Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Andrews, Joshua

Andreas Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Ane

ANDREWS, JOSHUA, oedd weinidog yr efengyl yn perthyn i'r Bedyddwyr. Nid oes genym yr un wybodaeth am dano ond iddo gael ei urddo yn weinidog cynorthwyol yn Mhen- ygarn, ger Pontypool, sir Fynwy. Yn y flwyddyn 1745, neu 1746, rhoddodd yr eglwys yn Olchon, neu Gapel y Ffin alwad iddo i'w cynorthwyo am ddau Sabbath yn y mis. Yr oedd Mr. J. Andrews yn byw yn agos i Bont- ypool. Yr oedd yn Gristion da, yn bregethwr derbyniol a chymeradwy. Er fod ganddo lawer o ffordd i deithio i Gapel y Ffin, eto efe a bar- haodd yn ffyddlon i wasanaethu yr eglwys hono hyd y gallai am ddau Sabbath yn y mis am 40 mlynedd, gyda Mr. George Watkins. Efe oedd yn gweinyddu yr ordinhadau yn eu plith. Cafodd ei gymeryd yu glaf, a bu farw, yn 1793, a chladdwyd ef yn y Trosnant, lle y mae careg ar ei fedd yn awr i'w gweled.