Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Aenway, John

Aelrhiw Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aerdeyrn

AENWAY, JOHN, D.D., ydoedd wyr i John Aenway, o Dregynon, sir Drefalwyn. Yr oedd yn archddiacon Amwythig, yn eagobaeth Lichfield a Coventry; yn dal prebendariaeth Volney, yn yr un esgobaeth, a phersoniaeth Hodnet. Yr oedd yn selog bleidiol i'r deyrniaeth yn amser y Siarliaid, a chymerwyd ef yn garcharor gan fyddin y milwriad Mytton pan gymerwyd Amwythig, Chwefror 22, 1644-5. Bu wedi hyny ar gêl dros y mor, lle yr ysgrifenodd, "The Tablet, or Moderation of Charles the First, martyr," yr hwn a argraffwyd wedi ei farwolaeth, yn 1661. Wedi dyoddef carchariad, a'i yru ar encil i Hague, yn Holland, gorfu arno fyned oddiyno i Virginia, lle bu farw yn 1662, cyn gwybod am adferiad Siarls II. (Walker's Sufferings of the Clergy; Meyrick's Dumo's Heraldry, Vol. i. 277.)