Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Alan
← Ailfyw | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Alan Forgan → |
ALAN, sant, yr hwn a anwyd yn Armorica. Bu fyw oddeutu canol y ehweched ganrif. Yr oedd yn fab i Emyr Llydaw. Wedi gadael ei wlad enedigol efe a ddaeth yn aelod o goleg Illtyd, yn sir Forganwg. Bu iddo dri mab, o'r enwau Lleuddad, Llonio Lawhir, a Llynab, y rhai oeddynt aelodau o'r un coleg, ac a ddaethant yn addurniadau nodedig o'r eglwys Gymreig.