Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Bach mab Carwel
← Aubrey, William, Llantryddyd | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Baglan mab Dingad ab Nudd Hael → |
B
BACH, mab Carwel, oedd benaeth, yr hwn a enciliodd i Ogledd Cymru yn y seithfed ganrif, a chyflwynodd derfyn ei oes i grefydd. Dywedir mai efe oedd sylfaenydd Eglwys Fach, yn sir Dinbych, ar lanau y Conwy; ac yn ol traddodiad y gymydogaeth, yr oedd clochdy yr eglwys yn ffurfio rhan o'i dy. Dywedir hefyd iddo ladd bwystfil oedd yn gwneud mawr niwaid yno, wrth yr afon Carog, yn agos i'r eglwys. Y mae crug yn aros eto ar y fan a elwir Bedd Carog.