Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Arthfael Hen
← Arthen mab Sitsyllt ab Clydawg | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Arthmael → |
ARTHFAEL (HEN,) oedd fab Rhys, arglwydd Morganwg. Efe a briododd Ceinwen, merch Arthen, arglwydd Ceredigion. Wedi iddo fyned yn hen, aeth llywodraethiad dywysogaeth yn flin iddo, ac efe a'i rhoddodd i fyny i'w frawd Hywel. Bu fyw, modd bynag, lawer o flynyddau wedi hyny; a bu farw yn 895, yn yr oedran mawr o 120. Ei frawd Hywel a fu farw y flwyddyn flaenorol, mewn mwy o oed eto, sef 124. (Myv. Arch., ii. 484.)