordeb pennaf yn ystod y tymor hwn yng nghyfarfodydd Henry Drummond. Dyma'r pryd y profais gyntaf ddim tebyg i fywyd newydd yng Nghrist. Ar lefel moesoldeb cyffredin ac uniongrededd rhesymol y buaswn yn flaenorol. Yr oedd eisiau'r profiad hwn—ar yr hwn y caf sylwi eto yn gychwynfan y cyfnod athronyddol a ddilynodd; oblegid 'rwy'n cofio'n dda bod ei newydd—deb rhyfedd yn fy ngorfodi i geisio ei gysylltu â'r gweddill o'm profiad. Beth yw ystyr pethau ?" ("What is the meaning of things?") oedd y cwestiwn mawr. Dechreua athroniaeth, meddai'r hen athronydd, mewn syndod—syndod at fod yn ei holl agweddau, yn arwain at yr ymgais i gyfrif amdanynt a'u cyfundrefnu. Y profiad newydd o Grist a agorodd fy llygaid i weld a rhyfeddu—yn raddol i ryfeddu at bopeth, a gofyn gyda Carlyle, "Is there one thing more miraculous than another?"

Yng nghwrs fy mywyd yr wyf wedi dyfod i gyffyrddiad â chryn nifer o'm brodyr yn y weinidogaeth yn meddu ar reddf athronyddu, sydd yn teimlo'r angen am gysylltu Cristnogaeth â'r cyfan o bethau, ac yn holi am y llyfrau gorau ar y pwnc. Bûm i'n fwy ffodus na hwy am i mi gael help Edward Caird i ateb y prif gwestiwn uchod, a'r cwestiynau llai sydd o'i gylch. Ni allaf yn y fan hon roddi i'r darllenydd syniad digonol am athroniaeth Caird, ond gallaf nodi sut y bu o help i mi, a deffroi ynof ddiddordeb newydd yn y cyfan o fodolaeth.

Diddordeb ydoedd, ar y cyntaf, cofier, yn ystyr bywyd, ac nid mewn athroniaeth fel y cyfryw, ond i'r graddau y credwn ei bod yn taflu golau ar yr ystyr hwnnw. Wrth gwrs, yr oedd pleser hefyd mewn ymarfer dawn newydd yn llwyddiannus. Yn y fan hon, ni ddymunwn adael yr argraff ar feddwl neb bod y porth yn eang na'r ffordd yn llydan. Ar y cyntaf, yr oedd, ys dywaid Plato, fel dod allan o ogof lle bu dyn yn gweld cysgodau pethau'n unig, i oleuni dydd, ac ymgyfaddasu i ofynion byd yr hanfodion. Ac yna, wrth fynd ymlaen, i ymgodymu â systemau Plato ac Aristotle, Kant, a Hegel, golygai lawer o ymdrech galed—rhy galed yn wir i'm cnawd i oni bai am yr ysbrydoliaeth a ddaeth i'm cynorthwyo.

Yr oedd dull Caird yn ei ddarlithiau wedi ei ddewis i helpu'r gwan. Ei safbwynt ef, fel y gwyddys, oedd yr un Hegelaidd, wedi ei newid a'i gymedroli lawer gan athrylith Caird ei hun. Ond arweiniai ni i fyny ato ar hyd llwybr datblygiad athroniaeth o'r oesau cynnar yng Ngroeg. Yr oedd y ffordd, felly, yn un gymharol rwydd i'w theithio gan y gwan a'r anghyfarwydd.

Yn ei lyfr bychan ar Hegel, gesyd Caird ei egwyddor ganol allan fel "marw i fyw "—egwyddor sydd i'w gweld yn weithgar mewn gwybodaeth a moesoldeb yn gystal ag mewn Cristnogaeth. Rhaid i'r gwyddonydd a gais ddod o hyd i wirionedd farw iddo ei hun a bodloni i roddi ei ddamcaniaethau ei hun i fyny pan fo ffeithiau'n gofyn hynny: heb hyn nid â byth i mewn i deml gwirionedd. Y mae moesoldeb, hefyd, yn golygu bod dyn yn gwneud ei nwydau a'i fuddiannau ei hunan yn iswasanaethgar i hawliau cymdeithas. Yr oedd dysg fel hon yn ateg ddeallol bwysig iawn i'r hyn a gawsom gan Drummond ar rannau o ddysgeidiaeth Crist, megis, "Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw, efe a erys yn unig, eithr os bydd efe marw efe a ddwg ffrwyth lawer"; ac yn arbennig ar bresendoldeb y Crist byw yn awr gyda'i eiddo—gwirionedd a ffurfiai ganolbwnc ei anerchiadau inni. Gan i Caird fy nghymell i fynd i mewn am Anrhydedd mewn Athroniaeth, ac i minnau gydsynio, treuliais wyliau'r haf dilynol—ac yr oedd gennyf dros chwe mis o wyliau!—i ddarllen y llyfrau neilltuol a oedd i'w meistroli. Cefais fudd a mwynhad anghyffredin yn y porfeydd breision hyn—rhai a oedd yn eu manylion yn newydd i mi; ond y llyfr a ddaeth â mwyaf o ysbrydoliaeth i mi yn ddiau oedd Prolegomena to Ethics yr Athro T. H. Green. Yr oedd yn anodd iawn ar y cyntaf, ar gyfrif ei gynnwys a'i arddull, ond dug yr ymdrech i'w feistroli, a'r weledigaeth wedi ei feistroli (i fesur, o leiaf) dâl cyfoethog gyda hi. Yr oedd rhywbeth yn debyg i'r profiad a gefais unwaith drwy ddringo'r Wyddfa drwy niwl tew ac yna ddod allan ar ôl ymdrech ddygn i oleuni haul, a gweld Ynys Fôn dros ben y niwl a guddiai Arfon yn gorwedd draw ar fynwes y weilgi.

Yr oedd yr athrawiaeth bod hyd yn oed Natur yn golygu egwyddor uwch-naturiol, nid y tu allan iddi ond yn weithgar ynddi; a bod gwybodaeth a moesoldeb yn golygu datblygiad graddol ynom o ymwybyddiaeth o order dragwyddol; a chan na all y fath order fodoli heb Ymwybyddiaeth Dragwyddol, bod y fath Ymwybyddiaeth yn bod ac yn ei hatgynhyrchu ei hun ynom ni dan amodau ein natur feidrol: yr oedd y fath athrawiaeth, nid yn unig yn cael ei chyflwyno fel damcaniaeth ond hefyd ei gweithio allan gyda gallu rhesymegol anwrthwynebol, yn fy nghodi yn y cwbl ohonof, gorff, meddwl, ac ysbryd, i fyd o gymysg swyn a sylwedd, nas dychmygaswn o'r blaen ei fod yn fy ymyl.

Fel y sylwyd uchod, morwyn i'm bywyd ysbrydol y golygwn i athroniaeth fod ar y cyntaf, ond yn raddol tueddai i'm meddiannu yn gwbl iddi ei hun. Y mae'n amlwg fy mod yn teimlo hynny, gan i mi osod i lawr yn y Beibl a ddefnyddiwn yn Glasgow gofnodiad o ymgysegriad newydd i'r Arglwydd dan y dyddiad Tachwedd 19, 1887. Fod bynnag, bu'r blynyddoedd dilynol hyd 1891 yn flynyddoedd o forio ymlaen dan lawn hwyliau ar lif athroniaeth. Nid yw'r ffigur o lif mewn perthynas ag athroniaeth yn taro'n naturiol ar glustiau pawb, ond felly yr oedd i mi yr adeg hon. Nid iswasanaethgar i fywyd ydoedd mwyach, ond bywyd ei hun teimlwn fy mod yn fy nghael fy hun ynddi. O gymharu'r cyfnod â'r un barddol gynt, yr oedd yr ymsylweddoliad a brofwn yn ddyfnach a chyfoethocach: teimlwn fy mod yn nes at galon a gwirionedd pethau, a bod bywyd mwy yn eiddo i mi.

Ni allaf lai na chyfrif yr hafau hynny (1886-7-8) ymysg hafau mwyaf uchel—blesurus fy mywyd. Er bod gennyf dros chwe mis o wyliau, gwyliau oeddynt i weithio, ac yn fwy o wyliau oblegid hynny. Yr oedd i hyfrydwch Natur hyfrydwch ychwanegol newydd i athronydd ieuanc nid llai o fwynhad haul a sêr, nef a daear, maes a môr, a gâi na phobl oedd yn eu mwynhau eu hunain ar lefelau is, ond mwy. Yr oedd llaw ddeddfol arholiad yn ddiau i fesur ar yr haf cyntaf, ond nid yn hollol, gan fod digon o le i nofio'n ddiwarafun yn Plato, a Spinoza, a Kant, ac eraill. Yr hafau dilynol yr oeddwn at fy rhyddid i ymgydnabod â systemau eraill, i'w beirniadu a chael fy meirniadu'n ddeallol ganddynt. A phan fo myfyriwr o unrhyw allu cynhenid yn ymgolli mewn astudiaeth o gyfundrefnau athronyddol, ni all na bydd rhyw gyfundrefn o'i eiddo ei hun yn ymffurfio yn ei feddwl, er bod ei phrif linellau, efallai, wedi eu cymryd o'r system neu systemau a apeliodd fwyaf ato.

Nid fel llyfrbryf yn y tŷ y treuliwn yr amser, ond yn yr ardd dan gysgod coeden, neu ar fryn uwchlaw'r tŷ, ar lannau afonydd, ac yn aml yn unigrwydd y goedwig, ac ar lan y môr. Fel hyn y deuthum i'r gyfathrach ddyfnach â Natur y cyfeiriwyd ati ym Mhennod II, ac y trodd athronyddu yn fath ar fywyd ac nid ymarferiad deallol yn unig. Gan mai delfrydiaeth Caird a Green a'm swynai fwyaf, perthynas y Tragwyddol" â Natur neu ryw agwedd arni oedd testun fy myfyrdod gan amlaf, ac wedi bod yn ymgodymu am oriau â rhyw ddyryswch, a chodi o'm heistedd a'm hamdden, yr oedd ffordd gan "y Tragwyddol" i ddyfod ataf ar hyd llwybr arall, fel pe dywedasai: "Ni elli ddod o hyd i mi drwy ddeall; nid gwrthrych wyf i i'w ddarostwng i esboniad, ond os mynni gyfeillachu â mi, ti gei." Y mae'r gwmnï- aeth nefol a gawn yr hafau hyn yn gwbl anhraethadwy—ni all geiriau ei disgrifio i'r sawl sydd hebddi, ac nid oes eisiau geiriau ar y neb a'i cafodd. Dywaid Byron hyd yn oed fod y gyfathrach a gâi ef â Natur yn gwbl anhraethadwy:

There is society where none intrudes
. . . . . . . . . in which I steal
From all I may be or have been before,
To mingle with the universe, and feel
What I can ne'er express. . . . . . .

"Presence"—"nid person" penodol—fyddai'r gair gorau i ddisgrifio'r hyn y deuwn i fath o gyfathrach hudol, megis drwy len, ag ef, megis y'i gelwir gan Wordsworth:

I have felt
A presence that disturbs me with the joy
Of elevated thoughts.

Rai prydiau, fodd bynnag, fe wnâi rwyg yn llen ffenomenau Natur i ddadlennu'i ogoniant. Y mae bod y prydiau hynny yn glir yn fy nghof ar ôl yn agos i hanner can mlynedd, yn profi eu bod yn arbennig iawn yn gystal ag anaml. Cefais y profiad am y tro cyntaf un hwyrddydd wrth edrych ar lwyn rhosynnau gwyllt ar waelod Gallt-y-fedw. Euthum yno wedyn gan obeithio a dymuno gweld yr un gogoniant, ond yr oedd wedi ymado—er bod y llwyn a'i rosynnau yno o hyd, nid oedd y berth yn llosgi mwyach. Cefais y profiad wedyn yn yr ardd fechan wrth gefn tŷ fy mrawd Emlyn yn Henffordd, lle yr eisteddwn un hwyr yn darllen llyfr y Prifathro Caird ar Athroniaeth Crefydd. Yr oedd yno dair coeden gweddol dal, a chefais olwg ar ogoniant y Tragwyddol heibio iddynt—mwy na gogoniant machlud haul. Wedi gweld darn o ffordd yn ymyl fy nghartref yn yr un modd "dan ffurf y Tragwyddol" (sub specie aeternitatis), 'rwy'n cofio mynd at y Parch. Evan Phillips i ofyn ei farn, gan y gwyddwn ei fod yn weledydd ysbrydol. Nid wyf yn cofio i mi gael help ganddo mwy na galw i'm cof olygiad Kant am " bethau ynddynt eu hunain "-help gwerthfawr iawn o safbwynt Neo-Kantiaeth a ddeil mai pethau fel y maent yn bod i Dduw yw "pethau ynddynt eu hunain."

Hoffwn i'r darllenydd ddeall mai nid ysbeidiau o ysbrydoliaeth a ddaw i ddyn yn fwy neu lai cyson oedd y profiadau hyn, ond mwy fel ffenestri'n agor i ogoniant arall.

Cefais tua hanner dwsin o'r canfyddiadau hyn, a dysgais maes o law mai nid profiadau i'w sicrhau drwy unrhyw ymdrech nac ymroddiad ar fy rhan i oeddynt, ond ymweliadau grasol i ddangos i mi nad oeddwn yn angof yn y nef, ac awgrymu fy mod i ddibynnu ar y gyfathrach fwy cyson, os llai gogoneddus, am y presennol.

Ond yr oedd y gyfathrach gyson hon yn aml yn codi i addoliad. Cyfeiriad at hynny sydd mewn llinellau a gyfansoddais yn Leipsic wedi clywed am farwolaeth dwy gyfnither a chefnder a oedd hoff iawn gennyf. (Cofiaf yn dda mai gwrando ar Faust yr oeddwn ac i'r teimladau tyner a'm meddiannai redeg yn naturiol i fold y penillion cyntaf yn Faust).

A oes cân ar wefus Ceri
Pan yw'n pasio ar ei hynt,
A yw'r mawl yn ysgwyd deri
Gallt-y-fedw megis cynt?

Gallai beirniad sych gredu mai dim ond ymdrech i fod yn farddonol sydd yn y drydedd llinell :

A yw'r mawl yn ysgwyd deri?

ond cyfeiriad sydd ynddi at brofiad neilltuol a gefais wrth gerdded drwy'r allt mewn storm o wynt, a blygai'r deri hyd at eu gwraidd ymron, a throi'r sŵn yn addoliad yn fy enaid.

'Rwy'n ffansïo, pe bawn wedi dal ymlaen i farddoni, ac ymberffeithio yn y gallu i osod allan wawr a chysgod y teimladau swynol a chyfrin a ddeuai imi y cyfnod hwn, y gallaswn fod wedi ysgrifennu rhywbeth o werth. Eto, nid drwg gennyf na ddaeth yr hen nwyd yn ôl.

V

NID yw llwyddiant academig, mwy na llwyddiant bydol, yn ddangoseg o gynnydd ysbrydol-yn yr ystyr gyfyng i'r gair-a gall beidio â bod yn ddangoseg ohono yn yr ystyr eang, am nad yw arholiadau bob amser yn braw teg, annibynnol ar amgylchiadau digwyddiadol neu bersonol. Bûm i'n dra llwyddiannus gyda'm haroliadau athronyddol, am fod athroniaeth yn awr wedi mynd i'm gwaed, a'r prif arholwr yn gwerthfawrogi atebion a oedd â gwreiddyn y mater ynddynt, ac unrhyw awgrym o wreiddioldeb. Er nad oeddwn yn gwbl ddi-gryn wrth eistedd wrth y bwrdd, ar ôl ysbaid fer yr oeddwn fel rheol yn gallu setlo i lawr i ysgrifennu'n rhydd, mewn anghofrwydd o bopeth ond y testun. Nid mater o drosglwyddo i bapur bethau a oedd gennyf yn fy nghof ydoedd o gwbl, ond o'm mynegi fy hun mewn geiriau cymwys (ac y mae'n hynod mor gymwys y daw'r geiriau pan fo dyn " yn yr hwyl ").

Yr oedd blwyddyn fy nychweliad o Germani hefyd yn flwyddyn cystadleuaeth y "George A. Clark Fellowship" mewn Athroniaeth yn y brifysgol. Rhoddir hi bob pedair blynedd, ac y mae ei hennill yn uchafbwynt uchelgais athronyddion ieuainc. Mynnai fy nghyfeillion i mi gystadlu, ac nid yw ond iawn cyffesu nad oedd eisiau llawer o anogaeth arnaf. Wedi ei hennill, a'm gwahodd i fod yn gynorthwywr i Caird, yr oedd y demtasiwn i barhau yn llwybr dysg yn gryfach na'r alwad i'r gwaith mwy ; ac arhosais yn Glasgow. Rhwng popeth, yr oedd yn well arnaf yn fydol nag y bu na chynt na chwedyn.

Ynglŷn â'r gymrodoriaeth hon, yr oedd gennyf bedair darlith i'w traddodi o flaen y brifysgol, ac yna i'w cyhoeddi'n llyfr, ar destun a oedd i'w gymeradwyo gan yr awdurdodau. Y testun a ddewisais, ac a gymeradwywyd, oedd "Ffydd a Gwybodaeth." Dewisais y testun am ei fod yn rhoddi i mi'r canolbwnc gorau y gallwn drefnu'r golygiadau a oedd wedi dod imi yn ystod y tair blynedd blaenorol o'i gylch. Byddai paratoi'r darlithiau felly'n waith cymharol rwydd a phleserus. Yr oedd gennyf ddigon o ddefnyddiau. Ar âl i mi ennill fy ngradd, a chael fy nhraed yn rhydd i fynd i borfeydd eraill, cefais fod llawer o syniadau ac awgrymiadau newydd yn ymgynnig i'r meddwl y dylaswn wneud cofnodiad ohonynt. "Y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun": y mae'r un peth yn wir am y meddwl, y meddwl ieuanc yn neilltuol. I gadw'r syniadau a ddeuai imi ar glawr, mabwysiedais y cynllun o gario note book bychan yn wastad yn fy llogell.

'Rwy'n cofio cael ysbeidiau mor hyfryd yn y trên ag a gawswn ar lan Teifi, am fy mod yng nghwmni'r un syniadau, neu berthnasau iddynt. Byrhawyd y ffordd i Glasgow imi o ddegau o filltiroedd lawer tro drwy drafaelu yn stratosphere yr ysbryd, uwchlaw amser a lle. Trodd y lleoedd unig, anial, rhwng Lloegr a'r Alban, lawer tro felly'n fannau poblog iawn.

Cyn i mi allu traddodi—nac, yn wir, baratoi—y narlith gyntaf, cefais fy apwyntio i gadair Athroniaeth yng Ngholeg Bangor, gyda'r canlyniad i mi orfod rhoddi'r gymrodoriaeth yn Glasgow i fyny, a chael fy rhyddhau o draddodi'r pedair darlith. Eto yr oeddynt yn fy meddwl, ac ni feddyliais lai na chael hamdden i'w hysgrifennu a'u cyhoeddi ym Mangor. Ond yn ofer, gan nad oedd gennyf adnoddau nerfol digonol i wneud mwy na llanw fy swydd fel athro yn y coleg. Y gwir yw, imi fod yn tynnu ar yr adnoddau hyn yn ddiorffwys am ddeng mlynedd, heb gymryd gwyliau yn yr ystyr gyffredin o gwbl. Nid oeddwn heb gymryd ymarferiad mewn cerdded, nofio, pysgota a seiclo yn rheolaidd, eithr heb ymddihatru o'm gwisgoedd gwaith meddyliol. Yn ddiweddarach darllenais yn llyfr Dr. Schofield, For Christian Workers, y dylai gweinidog, er enghraifft, roddi'r drydedd ran o bob dydd, y seithfed ran o bob wythnos, a'r ddeuddegfed ran o bob blwyddyn, i seibiant hollol mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Gwn fod rhai o'm cydathrawon yn mynd i ffwrdd i fynyddoedd y Swistir a mannau eraill, lle na allai papur newydd hyd yn oedd eu cyrraedd. Ond ni fûm i yn ddigon call i wneud hyn.

Heblaw hyn, yr oedd awyr Bangor y fwyaf relaxing a anedlais erioed. Ni fuaswn wedi gallu gwneud fy ngwaith fel athro hyd yn oed, oni bai fy mod yn mynd i Fethesda fel rheol bob wythnos, i ddringo'r mynyddoedd gydag Adams ac eraill, a dod yn ôl wedi fy adnewyddu. Wedi traddodi fy narlith (dwy deirgwaith yr wythnos) yn y bore, nid oeddwn yn dda i ddim ond i orffwys ar yr esmwythfainc a'm paratoi fy hun felly ar gyfer y ddarlith arall drannoeth.

Yr oedd y darlithiau hyn hefyd yn golygu mwy o waith i mi am eu bod â'u bwriad y pryd hwnnw i baratoi myfyrwyr ar gyfer arholiadau Prifysgol Llundain, ac fel y cyfryw yn fwy meddylegol na metaffysegol. Yr oedd yn angenrheidiol, felly, i ymgydnabod â'r llyfrau diweddaraf ar feddyleg; yn wir, nid oeddwn yn gyfarwydd iawn â'r llyfrau a oedd yn adnabyddus eisoes ar y testun, gan mai ychydig le a gaffai yn Glasgow. Ai yr angen am roddi cymaint o'm hamser i un testun yn llai a llai gyda threigl y blynyddoedd, a chawn innau gyfle i roddi rhan ohono i "Ffydd a Gwybodaeth," ond ni ddaeth i hyn yn ystod fy arhosiad ym Mangor.

Wrth edrych yn ôl ar y blynyddoedd hyn, ymddangosant i mi mor " ddrwg yr olwg, a chul o gigi ag oedd y blynyddoedd blaenorol yn Glasgow o" deg" a thew". Ac eto, nid oeddynt yn gwbl anffrwythlon. Efallai, hefyd, eu bod yr hyn oedd eisiau arnaf i ddarostwng y " tewdra " myfiol a ddaw gyda llwyddiant rhy gyson. Cefais gryn bleser wrth feistroli testun newydd, neu yn hytrach arweddau newydd arno, ac eilwaith wrth gyfrannu o'r hyn oedd gennyf i fyfyrwyr galluog a derbyngar. Nid wyf yn cofio i un ohonynt fethu yn ei arholiad. O leiaf, gwneuthum fy ngorau dan yr amgylchiadau. Ac ni ŵyr neb ond mi fy hun pa mor anffafriol oedd yr " amgylchiadau." Euthum i golli fy nghwsg, a cholli fy ynni. Ni fwynhawn y bywyd cyfoethog gynt. Yr oedd "llif athroniaeth" yn treio'n gyflym, a phan ddaeth storm o wyntoedd croes anghyffredin i guro ar fy nghwch bach, bu'n dda gennyf ddianc i " gilfach â glan iddi" yn y weinidogaeth.

Bu'r ddisgyblaeth yn werthfawr i mi fel gweinidog: deuthum i gyswllt â gwahanol fathau o gymeriadau —y gwleidydd, y cyfreithiwr, yr ysgolhaig. Gwelais y gwahaniaeth rhwng diwylliant y deall a diwylliant ysbryd a chalon, a bod " mawrion byd " yn sefyll ar y pegwn cyferbyniol i fawredd teyrnas Dduw.

Nid oedd newid y cwrs—er mai dyfod yn ôl i'r cwrs dechreuol a wneuthum—ar y pryd yn hyfryd, eithr yn anhyfryd, ond byddaf yn ddiolchgar byth am yr amgylchiadau—efallai y dylwn ddweud "arweiniad " —a'm dug yn ôl, am na chymerwn holl gadeiriau athroniaeth y byd am y profiad a ddaeth i mi yn ôl llaw. Nid na all athro athroniaeth fod yn Gristion trwyadl, ond y mae lle i ofni y buaswn i, cyn i mi eto gael fy ngwneud yn gydostyngedig â'r rhai iselradd, yn edrych i lawr ar nerthoedd yr oes a ddaw fel yn anghyson â'r oes olau hon, a safle athro ynddi.

Y pryd hwn yr oedd gennyf gyfaill o gyfreithiwr, a ddymunai i mi fynd i mewn am y gyfraith (yn hytrach na gweinidogaeth gras), ac uno ag ef, a chymryd at ochr ddadleuol (advocacy) y busnes. 'Rwy'n cofio cael fy atynnu gan hyn, ac 'rwy'n cofio'r fan ar stryd Castellnewydd pan ddaeth dylanwad tyner fel llaw esmwyth i'm cadw rhag ymateb i'r demtasiwn honno. Dyna'r unig arweiniad goddrychol a gefais i gyfeirio fy nghamau y pryd hwnnw. Daeth yr arweiniad gwrthrychol drwy fod eglwysi Hawen a Bryngwenith, heb unrhyw geisio na disgwyl ar fy rhan i, yn fy ngwahodd i fynd yn weinidog arnynt. Pan ddaeth i'm clustiau fod bwriad felly ar droed, gofynnais iddynt ymbwyllo a rhoi amser i mi ystyried y mater yn gyntaf, gan nad oeddwn am dynnu galwad a'i gwrthod wedyn. Ond ni chydsyniasant â hyn.

VI

(a)

GEILW Hegel grefydd yn diriogaeth fwyaf mewnol yr ysbryd. Gallasai ychwanegu crefydd wir, gan fod allanol a mewnol yn perthyn i grefydd ei hun. Yn y diriogaeth hon y bydd fy mhererindod i o hyn ymlaen, a'i hymgais i dorri drwy len yr allanol i'r mewnol. Gan nad ymdriniais â'm bywyd crefyddol yn uniongyrchol hyd yn hyn, gwell i mi yn y fan hon roi bras olwg arno hyd adeg fy sefydliad yn Hawen.

Fe ddaeth un llygedyn o'r mewnol i mi'n fore iawn, mewn sylweddoliad byw anghyffredin o wynfydedd y bugeiliaid ar y Mynyddoedd Hyfryd (Delectable Mountains) yn Nhaith y Pererin—llygedyn na buaswn yn cyfeirio ato oni bai iddo aros yn ei ddisgleirdeb am flynyddoedd maith, a bod ei ôl—lewych yn parhau o hyd. Ymddengys fel deffroad categori "Y Nefol ynof. Ag eithrio hyn, a rhyw deimlad o ddwyster neilltuol wrth ymaelodi yn y Drewen (er, yn sicr, na ddeallwn lawn ystyr yr hyn a wnawn), rhedeg ymlaen yn dawel ac undonog a wnâi fy mywyd crefyddol, ochr yn ochr â bywyd mwy mwyfus a brwdfrydig barddoni, hyd ugain oed. Ag eithrio fy mhregeth gyntaf oll, yr hon oedd yn dra sobr a "chynnil," "barddonol" i raddau gormodol oedd fy mhregethau cyntaf. Ar derfyn dwy flynedd yn y coleg, fodd bynnag, torrodd ton o frwdfrydedd moesol ar fy ysbryd; o ba le neu sut y daeth ni wn, ond parodd i mi ymwrthod â'r hen bregethau ar "Nef a daear a ânt heibio," etc., a phregethu ar destunau fel "Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith, ac ymlanhewch a golchwch eich dillad," etc., "Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain drwy ofn a dychryn."

Er i mi glywed prif bregethwyr Cymru o bob enwad yn ystod y blynyddoedd hyn (1874-80) yn Nhrewen, ac yn fwyaf neilltuol yng nghyrddau arbennig Castellnewydd, nid wyf yn gallu galw i gof i'r un ohonynt gyffwrdd â'm cydwybod. 'Rwy'n cofio'r Dr. Owen Thomas yn apelio'n bendant iawn at eneth (a alwai yn "ti ") ar yr oriel ym Methel, ond ni ddoi ei apêl yn agos ataf i. Nid beirniadu'r pregethu a wnaf yn fwy na mi fy hun, a'r ymagweddiad at bregethu a oedd mewn bri. Aem i'r oedfa am hwyl a huodledd, ac os caem y rheiny tybiem fod amcan addoli wedi ei gyrraedd. Diau, serch hynny, ei bod yn wir, hefyd, nad oedd mwyafrif y pregethwyr poblogaidd yn amcanu cymaint at argyhoeddi neb ag at drafod y testun yn feistraidd a hwyliog a chael "amser da."

Bu raid i mi newid fy osgo at y gwirionedd pan euthum i'r Alban, a'i glywed o enau Henry Drummond. Mewn ffordd esmwyth a didramgwydd, a diarwybod ar y cyntaf, cefais fod y gwirionedd yn fy marnu i, a bod fy marn i am fedr neu hwyl y siaradwyr yn beth dibwys ac amherthynasol, a hawliau'r gwirionedd ar fy ufudd-dod i yn bopeth. Credaf yn sicr i Ragluniaeth fy arwain i Glasgow, nid yn gymaint i ddysgu athroniaeth wrth draed Caird, ag i glywed yr Efengyl o enau Drummond. Felly yr ymddengys i mi yn awr. Eto, rhaid i mi gyffesu i mi gael mwy nag y breuddwydiais amdano erioed gan y naill a'r llall. Yr hyn a deimlai un anghyfarwydd gyntaf wedi mynd i mewn i un o gyrddau Drummond oedd, nid presenoldeb y cannoedd myfyrwyr a oedd yn bresennol, ond yr awyrgylch ddieithr, hyfryd-newydd, "gwbl arall" a barai inni weld y myfyrwyr a phawb mewn medium newydd. Yr oeddwn yn gyfarwydd ag awyrgylch wresog cyfarfodydd hwyliog Cymru, ac wedi teimlo dylanwad areithyddiaeth huawdl Herber, Ossian, ac eraill. a thywallt dagrau'n hidl wrth wrando ar ddisgrifiadau ac apeliadau Plenydd ; ond yr oedd awyrgylch cyfarfodydd Drummond yn rhywbeth digyffelyb, ac fel yn mynd â'r ysbryd allan o'r byd i'w gynefin. Geilw Finney yr awyrgylch a greir gan yr Ysbryd Glân yn awyrgylch toddawl melting atmosphere—disgrifiad cywir o safbwynt yr effeithiau a gynhyrchir, ac ochr wrthrychol yr ystad a ddisgrifiai'n tadau yn yr ymadrodd, "ystad dyner o feddwl" (a tender frame of mind).

Yr oedd awyrgylch cyrddau Drummond felly, ac yn gyfaddas iawn i'r geiriau o ras a gwirionedd a ddeuai dros ei wefusau ef. Rhoddodd inni y rhan fwyaf o'i anerchiadau cyhoeddedig yn y cyrddau hynny. Y maent yn hyfryd i'w darllen, ond nid mor hyfryd ag oeddynt i wrando arnynt, gan fod y bersonoliaeth hawddgar, heulog, ddidwyll, gyfeillgar a'u traddodai yn absennol, er bod peth o'r perarogl eto'n glynu wrthynt i'r rhai a'u clywodd. Hyd yn oed y pryd hwnnw yr oedd rhai o geidwaid yr athrawiaeth ymhlith y myfyrwyr—dan arweiniad highlander Calfinaidd ar ei ôl ; a bu yntau yn ddigon mawr i ddyfod i gyfarfod o'r myfyrwyr i ateb eu cwestiynau ac esbonio ei safle. Ar y diwedd cafodd amryw ohonom ein symbylu i ddwyn tystiolaeth i'r da mawr a gawsom yn ystod y gaeaf. 'Rwy'n cofio i mi derfynu drwy ddweud fy mod wedi derbyn an inspiration that will carry me through life, a chael gair o ddiolch caredig ganddo ef.

Gesyd y gair inspiration allan yr hyn a deimlwn; llanwyd â bywyd ac ysbrydoliaeth y geiriau a'r gwirioneddau crefyddol yr oeddwn o'r blaen yn gyfarwydd â hwy. Yn iaith Thomas Goodwin, aeth y geiriau yn bethau. h.y., yn hanfodion rial. Dygwyd Crist o'r gorffennol ac o'r cymylau i fod yn Berson byw presennol ac yn gydymaith i ni ar ffordd bywyd.

Yn ystod yr haf dilynol cefais fod y llen oedd rhyngof a dwyfoldeb Natur (gwel. Pennod IV), ac, yn wir, rhyngof a gwir werth ysgrifeniadau'r saint—pregethau F. W. Robertson er enghraifft,—wedi ei thynnu ymaith. Yr oeddwn wedi darllen yr olaf o'r blaen ond heb brofi eu blas na gweld eu gwerth yn llawn.

Ni pharhaodd cyrddau Drummond ar ôl gaeaf 1885-86, a bu raid i'r ŵyn ieuainc a arweiniodd ac a borthodd fodloni ar borfa lai iraidd, neu ynteu chwilio am flewyn glas yma a thraw. Dengys fy ail ymgysegriad yn 1887 fy mod yn teimlo'r angen. Arferwn fynychu capel Dr. Hunter yn y bore, lle y caem wasanaeth defosiynol o'r radd uchaf, ac yna draethiad huawdl ar ryw bwnc o grefydd neu foes, ond yr oedd yn rhy debyg i'm gwaith beunyddiol i'm hatynnu eilwaith yn yr hwyr. Byddai'r Prifathro Caird yn pregethu yn awr ac yn y man yn y prynhawn yng nghapel y Brifysgol, a lluoedd yn tyrru i'w wrando. Ar ddiwedd y gwasanaeth teimlwn fel un wedi bod yn gwrando ar organ fawr yn canu. Trafod rhyw wirionedd yn gyffredinol a wnâi ef, fel Hunter a'r rhelyw o bregethwyr y ddinas. Dygent ni i berthynas ddeallol â Christ, ac yn y fath gyflwyniad ohono fe âi yn bwnc i'w ddirnad ac nid yn berson i ddod i berthynas o ffydd ag ef, fel yng nghyflwyniad Drummond.

Tebyg oedd pethau yng Nghymru pan awn yno ar fy ngwyliau, ac ym Mangor yn ddiweddarach. Ar waetha'r cwbl, ni phallodd fy niddordeb mewn llenyddiaeth grefyddol a diwinyddol. Yr oedd rhai llyfrau'n neilltuol, megis eiddo Horton, yn dod ag awyrgylch cyrddau Drummond, neu yn hytrach yr elfen bersonol brofiadol a oedd ynddynt, yn ôl. Ochr yn ochr â'm hastudiaeth athronyddol parheais i ddarllen llyfrau diwinyddol a phregethu pan ddoi'r alwad, fel nad oeddwn yn hollol amharod pan gychwynnais ar fy ngweinidogaeth yn Hawen a Bryngwenith.

(b)

Y mae Brynhawen, tŷ gweinidog Hawen a Bryngwenith, yn sefyll ar fan uchel, iach, ond unig. Nid oes dim ynddo yn atyniadol i un sydd â'i ddiddordeb mewn bywyd yn dibynnu ar amlder pobl. Eto, mentrodd merch ieuanc o ganol tref ddod i fyw ynddo gyda mi ; ac yn y man ffodd yr unigrwydd ymaith, a daeth y tŷ llwyd ac unig yn gartref annwyl a swynol. Yr oedd gardd wrth y tŷ a alwai sylw ati ei hun, ac yn fuan aeth hithau yn lle o ddiddordeb meddyliol yn gystal ag ymarferiad corfforol. Nid oedd wedi cael llawer o driniaeth ers blynyddoedd, ac atebodd yn galonnog i'r diwylliant newydd. Yr oedd pobl yr eglwysi hwythau agos yn un i wneuthur y cylchfyd tymhorol yn hyfryd, a rhai o'r cymdogion yn arbennig, yn rhyfeddol o garedig. Nid oedd y gwaith yn anghyson â'r gorffwystra nerfol y crefwn amdano; ac ar ben dwy flynedd yr oedd fy ymarferiadau garddol, ynghŷd â'r teithiau ar draws gwlad, ac awyr iach y bryndir, a bwyd iach y wlad wedi adnewyddu fy nerth a dwyn fy nghwsg yn ôl i raddau helaeth.

Dyna'r ochr dymhorol, ac yr oedd hon yn bwysig i mi ar y pryd. Gyda golwg ar yr ochr grefyddol, cefais, fel y tybiwn, ganfyddiad meddyliol clir o natur gwaith yr eglwys, sef, nid gwneud ysgolheigion na diwinyddion, ond gwneud dynion. Un o'm testunau cyntaf oedd, "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef," a gellir edrych ar yr adnod hon fel yn taro nodyn fy ngweinidogaeth tra fûm yno. Dyna lle'r oeddwn i fy hunan, a dyna eu heisiau hwythau yn yr eglwysi, fel y gwelaf yn awr. Er bod fy mlaenoriaid wedi bod yn egluro'r delfryd Cristnogol iddynt gyda gallu ac ymroddiad mawr, y mae'n hynod mor annelwig ydoedd yn eu meddwl a'u bywyd. Y mae yr un o hyd, a'r un ym mhob man, ac yn debyg o barhau, ac am y rheswm hwn yn unig y gellir cyfiawnhau pregethu llawer o'n gweinidogion ifainc; gobeithio y derbyniant yr un golau ag a ddaeth i mi yn ddiweddarach.

Yn adeg y diwygiad y darganfûm i weithiau Dr. Bushnell a'i hanes, a chael allan fy mod yn pasio drwy argyfyngau tebyg i'r eiddo ef o ran ansawdd ac amser. Wedi dod allan i oleuni cyfiawnder y Deyrnas yn ddyn ieuanc, a gadael y gyfraith am bregethu, fe'i cadwyd ef i bregethu cyfiawnder am tuag ugain mlynedd, ac yna dihuno un bore a dweud wrth ei briod fod y goleuni wedi dod y buont yn disgwyl amdano fel gwylwyr am y bore. Nid oeddwn innau'n fodlon ar gyflwr crefyddol yr eglwysi nac ar fy nghyflwr fy hunan, ac am hynny'n ddisgwylgar ac ymchwilgar. Y mae yr argraff a wnaeth profiad un Sul arnaf yn dwyn hyn i'm cof yn glir iawn. Yr oeddwn wedi bod yn pregethu yn Llechryd, ac yn dychwelyd mewn cerbyd, heb neb gyda mi, gyda glan Teifi. Teimlwn yn flin a siomedig ar waith y dydd, er fy mod wedi treio cyflwyno'r gwirionedd fel yr ymddangosai i mi, a thaflwyd fi yn ôl arnaf fy hun i amau fy mherthynas â Duw. Yn union wedi gadael y pentref rwy'n cofio fy holi fy hun fel hyn: "Onid yw yn bosibl i mi gael sicrwydd o Dduw a'r byd ysbrydol, fel yr un sydd gennyf o'r byd hwn, o'r coed yma sydd ger fy mron yn awr ?" Ac ateb—fel athronydd—fel hyn: "Nac yw, y cwbl allaf wneud yn bresennol yw credu ynddynt, ac ymgyfaddasu iddynt fel ag i ffurfio cymeriad â'm galluoga i'w mwynhau wedi gadael y ddaear." Fe wêl y darllenydd fod y cwestiwn yn llawer gwell na'r ateb. Yr oeddwn am berthynas fwy uniongyrchol â Duw nag a feddwn, ac yn ateb fel athronydd agnosticaidd. Eithr nid i chwilio ateb i'r cwestiwn hwn yr euthum i Gaerfyrddin.

Wedi adnewyddu fy nerth i fesur dylaswn fod wedi setlo i lawr i ddechrau ysgrifennu'r llyfr a oedd o hyd yn fy meddwl, ond ni wneuthum. Gan fy mod yn arholwr mewn athroniaeth (am y radd o M.A.) yn Glasgow, parhawn mewn cyswllt â syniadau athronyddol. Ond aethai garddwriaeth â'm bryd, a thueddai i fynd â mwy na'i rhan o'm hamser. Paratown fy mhregethau, a darllenwn gryn lawer o lenyddiaeth grefyddol a diwinyddol, fel mater o bleser yn gystal ag o ddyletswydd, ac yna rhoddwn fy oriau hamdden i'r ardd a llenyddiaeth garddwriaeth. Fel hyn, pan basiodd y trydydd haf, a minnau heb roddi pin ar bapur, cefais ofn gwywdra meddyliol. Pan oeddwn yn athro ym Mangor, a threulio'r Sul—fel y gwnawn yn aml—ym Methesda, dygwyd fi i gyffyrddiad â hen frawd annwyl a bregethai weithiau ym Methesda yn y bore, yn unol â'r drefn yno o newid pulpudau, ac na wnâi ddirgelwch o'r ffaith (a oedd yn amlwg i bawb) nad oedd ganddo ddim i'w bregethu. Yr oedd wedi bod yn boblogaidd iawn, a chanddo barabl hylithr a dawnus, ac aeth i fyw ar hynny ac ar bregethau'r gorffennol, gyda'r canlyniad ei fod yn awr yn wyw ei feddwl; a pheth trist oedd ei weled a'i glywed yn treio codi hwyl a gweiddi " tali-ho " ar gefn rhyw stori. Cefais ofn gwywdra felly "cyn fy medd," ac yr oedd yn un o'm cymhellion i adael tawelwch y wlad am Gaerfyrddin. Fel mater o deimlad, nid oeddwn i na'r wraig am fynd. Yr oeddem yn eithaf hapus ym Mrynhawen. Nid oedd un atyniad i mi yn y Priordy y pryd hwnnw, ac nid euthum yno i bregethu gydag un breuddwyd am alwad. Yr oeddwn mor hoff o'm cartref fel y gwrthodwn fynd ymhell i bregethu, ac euthum i'r Priordy yn unig am ei fod yn weddol agos. Rhoddais bregeth ddirwestol gref y tro cyntaf, am y deallwn fod ei heisiau—ond nid i godi galwad! Ond pan ddaeth yr alwad, a gair cyfrinachol oddi wrth y Prifathro Walter Evans, y byddai eisiau fy help yn fuan yn y Coleg Presbyteraidd, gwelais fod cynhorthwy effeithiol yn cael ei gynnig imi i lorio bwgan y gwywdra meddyliol a ofnwn, ac y dylwn ei dderbyn. Ni chefais fy siomi yn effeithiolrwydd y cynhorthwy a gefais, pa un bynnag a oedd perygl o'r fath a ofnwn ai peidio. Credaf fod perygl, nid yn unig i mi, ond i bawb, i orffwys ar eu rhwyfau " yng nghanol y blynyddoedd."

Gall ymddangos i rywrai fy mod yn ystyried fy muddiannau fy hunan yn fwy nag eiddo'r eglwysi a'r achos wrth symud mor fuan. Ond ni fyddai hynny'n holl gywir, canys yr oedd y symudiad yn groes i'm teimlad, ac ystyriaethau eraill yn cynnwys barn fy holl gyfeillion o blaid mynd. Ni chredaf y gallwn newid dim ar y veterans a oedd yn Hawen na'r Bryn ped arhoswn hyd fy medd. Yr oeddynt wedi hen gau pen eu mwdwl, ac yn eu plith babau a oedd yn anffaeledig geidwaid llythyren yr athrawiaeth. Gyda golwg ar y bobl ifainc, cefais dros dair blynedd o gyfleusterau i egluro'r delfryd Cristnogol iddynt hwy o'r pulpud yn gystal ag mewn dosbarth moeseg a fu yn dra llwyddiannus. Pan ddeuthum i brofiad llawnach o wirionedd yr Efengyl fy hun, teimlwn yn fawr oherwydd y diffyg yn fy nghyflwyniad ohono yn ystod fy ngweinidogaeth yno, ac yn 1905 agorwyd ffordd imi i wneud i fyny i fesur am y ddiffyg mewn dull tra hynod. Estynnodd pobl ifanc Castellnewydd (o bob enwad) wahoddiad i mi i'w hannerch ar fater y diwygiad, am wyth o'r gloch un nos Sul ym Methel. Gan nad oedd fy eisiau yn y pulpud gartref, euthum i lawr nos Sadwrn, ac yn y trên cododd ynof ddymuniad cryf am gyfle i annerch pobl ifainc Hawen a Bryngwenith, ac yna ieuenctid y Drewen. Erbyn cyrraedd tŷ fy chwaer, yr oedd yno gennad o Fryngwenith yn gofyn i mi bregethu yno trannoeth, ac yn y man un o'r Drewen am i mi bregethu yno am chwech yr hwyr. Cefais fantais yn ddiweddarach i egluro " ffordd Duw yn fanylach" i eglwys Hawen.

Os pryder ynghylch fy nghyflwr meddyliol a aeth â mi i Gaerfyrddin, wedi mynd yno cefais fendith ysbrydol anhraethol fwy, nid am fod rhyngddi berthynas yn y byd â Chaerfyrddin, ond am mai yno y digwyddwn fod yn myd amser a lle pan ddaeth i mi yng nghwrs fy mhererindod ysbrydol; cefais ateb diriaethol a phrofiadol i'r cwestiwn a ofynnais ar y ffordd adref o Lechryd, ac y ceisiais ei ateb, a'i ateb yn anghywir, o safbwynt athroniaeth haniaethol.

VII

TAFLAI'R diwygiad oedd ar y ffordd ei gysgod ar flynyddoedd cyntaf fy ngweinidogaeth yng Nghaerfyrddin mewn gweddigarwch dwysach a mwy cyffredinol. Yn 1902 cychwynnwyd cwrdd gweddi undebol gan bobl weddigar y gwahanol eglwysi dan nawdd y Pentecostal League—cymdeithas dan lywyddiaeth Mr. Reader Harris, Q.C., â'i bwriad i gael gan bobl weddigar yr holl eglwysi i uno mewn gweddi am dywalltiad o'r Ysbryd Glân. Yr oedd Mr. Harris ei hunan wedi bod yn un o brif gynorthwywyr Bradlaugh, ac wedi cael troedigaeth hynod, a hynod o lwyr. Torrodd ton o frwdfrydedd moesol hefyd ar gyngor yr eglwysi rhyddion a oedd newydd ei sylfaenu, a gwnaeth ymdrech lwyddiannus i godi safon y cyngor tref. Yn 1903 daeth Mri. David Thomas a Rhys Thomas, dau o gynorthwywyr Mr. Harris, i gynnal cenhadaeth, ac yntau ei hun cyn diwedd yr wythnos, a buont yn foddion i gyffroi bywyd crefyddol y dref i'w waelod—nad oedd yn ddwfn, yn ddiau. Pwysleisient gwbl ymgysegriad i Dduw, a rhoddent le llywodraethol i'r Ysbryd Glân—athrawiaeth ddieithr i ni y pryd hwnnw. Ymhen ychydig fisoedd ymddangosodd y gair Convention—y tro cyntaf i mi ei weld ar ein muriau, a'i amcan, meddid, i" ddyfnhau y bywyd ysbrydol," ac enwau Mrs. Penn-Lewis a'r Parch. R. B. Jones fel y prif siaradwyr. Cof gennyf i mi frysio i fyny o'r Coleg i'r oedfa foreol yn ysgoldy Heol Awst, a chlywed rhan helaeth o anerchiad Mr. Jones ar santeiddrwydd, mewn awyrgylch a ddaeth â chyrddau Drummond yn fyw i'm cof. Yn oedfa'r prynhawn, a anerchid gan Mrs. Penn-Lewis, yr oedd godre Duw'n llenwi'r deml, a phan ofynnodd inni ar y diwedd i blygu'n pennau, ac i bawb a oedd yn derbyn Crist yn Arglwydd i ddweud, "Yes, Lord," ar ôl ymdrech galed cefais help i wneud—gydag ugeiniau eraill a ddaeth i brofiad newydd yno. Yr anhawster oedd i ddyn ei gasglu ei hunan o bob man i'r un pwynt o gwrdd â sialens Crist fel person i'r ewyllys—nid derbyn yr athrawiaeth amdano i'r deall. Am y rheswm hwn, y mae ysgoldy Heol Awst yn gysegredicach i mi nag i lawer o'r rhai a â yno'n awr. Gwir mai dim ond y lle sydd yno, ond

Mae Theomemphus eto yn cofio am y lle
'R anadlodd ar ei enaid dawelaf wynt y ne'.

Y cwbl a brofais ar y pryd oedd teimlad o ryddhad hyfryd, fel pe bai rhannau o'm natur yn syrthio yn ôl i'w lle, a sŵn cynghanedd newydd yn fy isymwybod. Ond dechrau'r fendith oedd hyn. Ar ôl diwrnod neu ddau, cododd dywediad o eiddo Reader Harris—dywediad na wnaeth argraff neilltuol arnaf ar y pryd —i'r wyneb, a hawlio fy sylw: "Conquer the devil where he has conquered you." Nid oes dim neilltuol yn y frawddeg, ond y mae'n ymarferol bwysig, ac yn ffurfio ochr ddynol ""Nenwedig dal fi lle'r wy'n wan." Wrth edrych o gylch, gwelais fod un peth o leiaf ag eisiau ei wella. Er fy mod wedi adfeddiannu fy nghwsg i raddau helaeth yn Hawen, hwn oedd fy man gwan i, neu o leiaf un ohonynt, ac wedi methu cysgu byddwn yn dod at y bwrdd brecwast yn anfoddog a drwg fy hwyl. Wel, euthum i'm myfyrgell un bore cyn brecwast, mynd fel mater o ewyllys, ac yn groes i'm teimlad, ac i weddi, gydag effeithiau hollol annisgwyliadwy. Hyd y cofiaf, y mwyaf a ddisgwyliwn oedd rhyw help i orchfygu drwg dymer, neu i'w chadw rhag fy mlino; eithr yn lle hynny fe'm bedyddiwyd â ffrydiau o nerthoedd bywydol, rhinweddol, trawsffurfiol am tua hanner awr a wnaeth imi deimlo'n lân, ac iach, a hoenus hyd gyrrau fy mod. Ac nid oedd eisiau tê na choffi i glirio fy mhen! Yr oedd yn brofiad mor rhyfeddol o hyfryd ac adfywiol fel y ceisiais ef drannoeth wedyn, gyda'r un canlyniadau ; ac felly y parhaodd am ugain mlynedd nes torri o'm hiechyd i lawr yn 1924. Yr oedd weithiau'n fwy ei rym, weithiau'n llai, rai prydiau'n fwy rhwydd, rai prydiau'n llai, ond fel rheol yn dwyn gwobr arbennig i ffydd a dyfalbarhad. Cedwid fi ambell waith ar fy ngliniau am awr, yn awr ac yn y man am oriau, a'r rheiny yn ddios oedd oriau euraid y dydd i mi, yn anhraethol fwy gwerthfawr ac angenrheidiol na brecwast. Ceisiwn yr eneiniad yn ddiffael cyn pregethu ; teimlwn mai ofer fyddai ceisio mynd ymlaen hebddo. Cawn ef mewn helaethrwydd pan fyddai angen. 'Rwy'n cofio siarad am wythnos mewn Convention yn y Rhondda gyda Dr. Pierson, Inwood, ac eraill, yna mynd i Gwmtwrch y Sadwrn, a phregethu yno deirgwaith y Sul a dwywaith dydd Llun, a chodi'n fore dydd Mawrth i ddal y trên ym Mrynaman am Lanelli, lle'r oedd Convention arall ddyddiau Mawrth a Mercher. Pan gyrhaeddais Lanelli, nid oedd Dr. Pierson, yr hwn y dibynnid yn bennaf arno, wedi dod. Yr oeddwn i'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ond yn meddu ar ddigon o ffydd i fynd i'm hystafell wely yn nhŷ fy chwaer-yng-nghyfraith, i ofyn am help oddi uchod, a'i gael, nid mewn ffrydiau, ond mewn afonydd, a barai i mi agos golli fy anadl a gofyn i Dduw atal Ei law. Yn ôl llaw, fodd bynnag, teimlwn yn ddyn newydd llawn o hoen a hyder ysbrydol i fynd ymlaen â chwrdd y prynhawn. Unwaith yn unig y teimlais fy mod yn cael fy nghodi allan o'm hymwybod meidrol, "ai yn y corff ai allan o'r corff, ni wni: Duw a ŵyr." Yr oedd hyn wedi dychwelyd o Keswick yn 1905, pan oedd esgynlawr Keswick wedi ei goresgyn gan ddylanwadau'r diwygiad Cymreig, ac ar fy ffordd i bregethu yn Henllan (Penfro) gyda Mr. Towyn Jones. Yr oedd Towyn yn pregethu'n huawdl fel arfer, a minnau'n siarad "o'r frest." Ymhlith pethau eraill pregethais ar y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, heb deimlo bod dim arddeliad ar y genadwri. Yr oeddwn yn dra siomedig, ac ni ddeellais fod dim wedi ei wneud am tuag ugain mlynedd, pan ddaeth dyn ymlaen ataf ar sgwâr Caerfyrddin, a oedd fel finnau'n disgwyl am y bus, a dweud yr hoffai glywed y bregeth ar bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân a bregethais yn Henllan, eilwaith; iddi fod yn gyfrwng bendith iddo ef a llawer eraill, ac i'r oedfa agos dorri'n orfoledd. Nid oeddwn i'n gallu gosod cymaint o bwys ar "orfoledd" ag ef, ond gwelais fod yr Arglwydd yn gallu gweithio drwy'r pregethwr pan na fyddo ef yn brofiadol o hynny.

Dioddefaf oddi wrth ddiffyg cwsg o hyd dan amgylchiadau arbennig—yn neilltuol arferwn ddioddef pan fyddwn yn siarad ddwywaith neu dair y dydd am wythnos neu ragor mewn cenadaethau neu gynadleddau, ond byddai'r bedydd ysbrydol a gawn yn y bore yn ddiffael yn symud effeithiau anhunedda mwy, gan y gwnâi fi nid yn aniannol hoenus yn unig, ond yn ysbrydol hyderus yn ogystal. Hyd yn oed wedi i'm hiechyd dorri i lawr, yr wyf wedi cael fy adnewyddu dro ar ôl tro. Y mae un tro yn werth ef gofnodi, gan ei fod yn wahanol i'r hyn a arferwn gael. Yr oeddwn wedi addo pregethu mewn cwrdd blynyddol heb wybod fy mod i bregethu deirgwaith y Sul (fe'm cyfarwyddid i osgoi hyn). Nos Sadwrn ni chysgais nemor ddim, a chodais yn blygeiniol i fynd i weddi fel arfer, pryd y cododd yr hyn na allwn ei gymharu ond i haul poeth ar fy ymwybod, a llosgi ymaith y niwloedd tew a oedd wedi codi o'm hanhunedd. Gorlifid fi gan nerth nerfol yn oedfa'r bore, a pharhaodd drwy oedfa'r prynhawn, ond erbyn yr hwyr teimlwn yn ddiymadferth a gwyw, ac analluog i bregethu. Mentrais i'r pulpud, fodd bynnag, heb unrhyw deimlad o nerth, ac wele, fe ddaeth nerth mwy nag a brofais yn ystod y dydd, a'm cario drwy'r oedfa'n orfoleddus.

Gallwn ychwanegu'n ddi-ben-draw ymron, ond y mae digon wedi ei ddweud i ddangos natur y fendith a ddaeth i mi, ac a ddaw i eraill, o gysylltiad dyfnach, a mwy personol bendant â'r ysbrydol. Nid oedd yn llai na bywyd newydd, a bywyd helaethach na'r hwn a fwynhawn yn ugain oed. Ai tybed nad yw ffigur ail-enedigaeth yn cynnwys cyfeiriad at y fath fynegiad o fywyd newydd i hynafgwyr? Eithr nid fy amcan yn awr yw ceisio ei esbonio, pe gallwn. Ni allwn, yn wir, gan yr âi yr ymgais â mi allan o'm dyfnder. Nid yw y rhan fwyaf o feddylegwyr yn gwybod dim am y fath brofiadau, ac ni allant chwaith, gan mai yn unol ag amodau ysbrydol yn unig y ceir hwy. Gofynnais i feddyg cyfarwydd â'r ysbrydol a'r anianol ei farn ar ffenomenau o'r fath, a'r unig beth allai ddweud oedd fod yr Ysbryd Glân yn ddiamau yn gweithredu fel tonic ar y sistem nerfol—yr hyn nad yw ond mynegi'r ffaith mewn geiriau eraill.

Y mae'n eglur i'r darllenydd fod ochr anianegol amlwg i'r profiadau a gawn, ond cefais ras i beidio ag edrych ar yr ochr honno yn fwy o amcan nag o foddion—fel y mae perygl gwneud ar adegau o ddeffroad grymus. Gwyddwn fod yr amodau cyntaf a dyfnaf yn ysbrydol, a bod y gweithgarwch anianegol yn dibynnu ar gydymffurfiad â'r rheiny. Gwyddwn hefyd fod a fynnai eu hamcan â ffynonellau cymeriad yn hytrach na rhoddi i mi iasau nerfol diflannol. Diau fod eisiau'r bedyddiadau hyn yn nhiriogaeth y "doniau "fel "eneiniad i wasanaeth" ("unction for service") ac i loywi ac angerddoli cynheddfau canfyddiadol a deallol a'u galluogi i weld ac amgyffred "pethau na welodd llygad ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i galon dyn" anianol; ond yr oedd eu hangen yn bennaf ym myd y "grasusau " i weithredu " fel tân y toddydd a sebon y golchyddion " i lanhau y llygredd a llosgi'r sorod oedd yn fy natur. Barnai Jonathan Edwards ystad ei enaid wrth y breuddwydion a gaffai—cyn bod y term isymwybod wedi ei fathu, ac yna'n mynd at Dduw am ymwared oddi wrth ei "feiau cuddiedig." Yr oedd tarddellau y gweithgarwch y profwn i ei effeithiau yn yr un modd yn ddyfnach na'm hymwybod i, ond codent y diffygion a oedd yno i fyny a'u dangos mewn goleuni llachar iawn. "Pwy a ddeall ei gamweddau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig," meddai'r Salmydd. Yng Nghynhadledd Llanelli y cyfeiriwyd ati eisoes, pregethodd Dr. Pierson ar" ffrwythau'r Ysbryd " mewn ffordd a wnaeth i mi deimlo fy angen yn ddwys, a diau i'r argraffiadau suddo'n ddwfn i'm calon, gan mai o'u cylch hwy y bu gweithgarwch yr awr weddi foreol yn troi am amser. 'Rwy'n cofio gofyn i'r hen sant paham yr oeddwn i wedi teimlo ddwysaf dan y bregeth honno, tra y tystiai eraill eu bod wedi teimlo fwyaf dan bregeth arall. "It was very likely what you needed, as the Holy Spirit knew," oedd ei ateb, a diau ei fod yn gywir. Yn yr un modd, yr oedd yr hyn a ddarllenwn yng nghofiannau'r saint yn fy marnu a'm condemnio, ac yn ddieithriad yn peri imi deimlo fy mychander ysbrydol. Angerddolid yr holl argraffiadau hyn yn fawr gan danbeidrwydd yr awr foreol. Buaswn yn dweud mai fy santeiddiad oedd yr amcan ynddynt, oni bai nad wyf yn eu cael mwyach, er bod y gwaith o'm perffeithio heb agos ei gwblhau. Pan gawn hwy fel "eneiniad i wasanaeth," yr oedd y wedd gondemniol yn llai amlwg, a llewyrch newydd yn disgyn ar y gwirioneddau y bwriadwn eu pregethu.

Ac nid yn unig yr oedd ochr anianegol ac ochr ysbrydol i'r profiadau hyn, ond yr oedd gwedd wrthrychol yn gystal â gwedd oddrychol i'r ysbrydol. Yr Ysbryd Glân a weithiai yn oddrychol ynof i loywi fy ngolygon a chynhyrchu'r awyrgylch cyfaddas i ganfyddiadau ysbrydol mewn ffordd isymwybodol nas deallwn i, ond y safon wrthrychol y'm bernid wrthi neu y'm hatynnid ati, yn fy ymwybod, oedd yr Iesu, neu ryw arwedd o'i gymeriad a'i berson. Dichon na ellir rhesymu o'r gwahaniaeth hyn mewn gweithrediad i athrawiaeth y Drindod, ond y mae'n sicr na ellir rhesymu yn erbyn hynny gan athronydd na diwinydd ar dir ystyriaethau damcaniaethol, haniaethol. Dim ond profiad diriaethol y saint sy'n gyfarwydd â dyfnion bethau Duw a fedr roddi inni'r praw terfynol

The rest may reason and welcome:
'Tis we musicians know.


VIII

(Gall y darllenydd a ddymuno ddilyn ffordd fy "Mhererindod" heb ymdroi, ddarllen y bennod hon yn olaf.)

ER nad fy amcan yw trefnu "troeon yr yrfa " mewn sistem ddeallol, y mae eglurder yn gofyn am roddi sylw—mwy nag a roddwyd—i berthynas rhai o'r prif droeon â'i gilydd efallai mai dyma'r man gorau i wneud hynny. Bydd y darllenydd effro, mi gredaf, am ateb i'r cwestiwn, beth yw'r gwahaniaeth rhwng y berthynas â Duw a ddisgrifir ym Mhennod IV, a'r un a ddisgrifir ym Mhennod VII. Pan oeddwn ar fedr ailadrodd sylwedd ysgrif o'r eiddof a ymddangosodd yn Yr Efrydydd flynyddoedd yn ôl ar y mater, syrthiodd fy llygad ar ysgrif gan yr Athro H. H. Farmer, yn The Christian World (Ionor 30, 1936) ar yr un pwnc; a chan ei bod yn fwy diriaethol na'r eiddof i, ac fel y cyfryw yn debyg o fod yn fwy o help i'r darllenydd cyffredin, a chan, hefyd, fod y mater o bwysigrwydd ymarferol yn gystal â damcaniaethol, rhoddaf gymaint o'i chynnwys ag sydd yn berthnasol yn y fan hon.

Testun yr ysgrif yw "Dau fath o Grefydd" ("Two kinds of Religion"). Y mae ganddo gyfaill, meddai ef, a synia am y Cyfanfod—yr hwn a eilw The Ultimate, am fod yr enw God yn awgrymu bod personol yn ormodol—fel egwyddor greadigol a draidd drwy bopeth, ac a'u ceidw gyda'i gilydd, y drwg a'r da, mewn sistem enfawr a threfnus y sydd eisoes, at ei gilydd, rywsut, o brydferthwch a gwerth anfeidrol. Pan yw dyn yn gallu sylweddoli ei le ynddi a'i chynghanedd ogoneddus, y mae yn grefyddol, a theimla ei holl fod yn cael ei ysbrydoli a'i ddyrchafu. Gall y fath sylweddoliad ddod drwy natur, llên, cerdd, sêr y nos, neu ymgyflwyniad i unrhyw achos uchel; ond pa bryd bynnag, ac ym mha ffordd bynnag y daw, ef yw calon a hanfod crefydd.

Ei feirniadaeth gyntaf ar y fath bantheistiaeth yw ei bod yn anwybyddu ffeithiau pechod a thrueni dyn, a dyfynna rannau o ddisgrifiad Walt Whitman o'r trueni hwn mamau tlawd a thenau yn cael eu hesgeuluso gan eu plant hyd yn oed, a marw'n ddiymgeledd a diobaith; dichell a brad yr adyn a huda enethod ifanc oddi ar y ffordd; erchyllterau rhyfel a phla a gorthrwm; tynged merthyron a charcharorion; y gwarth a'r dirmyg a deflir gan feilchion byd ar weithwyr a thlodion, a negroaid er enghraifft; a gofyn pa fath fydysawd i gynganeddu ag ef a'i addoli yw hwnnw a edy bethau fel hyn i fod."

Eithr â'r ail feirniadaeth y mae â fynnom ni yn awr, yr hon a'n dwg at drothwy'r bennod flaenorol (Pennod VII). "Yn wyneb anhrefn a gwyrdro ein bywyd moesol y mae sôn am berthynas o gytgord â'r bydysawd fel crefydd ddigonol fel pe treiem lanhau a phrydferthu siop esgyrn a charpiau drwy ei thaenellu â dwfr rhosynnau. Yn hytrach, yr un peth sydd arnom oll ei eisiau yw, nid ychydig mwy o ddyhead annelwig ac aneffeithiol tuag i fyny, ond rhyw allu gwahanol i ni ein hunain a dyrr i lawr i'n bywyd mewnol i lanhau ffynonellau yr hunandwyll a'r fyfiaeth sydd yno."

I berthynas fwy effeithiol â Gallu felly y ducpwyd fi yn fy nghyfnod diweddaraf: deuthum heibio i'r berthynas â'r Cyfanfod amhersonol a gyfryngir gan y dychymyg a'r deall, i berthynas bersonol ddyfnach â Duw a gyfryngir gan yr ewyllys a'r galon. Yr oedd y flaenaf yn codi dyn yn ddychmygol allan ohono'i hun, a byd amser a lle, ond nid oedd a fynnai lawer â" barnu meddyliau a bwriadau y galon." Eithr yn awr, oherwydd fy ymgyflwyniad i Grist fel fy Arglwydd, a'r ymdrech i sylweddoli'r delfryd Cristnogol o gymeriad, deuthum i weld bod eisiau glanhau ffynonellau yn gystal â rhediadau bywyd. Daeth y berthynas bersonol aruchel â Duw yng Nghrist yn brif ryfeddod bodolaeth ac yn brif ysgogydd dyhead a gweithrediad. Nid rhyfedd, felly, iddo fynd yn ganolbwnc fy mhregethau.

Y mae i'r bydysawd, yn ddiau, le pwysig a hanfodol mewn crefydd—fel y mae i ddychymyg a deall le cyffelyb yn ein natur—am ei fod yn ddatguddiad rhannol o Dduw. Y mae'r Beibl yn ei bwysleisio, megis pan ddywaid fod y nefoedd "yn datgan gogoniant Duw a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylaw Ef," a llawer o ddatganiadau cyffelyb. Ffurfia'r apêl at y dychymyg ran werthfawr hefyd o'r gwasanaeth crefyddol, yn neilltuol y rhannau cerddorol—a llawer o bregethau yn wir. Yr hyn sydd o bwys yw cadw'r rhan hon yn ei lle iswasanaethgar o helpu'r addolwr i blygu ei ewyllys i Dduw. Y mae tuedd gyson i'w wneud yn brif beth—y mae gymaint yn rhwyddach na dod ar yr allor. Enghraifft nodedig o hyn oedd y "moliannu" yng nghymanfaoedd Cymru nad arweiniai i santeiddrwydd o gwbl, am y tybiai y cnawd fod amcan crefydd wedi ei gyrraedd. Mynn rhai beirdd, llenorion, gwyddonwyr, etc., gyfyngu eu crefydd i'r diriogaeth hon yn unig. Ai Carlyle allan i addoli "in the temple of immensity," chwedl yntau, a cholli gwynfyd bendigaid y gwir gysegr, er na wyddai ef mo hynny—ac ni fynnai dreio. Yr hyn sydd yn syn yw bod y "doethion a'r deallus" yn ddall i ddyfnion bethau Duw, a lluoedd O "rai bychain" yn eu gweld a'u gwerthfawrogi. Y gwir, y mae'n debyg, yw, bod y porth yn rhy gyfyng i'w mawredd hwy—y sydd yn fawredd yn unig o safbwynt yr oes bresennol. Buasai Carlyle yn fwy dyn pe cydymffurfiasai â safonau ymarferol crefydd ei fam a'i dad, yn un rhwyddach cydfyw ag ef, ac yn llai o edmygydd o Frederic Fawr a gwroniaid grym.

Ar y llaw arall, y mae rhai megis Karl Barth a'i ysgol yn dibrisio tystiolaeth y bydysawd i Dduw, a gwerthfawredd ei ddatguddiad ohono, yn ormodol. Ar sail fy mhrofiad personol, yn ychwanegol at ystyriaethau ysgrythurol ac athronyddol, ni allaf lai na chysylltu gwerth amhrisiadwy â'r datguddiad dechreuol hwn. Y mae'n wir na allwn resymu i fyny ohono i'r datguddiad o ras Duw yng Nghrist, ond nid yw hwnnw yn ei gondemnio ond fel cystadleuydd am y gwerth uchaf, a'i ogoneddu yn ei le. Nid wyf am drafod y mater yn llawn yn y fan hon: dichon fod digon wedi ei ddweud i ddangos perthynas y datguddiadau hyn â'i gilydd fel y mae yn bod yn fy meddwl i ar sail profiad diriaethol.

Ond beth yw perthynas y cyfnodau hyn eto â'r profiad arbennig a gefais yng nghyrddau Drummond? Yr wyf wedi crybwyll eisoes i'r profiad hwnnw o Grist glirio fy ngolygon i weld Duw yn Natur yn fwy clir a llawn, ond beth yw ei berthynas â'r profiad o Grist a gefais ugain mlynedd yn ddiweddarach? Buasai'r tadau'n dweud fy mod wedi cyfeiliorni oddi wrth y ffydd wedi gwrthgilio—ac mai fy nwyn yn ôl a gefais o'm crwydriadau. Ond byddai diwinydd mwy eangfrydig yn esbonio bod arweddau o'r bydysawd heb eu datguddio i mi, a chynheddfau yn fy natur innau heb eu datblygu drwy eu dwyn i gyswllt bywydol â hwy, a bod eisiau fy nghadw dan ddisgyblaeth bellach i ddwyn hyn oddi amgylch. Ond a oedd eisiau disgyblaeth mor faith? Y mae yn beth tra sicr, er meithed yr amser rhyngddynt, fod y ddau brofiad yn perthyn i'w gilydd, am eu bod fel ei gilydd yn gysylltiedig â pherthynas bersonol â Christ. Yr wyf wedi sylwi eisoes i Bushnell fod am ugain mlynedd yn pregethu cyfiawnder y Deyrnas, ac yna iddo ddyfod i'r goleuni mwy yr hiraethai amdano fel cyflawniad o addewid y cyfnod cyntaf, heb unrhyw wrthgiliad oddi wrth wirionedd hwnnw. Y mae ymchwiliadau meddylegwyr diweddarach yn dangos nid yn unig fod graddau (stages) yn y bywyd ysbrydol, ond y gallant fod ymhell oddi wrth ei gilydd. Fe ddywaid Starbuck, er enghraifft, ar sail ei ymchwiliadau gofalus ef, os na chaiff y credadun "fedydd " yr Ysbryd Glân o fewn tri mis wedi credu yng Nghrist, y gall fod ugain mlynedd hebddo.

Cydnebydd y Testament Newydd raddau felly, epistolau Paul yn neilltuol. Yr oedd yr Effesiaid, er enghraifft, wedi derbyn "sêl" yr Ysbryd, neu "ernes" yr Ysbryd, ond gweddïa Paul ar eu rhan, ar iddynt gael eu cadarnhau mewn nerth drwy weithrediad dyfnach yr Ysbryd yn y dyn oddi mewn, fel y delai Crist i drigo drwy ffydd yn eu calonnau, ac iddynt hwythau, felly, gael eu "gwreiddio" a'u "seilio" mewn cariad, h.y., i'w gwaelod hunanol gael ei gyfnewid a rhoddi iddynt brofiad o gariad Crist y sydd uwchlaw gwybodaeth y pen.

Eithr nid oes gyfeiriad at amser fel elfen i'w chyfrif o gwbl. Yn unig, gwyddom fod blynyddoedd wedi pasio rhwng ymweliad yr Apostol ag Effesus ac ysgrifennu'r epistol. Efallai nad yw'r ymddangosion ar wyneb amser o gymaint pwys pan yw gwaith y greadigaeth newydd yn mynd ymlaen yn y dwfn, neu ynteu o bwys yn unig fel mynegiadau i ddynion o gynnydd hwnnw. Byddai hyn yn gyson â'r hyn a ddywaid yr Athro William James, sef bod y bywyd ysbrydol ar ôl ei gychwyn yn tyfu'n isymwybodol, fel coral reef dan y dŵr, ac yna y daw y dydd pryd yr ymddengys uwchlaw arwynebedd y dŵr, h.y., pan gyfyd i'r ymwybod.

Yr hyn sydd yn sicr yw bod y cyfnod olaf yn gwblhad o'r blaenaf (er ei fod eto heb ei gwblhau), yn fwy uchel—wrthrychol am ei fod yn fwy dwfn—oddrychol ac ar yr un pryd yn fwy llydan ac amlochrog.

Yn un peth, dug y profiadau a ddisgrifiwyd yn y bennod flaenorol fi i sylweddoliad o'r Ysbryd Glân fel gallu diriaethol yn cynhyrchu effeithiau teimladwy (tangible) yn fy natur, a oedd yn wahanol nid yn unig i'r athrawiaeth amdano mewn llyfrau diwinyddol a phulpudau (pan gyfeirid ato o gwbl), ond hefyd i'r gwerthfawrogiad mwy profiadol a gawswn o Grist. Nid llawer o le a gaffai'r Ysbryd Glân yn anerchiadau Drummond—o leiaf, ei bwyslais cyson ar bresenoldeb personol Crist a wnaeth yr argraff dyfnaf arnaf i ac a arhosodd gyda mi drwy'r blynyddoedd dilynol—er nad, efallai, mor llywodraethol ag y dylasai fod. Yr wyf yn cofio bod dysgeidiaeth y pregethwyr a ddaeth i'r dref oddi wrth Mr. Reader Harris, ynghylch angenrheidrwydd help yr Ysbryd, yn fy nharo'n newydd a dieithr. Y cwbl a wnaeth, serch hynny, oedd agor fy meddwl i bosibilrwydd profiad na feddwn i ar y pryd, a'm paratoi felly, i ryw fesur, ar ei gyfair pan ddaeth. "I ryw fesur" yn unig, gan fod yn fy meddwl y rhagfarn yn erbyn profiad o'r fath a gynhyrchir gan ymgyflwyniad cyson i astudiaeth haniaethol. 'Rwy'n cofio dweud mewn seiat ar y pryd bod Ysbryd Duw yn gyffredinol a chyson weithgar, yn annibynnol ar le am ei fod ym mhob lle, ac yn yr un modd uwchlaw amserau a phrydiau. Yr oedd hyn yn eithaf gwir, ond nid oedd yn un rheswm yn erbyn ei weithgarwch arbennig mewn lleoedd ac ar brydiau, a chaniatau ei fod yn allu personol. Fodd bynnag, fe'm ducpwyd i brofiad o allu felly nad oedd wedi ymddangos yn y cyfnod cyntaf, ac a oedd yn fwy diriaethol nag unrhyw werthfawrogiad o Grist a feddwn y pryd hwnnw, ac yn wahanol i unrhyw nerth ewyllys goddrychol y cefais i brofiad ohono. Ni allwn lai na theimlo fy mod mewn cyswllt ag order arall o nerthoedd; llanwyd yr ymadrodd "nerthoedd yr oes (byd) a ddaw" ag ystyr newydd imi, ac aeth y byd a'r bywyd ysbrydol lawer yn fwy rial ac agos.

Mewn cyswllt â hyn daeth perthynas fywydol organig Crist â'r credadun yn wirionedd byw i mi. Yr oedd hyn eto yn ychwanegiad pwysig at gynnwys y ffydd a nodweddai y cyfnod cyntaf, gan nad âi Drummond ymhellach na'n cymell i sylweddoli bod Crist wrth law "gyda ni" bob amser. Diau y gwyddai am y berthynas ddyfnach nad oeddem ni fyfyrwyr eto'n barod iddi. Nid yn y ffurf o athrawiaeth haniaethol, na chasgliad rhesymegol y cymerth y gwirionedd ei le yn fy meddwl, ond fel canfyddiad neu fewn—welediad uniongyrchol. Yr oedd yn y Testament Newydd, bid siŵr, yn ysgrifeniadau Ioan a Paul yn arbennig, ond yn awr y cerddodd allan o lyfr i ddeffro fy ngwerthfawrogiad ohono. Gallaf fentro dweud ei fod ar ôl hyn yn fy mhrofiad, os yw sylweddoli peth yn fyw iawn yn ei wneuthur yn rhan o brofiad. Ond y mae'n dra sicr nad oedd yn eiddo imi i'r graddau y credwn ei fod ar y cyntaf, gan fy mod wrth y gwaith o geisio'i sylweddoli'n fwy o hyd. Ni allaf fynd ymhellach na thystiolaeth un o ddychweledigion y Parch. W. J. Smart yn ei lyfr Triumphs of His Grace: "I gave what I knew of myself to what I knew of Christ "—tystiolaeth sy'n awgrymu bod pethau ynom ni ein hunain na wyddem amdanynt pan gredasom yng Nghrist, ac uchterau ynddo Yntau yn gwneud gofynion pellach arnom nas datguddiwyd inni ar y pryd.

Yng nghyfnod fy athronyddu, nid wyf yn cofio i mi gael fy mlino gan "galon ddrwg anghrediniaeth yn ymado oddi wrth "Dduw Byw"—yr oedd hyd yn oed Green yn synied am Dduw fel "Hunan—ymwybyddiaeth dragwyddol" yn ei hatgynhyrchu ei hun mewn dyn. Ond yr oedd tuedd i bwysleisio'r ochr ddynol ym mhob gwybodaeth, a'i gwneuthur yn fwy o ddarganfyddiad na datguddiad, ac i gyfyngu Duw i weithgarwch cyffredinol yn neddfau Natur ac Ysbryd a'i amddifadu o allu i ddarostwng y deddfau hynny i amcanion neilltuol deallus a daionus, a gorchfygu amgylchiadau a rhwystrau—yr hyn a wna dyn hyd yn oed yn ei fyd ac a'i praw ei hun yn berson drwy wneud hynny. Daeth yr ochr yma i natur Duw, a aethai dan gwmwl, yn ôl i eglurder, a gwelais ei fod yn ddigon Byw o hyd i ddal awenau'r bydysawd a darostwng balchder dyn, ac yn ddigon Mawr i deimlo diddordeb mewn unigolion ac i'w hachub a'u harwain. Ar yr un pryd cefais olwg lawnach ar Ei gariad, ac ar Aberth Crist—eithr nid fy amcan yn awr yw ysgrifennu fy nghredo lawn, pe gallwn: credaf fod digon wedi ei ddweud i ddangos bod y cyfnod olaf, tra'n parhau ar linell y blaenaf, yn radd (stage) bellach ohono, ac fel y cyfryw yn fwy cyflawn a chyfoethog.

IX

PAN ddaeth diwygiad 1904—5, gwyddwn rywbeth, fel y dengys yr ysgrifau blaenorol, am nerthoedd ysbrydol fel pethau gwahanol o ran eu natur a'u heffeithiau i'r gwirioneddau deallol y bûm yn gyfarwydd â hwy; er hyn oll, pan ddechreuodd ei hanes ymddangos yn y papurau, ni wyddwn yn iawn beth i'w wneud ohono. Nid oeddwn yn gyfarwydd â hanes diwygiadau, hyd yn oed diwygiad 1859—60; yn unig clywswn gyfeiriadau ato, a rhai o'i nodweddion yn awr ac yn y man.

Fodd bynnag, teimlwn ddigon o ddiddordeb yn yr hanes a ddechreuodd ymddangos yn Nhachwedd, 1904, i'w ddarllen yn eiddgar, a'i ddarllen y peth cyntaf yn y papur dyddiol. Erbyn gwyliau Nadolig, 1904, yr oedd fy awydd i ddod o hyd i ryw egwyddor o unoliaeth yng nghymhlethrwydd yr hanesion a ymddangosai yn ddigon cryf i'm harwain i dreulio'r gwyliau i astudio'r mater, eithr nid drwy fynd i Forgannwg ar y cyntaf, ond i dawelwch Castellnewydd Emlyn; ac euthum o gylch llyfrgell y coleg y diwrnod cyn gadael i chwilio am lyfrau a'm helpai. Dywedais "chwilio ", er nad dyna'r gair iawn yn hollol, gan na wyddwn yn bendant am un llyfr a'm cynorthwyai. Ond yr oedd gennyf ryw fath o gred isymwybodol, er na wyddwn ddim am " arweiniad," yr arweinid fi rywsut at lyfr neu lyfrau o'r fath. Ac yn sicr, hynny a ddigwyddodd; o leiaf, gosodais fy llaw ar ddau lyfr a fu o help mawr i mi y pryd hwnnw, ac yn ôl llaw, sef Nature and the Supernatural gan Bushnell, a hen lyfr tua chanmlwydd oed, yn cynnwys hanes diwygiadau America a'r wlad hon yn y ddeunawfed ganrif. Dechreuais ddarllen y blaenaf yn ei ddiwedd, am mai yno yr oedd mwyafrif y ffeithiau y seilid damcaniaeth y llyfr arnynt, neu ynteu a eglurebai y ddamcaniaeth. Eto y prif wasanaeth a roddodd y gyfrol i mi oedd fy arwain at yr awdur a'i weithiau eraill, a fuont i mi yn drysordy o ddoethineb a gwelediad ysbrydol yn ddiweddarach. Am y llyfr arall ar hanes yr hen ddiwygiadau, gellir casglu sylwedd y cyfarwyddyd a gefais ynddo i un frawddeg a ddigwydd ynddo droeon ac a bwysleisir gan y sawl a'i hysgrifennodd, sef "Conviction is not conversion." Wedi dod yn ôl o'm gwyliau, deuthum o hyd i ddarlithiau Finney ar ddiwygiadau, a chael allan ei fod ef yn gosod awakening o flaen conviction, a baptism of the Holy Spirit ar ôl conversion. Fel hyn deuthum o hyd i linyn neu linell arweiniol drwy gymhlethrwydd y ffenomenau—llinell a barai fod y deall, y teimlad, y gydwybod, a'r ewyllys yn syrthio i'w lle, o leiaf yn ddeallol i mi.

Cofiaf yn dda fod tuedd ynof i ddisbrisio'r hanesion a gyhoeddid ar y cyntaf, a chael help i beidio â'u dibrisio nes cael praw i'r gwrthwyneb o ddau gyfeiriad annisgwyliadwy, sef Shakespeare a rhesymeg! Os gwir a ddywaid Shakespeare, "The devil can quote Scripture," dywedai fy mhrofiad i yr adeg hon, "The Spirit can quote Shakespeare," canys gwisgwyd y llinellau cyfarwydd

There are more things in heaven and earth, Horatio,
Than are dreamt of in our philosophy;


â nerth argyhoeddiad i mi; ac ar yr un pryd yr egwyddor a arferwn bwysleisio wrth ddysgu Rhesymeg Gasgliadol (Inductive Logic) yn y dosbarth: "Facts first, theories then "—un o'r ychydig droeon y bu rhesymeg dechnegol o help ymarferol i mi. Credaf mai'r pryd hwn, ac yna ymlaen i'r diwygiad, y deuthum i weld pwysigrwydd yr egwyddor hon mewn perthynas â diwinyddiaeth yn arbennig, mewn perthynas, er enghraifft, â phersonoliaeth yr Ysbryd Glân, ail-enedigaeth, gallu gweddi, etc.; ac i weld hefyd fy mod i fy hun wedi bod yn euog o seilio fy nghred ar ddamcaniaeth haniaethol, ac " esbonio ymaith" ffeithiau na chydgordient â hi.

Felly, i fod yn gyson, gwelais y dylaswn wneuthur praw ac ymweld â'r mannau yr oedd y diwygiad yn ei rym ynddynt. Yn unol â hyn, pan oedd gennyf ymrwymiad yn Ebeneser, Abertawe, a deall bod y diwygwyr yn y Pentre (Rhondda) y Sadwrn, euthum i fyny yno erbyn oedfa'r prynhawn. Nid oedd Siloh'n agos llawn, na'r cyfarfod i fyny ag eraill y darllenaswn amdanynt mewn grym a hwyl. Y peth a wnaeth fwyaf o argraff arnaf oedd gwaith merch ieuanc heb nemor ddim llais—yr oedd hi wedi ei dwyn at Grist yn ystod y diwygiad, a'i thanio â sêl i ennill eraill nes dihysbyddu ei hadnoddau nerfol a'i llais yn adrodd yr emyn, "There is a fountain filled with blood," etc., gydag effeithiolrwydd a barai i mi edrych heibio ei ystyr llythrennol a oedd ac y sydd yn destun beirniadaeth" doethion y byd hwn," a minnau yn eu plith. Yr oedd Bethesda yn yr hwyr yn orlawn ymhell cyn amser dechrau, ac felly cychwynnais am Abertawe drwy gerdded i orsaf Treorci. Nid wyf yn cofio bod dim wedi ei ddweud yng nghyfarfod Siloh i beri i mi feddwl am fawredd dwyfol yr Arglwydd Iesu, heblaw yr emyn uchod, ond cofiaf yn glir iawn mai dyna destun fy myfyrdod yn ystod yr amser y bûm yn cerdded i fyny ac i lawr llwyfan yr orsaf, mewn ymgais i amgyffred ei led a'i hyd, ei ddyfnder a'i uchder. Nid wyf yn cofio ai dyna fy nhestun yn Abertawe, ond arferai Mr. David Lloyd, Killay, a oedd yn ddiacon yn Ebeneser y pryd hwnnw, ddweud iddynt gael blaen adain y gawod yno'r Sul hwnnw. Ym Melincrythan, bythefnos yn ddiweddarach, y gwelais i effeithiau y nerth ysbrydol a wnâi gynulleidfaoedd yn gyfryngau iddo'i hun gyntaf. Dywedaf" gwelais " yn hytrach na teimlais," gan na theimlwn i fel y rhai a gymerai ran, niferi o fechgyn a merched, ond yr oeddwn yn gallu cydymdeimlo i fesur, a phlygu fy mhen dan yr ystormydd o fawl a gweddi a ysgubai drwy'r oedfa. "Dim ond emosiwn," meddai rhai beirniaid amddifad o brofiad a gwybodaeth feddylegol yr un pryd—yr olaf am y gwnâi meddyleg iddynt ystyried bod achos meddyliol i emosiwn, a'r blaenaf am y byddai'n eglur iddynt mai'r gwerthoedd a achosai emosiwn mawr y diwygiad oedd gwirioneddau yr Efengyl yn y ffurf o ganfyddiadau uniongyrchol. Nid oedd nemor sôn amdanynt fel erthyglau mewn cyfundrefn ddiwinyddol, ac nid oedd eisiau, gan eu bod yn sylweddoledig gan y saint symlaf, yn fara'r bywyd i gyfranogi ohono, yn hytrach nag yn bwnc i ddadlau yn ei gylch.

"Ysbryd y gwirionedd " a oedd yn weithgar yn y diwygiad a barodd i gantores ifanc na wyddai nemor ddim am ddiwinyddiaeth, ond a feddai ar fam dduwiol i ddatgan gorfoledd ei henaid yn emyn Hiraethog,

Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli,

a'i wneud yr un pryd—yr hyn na wyddai hi—yn brif fynegiad gwirionedd y diwygiad, ac yn brif gyfrwng ei foliant. Nid i bawb, yn ddiau ychydig, y mae'n debyg, a gyffyrddid yn ddwfn ac arhosol, tra y cyffyrddid ag eraill na fynnent roddi'r Engine-room i Grist yn ymylon eu natur yn unig.

"Ai ychydig yw y rhai cadwedig, Mr. Evans?" meddai'r Parch. Rees Morgan, Llanddewibrefi, wrthyf un prynhawn Sadwrn, gyda'm bod yn cymryd fy sedd yn ei ymyl yn y trên yng Nghaerfyrddin.

"Wel," meddwn innau, ar ôl munud o ystyriaeth, "y mae un mwy na mi wedi gwrthod ateb y cwestiwn yna yn bendant; pam 'rych chi'n gofyn ?" "Y mae gennym ni gwrdd gweddi undebol yn ardal Tregaron, ac yr oedd gennym un yr wythnos ddiwethaf, a chymerodd gwraig gyffredin ei dysg a'i gallu ran, ac os bu un yn ysbrydoledig erioed, teimlai pawb ei bod hi felly y nos honno. Y mae gennym henwr trigain oed, wedyn, sydd fel un o broffwydi'r Arglwydd ar y bryniau acw: y maent hwy'n amlwg—fel saint yr Eglwys fore y mae gennym hanes amdanynt yn yr Actau—yn gadwedig; ond beth am yr ugeiniau o aelodau eraill sy'n bobl dda hyd y gallwn weld, yn foesol eu buchedd, yn helpu cynnal yr achos, ond heb unrhyw brofiad ysbrydol arbennig?" Yr oedd hyn tua diwedd 1905, pan oedd y penllanw mawr yn treio, gan adael y llongau a oedd yn rhwym wrth y glennydd, neu ynteu, na chodasant eu hangorau o laid y byd, ar ôl.

Tua'r pryd hwn y galwyd fi i wasanaeth y diwygiad, neu, o leiaf, y rhoddwyd i mi gyfleusterau i fod o ryw wasanaeth. Dywedaf "galwyd " am na ddaeth i'm meddwl yn flaenorol y gallwn fod o un help yn yr amgylchiadau. Nid oeddwn yn bregethwr cyrddau mawr—dim ond tipyn o athro yn y pulpud fel yn y dosbarth; ond cefais fy ngwahodd i gyrddau i fyny ac i lawr y wlad a chyhoeddi'n bennaf, "Conviction is not conversion "—" "Nid yw argyhoeddiad yn droedigaeth "—ac ychwanegu "na deffroad chwaith eto yn argyhoeddiad." Bu'r datganiad hwn yn help i lawer, fel i mi fy hun yn flaenorol, ond yn fwy o help ymarferol iddynt hwy; oblegid yr oedd lluoedd o fechgyn a merched wedi bod ar frig ton o orfoledd am yn agos i flwyddyn, a phan oedd y gorfoledd yn pallu yn ceisio ei adfeddiannu yn gelfyddydol, heb deall bod yr Ysbryd Glân am fynd drwy'r dychymyg a'r emosiwn at y gydwybod i gynhyrchu argyhoeddiad, a thrwy'r gydwybod ar yr ewyllys i arwain i droedigaeth. Ymhlith mannau eraill, cofiaf yn dda am gyfarfod ym Mrynteg, Gorseinon, a anerchid gan y Parch. W. W. Lewis a minnau, a degau o bobl ieuainc ar yr oriel yn aros ar y diwedd i'w cyflwyno eu hunain i Grist, ac wedi eu cyflwyno eu hunain yn adfeddiannu'r llawenydd a gollasant, a mwy. Y maent yn aros hyd heddiw yn hardd a gwasanaethgar gydag achos eu Harglwydd.

Nid pawb, o gryn lawer, oedd yn barod i ufuddhau, a gwneud hunanfoddhad canu yn iswasanaethgar i ufudd-dod. Y canlyniad a fu iddynt golli hwyl canu ysbrydol maes o law. "A gymrwch chi lwmp arall o siwgr yn eich tê, Mr. Evans, i gael gweld a ellir melysu ychydig arnoch ?" meddai Mrs. Bowen, Penygroes, wrthyf un tro, pan oeddwn wedi bod yn pregethu ar " ffrwythau'r Ysbryd," a phwysleisio'r angen am ddwyn ffrwyth. Dynes ragorol oedd hi, ond ar y pryd yn mwynhau nofio mewn cariad a hedd." Dichon fy mod innau wedi bod yn annoeth, a thorri ar draws neu fynd yn erbyn llif llawenydd y cwrdd. Nid pawb oedd yn gwrthwynebu mewn dull mor gwrtais. Credaf mai'r tipyn gwasanaeth a ellais ei roddi ar y llinellau hyn oedd mewn golwg gan y Parch. Dyfnallt Owen pan ddywaid (yn llawlyfr yr Undeb yng Nghaerfyrddin): Galwyd ef yn bennaf i efengylu, a gwasanaethodd ei genedl yn arbennig trwy gyfeirio dylanwad diwygiad 1904—5 i diriogaeth y gwir fywyd ysbrydol."

Wedi i mi bregethu yng nghapel yr Annibynwyr yn Llandrindod ar y Sul cyn y Convention un flwyddyn, daeth boneddwr ymlaen ataf a gofyn, "A ydych chwi'n nabod rhywrai eraill yng Nghymru sy'n pregethu Crist, ac nid pregethu pregethau ?" Yr oedd y cwestiwn yn newydd a dieithr i mi, ond wedi gweld ei bwynt enwais nifer o'r cwmni a fu yn Keswick y flwyddyn honno.

Mr. W. P. Roberts, Llundain, oedd y gŵr hwn, un a dderbyniodd fendithion ysbrydol arbennig ei hun, ac a ddymunai ddangos ei ddiolchgarwch drwy ddefnyddio rhan o'i gyfoeth i'r amcan o arwain "plant y diwygiad" drwy Gymru i brofiad dyfnach o ras Duw, drwy drefnu conventions mewn trefi ac ardaloedd poblog, pe le bynnag y byddai drysau'n agor. Cynhaliwyd degau o'r cynadleddau hyn, a barhaent fel rheol am dri neu bedwar diwrnod, ambell waith am wythnos, yn Ne a Gogledd Cymru, a chafwyd tystiolaethau lawer i'r bendithion a dderbyniwyd gan bobl ymchwilgar a disgwylgar ynddynt. Bûm yn y rhan fwyaf ohonynt gyda phedwar arall (yn bennaf), sef y Parchn. W. W. Lewis, W. S. Jones, R. B. Jones, ac O. M. Owen. Ni wn paham y dewiswyd y rhai hyn yn hytrach nag eraill, ond gwelir eu bod yn cynrychioli'r tri enwad, ac yr oeddynt hefyd yn gyfarwydd â siarad yn y ddwy iaith, yr hyn oedd yn fantais os nad yn anghenraid. Nid oedd y gair team mewn bri yn grefyddol eto, ond yn sicr yr oeddem yn team" delfrydol ymron, os perffaith unoliaeth mewn amrywiaeth sy'n gwneud team. Yr oeddem oll mor llawn o'r un ysbryd, mor ufudd i'r un Meistr, ac ym mhob oedfa yn ceisio yr un amcan, a hwnnw'n amcan tu allan i ni ein hunain, fel y bu perffaith gytgord rhyngom yn ystod blynyddoedd y cynadleddau. Nid aem ag amser ein gilydd, ond os digwyddai bod arddeliad neilltuol ac amlwg ar genadwri un siaradwr, yr hyn a wnâi'r ail fyddai cymhwyso ei gwers neu ei gwersi mewn anerchiad byr a phwrpasol. Cyfnod "symlrwydd tuag at Grist" oedd y cyfnod hwnnw—yn ddiweddarach daeth cymhlethrwydd ffyndamentaliaeth i rwystro'r hen gydweithrediad er nad i ddinistrio'r hen gyfeillgarwch yn y dwfn.

Un o gynhyrchion eraill y diwygiad y bu i mi ryw berthynas ag ef oedd "Cerbyd yr Efengylydd," cerbyd a âi o gylch y wlad â chenhadwr ynddo i bregethu Crist yn yr awyr agored. Ai un o'r pump uchod, ac eraill yn eu tro, i helpu'r cenhadwr am tuag wythnos —weithiau am bythefnos, pan fyddai cynnydd y cynulleidfaoedd yn gofyn am hynny. Felly y bu, 'rwy'n cofio, yn Nhregaron: ni wyddai preswylwyr y conglau pellaf am y cerbyd ar y cyntaf, ond cyn diwedd yr wythnos aeth y sôn i'r bryniau, fel gynt "dros fryniau Dewi," fel ag i ddwyn cymanfa at ei gilydd erbyn nos Sul, a gofyn i'r cerbyd aros wythnos yn hwy. Un noson a fwriadem ei rhoddi i Aberarth ar ein ffordd i Aberaeron, ond bu raid inni aros dros nos Wener; a'r nos honno—noson braf yn naturiol ac ysbrydol—wedi diweddu'r oedfa, yr oedd fel pe buasai to anweledig wedi dod i'n cysgodi, ac ni fynnai'r bobl ymadael, fel y bu raid inni gael seiat—seiat a agorwyd gan hen wraig 80 oed o Lannon, a ddaethai at Grist yn niwygiad 1859—60.

Ni chaem un tâl drwy gynhadledd na cherbyd, ond llety a bwyd—a thâl y Tad mewn llawenydd a thangnefedd na all aur ac arian eu prynu.

Aeth y llanw â mi i ffwrdd oddi wrth gysylltiadau coleg ac eglwys o leiaf, yr oedd fy eglwys yn caniatáu i mi lawer iawn o ryddid ar yr amod fy mod yn rhoi cyfran o'm gwasanaeth iddi hi. Nid oedd ball ar bregethau ar gyfer oedfaeon a chenadaethau; diflannodd ofn "gwywdra meddyliol" fel lledrith nos. Yr oedd y pregethau o leiaf yn fyw—yn tyfu fel planhigion byw yn hytrach na chael eu hadeiladu fel tai neu eu gwneuthur fel byrddau. Mynnai rhai o'm cyfeillion, Rhys J. Huws yn arbennig iawn, i mi eu cyhoeddi, ond er i mi gael cynnig da gan firm adnabyddus, ni wneuthum. Drwg gennyf hynny yn awr, gan eu bod wedi mynd o'm cof, o ran eu manylion, ag eithrio dwy neu dair.

Y mae digon wedi ei ddweud i ddangos bod llwybr fy mhererindod yn ystod y blynyddoedd ar ôl y diwygiad yn mynd â mi drwy leoedd hyfryd iawn, ar ben y bryniau yn aml, ac yna i borfeydd gleision ar lan dyfroedd tawel.

Ni allaf fesur nac angyffred dylanwad y blynyddoedd hyn arnaf, er y bydd yn rhaid i mi gyfeirio ato yn y bennod nesaf; ond y mae rhai pethau a ddysgais ynddynt yn sefyll allan yn eithaf clir yn fy meddwl; er enghraifft, dysgais fod yr Iddew deddfol am groeshoelio'r Crist grasol o hyd; mai peth anodd iawn yw deffroi dyn deddfol, sy'n rhwym mewn ffurfiau a dogmâu; mai anos fyth yn aml yw cael gan ddyn deffroedig i blygu ei ewyllys i Dduw; ac mai'r prif rwystr i ufudd-dod ar ran plant ysbrydol—fel y dywaid Paul, John Wesley a Phantycelyn—yw balchder, gwag-ogoniant. Gwelais hefyd fod yr "hen ddyn" mor hagr mewn gŵn academig ag mewn corduroy, a Christ mor hardd mewn corduroy ag mewn gŵn academig.

X (a)

DYWEDAIS yn y bennod ddiwethaf na allwn fesur na dyfalu maint yr effaith a gafodd dylanwadau grasol y diwygiad arnaf, ond gallwn fod yn sicr bod gwasanaeth, i'r graddau y mae yn bur ei amcan, yn adweithio'n ddaionus ar y cymeriad. Y prif rwystr a deif gwaith cyhoeddus cyson yn ffordd dyfnhad y bywyd ysbrydol yw ei fod yn cwtogi oriau myfyrdod a gweddi. Ni bûm yn euog, fodd bynnag, o adael iddo ymyrryd â'r olaf, gan ei fod mor angenrheidiol i'r gwaith â bwyd a diod i'r corff, ac nid oeddwn mor ddiwyd fel ag i fod yn esgeulus chwaith o'r blaenaf.

Ni wn i ba raddau y mae gweinidogion yr Efengyl yn gweithio ar ddwy lefel grefyddol, ond bûm i'n gorfod gwneud hynny wedi i lanw mawr y diwygiad dreio, am y cawn fy arwain i diriogaethau nad oedd "plant y diwygiad" yn gyffredin, gartref yn gystal ag oddi cartref, yn mynd nac am fynd i mewn iddynt. Gadawodd cwrs fy mhererindod ei ôl ar silffoedd fy llyfrgell aeth hon, yn raddol, fel mi fy hun, yn fwy ysbrydol (yn yr ystyr gyfyng) ei nodwedd, a bu raid i lyfrau ar athroniaeth a'r cyffelyb gilio naill ochr, a rhoddi eu lle i lyfrau ar ochr brofiadol y bywyd Cristnogol (yn fwy nag ar ei ochr ddamcaniaethol).

Dug y diwygiad, ar ei donnau cyntaf ymron, lu o lyfrau a llyfrynnau i'r wlad, a dug i sylw eraill a fu'n boblogaidd yn amser y tadau, ond nad oeddent yn adnabyddus i ni—y mwyafrif mawr yn ymwneud â bywyd yr ysbryd. Ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd yr oedd llyfryn J. Macneil (Awstralia) ar The Spirit—filled Life; Quiet Talks on Power S. D. Gordon; llyfr bychan ar yr Ysbryd Glân, gan A. J. Gordon, a gymeradwyid yn neilltuol gan Dr. Pierson; The Baptism of the Holy Ghost gan Asa Mahan, etc. Ymddangosodd llyfr Dr. Horton, The Open Secret, yn 1904, a bu hwnnw'n foddion i arwain llawer ohonom at Imitatio Christi Thomas a Kempis, Llythyrau Samuel Rutherford, Holy Living and Holy Dying Heremy Taylor, a Serious Call William Law. Drwy ryw fodd neu'i gilydd daeth hanes bywyd Madam Guyon i mewn i gylch Caerfyrddin, ac aeth hwn â ni i mewn i gysegrfeydd dieithr iawn, a dangos inni fod i'r bywyd newydd yng Nghrist rai aros-fannau hyd yn oed ar y llawr. Drwy'r cofiant hwn gan Dr. Upham, arweiniwyd fi i ddarllen gweithiau eraill yr awdur ar Divine Union, The Life of Faith, etc., y rhai sy'n ymdrin â'r egwyddorion a oedd yn weithgar ym mhrofiad Madam Guyon. I gadw cydbwysedd rhwng yr ochr ddwyfol a'r ochr ddynol i brofiad Cristnogol diledryw, bu pregethau Bushnell, yn neilltuol ei Sermons for the New Life a Christ and His Salvation, ac yna lyfrau Dale ar yr Effesiaid a'i The Living Christ and the Four Gospels o help mawr.

Amhosibl yn absenoldeb cofnodion fyddai treio olrhain llwybr fy mhererindod yn y gweadwaith o lenyddiaeth sydd wedi ymffurfio o gylch y bywyd ysbrydol, y naill lyfr yn arwain at arall, a thrwy hwnnw at eraill, heb ball. Eto, y mae'n amlwg mai ffordd fer sydd oddi wrth Madam Guyon at Santa Teresa, y ddwy Gatrin (o Sienna a Genoa), St. Ioan y Groes, ac eraill. Yr oedd i mi swyn mawr yn hanes a gweithiau y rhain, am, efallai, y teimlwn fy mod yn eu dilyn o bell, ac o leiaf yn gallu gwerthfawrogi yr hyn a ddywedent, a chael budd yn gystal a mwynhad ynddo. Yn ddiweddarach, yr wyf wedi darllen beirniadaethau condemniol arnynt, gan ddiwinyddion yn bennaf, o Ritschl hyd Barth, ond beirniadaethau sydd i'm tyb i yn dangos nad ydynt yn eu deall, ac yn cyfrif y diffyg yn eu profiad eu hunain yn braw o ddiffyg ym mhrofiad y cyfrinwyr. Credaf fod Deissmann, yn ei lyfr The Religion of Jesus and the Faith of Paul (tud. 196 ff.) yn gosod ei fys ar y geudeb y maent yn euog ohono.

Er hyn oll, y mae tuedd mewn darllen hanes y cyfrinwyr pennaf, a hyd yn oed eu hymdriniadau â chyfrinion y bywyd ysbrydol, i ennyn y dychymyg ar draul esgeuluso amodau moesol y profiadau a ddisgrifir, fel yr oedd perygl i Paul gael ei dra-dyrchafu gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau a gafodd ef (bid siŵr, nid rhai ail-law oedd yr eiddo ef). Lleihawyd y perygl hwn i mi drwy i un o lyfrwerthwyr Caerfyrddin brynu llyfrgell Canon Jenkins, Llangoedmor, a oedd yn Rhydychen yn amser Newman ac a ddaeth dan ei ddylanwad. Ymhlith ei lyfrau yr oedd nifer o'r rhai a gyhoeddwyd ynglŷn â'r mudiad hwnnw yn ymdrin ag ochr erwin (austere) y bywyd ysbrydol, megis Yr Ornest Ysbrydol gan Scupoli, Ymarferiadau Ysbrydol Loyola, Perffeithrwydd Ysbrydol Rodriguez, ac amryw o weithiau Pêre Grou. Cefais ras i ddechrau darllen y llyfrau hyn, a blas cynyddol wrth ddarllen ymlaen a cheisio byw i fyny â hwy. Darllenais ddwy gyfrol Rodriguez yn ofalus, ac yr oedd eu gafael arnaf mor fawr, a'r argraff a roddent o rialiti bywyd ysbrydol a phwysigrwydd ufudddod mor effeithiol, fel na chawn flas mwyach ar y llyfrau deallol cyffredinol, damcaniaethol, a gyhoeddid gan gwmnïau James Clarke, Hodder & Stoughton, a'r cyffelyb; yr oedd darllen y rheiny fel yfed maidd ar ôl medd, neu ddod i lawr i awyr dawchlawn y cwm o ganol ozone y bryniau.

Darllenais droeon fod mynychu cyfarfodydd pregethu (conventions, etc.,), ac ymateb yn deimladol i'r gwirioneddau a bregethir, heb fod hyn yn arwain i weithgarwch ewyllys, yn cynhyrchu ysbrydolrwydd gwagsaw a dibennu mewn hunan-foddhad (self-indulgence) diffrwyth. Ond ni chredaf fod y llyfrau uchod yn rhoddi un math o gyfleustra i hunanfoddhad felly rhydd eu darllen symbyliad i ymdrech ewyllys newydd neu ynteu i'w taflu o'r neilltu fel pethau anymarferol. Y blaenaf fu eu heffaith arnaf i, ac yr oedd yr awr fore euraid yn peri i'w dysgeidiaeth fynd yn rhan o'm his-ymwybod a phuro ffynonellau cymeriad.

Yn ddiweddarach (tua 1912) y deuthum i gyffyrddiad â gweithiau y Barwn Von Hugel; ond er godidoced ei ymdriniadau â phynciau byd yr ysbryd a'i gynefindra ag ymdriniadau eraill, credaf iddo wneud y gwasanaeth pennaf i mi drwy fy nghyfeirio at rai a oedd yn wŷr cyfarwydd (experts) ym myd profiad yn hytrach nag ym myd damcaniaeth, megis y Curé d'Ars, a'r Abbé Huvelin. Yn y modd hwn rhoddodd help llaw i mi i symud ymlaen yn fwy hyderus i gyfnod arall yn fy addysg ysbrydol a gaiff ein sylw yn ôl llaw (Pennod XII).

b

Ar ôl eneinio i bregethu'r Efengyl yn 1904, pylodd y diddordeb o ddysgu damcaniaethau am Grist i fyfyrwyr yn ymyl y diddordeb o ddysgu Crist i bobl ifainc ail-anedig. Arhosodd y canfyddiad a gefais yn Hawen gyda mi, sef mai gwaith yr Eglwys yn llaw Duw yw gwneud dynion, ond gwelais bosibilrwydd dyndod yng Nghrist a rhagoroldeb "ffrwyth yr Ysbryd yn fwy clir a llawn. Cafodd pobl ifainc y Priordy-fel miloedd eraill-fedydd ysbrydol amlwg, a chredais fod yr Ysbryd Glân am ffurfio Eglwys ysbrydol, gynwysedig o aelodau ail-anedig, ar linellau'r Eglwys Fore. Buont yn frwdfrydig a ffyddlon am gryn amser, ac ymddangosent fel yn ymddatblygu mewn ffydd a chadernid yn gystal ag mewn cariad a graslonrwydd. Cawsom lawer o fudd a mwynhad wrth fynd gyda'i gilydd drwy lyfrau megis Y Serchiadau Crefyddol (The Religious Affections) Jonathan Edwards. Yn neilltuol, yr oedd y cwrdd gweddi a'i awyrgylch ysbrydol yn gystal â'r Ysgol Sul yn parhau'n atyniadol. Cof gennyf gwrdd â dau fyfyriwr o Gaerfyrddin yn Keswick, a chael y dystiolaeth ganddynt, "Nid oes eisiau dod i Keswick am awyrgylch ysbrydol o gwrdd gweddi'r Priordy." Arhosodd y delfryd o Eglwys ysbrydol gyda mi am rai blynyddoedd, ond y mae llif amgylchiadau, y rhyfel mawr, ysbryd yr oes, a daearoldeb cynhenid dyn wedi chwalu fy ngobeithion mewn perthynas â'r Eglwys leol, ond nid mewn perthynas â'r Eglwys fawr yn y nef ac ar y llawr." Aeth rhai oddi wrthym i leoedd eraill, a llawenydd yw clywed eu bod yn ganolbwyntiau o ddylanwad ysbrydol yn eu cylchoedd. Ond oerodd cariad llawer, a chyda galar rhaid i mi fynegi fy marn mai ychydig yw nifer y rhai sy'n estyn eu gwraidd wrth yr afon, a gorchfygu blynyddoedd sychder ac anffrwythlonrwydd felly, yn lle dibynnu ar gawod o law yn awr ac yn y man, er gwerthfawroced honno.

Diau fod llawer o'r bai yn gorwedd wrth fy nrws i, er na wn beth yw. Gwn fy mod yn analluog i gasglu pobl anianol at ei gilydd, a'u galw yn eglwys. Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl oherwydd yr anallu hwn, y sydd i'm tyb i yn ochr arall canfyddiad o ystyr a gwerth Eglwys y Duw byw. Yn sicr, arwydd o ddirywiad marwol a chwarae i ddwylo cnawd a byd yw ein bod yn gwneuthur cadw rhif yr aelodau i fyny yn brif safon llwyddiant crefyddol. Beth a ddywedid am arddwr a gyfeiriai at gyflawnder o chwyn yn ei ardd fel praw o fedr garddwrol? Bid siŵr, bydd efrau o hyd yn gymysg â'r gwenith, ond peth arall yw cyfrif hynny'n ystad foddhaol, neu yn safon llwyddiant. Yn ôl Luc xiv, 25 ff., yr hyn a ddylai ein blino ymlaenaf yw nid bod mwyafrif y bobl y tu allan i'r Eglwys, ond bod mwyafrif y rhai sydd i mewn yn ddieithr i fywyd Duw. Yn wir, euthum i Rydychen i gyfarfodydd y Grŵp yn 1933, nid yn unig oblegid bod eu golygiad ynghylch yr angen am berthynas bersonol â Christ, yn hytrach na chydsyniad ag athrawiaeth amdano, yn apelio ataf, ond i geisio darganfod a oedd ganddynt ryw allu, neu gyswllt â gallu, na feddwn i arno, i helpu bechgyn a merched anianol i "droi " mewn gwirionedd. Yr unig beth a ddysgais oedd bod Ysbryd Duw'n gallu grymuso ewyllys y sawl sydd o ddifrif heb help emosiwn brwd; yn wir, bod emosiwn yn rhwystr i'r graddau y caiff ei ffordd i fod yn feistr yn hytrach nag yn was.

Gyda golwg ar blant eraill y diwygiad, y mae'n achos tristwch i mi bod llawer ohonynt wedi ymgaregu yn llythyren yr athrawiaeth ac fel "pabau bach "

yn condemnio'r neb na dderbynio'r ffurf o gyfundrefn ddynol a goleddant hwy. Ymddengys'eu bod yn yr un cyflwr hunan—dybus â Theomemphus pan oedd hwnnw yn " barnu plant ei fam, eu barnu weithiau'n union, a'u barnu weithiau'n gam." Nid yw ffrwyth da yn braw o bren da iddynt hwy, gan ei bod o hyd yn bosibl i fwrw allan gythreuliaid drwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid!

(c)

Er yn analluog i wneud defnydd pregethwrol o'm myfyrdodau a'm canfyddiadau ar y lefel uchaf—fel yr awgrymwyd yn nechrau'r bennod—yr wyf wedi dal ymlaen i bregethu'r pethau hanfodol yn ôl y goleuni a gefais yn y gred nad oes un gwirionedd a heuir mewn ffydd yn peidio â dwyn ffrwyth, er na wêl yr heuwr mohono. Felly y bu McCheyne yn hau had Gair yn ei eglwys, a W. C. Burns yn dod yno i fedi'r ffrwyth. A phe cawn ail-gychwyn fy ngweinidogaeth yn awr, gyda'm profiad presennol, byddai'n rhaid i mi bwysleisio'r un gwirioneddau ag a wneuthum o'r diwygiad ymlaen, megis mai perthynas bersonol â Christ, ac nid cydsyniad deallol â'r athrawiaeth amdano, sydd yn oll-bwysig; bod pob gwybod i fod yn is-wasanaethgar i adnabod Duw; bod emosiwn yn was da ond yn feistr drwg, a'r cyffelyb; a hynny am mai yr un yw y diffygion crefyddol—gyda gwahaniaeth arwynebol—o oes i oes. Un o'r eilunod mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw " y wybodaeth ddiweddaraf"; o ran hynny, y mae tuedd mewn ieuenctid dibrofiad ym mhob oes (felly yr oedd yn fy amser bore i) i hunaniaethu crefydd ag opiniynau neu ddamcaniaethau dynol newydd, yn hytrach nag â'r gwirioneddau tragwyddol sydd yr un o hyd yn eu hanfod er yn gyfaddasedig i ofynion pob oes.

Y mae categorïau gwybod, deddfau rhesymeg, hanfodion moesoldeb, amodau cyfeillgarwch, yr un heddiw ag oeddent i Aristotle, er y gall ein hamgyffrediad a'n gwerthfawrogiad ni ohonynt fod yn fwy (neu lai) digonol. Y mae hyn yr un mor wir am wirioneddau crefydd, o'u gwahaniaethu oddi wrth syniadau amdanynt.

Diau y bydd yn achos chwithtod i rai o'm cyfeillion pan ddywedwyf nad oes gennyf yn awr, yn niwedd y dyddiau, un sistem ddiwinyddol ond y sistem sydd ymhlyg yn y Beibl, yn neilltuol yn nysgeidiaeth yr Iesu. Efallai ei bod yn angenrheidiol i'r meddwl dynol dreio gwahanol gategorïau annigonol cymwys yn unig i diriogaethau Natur, Gwladwriaeth, etc., a thrwy weld eu hannigonolrwydd ddod yn ôl at gategori y Teulu a ddefnyddir gan yr Iesu. O leiaf, y mae'n rhaid i bob un a brofodd wynfyd ac agosrwydd y berthynas fabol â Duw deimlo bod y sistemau sydd gennym yn rhy gelfyddydol a chyfreithiol, ac nad ydynt namyn gwellt, a defnyddio ffigur Aquinas. Diau hefyd fod pob gwir Gristion, fel y mae yn ymddatblygu mewn " adnabyddiaeth " o Dduw, yn tyfu allan o faban—wisgoedd gwybodaeth ddeallol: gwybodaeth, hi a ddiflanna;" yna wyneb yn wyneb." Yr wyf, bid siŵr, wedi darllen wmbredd o ddiwinyddiaeth o bob math, yn perthyn i bob ysgol, yng nghwrs y blynyddoedd. Y mae llwybr fy mhererindod wedi mynd â mi i Keswick, ac i gyffyrddiad â Mudiad Grŵp Rhydychen, ac ysgol Karl Barth, ac yr wyf wedi derbyn budd a symbyliad drwy hynny, ond cymaint yn aml drwy orfod beirniadu neu wrthod rhai golygiadau â thrwy dderbyn a chymhathu eraill. Ond arferiad cam—arweiniol yn gystal â chamarweiniedig yw hwnnw o osod label ysgol neu fudiad ar y neb a ddaeth i ryw fesur dan eu dylanwad. Ymddengys bod rhai, er enghraifft, yn dweud fy mod i'n perthyn i " ysgol Keswick." Teirgwaith y bûm i yn Keswick o gwbl, a phob tro yn un o gwmni y tybiai cyfaill caredig y gallwn fod o ryw help ynddo: Bûm yn siarad yng nghynhadledd Llandrindod am rai blynyddoedd, ond ni bûm erioed yn gallu llyncu popeth na derbyn pob pwyslais a glywir ar lwyfan Keswick. Yn arbennig, y mae'r ddysgeidiaeth yn rhy cut—and—dried i fywyd cynyddol sydd mewn cyswllt â'r byd ysbrydol. Dichon fod hynny'n anghenraid i "blant " ac yn help dros amser, gan mai math o waith trelis (trelliswork), os coeliwn Harnack, yw erthyglau cred i helpu cynnal planhigyn y bywyd dwyfol. Eto, yr wyf yn hollol gydfynd â'r pwyslais a roddir yno ar ymgysegriad, a'r mottoes, "All one in Christ Jesus a Holiness by Faith "; ac yn sicr y mae awyrgylch Keswick yn fath o awyr y môr" i'r enaid, ac yn werth i bob credadun a gais adnewyddiad fynd i'w hanadlu am wythnos; tra y mae " iechydwriaeth wyneb " y rhai a ddaw yno yn iechyd i'w gweld. Yn yr un modd y mae cyfarfodydd Grŵp Rhydychen a'u hawyrgylch fwy bracing ond llai gwlithog, yn werth mynd iddynt, a dylent fod yn foddion disgyblaeth a gras i bob un diragfarn.

Y mae yr enaid a gyfyd i symlrwydd y berthynas â Duw o'i adnabod yn gadael" ysgolion " a'u gwahâniaethau deallol a labels y cnawd ar ôl. Ymleddir gornestau Ffyndamentaliaeth a Moderniaeth ar wastad is, ac y mae Ef uwchlaw eu mŵg. Yr wyf wedi darllen cryn lawer o waith yr uwch-feirniaid, heb fod hynny'n ymyrryd â'm gwerthfawrogiad o'r gwirionedd. Diau fod agwedd hanesyddol i'r datguddiad dwyfol, ac y mae o fewn cylch ymchwil y deall i geisio olrhain ei amodau; eto, ni ellais i dderbyn casgliadau uwch—feirniaid onid fel rhagdybiau (hypotheses), am y gwyddwn fod yr holl adeiladwaith yn seiliedig ar athroniaeth Hegel. Am y rheswm hwnnw ni bu'r "wybodaeth ddiweddaraf" yn fwgan i'm ffydd, a chefais beth difyrrwch rai prydiau wrth weld y wybodaeth ddiweddaraf" yn gorfod ildio'r maes i bodaeth ddiweddarach." Nid oes drwg yn hyn, daw'r drwg i mewn yng ngwaith rhai dibrofiad "heb fod y gwirionedd ganddynt," yn tybied mai dysg yw duwioldeb yn pregethu damcaniaethau dynol yn lle gwirionedd.

Wrth sôn am bregethu'r gwirionedd, yr wyf am osod y prif bwyslais ar yr ail air gwirionedd, nid am nad yw pregethu o bwys, ond am fod y bregeth a'r pregethu wedi mynd yn amcan yn hytrach nag yn foddion, a phobl yn dod ynghŷd—pan ddeuant—i farnu'r bregeth yn hytrach nag i gael eu barnu gan y gwirionedd. Teimlais hyn yn fawr beth amser yn ôl drwy gael fy arwain i ddarllen cofiant Moody a God in the Slums (Redwood) tua'r un pryd â chofiannau Evan Phillips a Puleston Jones; yn y ddau flaenaf yr oedd y sôn bron i gyd am ddwyn rhai at Grist, ac yn y ddau olaf nemor sôn am hynny, ond llawer am ddawn bregethwrol a chyfarfodydd hwyliog. 'Rwy'n cofio F. B. Meyer unwaith yn cyfeirio at ei ail-eni pregethwrol ef, ei fod yn flaenorol yn amcanu at gyfansoddi pregethau gorchestol, campweithiau diwinyddol a llenyddol " mangificent efforts" y gelwid hwy gan edmygwyr anianol—ond iddo, wedi derbyn ei "ail fendith" wrth droed y Groes, ymwrthod â gwagogoniant godidowgrwydd ymadrodd," "fel na wnelid croes Crist yn ofer."

XI

Ni fyddai hanes fy mhererindod yn ei brif nodweddion yn llawn heb ryw gyfeiriad at ddisgyblaeth afiechyd mewn blynyddoedd diweddar ynddo. Rhwng 1904 a 1924 yr oeddwn yn mwynhau bywyd, ac yn byw hyd yr eithaf o ran meddwl ac ysbryd, yn llosgi'n angerddol rai prydiau, a phan yn llosgi allan yn cael fy ail-gynnau wedyn. Ond nid oedd fy iechyd yn berffaith o lawer. Dylaswn fod wedi gwrando ar rybuddion diffyg cwsg, cur yn y pen, a'r cyffelyb, neu wrando i well pwrpas, canys gwrandawn arnynt i'r graddau o geisio gwaredigaeth oddi wrth eu poen heb ystyried eu bod yn gondemniad ar ormod llafur. Nid wyf yn cofio i mi erioed ddychmygu bod gormodedd yn bosibl gyda'r gwaith o bregethu'r Efengyl—" yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf" —nes i mi orfod peidio yn 1924. Gyda phregethu deirgwaith y Sul yng nghapel y Saeson yn Briton Ferry (lle y gweinidogaethai'r Parch. Gwyn Thomas), yr oeddwn i roddi anerchiad ar Syr Henry Jones i'r bobl ifainc nos Lun. Bwriadwn siarad am tuag awr, ond oherwydd ceisio esbonio egwyddorion delfrydiaeth i rai anghyfarwydd ag athroniaeth, siaredais—heb lawer o "ryddid "—am yn agos i ddwy awr. Ar ôl cwsg anesmwyth, codais drannoeth i fynd yn fy mlaen i'r Porth, lle yr arferwn fynd pan yn yr ardal i helpu'r Parch. R. B. Jones am ddeuddydd gyda'i ysgol. Euthum i'r trên yn ddidrafferth, ond pan ymdrechais ddod allan ohono yn y Porth ni allwn symud, a bu raid fy nghario i'r tŷ, a dychwelyd i Gaerfyrddin mewn modur, ac yna orffwys oddi wrth fy llafur am chwe mis.

Eithr yr oedd mwy na'r gwaith dau ddiwrnod yn Briton Ferry y tu ôl i'r "torri i lawr" yma; oblegid er i'r rhyfel (1914-18) leihau'r galwadau am wasanaeth oddi cartref, trowyd y blynyddoedd hyn i mi, gan amgylchiadau neilltuol, yn gyfnod o ysgrifennu ychwanegol. Yn gyntaf, ar gais awdurdodau'r Undeb (Annibynnol), ysgrifennais esboniad ar y Philipiaid a Philemon. Golygai hyn fwy o ddarllen a myfyrio nag a ymddengys ar yr wyneb. Yn wir, cefais dystiolaeth gan un gweinidog graddedig ei fod ef ar y cyntaf yn darllen hanner dwsin o esboniadau ar wers y Sul, ond iddo gael gwaredigaeth oddi wrth y llafur hwnnw drwy ddarganfod bod eu sylwedd yn fy esboniad bychan i. Yna cefais fy mherswadio gan berthnasau a chyfeillion i ysgrifennu cofiant i'm brawd Emlyn, am, meddent hwy, os na wnawn y byddai rhywun, arall—un arall yn neilltuol—yn sicr o wneud. Yr oedd mynd allan o linell fy mhererindod i gyfeiriad arall yn gwbl groes i'm teimlad, ond wedi llawer o betruster ymgymerais â'r gwaith, a chefais gryn bleser ar hyd hen lwybrau awen a chân. Yn wir, cefais gymaint o bleser fel, pan ddaeth awgrym y dylwn ysgrifennu cofiant i Dr. Parry, ni'm lluddiwyd gan un petruster. Yr oedd Parry yn wrthrych o lawer o ddiddordeb i mi fel person, ac yn neilltuol fel artist. Yr oeddwn mewn blynyddoedd cynt wedi darllen cryn lawer o hanes artists, yn gerddorion, beirdd, ac arlunwyr. Yr oeddynt o diddordeb meddylegol i mi'r pryd hwnnw, ac yn y blynyddoedd ar ôl y diwygiad dyfnhawyd y diddordeb gan yr anhawster i gael lle yn Nheyrnas Nefoedd i bobl fyfiol (egotistic), canys maentumid mai rhai felly yw artists wrth natur, ac y rhaid iddynt barhau felly. Nid oeddwn i, yn sicr, yn maentumio hyn, ond yr oedd yn elfen yn y diddordeb a deimlwn yn hanes Parry. Cymerais lawer mwy o drafferth gyda'r cofiant na chydag un Emlyn, a bûm yn fwy gofalus gyda ffeithiau ei fywyd a'i weithiau. Eithr blotiwyd allan wir nodweddion y llyfr gan fŵg ysgrif Mr. Cyril Jenkins, a meddyliodd adolygwyr y De mai ymosodiad ar Dr. Parry ydoedd, ac nid amddiffyn rhag y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn. 'Rwy'n cofio gweld Arglwydd Kelvin yn llosgi stwff yn y dosbarth a newidiai'r awyrgylch ac a barai ei fod ef ei hun, ei wyneb a'i ddwylo, yn troi i liw copr: rhywbeth tebyg oedd effaith yr ysgrif uchod ar y cofiant, neu yn hytrach ar lygaid y rhai a'i darllenai drwy ei mwg. Cyhoeddodd Mr. Jenkins ei ysgrif yn un o bapurau Saesneg y De pan oedd y cofiant ar fin ymddangos, a bu'n foddion i ffurfio awyrgylch o ragfarn o'i gylch; ac ni ffurfiodd fy meirniaid deheuol eu barn ar sail darllen y llyfr ond ym mwg yr ysgrif honno. Yr oedd adolygwyr y Gogledd, Anthropos, Pedrog, a Llew Owain, yn fwy golau a theg, ac yn dangos eu bod wedi gweld mai nid yr un yw safbwynt y cofiant a safbwynt yr ysgrif. Cafodd hon ymddangos o gwbl am y tybiwn y dylid cael barn cerddor modern ar Parry. Ymddangosai'n eithafol i mi ond nid yn fwy felly na beirniadaethau ein beirdd diweddar ar feirdd y ganrif ddiwethaf, o Dewi Wyn i lawr at Ceiriog ac Islwyn. Barnai rhai o'n prif gerddorion i mi fod yn llwyddiannus gyda'r ddau gofiant, a gofynasant i mi fynd ymlaen i ysgrifennu cofiant Gwilym Gwent. Gomeddais wneud, ac yn fy ngohebiaeth â Dr. Prothero awgrymais mai ef, fel un cyfarwydd â Chymru ac America, oedd y dyn i wneud, a'i bod yn rhaid i mi'n awr fynd yn ôl i'm llwybr fy hun. Nid oedd cofiant Adams yn mynd â mi ymhell o'm llwybr, o leiaf ni allwn wrthod cais Mrs. Adams ataf i ymgymryd â'r gwaith. Addewais wneud, ond cael help Mr. Pari Huws. Ni ŵyr y darllenydd cyffredin yr hyn a olygai gwneud cofiant i ddyn fel Adams—ni wyddwn fy hunan nes mynd at y gorchwyl. Nid oedd ei ysgrifennu ond tua thrydedd ran y gwaith; oblegid cyn dechrau ar hynny yr oedd yn angenrheidiol mynd drwy lond cist fawr o lawysgrifau, pregethau, pryddestau, llythyrau, etc., yn gystal ag ail-ddarllen ei lyfrau, ac wedyn ddethol a threfnu'r defnyddiau perthynasol a rhoddi iddynt eu lle yng nghyfanwaith y cofiant. Arnaf i y syrthiodd y ddau beth olaf hyn, a disgwyliwn gael mwy o help Mr. Huws gyda'r gwaith o ysgrifennu, yn neilltuol dibynnwn arno ef i drafod safle farddol Adams. Addawodd wneud, ond diau iddo fethu gan ei fod yn awr mewn gwth o oedran. Y canlyniad fu i mi orfod ysgrifennu pennod ar ruthr i orffen y llyfr y peth olaf cyn mynd i Briton Ferry, a "thorri i lawr."

Dywedai fy meddyg mai bendith dan gochl oedd y methiant hwn, rhybudd mwy pwysleisiol na'r rhai a gawswn eisoes mewn diffyg cwsg, etc., o berygl gorlafur, yn neilltuol yn awr a mi yn henwr, ac analluog i wneud cymaint o waith â chynt yn ddigosb. Nid wyf yn gallu galw i gof a ddaeth geiriau'r Salmydd i'm cof ar y pryd, ond daethant lawer gwaith wedyn: "Cyfarwyddaf di a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â'm llygad arnat y'th gynghoraf. Na fydd fel march neu ful heb ddeall, yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa ac â ffrwyn. Yn fy ystad orweddog yn ystod misoedd gorffwystra cefais ddigon o gyfleusterau i ymgydnabod â chyfarwyddyd "llygad" fy Arweinydd, a cheisio ei "ddeall" a datblygu'r lledneisrwydd canfyddiad sydd yn angenrheidiol i hynny. Diau mai nid cosb ond anghenraid gorffwystra llawn oedd fy amddifadu o ysbrydoliaeth yr awr weddi foreol: o leiaf, nid oedd yr ymroddiad a'r canolbwyntiad a ofynnai yn fy ngallu i'w roddi am beth amser. Yn raddol, drwy ymgadw oddi wrth bob ymdrech corff a meddwl, a rhoddi sylw manwl i fwyd a diod, cefais y blood pressure i lawr yn agos i'w le, a deuthum yn alluog i bregethu fel cynt, ond yn fwy gofalus. Eto, y mae'n amlwg nad oedd fy addysg yn ysgol cystudd wedi ei gorffen, oblegid ar ben tua deng mlynedd cefais un bore dydd Llun na allwn gerdded llawer o gamau heb ddioddef y boen fwyaf arteithiol ar draws fy mrest, o ysgwydd i ysgwydd. Yr angina pectoris ydoedd, meddai'r meddyg, y darllenaswn amdani fel rhagredegydd angau. Gan fy mod wedi ymgadw y tu mewn i derfynau cymedroldeb ym mhob ystyr yn ôl y cyfarwyddyd a gefais, yr oedd yr ymosodiad newydd a dieithr hwn yn ddirgelwch hollol hyd oni esboniwyd i mi nad oedd cael y blood pressure i lawr yn ystwytho'r arwythi (arteries), a bod gorlif emosiwn, er iddo fod yn hollol ddiymdrech, yn peri i fwy o waed nag arfer ruthro drwy arwythi'r galon a'u dirdroi (strain), a chynhyrchu poen yr angina. Eto, "bendith dan gochl" oedd hyn eilwaith, meddai'r meddyg, gan fod y boen yn fy rhwystro i geisio gwasanaeth oddi wrth galon wan oedd y tu hwnt i'w gallu i'w roddi.

Yng nghwrs y deng mlynedd ar hugain blaenorol yr oeddwn wedi darllen cryn lawer ar wellhad drwy ffydd, fel mater o ddiddordeb damcaniaethol, ond yn awr, aeth yn fater o ddiddordeb ymarferol agos. Yr oeddwn yn gyfarwydd â llyfr A. J. Gordon ar Faith Healing, ac â hanes Dorothea Trudel a'r cyffelyb; ond yn awr galwodd y Parch. Rees Howells (y Coleg Beibl, Abertawe) fy sylw at gofiant Andrew Murray, yn fwyaf neilltuol at y bennod ar "Wellhad drwy ffydd" sydd ynddo—pennod sydd yn seiliedig ar brofiad personol gwrthrych y cofiant. Gan i'w ddarllen fod yn foddion gras a chyfarwyddyd i mi ar fy nhaith bererin, rhoddaf rai o'i phrif bwyntiau yn y fan hon. Dylwn esbonio i'r darllenydd fod Dr. Murray wedi colli ei lais a methu ei gael yn ôl er ymgynghori â meddygon De Affrig, a dyfod i Lundain ar ei ffordd i'r Swistir at Pastor Stockmayer. Yn Llundain, fodd bynnag, daeth i gyffyrddiad â Dr. Boardman, ac aeth i mewn i Beth Shan, sefydliad enwog lle y gwellheid rhai drwy ffydd a gweddi, a chael ei lais yn ôl ar ben tair wythnos. Wele rai o'i brif ddatganiadau: " Y mae Duw rai prydiau—er nad bob amser —yn ceryddu Ei blant ag afiechyd oherwydd rhyw bechod neilltuol, megis diffyg mewn ymgysegriad a glynu wrth ein hewyllys ein hunain; hyder yn ein nerth ein hunain ynglŷn â gwaith yr Arglwydd; ymadawiad â'n cariad cyntaf, ac anwyldeb rhodio gyda Duw; neu absenoldeb yr addfwynder a gais ddilyn arweiniad yr Ysbryd Glân yn unig. Y mae'n anodd mynegi mewn geiriau yr olwg a gawn ambell waith ar ledneisrwydd a sancteiddrwydd anhraethadwy yr ymgysegriad y'n gelwir iddo pan ofynnwn i Dduw am wellhad drwy ffydd. Llenwir ein henaid ag ofn a pharch santaidd pan ofynnwn iddo gyfrannu i'n corff ieuengrwydd tragwyddol Ei fywyd nefol, a phan fynegwn ein parodrwydd i dderbyn yr Ysbryd Glân er mwyn llanw y corff a breswylir ganddo ag iechyd, modd y gallwn fyw bob dydd mewn dibyniaeth hollol ar ein Harglwydd am ei ffyniant. Gwelwn mor llwyr y rhaid i gyflwyniad y corff i'r Arglwydd fod, i lawr hyd yn oed i'r manylion lleiaf, ac fel y mae Ef, drwy roddi a chadw iechyd drwy ffydd, mewn gwirionedd yn dwyn oddi amgylch yr undeb agosaf posibl ag Ef Ei Hun."

Yna rhydd ei brofiad pan ddaeth i Beth Shan: "Pan ddeuthum i'r Cartref, yr oedd fy mryd ar wellhad, ond cefais allan yn fuan mai prif amcan Duw oedd datblygu ffydd, a bod ffydd eto yn Ei olwg Ef o werth nid yn unig fel amod y fendith o wellhad, ond yn bennaf fel y ffordd i gymundeb llawnach ag Ef Ei Hun a dibyniaeth lwyrach ar Ei allu."

Ymhlith y cyfarwyddiadau a rydd i eraill, fe ddywaid ein bod i gredu mai ewyllys Duw yw ein gwella; i gymryd ein harwain gan Ei Air; i ganiatau i'w Ysbryd chwilio ein calonnau i'n cael i weld ac yna i gyffesu ein pechodau; i dderbyn drwy act o ffydd yr Arglwydd Iesu fel ein meddyg; i weithredu (exercise) ffydd; i beidio â synnu os profir ein ffydd; bod yn dystion yn ôl llaw i'r sawl a ddwg yr Arglwydd atom.

Daeth cyfle i mi wneud praw o un o'r cyfarwyddiadau hyn yn fuan. Yng nghwrdd dathlu canmlwyddiant Bryngwenith, trefnwyd i mi bregethu'r noson gyntaf. Nid oeddwn yn flaenorol wedi dioddef gan yr angina ond ar ôl ychydig gerdded; y nos hon, fodd bynnag, ymosododd arnaf pan oedd Mr. Evans Jones yn pregethu, ac âi'n waeth-waeth fel y tynnai ef at y terfyn. Dan amgylchiadau arferol buaswn yn gofyn i'r gweinidog (Mr. Stanley Jenkins) i derfynu'r oedfa gan fy mod yn rhy dost i bregethu, ond fflachiodd un o gyfarwyddiadau Dr. Murray, "Don't be surprised if your faith is tested," i'm meddwl.

"O'r gorau,' meddwn, "mi af i'r pulpud 'taswn i'n llewygu," a chodais i fynd, a'r boen yn mynd yn waeth gyda'r ymdrech i ddringo, eithr gyda'm bod yn gosod fy nhroed ar y ris uchaf diflannodd yn llwyr, ac ni ddaeth yn ôl y nos honno o gwbl. Pan adroddais yr hanes wrth feddyg enwog, y sylw a wnaeth oedd, "Y mae'r ysbryd yn chwarae triciau hynod â'r corff."

Ond er i'r boen fynd y pryd hwnnw, deuai yn ôl gyda'r ymdrech i gerdded. Yn wyneb hyn, yr oedd geiriau pellach Dr. Murray ar ddull y gwellhad sydyn neu raddol yn dra chysurlon. Yr oedd ef, pan ddaeth i Lundain, am gael gwellhad uniongyrchol, ac yn ymresymu â Dr. Boardman y gwnâi hynny ddyfnach argraff ar ei bobl yn Ne Affrig, a dwyn mwy o ogoniant i Dduw, a chael yr ateb call, "Gedwch chwi rhwng Duw â'i ogoniant, gall Ef edrych ar ôl hwnnw'n well na chwi a minnau—ein busnes ni yw ufuddhau i'r amodau gosodedig." Ac ychwanega fod Stockmayer wedi bod yn dioddef gan ei ben am dros ddwy flynedd, a bod yn alluog i wneud ei waith drwy help ffydd yn unig; y caffai ei arwain fel plentyn mewn llinynnau arwain, ond na chymerai y byd am yr hyn a ddysgodd yn ystod y ddwy flynedd hyn. Ni ddygai gwellhad uniongyrchol gymaint bendith iddo. Fe'i cyfrifai yn fraint oruchel i Dduw ei gymryd mewn llaw mor llwyr i'w gadw mewn cymundeb cyson ag Ef Ei Hun drwy gyfrwng y corff, a chyfrannu nerth uwch—naturiol iddo bob dydd.

Gan na chefais waredigaeth uniongyrchol, euthum innau i edrych ar fy nioddefaint fel cerydd, ac yna fel moddion i ddatblygu fy ffydd a dwyn fy ewyllys i gytgord llawnach ag ewyllys Duw. Cyrhaeddodd yr ymgais hon ei huchafbwynt tua diwedd 1934, pryd y cefais un o'r ychydig brofiadau eithriadol a ddaeth i'm rhan—profiad digon hynod a gwerthfawr i'm gorfodi i geisio'i ddisgrifio pan oedd ei wahanol nodweddion eto'n glir yn fy meddwl. Aethai'r angina lawer yn waeth yn Nhachwedd a Rhagfyr, 1934, yn ddiau oherwydd pryder ynghylch ein merch sydd yn genhades yn Colombia. Yr oeddwn wedi clywed ei bod mewn enbydrwydd, wedi colli ei heiddo ond a oedd amdani, a'r offeiriaid pabaidd yn ceisio ei hamddifadu o do uwch ei phen, drwy fygwth yr Indiaid â barn os agorent ddrws eu tai iddi. Oherwydd ei chyflwyno i ofal Duw, nid oeddwn yn orbryderus yn ystod y dydd, ond ar ôl tuag awr o gwsg codai rhyw ofn o'm hisymwybod i'm deffroi ar gyfrif yr ing a gynhyrchai. Dyna'r amgylchiadau a arweiniodd i'r profiad a ddisgrifiwyd trannoeth fel hyn:

"Cafodd yr adnod, 'Achub fi, Arglwydd, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid' (Salm lxix, 3) ystyr newydd i mi nos Sul a bore'r Llun (Rhag. 9—10) diwethaf. Yr oedd yr angina pectoris wedi bod yn dra phoenus y ddwy nos flaenorol, a pheri i mi ddeffroi ar ôl tuag awr o gwsg, ond y nos hon yr oedd yn waeth o lawer ac yn rhoddi i mi y teimlad o suddo mewn poen. Cofiais i un farw ryw nos yn ddiweddar yn un o hotels y dref gan flatulence yn rhwystro'i galon i guro (meddai'r meddyg), a theimlais am funud neu ddwy ias o ofn y creadur (animal fear) yn wyneb angau. Ond yn y man, meddai f'ysbryd, Nid ffydd yw hyn,' a cheisiais weddïo—yn ddigon dilun—yn y fan honno. Taflwyd darnau o adnodau ac emynau i mi, fel y teflir rhaffau i ddynion yn ymladd â'r tonnau, ond yr un a arhosodd yn fy ngafael oedd y pennill:

Mae Dy enw mor ardderchog,
Fel yng ngrym y storom gref,
Llaesa'r gwyntoedd, llaesa'r tonnau,
Dim ond im Ei enwi Ef.
Noddfa gadarn yw yn eitha' grym y dŵr.

'Noddfa gadarn yw yn eitha' grym y dŵr,' meddwn wedyn, a chael bod teimlad o oruchafiaeth yn fy meddiannu. Ond yr oedd yn rhaid dal gafael yn dynn, gan fod yr hen ofn am ddod yn ôl, a pheri tuedd i alw am help dyn. Cefais nerth i ddal gafael, ac yn fuan aeth y dŵr llwyd yn llif o risial, a'r boen yn hyfrydwch pur. Amgylchynwyd fi â chaniadau ymwared."

Nid hawdd disgrifio'r profiad, ond y nodwedd hynotaf ynddo i mi ydoedd, fod y poenau nid yn cael eu gyrru ymaith (fel ym mhulpud Bryngwenith) yn gymaint â'u trawsffurfio. Cefais brofiadau ysbrydol diriaethol o'r blaen, mewn goleuni ac ysbrydoliaeth, ac mewn nerth a adnewyddai gorff a meddwl ar gyfer gwasanaeth, ond dim fel hyn o gael fy nghodi yn y cwbl ohonof i fôr o wynfyd, a theimlo "llyncu yr hyn sydd farwol gan fywyd." Agos y cyfan a allai dyn ddweud—ynghanol teimladau cymysg o annheilyngdod a diolchgarwch—oedd, "Gogoniant !" "Glory, glory dwelleth in Emmanuel's land."

Gan gymaint gwerthfawredd anhraethadwy y profiad o'r tragwyddol, nid oedd eisiau deisyf" Gwna fi'n barod iawn i 'madael," gan y teimlwn mai" llawer iawn gwell" fuasai mynd. Ni ddatguddiwyd ei ystyr imi mewn perthynas ag ystad fy iechyd, os oedd iddo ystyr felly, ac ni fedrai fy nghyfeillion ddehongli ei ystyr; ni ellid disgwyl mwy oddi wrth feddyg na gofyn, "A ydych yn sicr mai nid breuddwyd ydoedd?" fel pe gallasai un ag y gorfyddai ei boen iddo godi ar ei eistedd i geisio'i liniaru freuddwydio! Beth bynnag am hynny, gwelais a dysgais bethau nad oeddynt yn glir i mi o'r blaen yn ad-lewyrch (afterglow) y profiad a barhaodd am rai oriau. Cefais olwg ar angau yn ei ddwy wedd, fel gelyn y bywyd naturiol—" y gelyn diwethaf"—ac fel gwas y bywyd ysbrydol—" angau sydd eiddoch chwi" (1 Cor. iii, 22); "y chwaer angau " (St. Francis). Yna, pan ddaeth ofn y nosweithiau dilynol yn ôl am foment, fflachiodd yr addewid "Nid ofni rhag dychryn nos" i'm meddwl mewn ystyr newydd sbon, yr hyn a braw fod esboniad profiad o eiriau'r Beibl yn annibynnol ar farn y critic.

Yr wyf wedi cadw at y ffeithiau syml yn y bennod hon heb nemor ddim damcanu. Yn wir, nid yw yn ddiogel gwneuthur datganiadau cyffredinol ar y mater. Tra dywaid Dr. Andrew Murray, er enghraifft, ein bod i gredu mai ewyllys Duw yw ein gwella, cedwir saint fel yr Abbé Huvelin mewn poenau ingol am flynyddoedd, a'u defnyddio yn ganolbwyntiau o nerthoedd ysbrydol er bendith i'r miloedd a ddaw atynt (gweler Pennod XII). Yn yr un modd, cyfeiria Hugh Redwood yn un o'i lyfrynnau at dair gwraig ieuanc yn slums Llundain a ddioddefant ac a orfoleddant ac a fendithiant eraill yn yr un modd. Y mae un ohonynt, er enghraifft, yn gaeth i'w gwely mewn ystafell ddeg troedfedd sgwâr, a dim ond wal bricks yn y golwg. Ni welodd yr haul ers deng mlynedd, eithr y mae ei hwyneb yn disgleirio gan oleuni na fu erioed ar dir na môr. I mi, y mae hyn yn fwy o wyrth na'i chodi ar ei thraed a gwella'i chorff. Efallai mai ychydig yw nifer y rhai a all ddal gogoneddu dioddefaint, a gogoneddu Duw mewn dioddefaint, fel hyn. "Ewyllys Duw yw eich santeiddiad chwi," a ddywaid Paul.

Nid yw yr angina pectoris yn fy mlino mwyach. Yr wyf, serch hynny, yn cadw mewn cof yr anhawster a gâi Rowlands, Llangeitho, i "gredu heb ryfygu."

So, take and use Thy work:
Amend what flaws may lurk,
What strain o' the stuff, what warpings past the aim!
My times be in Thy hand!
Perfect the cup as planned!
Let age approve of youth, and death complete the same!


XII

Y MAE cystudd sy'n gwneud y galon gnawd yn ddinerth â'i duedd i daflu'r dioddefydd a fedd ronyn o ffydd yn ôl ar Dduw. Y mae yn help effeithiol i'n dysgu i farw i ni ein hunain. I'm hadfyfyrdod (reflection) presennol, yr oedd fel pe llefarai Duw (Iob xxxiii, 19 ff.): "Yr wyt wedi siarad llawer am farw i ti dy hun, ac i fesur wedi ymdrechu gwneud, ond nid hyd at waed; yr wyt wedi dysgu digon ar y mater, ond y mae eisiau dy ddisgyblu ymhellach fel na bo i ti ddibynnu arnat dy hun, ond arnaf i."

Yn ystod y blynyddoedd hyn cefais brofiadau eraill a oedd yn edrych i'r un cyfeiriad, ac mor bell ag y gallaf weld, yn gweithio at yr un nod o ddarostwng myfiaeth, ac yn y diwedd ei ddileu.

Ar ôl y seibiant o chwe mis a gefais yn 1924, darganfûm yn raddol, drwy braw gofalus, fod gennyf ddigon o adnoddau nerfol i wneuthur canolbwyntiad y cymundeb boreol eto'n bosibl. Ond sylwais yn fuan fod yna wahaniaeth amlwg nad oedd yn gynnyrch unrhyw ddymuniad na gogwydd ymwybodol o'r eiddof i. Yn ychwanegol at y "bedydd " ysbrydol a gawswn am flynyddoedd, deuai imi brofiad o bersonoliaeth fawr arall—mwy ym mhob ystyr na'r eiddof i, mwy ei maint, mwy ei nerth, mwy grasol, mwy syml, urddasol yn cymryd meddiant o'm hymwybod, a'i darostwng iddi ei hun, eithr heb ei dileu, a pheri i mi gyffesu'n rhydd: "Nid gennyfi, O Arglwydd, y mae hawl i fod, ond gennyt Ti: bydd Di, gan hynny, yn Arglwydd yn y natur feidrol hon." Yn flaenorol, hyd yn oed ynghanol y bedyddiadau a gawn, fy ngweddi oedd Glanha fi, iacha fi, cryfha fi," ond yn awr symudwyd y pwyslais o'r "fi" i'r "Ti": "Ti sydd yn bod, gennyt Ti mae'r hawl i fod, ac nid wyf i am fod onid ynot Ti." Yr oedd " yr hunan trwblus hwn" yn ymgolli mewn Mwy na thyrfa o ddeugain mil." Cofier mai nid syniad oedd, ac nid delfryd, ond rialiti cyffelyb i'm personoliaeth fy hunan, gyda'r gwahaniaeth ei fod yn anhraethol fwy o rialiti. Ni chefais lawer yn hanes y saint i egluro'r profiad, ond cofiais yn naturiol am yr "undod" sy'n ffurfio gradd uchaf y profiad ysbrydol yn ôl y cyfrinwyr (unitive stage y Sais); am ymadrodd Ioan, " Chwi ynof fi, a mi ynoch chwi," ac ymadroddion tebyg gan Paul. Yn ddiweddarach daeth i'm cof, mewn adfyfyrdod ar y profiad, ateb Edward Caird i un o'i ddisgyblion pan ofynnodd yr olaf iddo a oedd yn credu mewn anfarwoldeb personol. "Yes," oedd yr ateb, "or something better." Nid esboniodd yn fwy manwl beth oedd y "rhywbeth gwell," ond teimlaf yn sicr na fyddai'n hystyried ystad anymwybodol yn well neu yn uwch, eithr yn is. Yr oedd llawer o'r sant yn Caird, ac ni synnwn ddeall mai profiad fel yr uchod, ond â gwedd fwy athronyddol iddo, oedd yn ei feddwl—profiad o golli cyfyngiadau daearol ymwybod eithr heb golli hunaniaeth.[4] O leiaf, yr oedd y boddhad o ymgolli mewn Un mwy a mwy perffaith i mi yn anhraethol "well" nag unrhyw fath na graddau o "hunan-foddhad y gallwn feddwl amdano. Ar yr un pryd daeth i mi deimlad newydd o'm gwendid a'm distadledd yn ymyl y bersonoliaeth aruchel honno, a gwelais yn fwy clir fy angen am gymeriad cyfaddas i'r tragwyddol, un a fyddai'n ymateb i ofynion cyfathrach â Duw fel yr ymetyb athrylith ddisgybledig cerddor i bob gwawr a chysgod ym myd cerdd. Gwelais yn fwy clir na chynt mor ddiddeall yw maentumio bod diwinyddiaeth gyfundrefnol yn anghenraid crefydd i'w chadw rhag mynd yn fater o deimlad direol ac annibynadwy. Nid oes gan y golygiad hwn, y mae'n amlwg, le i Dduw byw. Nid teimlad, mae'n wir, ac nid rheswm chwaith, yw organ y bywyd ysbrydol, ond y ffydd sydd yn gweled yr Anweledig, yn mentro ar ei chanfyddiadau, a thrwy ufudd—dod ac adwaith amgylchiadau yn eu troi yn ddeunydd cymeriad cyfaddas i'r tragwyddol.

Yn ddilynol i hyn, wrth edrych i mewn i mi fy hun, canfûm fod llawer o'r hen bethau wedi myned heibio, neu ynteu wedi eu gwneuthur yn newydd. Cefais fod y llyfr" a fu gyhyd o amser yng nghefn fy meddwl wedi mynd. Nid yw yn flin gennyf am hyn. Yr oedd cymaint o brofiad ag a gefais i o Dduw ac o fyd " ffydd a gwybodaeth" yn ddigon i fychanu (dwarf) pob ymgais i'w osod allan mewn geiriau. Y peth mawr i mi yn awr, a'r " un peth angenrheidiol oedd byw iddo ("cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth "). Ar raddfa fechan, cefais weledigaeth a gwerthfawrogiad o fawredd a gwerthfawredd anhraethol yr ysbrydol tebyg i eiddo Thomas Aquinas, a barodd iddo ateb i gyfaill a geisiai ganddo barhau i ysgrifennu: "Ni allaf ysgrifennu rhagor: yr wyf wedi gweld pethau sy'n gwneud fy holl ysgrifeniadau megis gwellt."

Ni allaf ddweud bod fy nghariad at "y pethau oedd yn elw i mi," anrhydedd, safle, enw—gwahanol ffurfiau gwag-ogoniant—wedi "syrthio ymaith fel hugan" (Pennod III), ond gallaf ddweud gyda Phantycelyn eu bod "yn gwywo i gyd." Yr oeddwn yn rhinweddol wedi eu "cyfrif yn golled" wrth dderbyn Iesu yn Arglwydd. Eto, un peth yw gwneud hynny'n gyffredinol, yn y crynswth; peth arall yw ei gario allan yn ei fanylion. Peth arall eilwaith yw cael bod proses o wywo wedi bod ar waith a bod "teganau'r ddaear " yn "ddiflannu'n ddim." Dug hyn foddhad santaidd gydag ef, am' na allwn lai na'i gyfrif yn braw o gynnydd ysbrydol yn y dyn oddi mewn, a bod gwaith y greadigaeth newydd yn mynd ymlaen yn y dwfn. Clywswn ddywedyd bod dwy ail-enedigaeth, y gyntaf o'r naturiol i'r ysbrydol, a'r ail o'r ysbrydol i'r naturiol, h.y., pan fo'r ysbrydol wedi dod yn naturiol, neu ynteu yr uwch-naturiol yn dod yn naturiol uwch, a chredwn fod hynny'n digwydd yn awr yn fy hanes i. Eithr fel na'm tra-dyrchefid gan hunandyb, fe'm ducpwyd gan y Barwn Von Hügel i gyswllt â'r Curé d'Ars a'r Abbé Huvelin (Pennod X). Yr hyn a ddysgais ganddynt hwy—drwy ei weld ynddynt yn bennaf, gan mai ychydig a ysgrifenasant—oedd (1) mai ochr arall mawredd neu gynnydd ysbrydol yw bychander neu ddifodiant anianol, a (2) bod yr awdurdod dechreuol—yr initiative—ynglŷn â hyn i'w adael yn llaw Duw.

"Gwelir gweithrediad yr egwyddor marw i fyw" yn hanes y saint oll, ac yr wyf yn dra sicr mai nid mater o fwynhad deallol neu ddychmygol oedd fy niddordeb blaenorol ynddynt; ond er fy mod yn gwybod mai "cyfyng yw y porth," yr oeddwn heb lawn sylweddoli mai "cul yw y ffordd" hefyd. Diau ei bod yn wir fy mod am fod yn rhywun " wedi mynd i mewn drwy y porth, heb weld bod y ffordd yn arwain i gwbl ddiddymaint myfiaeth ac felly i ehangder y gwir fywyd. Yr oeddwn hefyd ar ôl darllen Yr Ornest Ysbrydol, Perffeithrwydd Cristnogol, etc., am gadw hunan—ddisgyblaeth yn fy nwylo fy hunan, am "weithio allan fy iechydwriaeth fy hunan" heb gofio ei bod i fod yn fynegiad o waith Duw ynof: Canys Duw sydd yn gweithio ynoch."

Er bod y Curé a Huvelin wedi cyrraedd dyfnderau o hunan-ddilead ac uchterau o wasanaeth ysbrydol a dueddai i ddigalonni dyn, yr oeddynt o leiaf yn dangos mai ffordd y groes yw ffordd y goron o hyd. Gwnâi hanes y ddau i mi gywilyddio oblegid fy mharodrwydd i gwyno a throi'n llwfr yn wyneb pob dioddefaint bach. Dywaid ei fywgraffydd am y Curé "fod ei enaid mewn undeb agosach â Duw nag â'i gorff ei hun." Am y rheswm hwn bu fyw y deugain mlynedd olaf o'i oes ar y nesaf i ddim o fwyd, a chwsg, a gorffwys, er mwyn gwasanaethu y miloedd a dyrrai ato am tua deunaw awr bob dydd. Yr oedd Huvelin, yntau, yn gorfod gorwedd mewn ystafell dywyll oherwydd dioddef gan gout yn ei lygaid a'i ymennydd, ond yn y fan honno—yng ngeiriau Von Hügel—"yn gwasanaethu eneidiau ag awdurdod goruchel cariad hunan—anghofus, a dwyn goleuni a phurdeb a thangnefedd i dorfeydd dirif o eneidiau trwblus a thrist a phechadurus," ac yn wahanol i Newman—yr hwn a dueddai i dristáu y sawl a ddeuai ato—yn pelydru llawenydd ac iechydwriaeth o'i gylch.

Yr oedd dirgelwch eu cryfder yn eu ffydd sicr yn Nuw, a'u galluogai i orfoleddu mewn dioddefaint. "Y mae Duw am eich santeiddio drwy amynedd," meddai'r Curé wrth glerigwr a ddaethai ato am wellhad; " rhaid inni weld pethau yn Nuw, ac ewyllysio yr hyn a ewyllysia Ef." "Ewch allan ohonoch eich hunan," meddai Huvelin wrth y Dduges Bedford, a aethai i geisio'i gyfarwyddyd, " ac yn ôl i anfeidroldeb Duw."

Y mae bywydau o'r math yma yn ymddangos yn eithafol nid yn unig i'r rhai a gais gyfyngu gwaith i bedair awr y dydd, ond hefyd i'r crefyddwr anianol na wêl onid ochr marw i hunan a dim o ochr byw i Dduw: "Eich bywyd sydd yn guddiedig gyda Christ yn Nuw." 'Rwy'n cofio cwrdd ag ysgolfeistr adeg y diwygiad a godai ei ddwylo mewn ofn a dychryn yn wyneb gofynion Imitatio Christi arno: un bach yng Nghrist oedd ef eto, heb archwaeth at ddim tu hwnt i fwyd llwy.

Cysyllta Huvelin bwys mawr â'r teip o gymeriad a gais Duw ffurfio ynom, a'n bod i'n rhoi ein hunain yn gwbl yn Ei ddwylo Ef. Ni olyga hyn nad ydym ni'n gwneud dim, gan fod hyn yn ffurf uchel ar weithgarwch enaid. Cynghora Von Hügel i ganiatáu i eraill beri dioddefaint iddo, ond na ddylai ef ei hun beri dioddefaint i neb; ei fod, serch hynny, i osgoi achosion cythrudd (irritation) megis darllen cyfnodolion crefyddol a mynychu pwyllgorau a chynadleddau, gan na fyddai hynny'n dygymod â'r teip o gymeriad a fynnai Duw ffurfio ynddo ef. Credaf fod doethineb uchel yn hyn. *** Wrth edrych yn ôl ar "droeon yr yrfa "—cyn cyrraedd bryniau Caersalem—llenwir fi â theimladau cymysg o ddiolchgarwch ac annheilyngdod. Cyfyd y teimlad olaf yn fwyaf arbennig o'm perthynas â'r weinidogaeth: nid wyf yn cofio cael y teimlad o gwbl mewn cadair athroniaeth. Gan fod fy nghyfeillion anianol yn cyfrif mai "dod i lawr" a wneuthum drwy adael cadair athroniaeth mewn prifysgol am y weinidogaeth, y mae arnaf flys gosod ar gof a chadw yn y fan hon y peth tebycafi ddatguddiad gwrthrychol a gefais erioed—i'm dysgu y gall "dod i lawr" yn fydol olygu "mynd i fyny " yn ysbrydol. Pan oeddwn yn cynnal cenhadaeth ym Mangor yn 1918, euthum i gael golwg ar y colegdy newydd, a gwnaeth ei braffter a'i urddas ysblennydd y fath argraff arnaf fel y dywedais rhyngof a mi fy hun, "Wel, wel, yma y gallaswn innau fod ac nid yn weinidog mewn capel bach yng Nghaerfyrddin," h.y., yn hollol ddifeddwl aeth yr adeilad gwych yn arwyddlun o ogoniant y bywyd academig, a'r capel bach yn symbol o fywyd crefydd. Troais i ffwrdd yn siomedig, a gweled mynyddoedd Eryri yn codi draw, ac yna meddai rhywun wrthyf mor glir â phe byddai'n dweud geiriau, eithr heb un llais, "Y pinaclau acw, ac nid capel bach y Priordy, yw'r arwyddluniau gorau o'r gwirioneddau yr wyt ti wedi dy alw i'w pregethu, y sydd â'u gogoniant gymaint yn fwy nag unrhyw ogoniant academig ag yw'r mynyddoedd acw na'r adeilad hwn, er gwyched ef." Diflannodd y siom, a syrthiodd y gwahanol werthoedd i'w lle iawn yn fy ymwybod; euthum innau i ffwrdd yn fwy na bodlon, yn wir, yn ddiolchgar am fy mreintiau mawr.

Diau fod gogoniant y bywyd academig wedi fy meddiannu unwaith yn fwy llwyr nag a feddyliwn, a bod y gwerthfawrogiad hwnnw ohono wedi codi i fyny i'm hymwybod am eiliad dan ddylanwad yr olwg ar wychter y colegdy, a cheisio adfeddiannu'r sedd a gollasai. Wrth gwrs, yr oedd y gwirionedd o ragoriaeth anhraethol Crist ar "y pethau oedd yn elw i mi" ymhlyg yn fy nghydsyniad â datganiad Paul, "Iesu yw yr Arglwydd," yng nghyfarfodydd Drummond, ac eilwaith yn ysgoldy Heol Awst; ond dyweder a fynner, bu y fath argraff ag a wnaed arnaf drwy gyfrwng dameg oedd â grym awdurdod gwrthrychol y tu cefn iddi, yn foddion i wasgu'r gwirionedd yn ddyfnach i'm hymwybod, a'i wneud yn rhan ohono, na'm hymgyflwyniad blaenorol, er, yn ddiau, na buasai mor effeithiol heb hwnnw.

Fel y cafodd yr Iesu Ei eni mewn preseb, ac ymwrthod â mawredd bydol er Ei demtio gan ddiafol, ymddengys bod absenoldeb rhwysg allanol yn angenrheidiol i brofi gwirioneddolrwydd teyrngarwch Ei ddilynwyr iddo; ac y mae'n drist sylwi fel y mae diafol o hyd yn llwyddo i ddwyn gwahanol fathau o wagogoniant i mewn i'r Eglwys, a'u dal o flaen llygaid anianol fel y pethau rhagorol i ymgyrraedd atynt. Ac y mae hyn yn wir nid yn unig y tu mewn i'r Eglwys Babaidd ac Eglwys Loegr, ond mewn Anghydffurfiaeth; oblegid, meddwn, os na allwn geisio ysblander cardinal neu esgob, gallwn fynd i mewn am enwogrwydd pregethwrol a'n galw yn dywysogion y pulpud, ac am ogoniant swydd a theitl academig a'n cyfarch yn y marchnadoedd a'n galw gan ddynion "Rabbi, Rabbi." Fe weddai inni gofio mai categori hollol baganaidd yw "anrhydedd " y sonnir cymaint amdano yn ein cyhoeddiadau crefyddol. Nid yn y pethau, wrth gwrs, mae'r drwg, ond ynom ni sydd yn eu gwneud yn eilunod. "Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, a heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth yr unig Dduw ?"

Ped edrychem ar bethau o safbwynt teyrnas Dduw fe welem fod gwasanaethu y rhai a gaiff etifeddu iechydwriaeth " y rhagorfraint fwyaf goruchel. "It is a privilege," meddai Dr. Pierson wrthyf un tro, to meet those with whom we shall be spending the eternal ages." Y mae eu gwasanaethu, yn sicr, yn uwch braint fyth, er mai ychydig o'i bobl, gallem feddwl, a ddisgwyliai Samuel Rutherford gwrdd ar ddeheulaw'r Tad:

Oh! if one soul from Anworth
Meet me at God's right hand,
Then Heaven will be two Heavens
In Emmanuel's land.

Y gwir yw nad yw " yr oes ddrwg bresennol " yn prisio gwerthoedd ysbrydol pur, a bod ymadawiad oddi wrth Dduw byw a'i ogoniant" cwbl arall," a gwrthodaf i fel un dderbyn barn y sawl a berthyn iddi. Nid oes hawl gan Gristion i fod yn siomedig ar fyd na bywyd sydd wedi ei ddwyn, ar waethaf pob diffyg a rhwystr, i feddiant o wir ystyr a gwirionedd bodolaeth. Y mae y neb a gwyna ar ei safle am na chafodd yr anrhydedd hwn neu arall yn dangos ei fod yn perthyn i'r oes hon a'i delfrydau o hunan—gais a hunan—ogoniant. Y praw o lwyddiant gwir yn yr oes bresennol yw ein bod ar bwys ei chyfleusterau ac ar waethaf ei rhwystrau wedi dod i berthynas iawn â gofynion yr oes a ddaw, i'r hon y dengys Crist y ffordd. Y mae llinellau Pantycelyn,

 
Boed fy mywyd oll yn ddiolch,
Dim ond diolch yw fy lle,

yn mynegi fy nheimlad innau, sef diolch am ddawn Duw yn y bywyd naturiol ynddo ei hun ac fel cyfle i ddod o hyd i'w ddawn anhraethol mewn bywyd tragwyddol; am y breintiau a'r cyfleusterau a ddaeth i'm rhan, fel ffynhonnau dyfroedd yn yr anialwch, i wneuthur fy mhererindod yn fwy diddorol na'm haeddiant; am hyd yn oed y galluoedd a ymddangosai yn elyniaethus ond a fu yn foddion i'm taflu yn ôl ar Dduw; ac yn bennaf oll, am Ei arweiniad anweledig Ef, nas gwerthfawrogwn ar y pryd, drwy argyfyngau a threialon i'm dwyn yn llwyddiannus i olwg pen y daith heb golli'r ffordd. Yr wyf wedi cael fy rhan o'm "curo gan y gwyntoedd" a'm "maeddu gan y don" a'm " dryllio yn erbyn creigiau," heb allu dweud, "blinais ar y ddaear hon" am fy mod mewn cyswllt ag amcan sy'n gwneud y bydoedd yn un a bywyd yn werth ei fyw hyd yn oed ymysg ffaeleddau anianol henaint.

Dywedais mewn pennod flaenorol (Pennod IV) nad oedd yn flin gennyf na ddaeth y brwdfrydedd barddonol yn ôl. Rhag i neb gamddeall a thybio fy mod yn dibrisio art, hoffwn esbonio mai "dod yn ôl " yn ei grym llywodraethol a olygwn, a mynd rhyngof â'r Mwy a ddaeth i'm rhan. Y mae y gwmnïaeth â Natur a'r ymhyfrydiad yn ei phrydferthwch, a'm mwynhad yng ngweithiau y beirdd sydd yn gallu eu mynegi mewn geiriau wedi cyfoethogi fy mywyd yn anhraethol ar hyd y blynyddoedd, ac yn parhau i wneud. Yn yr un modd y mae athroniaeth a gweithiau athronyddion sy'n ymdrin â bywyd yn ei gyfoeth a'i gwmpas a'i amcan uchaf—nid â haniaethau diwaed—yn parhau'n diddorol o hyd ar waethaf gwywdra arferol hen dyddiau. Eithr uwchlaw pob gwybod y sydd ag elfen o ddamcanu yn ei amharu, y mae adnabod Duw y sydd heb elfen o'r fath, ond a olyga ein bod ni nid yn unig yn gydnaws, ond hefyd yn gydrywiol ag Ef. Dyma ragorfraint fwyaf goruchel bywyd yn y byd hwn a phob byd—rhagorfraint hefyd sydd yn bosiblrwydd i bob un ac yn eiddo i bob un yng Nghrist, yr hyn a braw fod y bydysawd yn gyfiawn, am fod y gorau ynddo yn agored i bawb, neu ynteu yn dibynnu ar amod y gall pob un gydymffurfio â hi.

Yr wyf yn edrych ers blynyddoedd bellach ar fywyd ar y ddaear fel dechrau bywyd yn unig, a'i werth a'i lwyddiant i'w benderfynu nid o'r tu mewn iddo ei hunan, ond yn ei berthynas â'r bywyd cyfan, ac i'r graddau y mae yn ffitio i mewn i hwnnw, ac yn teimlo'n sicr mai nid y "rhai sydd lwyddiannus yn y byd" sydd o angenrheidrwydd yn llwyddiannus yn y bydysawd.

Mi feddyliais cawsai f'Arglwydd
Ei eni mewn brenhinol blas
Nes im weld Ei wir ogoniant
Ei wirionedd Ef a'i ras:
Yna gwelais yn y preseb gefndir gwell.

Tybiais, ac Efe yn gwybod '
Iddo ddod i lawr o'r nef,
Y gorchmynnai i'w ddisgyblion
Blygu a'i addoli Ef,
Ond fe'i cefais ar Ei liniau'n golchi eu traed.


Mi feddyliais cawswn f'Arglwydd
Yng nghwmpeini mawrion byd ;
Ymhlith mwrddwyr, ymhlith lladron,
Gwelais gynta'i wyneb pryd—
Ar y croesbren, nid yn llys brenhinoedd byd.

Nodiadau

golygu
  1. Elfed.
  2. Dr. Griffith Jones.
  3. Rhoddwyd y lleill i Dr. J. H. Stowell, a fu farw'n ddiweddar, ac i Norman de Garis Davies, gwaith yr hwn ar Egyptology a gydnabuwyd yn ddiweddar gan Brifysgol Rhydychen.
  4. Yn un o'i lythyrau yn ei gyfrol goffa, fe ddywaid Caird, "The more life loses itself—in one sense—in the universal the more it becomes individualised." Tud. 187, gwêl hefyd tud. 197.
 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.