Fy nymuniad, paid â gorffwys
← Duw anfeidrol yw dy enw | Fy nymuniad, paid â gorffwys gan William Williams, Pantycelyn |
Nid oes eisiau un creadur → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
77[1] Syched am Dduw.
87. 87. 47.
1.FY nymuniad, paid â gorffwys
Ar un tegan is y nef
Eto 'rioed ni welodd llygad
Wrthrych tebyg iddo Ef:
Cerdda rhagot,
'R wyt ti bron a'i wir fwynhau.
2. Ffárwel, ffárwel oll a welaf,
Oll sydd ar y ddaer yn byw ;
Gedwch imi, ond munudyn,
Gael yn rhywle gwrdd â'm Duw :
Dyna leinw
'Nymuniadau oll yn un.
3.D'air a wnaeth y moroedd helaeth,
D'air a wnaeth y ddaear fawr,
D'air a greodd lu'r ffurfafen
Sydd yn hongian uwch y llawr:
'Mysg a greaist,
'D oes gyffelyb it dy Hun.
4.Tyrd, yr Hwn wyt yn hawddgarach
Na'th greaduriaid maith eu rhi';
Pryd y doi, y gwnei dy drigfan
Bob munudyn gyda mi ?
Tyrd yn fuan,
Arglwydd, at y sawl a'th gâr.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 77, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930