Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Anwas Adeiniog
← Anno | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Anwyl, Ellis → |
ANWAS (ADEINIOG,) un o ryfelwyr y brenin Arthur, yr hwn o bosibl a dderbyniodd yr enw hwn oddiwrth gyflymdra ei farn. Gan rai modd bynag, ystyrir efo nodwedd ffugiol. Ymddengys ei enw mewn cân gywrain, o ddyddiad borea; ond nid yw yr awdwr yn adnabyddus, yn cynwys ymddiddan rhwng Arthur, Cai, a Glewlwyd, yr hon a gedwir yn y Myvyrian Archaiology, i. 167. Enwir ef hefyd yn nghyd â rhyfelwyr ereill i Arthur, yn y Mabinogi, Kilhwch ac Olwen, tudal. 259.