Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Arthwys

Arthur Frenin Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Arwystli Gloff

ARTHWYS, a elwir hefyd Adras, mab Meurig ab Tewdrig, brenin Morganwg. Dylynodd ei dad yn llywodraeth Gwent a Morganwg, tua'r flwyddyn 575. Oddiwrth debygolrwydd ei enw i'r eiddo Arthur, meddyliwyd yn gamsyniol mai yr un ydoedd a'r gwr enwog hwnw. Yr oedd yn dad i Morgan Mwynfawr, yr hwn a'i canlynodd i'r llywyddiaeth fel brenin, ac oddiwrth yr hwn y mae sir Forganwg wedi cymeryd ei henw. Y mae copi o roddiad tiroedd gan y brenin Athrwys i eglwys Llandaf wedi ei gadw yn Llyfr Llandaf, tudal. 411.

‏‎