Fy Nuw, rwy'n llefain
Mae Fy Nuw, rwy'n llefain yn emyn gan awdur anhysbys
Fy Nuw, rwy'n llefain — tithau heb
Roi i'm mo'r ateb eto;
Bob dydd a nos mae 'nghri 'n ddi-ffael,
A heb gael mo'm dyhuddo.
A thi wyt Sanct, Sanct i barhau,
Lle daw gweddïau'n wastad;
A holl dŷ Israel a'u clod,
A'u pwys a'u hystod atad.
Ynot gobeithiai'n tadau ni,
A thydi oedd eu bwcled;
Ymddiried ynot, Arglwydd hael,
Ac felly cael ymwared.
Llefasant drwy ymddiried gynt,
Da fuost iddynt, Arglwydd;
Eu hachub hwynt a wnaethost ti
Rhag cyni a rhag gw'radwydd.
Arnat ti bwriwyd fi o'r bru,
Arnat ti bu f ymddiried;
Fi Nuw wyt ti o groth fy mam,
Ffyddiais it am fy ngwared.