Fy Nghalon Fach (Mynyddog)
- Fy nghalon fach, paham mae’r wawr
- I’w gweld fel hwyr y dydd,
- A’r hedydd llon uwchben y llawr,
- A’i gân mewn sain mor brudd?
- Ateba fy chwyddedig fron,—
- Mae rhywun ffwrdd tudraw i’r donn.
- Fy nghalon lawn, mae’r rhod yn troi,
- A’r rhew a’r eira’n dod,
- Er hyn mae gŵg y gaea’n ffoi
- Er oered yw yr ôd;
- Mae’r gwynt yn sibrwd dros y ddôl
- Fod rhywun hoff yn dod yn ol.