Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Arddun Benasgell

Arddun Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aregwedd Foeddig

ARDDUN (BENASGELL,) oedd yn byw yn y chweched ganrif. Merch ydoedd i Pabo Post Prydain, yr hwn ar ol colli ei diriogaethau yn Ngogledd Lloegr trwy ymosodiadau parhaus y Sacsoniaid, a ymneillduodd i Gymru. Yr oedd Arddun yn briod a Brochwel Ysgythrog, tywysog Powys, i'r hwn y dygodd Tysilio. Ystyrid hi gan rai yn mysg y seintiau Cymreig; ond nid oes eglwysi yn cael eu galw ar ei hol; er fod Dolarddun, cwmwd yn mhlwyf Castell Caereinion, sir Drefaldwyn, yn dwyn ei enw oddiwrthi.