Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Baddy, Thomas
← Baglan mab Dingad ab Nudd Hael | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Baglan mab Ithel Hael → |
BADDY, THOMAS, oedd enedigol o Ogledd Cymru, ond nid ydym yn gwybod o ba ran o'r gogledd ydoedd. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, wedi ei addysgu, fel y tybir, dan ofal y Parch. Samuel Jones, Brynllywarch; efe a ymsefydlodd fel gweinidog ar yr eglwys yn Dinbych, tua'r flwyddyn 1693; a pharhaodd yn y weinidogaeth hyd ei farwolaeth, yn 1729. Yr oedd ei gynulleidfa yn fechan o rif, ond yn barchus iawn. Ymddengys ei fod yn bregethwr talentog, yn foneddigaidd o ymddygiad, ac yn berchen ar lawer o dda y byd hwn. Yr oedd yn uwch o ran ei sefyllfa yn y byd na'r rhan amlaf o'i frodyr yn y weinidogaeth. Dywedir ei fod yn achlysurol yn gwisgo yspardynau arian am ei sodlau, yr hyn a barai dramgwyddiadau a gofid mawr i rai o'i gyfeillion, am ei fod yn hyn yn myned yn rhy debyg i wyr mawr yr oes hono. Pan hysbyswyd ef o hyny, dywedodd fod yn ddrwg iawn ganddo eu bod yn rhoddi yn eu calonau i'w blino yr hyn a roddai efe am sodlau ei draed. Y mae y Dr. Charles Owen yn ei ddarlunio fel " gweinidog diwyd, a thra gostyngedig o ysbryd.' Efe a wasanaethodd ei genhedlaeth trwy ysgrifenu a chyfieithu amryw lyfrau da, megys "Hymnau Sacramentaidd," 1703. "Cyfieithad o Dolittle ar Swper yr Arglwydd," 1703. "Cyfieithad o Wadsworth ar Hunanymwadiad," 1713. "Cyfieithiad Cynghaneddol o Ganiad Solomon, gyda Nodiadau Eglurhaol," 1725. "Cyfieithad o Wagedd Mebyd ac Ieuenctyd, gan Dr. D. Williams," 1727.