Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Barnes, Edward
← Bangor, Hugh | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Barnes, Cristopher → |
BARNES, EDWARD, ydoedd frodor o Lanelwy, ac yr oedd yn cael ei ystyried yn fardd yn ei ddydd. Y mae rhai o'i gyfansoddiadau mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 1765, o'r enw "Cyfaill i'r Cymro," o gasgliad William Hope, o Dre' Fostyn. Ymddengys iddo ymgysylltu a'r Methodistiaid, a dangos ddifrifoldeb ei sel grefyddol i lesau ei gydwladwyr, trwy gyfieithu a chyhoeddi 1. "Llythyr o gyngor difrifol oddiwrth weinidog yr efengyl at wr mewn cyflwr o fethiant ac afiechyd. gan y Parch. Mr. De Covey, 1784." 2. "Myfyrdodau Hervey, y rhan gyntaf, gyfieithad Iorwerth Barnes, 1785." 3. "Coron gogoniant tragywyddol." "Pregeth y Parch. T. Priestley, ar farwolaeth arglwyddes Selina, iarlles Huntington, a gyfieithwyd gan Edward Barnes." Yr oedd yn byw y rhan fwyaf llafurus o'i oes yn sir Drefaldwyn, ac yn cymeryd y blaen gyda'r symudiad Methodistiaidd, gan gymeryd y pregethwyr teithiol a'r cyfarfodydd i'w dy.