Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Arley, Stephen
← Arianwen | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Aron → |
ARLEY, STEPHEN, oedd lefarwr gyda'r Bedyddwyr am flynyddau yn Molestone, ger Arberth, air Benfro. Cafodd ei fedyddio yn Rhydwilym yn 1729, a bernir iddo gael ei anog i ddechreu pregethu tua'r flwyddyn 1774, os nad yn gynt. Sais ydoedd O ran ei ddechreuad, ond Cymro oedd ei weinidog, ac yn nghymundeb y Cymry yr oedd yr eglwys y perthynai iddi. Pan fu y gweinidog farw, yr oedd Mr. Arley yn rhy oedranus i fod o lawer o wasanaeth fel gweinidog, onide buasai yn cael ei ordeinio yn fugail arni. Efe a orphenodd ei daith tua'r flwyddyn 1795 neu 1796. Yr oedd yn wr da a defnyddiol, a bu yn gynorthwywr ffyddlon i'r gweinidog a'r eglwys dros lawer o flynyddau.